CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIAD ARIANNOL
Y flwyddyn hyd at 31[ain] Rhagfyr 2024
Capel y Tabernacl, Cyf.
Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig: 06349041 (Cymru) Elusen Gofrestredig Rhif: 1122584
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
CYNNWYS
Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol Tudalen 2 - 3 Swyddogion y Tabernacl Tudalen 4 - 5 Adroddiad yr Ymddiriedolwyr Tudalen 6 - 7 Adroddiad y Cadeirydd Tudalen 8 - 9 Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol Tudalen 10 Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol Tudalen 11 Mantolen Tudalen 12 Nodiadau sy’n ffurfio rhan o’r DatganiadauAriannol Tudalen 13 - 17 Datganiad Manwl o’r Gweithgareddau Ariannol Tudalen 18 - 19
Enw Cofrestredig y Cwmni: Capel y Tabernacl, Cyf. Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig: 06349041 (Cymru) Elusen Gofrestredig: 1122584 Cyfeiriad Cofrestredig: 16 Heol Iscoed Efail Isaf Pontypridd CF38 1BP
Ysgrifennydd y Cwmni:
Caroline Ruth Rees
-2-
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
YMDDIRIEDOLWYR YR ELUSEN A CHYFARWYDDWYR Y CWMNI
| Enw | Etholwyd |
|---|---|
| Alun Huw Herbert | Rhagfyr 2024 |
| Elwyn Hughes | Tachwedd 2022 |
| Aled Illtud Humphreys | Tachwedd 2022 |
| Siân Jones | Tachwedd 2022 |
| Rhys Llewelyn | Rhagfyr 2024 |
| Non Gibbon Morris | Tachwedd 2022 |
| Bethan Elen Reynolds | Tachwedd 2022 |
| Alun Wyn Bevan_(Cadeirydd)_ | Tachwedd 2023 |
| Caroline Ruth Rees | Tachwedd 2023 |
| Jayne Bethan Roberts | Rhagfyr 2024 |
| Gwion Prys Evans* | Tachwedd 2021 |
| Rhian Eyres* | Tachwedd 2021 |
| Helen Middleton* | Tachwedd 2020 |
| Iwan Llwyd Rowlands* | Tachwedd 2020 |
Mae disgwyl i oddeutu traean yr ymddiriedolwyr / cyfarwyddwyr i ymddeol yn eu tro bob blwyddyn. Ymddeolodd y rhai gydag * ar bwys eu henwau ym mis Rhagfyr 2024.
Cyfreithwyr: Devonalds, York House, Pontypridd CF37 1JW
Banc: Lloyds Bank, Sgwâr y Farchnad, Pontypridd CF37 2TF
Cyfrifwyr: Curtis Bowden & Thomas Ltd., Cyfrifwyr Siartredig, 101 Dunraven Street, Tonypandy CF40 1AR
-3-
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
SWYDDOGION Y TABERNACL
Cadeirydd
Alun Wyn Bevan
Ysgrifennydd Caroline Rees
Trysorydd
Arwyn Lloyd Jones
Trefnyddion Oedfaon
Rhiannon Humphreys Helen Prosser Geraint Rees Heulyn Rees Lyn West
Panel Priodasau
Geraint Rees Rhiannon Humphreys Cofrestru Priodasau: Rhys Llewelyn Helen Middleton Bethan Guilfoyle Gwenfil Thomas
Organyddion a Chyfeilyddion
Sian Elin Jones gyda chymorth Bethan Roberts Rhiannon Humphreys ac Elwyn Hughes
Tîm Ffrydio’r Oedfaon
Aled Illtud; Eirian Hughes; Emlyn P. Jones; Gareth Humphreys; Hefin Gruffydd
Gweithgor Bugeiliol
Iwan Rowlands; Eirian Hughes; Helen Middleton; Siân Jones; Eifiona Hewitt; Bethan Guilfoyle; Lowri Roberts; Carys Davies; Judith Thomas a Gaynor Evans
Y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol
John Ll. Thomas (Cadeirydd) Ann D. Davies (Ysgrifennydd) Rhian Eyres, Carys Davies, Sylvia Davies, Gill Rees, Eleri Jones, Geraint Wyn Davies, Beti Treharne, Margaret Calvert a Rhys Llewelyn
-4-
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
SWYDDOGION Y TABERNACL – parhad
Yr Ysgol Sul a’r Twmiaid
Ysgol Sul: Manon Huws Twmiaid: Eleri Mai Thomas
Pwyllgor Arloesi a Buddsoddi
Caroline Rees (Cadeirydd)
Eleri Mai Thomas (Swyddog Ieuenctid a Chymunedol) Heulyn Rees, Lyn West, Llio Ellis a Huw Maredudd Roberts
Amddiffyn Plant ac Oedolion Bregus
Cydlynydd Diogelu : Caroline Rees Gwiriwr DBS: Wendy Reynolds
Pwyllgor y Meddiannau Mike West (Cadeirydd)
Y Fynwent: Edwyn Evans Rhandiroedd: Emlyn P. Jones
Merched y Tabernacl Judith Thomas Gaynor Evans
Gweithgor Ariannol
Gwilym Huws (Cadeirydd) Arwyn Lloyd Jones (Trysorydd)
Swyddog Ieuenctid a Chymunedol
Eleri Mai Thomas
Rheolwyr Safle
Mike West Rhian Eyres
-5-
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
Mae’r Ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn Gyfarwyddwyr yr elusen at ddiben deddfwriaeth cwmnïau, yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu’r “Datganiad o Arferion a Argymhellwyd i Elusennau” a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2019 wrth baratoi’r adroddiad blynyddol, ac mae’r datganiadau hyn yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2019).
Strwythur, rheoli a threfn lywodraethol
Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni elusennol ac yn gwmni cyfyngedig o dan warant fel y’i diffinnir yn Neddf Cwmnïau 2006. Fe’i sefydlwyd yn unol â’r Memorandwm sy’n datgan manylion a phwerau’r cwmni, a chaiff ei reoli’n unol â’r Erthyglau Cymdeithasiad.
Prif ddiben y cwmni yw hybu’r grefydd Gristnogol yn unol â chredoau’r anghydffurfwyr Protestannaidd a elwir yn Annibynwyr Cymraeg, fel aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; a hefyd at ddibenion cyffredinol y cyfryw gyrff elusennol neu at ddibenion eraill a fydd yn elusennol yn unig fel y penderfynir o bryd i’w gilydd gan yr Ymddiriedolwyr. Y Bwrdd sydd yn gyfrifol am arolygu holl waith a busnes yr elusen, gyda’r aelodau’n gweithredu fel Ymddiriedolwyr.
Yr Ymddiriedolwyr
Etholir yr Ymddiriedolwyr gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Capel y Tabernacl, Cyf. Ni fyddant yn llai na chwech mewn nifer ond (oni bai y pennir fel arall gan benderfyniad cyffredin), ni fyddant yn amodol ar unrhyw uchafswm. Mae gan y Bwrdd hawl i gyfethol Ymddiriedolwyr ychwanegol. Yn dilyn pob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd yr Ymddiriedolwyr yn penodi un o’u plith i fod yn gadeirydd eu cyfarfodydd. Y nifer angenrheidiol i ffurfio cworwm yw 6 person sydd â’r hawl i bleidleisio ar y mater i’w drafod.
Rheoli
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd bob rhyw chwech wythnos. Mae gwaith yr eglwys yn cael ei drefnu o ddydd i ddydd gan nifer o bwyllgorau a gweithgorau sy’n cwrdd yn rheolaidd.
Bydd pob un o’r pwyllgorau a’r gweithgorau hyn yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd yn rheolaidd.
Mae’r Erthyglau Cymdeithasiad yn datgan bod pob aelod o’r Elusen yn ymgymryd i gyfrannu at asedau’r elusen swm gofynnol na fydd yn fwy na deg punt os digwydd i’r elusen gael ei dirwyn i ben.
Cyflogaeth
Mae Capel y Tabernacl Cyf. yn cyflogi un person rhan-amser, sef Swyddog Ieuenctid a Cymunedol, ynghyd â glanhawr.
Adolygiad Risg
Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi adolygu’r risgiau sylweddol hynny lle mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn agored i risg, ac mae systemau wedi eu sefydlu i leihau’r risgiau hynny. Paratowyd adroddiadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod y camau priodol yn bodoli i leihau’r risgiau, sydd yn cynnwys risgiau megis parhad y capel, materion ariannol, iechyd a diogelwch, amddiffyn plant ac oedolion bregus, data personol yr aelodau, staffio a’r amgylchedd.
Amcanion a Gweithgareddau
Mae’r elusen yn rhoi sylw dyladwy i arweiniad y Comisiwn Elusennol ar lesâd cyhoeddus. Prif amcan yr elusen yw bod yn eglwys sy’n cynnig cyfle i’r aelodau fod yn dystion i Iesu Grist ym mhentref Efail Isaf, a’r cyffiniau. Golyga hynny ymgymryd â’r holl weithgareddau sy’n arferol i eglwys Gristnogol, ac fe’u rhestrir yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. Mae gan y cwmni hefyd hawl i arddel at ddibenion cyffredinol unrhyw gorff elusennol y dymuna’r Ymddiriedolwyr ei gefnogi, neu at ddibenion eraill y bydd yr Ymddiriedolwyr yn eu hystyried yn rhai cyfan gwbl elusennol.
Llwyddiannau a Pherfformiad
Gweler adroddiad y Cadeirydd. Hefyd ceir manylion pellach yng nghorff yr Adroddiad Blynyddol.
-6-
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
Adolygiad Ariannol
Adroddir canlyniadau’r elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024 yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar dudalennau 10 - 19.
Derbyniwyd cyfanswm incwm o £98,237 (2023: £59,869) a gwariwyd £69,597 (2023: £73,334), ac felly yr incwm net am y flwyddyn oedd £28,640 (2023: £1,535). Y prif reswm dros y cynnydd yn incwm yr elusen oedd derbyn rhan o waddol Eglwys Sardis Pontypridd.
Cyfanswm cronfeydd y cwmni ar 31 Rhagfyr 2024 oedd £823,790 (2023: £795,150), o’r hyn roedd £8,573 (2023: £5,964) wedi ei gadw at ddibenion cyfyngedig a £664,877 (2023: £678,286) wedi ei glymu mewn asedau sefydlog a buddsoddi. O ganlyniad roedd gan yr elusen £150,340 (2023: £110,900) o asedau net cyfredol wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn. Ni roddwyd unrhyw dâl i’r Ymddiriedolwyr.
Polisi Arian Wrth Gefn
Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr roi ystyriaeth fanwl i anghenion y cwmni elusennol am arian wrth gefn, yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau yn y ddogfen “Elusennau a chronfeydd wrth gefn” (CC19).
Yn ein barn ni, mae angen cronfa wrth gefn i’r dibenion canlynol:
-
I gynnal gwaith yr elusen a gweithgareddau’r eglwys mewn cyfnodau lle y gallem fod yn wynebu gostyngiad mewn incwm.
-
I wireddu prosiectau mewn cyfnod byr yn ôl y galw.
-
I gynnal a chadw’r adeiladau fel ein bod yn medru wynebu unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol heb i’r gost lesteirio ein prif waith fel eglwys.
Polisi Buddsoddi
Rheolwyd polisi buddsoddi’r cwmni gan yr Erthyglau Cymdeithasiad, o fewn y canllawiau a osodwyd. Rydym yn adolygu’r sefyllfa hon yn gyson.
Polisi Cronfeydd
Mae’r cwmni’n ffodus bod cyfran helaeth o’r incwm yn dod trwy gyfraniadau aelodau, a’r rheiny ar y cyfan yn weddol gyson trwy’r flwyddyn, gyda nifer helaeth yn talu trwy archeb banc. Derbynnir tua £22,000 y flwyddyn mewn cyfraniadau gan aelodau. Y polisi yw ceisio sicrhau bod tua 3 mis o wariant arferol yn aros yn y cyfrif cyfredol yn gyson, a’r gweddill yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa fuddsoddi, fel y nodwyd uchod.
Datblygiadau
Teimla’r Ymddiriedolwyr yn hyderus fod dyfodol ariannol Capel y Tabernacl, Cyf. ar seiliau cadarn iawn.
Archwilydd Annibynnol
Archwilydd Annibynnol y cyfrifon hyn oedd Curtis Bowden & Thomas Ltd. 101 Dunraven Street, Tonypandy CF40 1AR
Paratowyd yr adroddiad hwn ar sail canllawiau Cyfrifo ac Adrodd i Elusennau: Datganiad o Arferion a Argymhellwyd, sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon ac yn unol â gofynion Safonau Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2019).
Cymeradwywyd gan y Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr ar 15 Gorffennaf 2025 ac fe’i llofnodwyd ar eu rhan gan:
Enw: Jayne Bethan Roberts Enw: Non Gibbon Morris
Ymddiriedolwr Ymddiriedolwr
-7-
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
ADRODDIAD Y CADEIRYDD
Pan gytunais i eistedd ar Fwrdd Capel y Tabernacl, Efail Isaf, ddiwedd 2023 nid fy mwriad o fewn blwyddyn gron oedd Cadeirio’r sefydliad. Ond dyna ddigwyddodd, ac mae hynny’n fraint ac yn anrhydedd. Bu’r cyfnod o flwyddyn dan gadeiryddiaeth Iwan yn gyfle gwych i’m rhoi ar ben ffordd.
Er mai cyfnod helô/gwd-bei yw teyrnasiad Cadeirydd yng Nghapel y Tabernacl, mae ymrwymiad Ysgrifennydd yn hirach o lawer – a siom aruthrol oedd clywed bod Gwilym wedi penderfynu ymddiswyddo ar ddiwedd 2024. Rhaid dweud ein bod ni fel capel wedi elwa’n fawr o’i allu, ei broffesiynoldeb a’i ddoethineb, yn ogystal â’i brofiad helaeth mewn ystod o feysydd. Mae’r Capel yn hynod ddyledus iddo. Ond mae yna rywfaint o newyddion da gan ei fod wedi cytuno i barhau i baratoi Dolen y Tab yn wythnosol – yr adnodd sy’n hollbwysig i ni’r aelodau er mwyn cael gwybod am ddigwyddiadau’r capel a’r ardal leol. Parhau wnaeth y newyddion da pan gytunodd Caroline i dderbyn gwahoddiad y Bwrdd i olynu Gwilym fel Ysgrifennydd, a braf dweud ei bod hi eisoes wedi creu argraff arhosol gyda’i hegni. Dymunwn yn dda iddi.
Yn fuan wedi cyhoeddiad Gwilym, rhoddodd Arwyn rybudd y byddai yntau hefyd yn gorffen fel Trysorydd wedi wyth mlynedd o wasanaeth ffyddlon i’r eglwys. Dyma ŵr sy wedi torchi llewys yn dawel a diffwdan, a gwneud ei ran er budd a lles y capel. Ry’n ni’n wir ddyledus iddo. Achos llawenydd yw fod Enfys a Celt Hughes wedi cytuno i lenwi’r esgidiau gwag pan fydd Arwyn yn eu gadael.
Nid capel sy’n agor ei ddrysau ar y Sul yn unig yw’r Tabernacl. Mae yna fywyd i’r lle sy’n deillio, heb unrhyw amheuaeth, o weledigaeth y cyn-weinidog Eirian Rees ynghyd â mewnbwn a chefnogaeth yr aelodau. Gellir dweud â sicrwydd bod y Tabernacl yn gwasanaethu’r gymuned gyfan, gyda’r drysau’n agored i bawb. Yn aml iawn heddi’, ry’n ni’n gweld enghreifftiau o rai mudiadau Cristnogol yn denu beirniadaeth, neu hyd yn oed yn tynnu gwawd arnynt eu hunain, oherwydd eu hagweddau cul, gwahanol a di-groeso. Dyna pam dwi’n teimlo, fel Iwan yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2024, yn wirioneddol falch a diolchgar fy mod i’n perthyn i gymuned ac iddi athroniaeth ffydd debyg i’r Tabernacl – man lle mae croeso gwirioneddol yn ganolog, a lle mae’r negeseuon dwysaf a phwysicaf yn rhai o gariad, gobaith a chyfiawnder a’r rheiny’n cael eu gweithredu’n ddyddiol.
Defnyddir y Capel a’r Ganolfan yn rheolaidd gan aelodau’r eglwys a’r gymuned ehangach. Mae pobol yn cael eu croesawu i’n hadeiladau bron bob dydd o’r wythnos – rhwng oedfaon, grwpiau crefft, boreau coffi, corau, gwaith elusennol a’r ardd gymunedol. Diolchwn yn fawr i’r criw sy’n gyfrifol am yr adeiladau, y fynwent, y maes parcio, yr ardd gymunedol a’r rhandiroedd. Maen nhw’n cadw trefn ar bob dim, boed hynny’n drwsio neu’n lanhau, ac mae’r diolch i Mike a Rhian a’u tîm gofalgar am gydlynu’r gwaith.
Un o nodweddion amlyca’r capel yw deilliannau gwaith y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol dan arweiniad John Llew a’i dîm brwdfrydig, nid yn unig drwy’r gwaith wythnosol o gasglu, didoli ac ailgylchu celfi i anffodusion cymdeithas, ond hefyd drwy gynlluniau megis y Talebau Nadolig, yr ymgyrch Wyau Pasg, y gefnogaeth i elusennau lleol gan gynnwys y Banc Bwyd, a’r Apêl Ffynhonnau Byw a weithredwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Mae gwaith y criw bywiog yma’n cael ei
-8-
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
ADRODDIAD Y CADEIRYDD (PARHAD)
gydnabod ledled Cymru fel patrwm o arfer da, ac fel esiampl o sut y gall cymuned gyfan fyw eu ffydd mewn ffordd ystyrlon ac adeiladol. A ga i ddiolch yn arbennig i chi’r aelodau sy’n ymateb mor bositif i’r gri am gymorth – fel y canodd yr athronydd Groegaidd Socrates, ‘One man, one art is best’.
Fel eglwys sydd wedi ymrwymo i un oedfa Gymraeg yn unig ar y Sul, mae’r ffocws wedi bod ar gyfoethogi ein profiadau wythnosol. Datblygwyd y drefn o gyfarfod yn y prynhawn ar drydydd Sul y mis er mwyn ceisio cynnwys teuluoedd sydd dan bwysau cymdeithasol ar foreau Sul, ond hefyd i roi cyfle i weithgareddau o fath gwahanol. Yn ychwanegol at hyn, datblygwyd trefn o gael brecwast tymhorol a chinio tymhorol er mwyn hwyluso’n hadnabyddiaeth o’n gilydd, a braf yw gweld Neuadd y Pentref yn llawn bob tro y cynhelir yr achlysuron hyn. Gwerthfawrogir pob cyfraniad – i’r oedfaon, i’r Ysgol Sul ac i’r tîm sy’n paratoi’r prydau bwyd safonol.
-
Eleni eto cafwyd amrywiaeth eang o wasanaethau bendithiol a diddorol, ac mae’n diolch yn fawr i’r canlynol: (i) i’r Pwyllgor sydd wrthi’n trefnu, ac i bawb sy’n eu cefnogi.
-
(ii) i’r Parchedig Aled Edwards a’r Parchedig Gethin Rhys am eu hymweliadau rheolaidd.
-
(iii) i’r organyddion a’r cyfeilyddion am gyd-weithio mor effeithiol.
-
(iv) i’r criw gweithgar sy wrthi’n wythnosol yn ffrydio oedfaon.
-
(v) i Elwyn am ffurfio a hyfforddi Côr y Tab – cafwyd perfformiadau cofiadwy yn y Tabernacl a’r Eisteddfod leol.
-
(vi) i Eleri Mai a’r rhieni ifanc am eu hegni, ac am eu gwaith cyson gyda phlant a ieuenctid y capel.
Un peth sy’n amlwg yng Nghapel y Tabernacl yw parodrwydd cymaint o bobl i gyfrannu, yn aml mewn ffyrdd tawel iawn. Mae yna býls i’r lle, a’r gobaith yw gweld yr holl frwdfrydedd a’r holl egni yn parhau am amser hir i’r dyfodol.
Alun Wyn Bevan Cadeirydd Dyddiad: 14 Gorffennaf 2025
-9 -
CAPEL Y TABERNACL, Cyf. Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol i Ymddiriedolwyr Capel y Tabernacl Cyf
Adroddiad yr archwilydd annibynnol i ymddiriedolwyr Capel y Tabernacl, Cyf. (‘y Cwmni’)
Yr wyf yn adrodd i ymddiriedolwyr yr elusen am fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024.
Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad
Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni at ddibenion y gyfraith cwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 ('Deddf 2006').
Ar ôl bodloni fy hun nad yw'n ofynnol i gynnal archwiliad ariannol o gyfrifon y Cwmni ar gyfer y flwyddyn hon o dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a'i fod yn gymwys i gael archwiliad annibynnol, adroddaf mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon eich elusen fel y'i cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 ('Deddf 2011'). Wrth ymgymryd â'm harchwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.
.
Datganiad yr Archwilydd Annibynnol
Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad oes unrhyw faterion perthnasol wedi dod i'm sylw sy'n rhoi achos i mi gredu:
-
na chafodd cofnodion cyfrifyddu eu cadw yn unol ag adran 386 o Ddeddf Cwmnïau 2006; neu
-
nad yw'r cyfrifon yn cyfateb â'r cofnodion hynny; neu
-
nad yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion cyfrifyddu perthnasol o dan adran 396 o Ddeddf Cwmnïau 2006 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun 'gwir a theg' nad yw'n fater i'w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; neu
-
nad yw'r cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â'r SORP Elusennau (FRS102).
Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â'r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o'r cyfrifon
Stephen John Smith FCCA The Association of Chartered Certified Accountants
Curtis Bowden & Thomas Limited Chartered Certified Accountants 101 Dunraven Street Tonypandy CF40 1AR
-10-
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
Datganiad o Weithgareddau Ariannol Am y Flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024
| 31.12.24 | 31.12.23 | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | ||
| Anghyfyngedig | Cyfyngedig | Cronfeydd | Cronfeydd | ||
| Nodyn | £ |
£ | £ | £ | |
| Incwm a gwaddolion o: | |||||
| Rhoddion a Chymynroddion | 76,466 | - | 76,466 | 42,321 | |
| Gweithgareddau Elusennol | |||||
| Gweithgareddau Crefyddol | - | 20,457 | 20,457 | 16,846 | |
| Incwm Buddsoddiadau | 2 | 1,314 | - | 1,314 | 702 |
| Cyfanswm | 77,780 | 20,457 | 98,237 | 59,869 | |
| Gwariant ar | |||||
| Gweithgareddau Elusennol | |||||
| Gweithgareddau Crefyddol | 51,749 | 17,848 | 69,597 | 73,334 | |
| Enillion net o fuddsoddiadau | - | - | - | 15,000 | |
| INCWM NET | 26,031 | 2,609 | 28,640 | 1,535 | |
| Cysoni’r Cronfeydd | |||||
| Cyfanswm y cronfeydd a ddygwyd ymlaen | 789,186 | 5,964 | 795,150 | 793,615 | |
| Cyfanswm y cronfeydd a gariwyd ymlaen | 815,217 | 8,573 | 823,790 | 795,150 |
-11-
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
Mantolen
| Mantolen | Mantolen | |||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| 31 Rhagfyr 2024 | ||||||
| 31.12.24 | 31.12.23 | |||||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |||
| Anghyfyngedig Cyfyngedig Cronfeydd | Anghyfyngedig Cyfyngedig Cronfeydd | Anghyfyngedig Cyfyngedig Cronfeydd | Cronfeydd | |||
| Nodyn | Nodyn £ |
£ | £ | £ | ||
| Asedau Sefydlog | ||||||
| Asedau Diriaethol | 7 | 489,877 | - | 489,877 | 503,286 | |
| Buddsoddiadau | 8 | 175,000 | - | 175,000 | 175,000 | |
| 664,877 | - | 664,877 | 678,286 | |||
| Asedau Cyfredol | ||||||
| Dyledwyr | 9 | 2,398 | - | 2,398 | 2,366 | |
| Arian yn y Banc | 148,992 | 8,573 | 157,565 | 115,548 | ||
| 151,390 | 8,573 | 159,963 | 117,914 | |||
| Credydwyr | ||||||
| Yn ddyledus o fewn blwyddyn | 10 | (1,050) | - | (1,050) | (1,050) | |
| Asedau Net Cyfredol | 150,340 | 8,573 | 158,913 | 116,864 | ||
| Cyfanswm Asedau Llai Dyledion Cyfredol | Cyfanswm Asedau Llai Dyledion Cyfredol | 815,217 | 8,573 | 823,790 | 795,150 | |
| ASEDAU NET | 815,217 | 8,573 | 823,790 | 795,150 | ||
| Cronfeydd | 11 | |||||
| Cronfeydd Anghyfyngedig | 815,217 | 789,186 | ||||
| Cronfeydd Cyfyngedig | 8,573 | 5,964 | ||||
| Cyfanswm y Cronfeydd | 823,790 | 795,150 |
Cyfanswm y Cronfeydd
Mae gan y cwmni elusennol hawl i beidio â chynnal awdit, dan Adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006, am y flwyddyn yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2024.
Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni elusennol gynnal awdit o’u cyfrifon ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024 yn unol ag Adran 476 Deddf Cwmnïau 2006.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb dros y canlynol:
(a) sicrhau bod y cwmni elusennol yn cadw cyfrifon sy’n cyd-fynd â gofynion Adran 386 a 387 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ac
(b) yn paratoi datganiadau ariannol sy’n adlewyrchu’n gywir a theg sefyllfa’r cwmni elusennol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gan gynnwys y gwarged neu’r ddyled yn unol â gofynion Adrannau 394 a 395 ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 o safbwynt datganiadau ariannol sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol.
Cafodd y datganiadau ariannol hyn eu paratoi i gydymffurfio â gofynion arbennig Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol bychan.
Cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar 15 Gorffennaf 2025 a’u llofnodi ar eu rhan gan:
Enw’r Ymddiriedolwr: Jayne Bethan Roberts Enw Ymddiriedolwr: Non Gibbon Morris
-12-
Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
Nodiadau ar Ddatganiadau Ariannol Am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Rhagfyr 2024
1. Polisiau Cyfrifo
Sail paratoi’r datganiadau ariannol
Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sydd yn endid budd cyhoeddus o dan FRS 102, wedi cael eu paratoi yn unol â SORP (FRS 102) Accounting and Reporting by Charities: Statement of Recommended Practice sy’n gymwys i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2019), a Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r datganiadau ariannol wedi eu paratoi ar sail confensiwn hanesyddol. Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn cwrdd â’r diffiniad o endid budd cyhoeddus dan FRS 102. Caiff yr asedau a’r dyledion eu cydnabod o’r cychwyn cyntaf ar gost neu werth gweithrediad hanesyddol ac eithrio buddsoddiadau wedi eu cynnwys ar sail gwerth y farchnad sydd wedi eu haddasu wrth ail-werthuso rhai asedau.
Incwm
Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith mae gan yr elusen hawl i’r cronfeydd, mae’r incwm yn debygol o gael ei dderbyn, ac mae modd mesur y swm yn hyderus.
Gwariant
Caiff ymrwymiadau eu cydnabod fel gwariant cyn gynted ag y bo rheidrwydd cyfreithiol neu ymarferol yn ymrwymo’r elusen i’r gwariant hwnnw. Mae’n debygol y bydd rhaid trosglwyddo buddiannau economaidd fel setliad a gellir mesur yr ymrwymiad mewn modd dibynadwy. Caiff y gwariant ei gyfrifo ar sail croniadau, ac fe’i dosbarthwyd dan benawdau sy’n corlannu’r holl gostau o fewn y categori. Lle nad oes modd clustnodi costau dan bennawd penodol, maent wedi eu clustnodi o dan weithgareddau ar sail sy’n gyson â’r defnydd a wneir o’r adnoddau.
Asedau Sefydlog Diriaethol
Cynhyrchir y dibrisiad ar y graddfeydd blynyddol a ganlyn er mwyn amcangyfrif y gwerth sy’n weddill dros oes yr ased.
Cynhyrchir y dibrisiad ar |
y graddfeydd blynyddo |
|---|---|
| Eiddo Rhyddfraint | - 2% o’r gost |
| Offer a chyfarpar | - 25% o’r gost |
Trethiant
Mae’r elusen yn cael ei heithrio o dalu treth corfforaethol ar ei gweithgarwch elusennol.
Cyfrifo Cronfeydd
Gellir defnyddio cronfeydd anghyfyngedig yn unol â’r amcanion elusennol gyda sêl bendith yr ymddiriedolwyr. Dim ond at ddibenion penodol o fewn amcanion yr elusen y gellir defnyddio cronfeydd cyfyngedig. Ceir cyfyngiad pan fo’r rhoddwr yn nodi hynny, neu pan fo’r gronfa wedi ei chreu i godi arian at bwrpasau cyfyngedig penodol.
Ceir esboniad pellach am natur a diben pob cronfa yn y nodiadau i’r datganiadau ariannol.
2. Incwm Buddsoddiadau
| 31.12.24 | 31.12.23 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Llog Cyfrif Cadw | 509 | 702 |
| Llog Cyfrif Tymor Sefydlog | 805 | - |
| 1,314 | 702 |
3. Incwm Net/(gwariant)
Nodir Incwm net/(gwariant): ar ôl codi tâl (credydu)
| 31.12.24 | 31.12.23 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Ffi Archwilio | 1,050 | 1,050 |
| Dibrisiant – asedau’r cwmni | 13,409 | 13,409 |
-13-
Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
- Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol parhad Am y Flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024
4. Cydnabyddiaeth a Buddiannau’r Ymddiriedolwyr
Ni roddwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiannau eraill i’r Ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2023.
Costau’r Ymddiriedolwyr
Ni thalwyd unrhyw gostau i’r Ymddiriedolwyr yn y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2023.
5. Costau Staff
Ar gyfartaledd misol cyflogwyd y nifer canlynol o staff yn ystod y flwyddyn:
6.
| 31.12.24 | 31.12.23 | |||
|---|---|---|---|---|
| Costau Staff | 2 | 2 | ||
| Ni dderbyniodd yr un o’r cyflogeion dâl o fwy na £60,000. | ||||
| Cymariaethau ar Gyfer y Datganiad o Weithgareddau Ariannol | ||||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | ||
| anghyfyngedig | Cyfyngedig | Cronfeydd | ||
| £ | £ | £ | ||
| Incwm a Chymynroddion o: | ||||
| Rhoddion a Chymynroddion | 42,321 | - | 42,321 | |
| Gwaith Elusennol | ||||
| Gweithgareddau Crefyddol | - | 16,846 | 16,846 | |
| Incwm Buddsoddi | 702 | - | 702 | |
| Cyfanswm | 43,023 | 16,846 | 59,869 | |
| Gwariant ar | ||||
| Waith Elusennol | ||||
| Gweithgareddau Crefyddol | 55,768 | 17,566 | 73,334 | |
| Enillion net o fuddsodi | 15,000 | - | 15,000 | |
| INCWM NET/(GWARIANT) | 2,255 | (720) | 1,535 | |
| Cysoni Cronfeydd | ||||
| Cyfanswm Cronfeydd a ddygwyd ymlaen | 786,931 | 6,684 | 793,615 |
-14-
Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
- Nodiadau ar y Datganiad Ariannol parhad Am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024
6. Cymariaethau ar gyfer y Datganiadau o Weithgareddau Ariannol - parhad
| 6. | Cymariaethau ar gyfer y Datganiadau o Weithga | reddau Ariann | ol -parhad | ol -parhad | ol -parhad | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | ||||
| AnghyfyngedigCyfyngedig | Cronfeydd | |||||
| £ | £ | £ | ||||
| Cyfanswm Cronfeydd a Ddygwyd Ymlaen | 789,186 | 5,964 | 795,150 | |||
| 7. | Asedau Sefydlog Diriaethol | |||||
| Eiddo | Offer | a | ||||
| Rhyddfraint | Chyfarpar Cyfanswm | |||||
| Cost | £ | £ | £ | |||
| Ar 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024 | 636,377 | 24,614 | 660,991 | |||
| Dibrisiant | ||||||
| Ar 1 Ionawr 2024 | 133,091 | 24,614 | 157,705 | |||
| Tâl am flwyddyn | 13,409 | - | 13,409 | |||
| Ar 31 Rhagfyr 2024 | 146,500 | 24,614 | 171,114 | |||
| Gwerth Net yn y Llyfr | ||||||
| Ar 31 Rhagfyr 2024 | 489,877 | - | 489,877 | |||
| Ar 31 Rhagfyr 2023 | 503,286 | - | 503,286 | |||
| 8. | Asedau Buddsoddi Sefydlog | |||||
| Buddsoddiadau | ||||||
| heb eu Rhestru | ||||||
| £ | ||||||
| Gwerth ar y Farchnad | ||||||
| Ar 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024 | 175,000 | |||||
| Gwerth Net yn y Llyfr | ||||||
| Ar 31 Rhagfyr 2024 | 175,000 | |||||
| Ar 31 Rhagfyr 2023 | 175,000 | |||||
| Doedd dim buddsoddiadau y tu allan i’r DU. | ||||||
| 9. | Dyledwyr: symiau’n ddyledus o fewn blwyddyn | |||||
| 31.12.24 | 31.12.23 | |||||
| £ | £ | |||||
| Blaendaliadau | 2,398 | 2,366 |
-15-
Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol - parhad Am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024
| 10. | Credydwyr: symiau yn ddyledus o fewn y flwyddyn | |||
|---|---|---|---|---|
| 31.12.24 | 31.12.23 | |||
| £ | £ | |||
| Costau Cronedig | 1,050 | 1,050 | ||
| 11. | Symudiadau o Fewn Cronfeydd | |||
| Symudiadau | ||||
| net mewn | Ar | |||
| Ar 1.1.24 | cronfeydd |
31.12.24 | ||
| £ | £ | £ | ||
| Cronfeydd Anghyfyngedig | ||||
| Cronfa Gyffredinol | 789,186 | 26,031 | 815,217 | |
| Cronfeydd Cyfyngedig | ||||
| Cronfa Cyfyngedig | 5,964 | 2,609 | 8,573 | |
| Cyfansymiau Cronfeydd | 795,150 | 28,640 | 823,790 | |
| Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd a gynhwysir uchod fel a ganlyn: | ||||
| Adnoddau | Adnoddau a Symudiadau | |||
| Dderbyniwyd wariwyd | mewn | |||
| cronfeydd | ||||
| £ | £ | £ | ||
| Cronfeydd Anghyfyngedig | ||||
| Cronfa Gyffredinol | 77,780 | (51,749) | 26,031 | |
| Cronfeydd Cyfyngedig | ||||
| Cronfa Cyfyngedig | 20,457 | (17,848) | 2,609 | |
| Cyfansymiau cronfeydd | 98,237 | (69,597) | 28,640 | |
| Symudiadau Cymharol Mewn Cronfeydd | ||||
| Symudiadau net | ||||
| mewn | Ar | |||
| Ar 1.1.23 | Cronfeydd |
31.12.23 | ||
| £ | £ | £ | ||
| Cronfeydd Anghyfyngedig | ||||
| Cronfa Gyffredinol | 786,931 | 2,255 | 789,186 | |
| Cronfeydd Cyfyngedig | ||||
| Cronfa Cyfyngedig | 6,684 | (720) | 5,964 | |
| CYFANSYMIAU CRONFEYDD | 793,615 | 1,535 | 795,150 |
Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol
-16-
- Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol parhad Am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Rhagfyr 2024
11. Symudiadau Mewn Cronfeydd - parhad
| Symudiadau Mewn Cronfeydd - parhad | Symudiadau Mewn Cronfeydd - parhad | Symudiadau Mewn Cronfeydd - parhad | Symudiadau Mewn Cronfeydd - parhad | Symudiadau Mewn Cronfeydd - parhad | ||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd a gynhwysir yn yr uchod fel a ganlyn: | ||||||
| Anoddau | Adnoddau | Elw a | Symudiadau | |||
| Dderbyniwyd | Wariwyd | Cholledion |
mewn | |||
| Cronfeydd | ||||||
| £ | £ | £ | £ | |||
| Cronfeydd Anghyfyngedig | ||||||
| Cronfa Gyffredinol | 43,023 | (55,768) | 15,000 | 2,255 | ||
| Cronfeydd Cyfyngedig | ||||||
| Cronfa Gyfyngedig | 16,846 | (17,566) | - | (720) | ||
| CYFANSYMIAU CRONFEYDD | 59,869 | (73,334) | 15,000 | 1,535 | ||
| Wrth gyfuno’r flwyddyn gyfredol 12 mis a’r flwyddyn flaenorol 12 mis dyma a geir: | ||||||
| Symudiadau | ||||||
| Net yn y | Ar | |||||
| Ar 1.1.23 | cronfeydd | 31.12.24 | ||||
| £ | £ | £ | ||||
| Cronfeydd Anghyfyngedig | ||||||
| Cronfa Gyffredinol | 786,931 | 28,286 | 815,217 | |||
| Cronfeydd Cyfyngedig | ||||||
| Cronfa Gyfyngedig | 6,684 | 1,889 | 8,573 | |||
| CYFANSYMIAU CRONFEYDD | 793,615 | 30,175 | 823,790 | |||
| gyfuno symudiadau net cronfeydd y flwyddyn 12 mis gyfredol a’r flwyddyn 12 mis | flaenorol | |||||
| ceir hyn | ||||||
| Adnoddau Dderbyniwyd |
Adnoddau Wariwyd |
Enillion a Symudiadau Cholledion mewn cronfeydd |
||||
| £ | £ | £ | £ | |||
| Cronfeydd Anghyfyngedig | ||||||
| Cronfa Gyffredinol | 120,803 | (107,517) | 15,000 | 28,286 | ||
| Cronfeydd Cyfyngedig | ||||||
| Cronfa Gyfyngedig | 37,303 | (35,414) | - | 1,889 | ||
| CYFANSYMIAU CRONFEYDD | 158,106 | (142,931) | 15,000 | 30,175 |
Drwy gyfuno symudiadau net cronfeydd y flwyddyn 12 mis gyfredol a’r flwyddyn 12 mis flaenorol uchod ceir hyn
12. Datgeliadau Partïon Perthynol
Nid oedd unrhyw drafodion rhwng partïon yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024.
Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol
-17-
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
Datganiad Manwl o’r Gweithgareddau Ariannol Am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Rhagfyr 2024
| 31.12.24 | 31.12.23 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Incwm a Chymynroddion | ||
| Cyfraniadau a Chymynroddion | ||
| Aelodaeth | 23,913 | 24,525 |
| Casgliadau rhydd a rhoddion | 38,130 | 5,004 |
| Rhent TŷCapel | 4,453 | 3,498 |
| Hurio’r Ganolfan | 1,802 | 696 |
| Amrywiol | 10 | 80 |
| Ad-daliad Treth Incwm | 7,792 | 8,518 |
| Llenyddiaeth | 366 | - |
| 76,466 | 42,321 | |
| Incwm Buddsoddiadau | ||
| Llog y Cyfrif Cadw | 509 | 702 |
| Llog Cyfrif Tymor Penodol | 805 | - |
| 1,314 | 702 | |
| Gweithgareddau Elusennol | ||
| Costau Staff Rhaglen Arloesi a | ||
| Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr | 10,000 | 10,000 |
| Cymraeg) | ||
| Cronfa Elusennau | 3,523 | 3,310 |
| Cymorth Cristnogol | 1,858 | 1,156 |
| ApêlTalebau Nadolig | - | 280 |
| Apêl Banc Bwyd | 1,830 | 2,100 |
| Cymorth Ieuenctid | 916 | - |
| Palesteina | 534 | - |
| Live Aid | 936 | - |
| Brecwast Haf | 490 | - |
| Brecwast Gaeaf | 370 | - |
| 20,457 | 16,846 | |
| Cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd | 98,237 | 59,869 |
| Gwariant | ||
| Gweithgareddau Elusennol | ||
| Costau Staff | 22,695 | 22,730 |
| Yswiriant | 3,551 | 4,186 |
| Gwres, Golau a Dŵr | 8,489 | 9,968 |
| Pregethwyr | 2,294 | 2,090 |
| Undeb yr Annibynwyr | 857 | 837 |
| Llenyddiaeth | 728 | 483 |
| Gweinyddol | 3,600 | 1,353 |
| Ysgol Sul | 143 | 277 |
| Y Fynwent | 967 | 870 |
| Costau Cynnal a Chadw | 3,966 | 5,790 |
| Dygwyd Ymlaen | 47,290 | 48,584 |
-18-
Nid yw’r dudalen hon yn rhan o’r datganiadau ariannol
CAPEL Y TABERNACL, Cyf.
| Datganiad Manwl o’r Gweithgareddau Ariannol- parhad | Datganiad Manwl o’r Gweithgareddau Ariannol- parhad | Datganiad Manwl o’r Gweithgareddau Ariannol- parhad | ||
|---|---|---|---|---|
| Am y Flwyddyn yn Diweddu Rhagfyr 2024 | ||||
| 31.12.24 | 31.12.23 | |||
| £ | £ | |||
| Gweithgareddau Elusennol - parhad | ||||
| Dygwyd Ymlaen | 47,290 | 48,584 | ||
| Rhoddion Ychwanegol | - | 2,725 | ||
| Dibrisiant | 13,409 | 13,409 | ||
| Cronfa Elusennau | 1,800 | 3,310 | ||
| Cymorth Cristnogol | 1,858 | 1,156 | ||
| Apêl Talebau Nadolig | - | 1,000 | ||
| Apêl Banc Bwyd | 1,830 | 2,100 | ||
| Cymorth Ieuenctid | 200 | - | ||
| AMOS | 540 | - | ||
| Live Aid | 1,250 | - | ||
| UNHCR | 370 | - | ||
| 68,547 | 72,284 | |||
| Costau Cymorth | ||||
| Costau Llywodraethu | ||||
| Ffi Archwilwyr | 1,050 | 1,050 | ||
| Cyfanswm yr Adnoddau a Wariwyd | 69,597 | 73,334 | ||
| Incwm Net/(gwariant) cyn enillion a | ||||
| gwariant | 28,640 | (13,465) | ||
| Enillion a Gwariant Real Cydnabyddedig | ||||
| Enillion/(colledion) ar asedau buddsoddi sefydlog | - | 15,000 | ||
| Incwm Net | 28,640 | 1,535 |
-19-
Nid yw’r dudalen hon yn rhan o’r datganiadau ariannol