OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2020-12-31-accounts

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIAD ARIANNOL

Y flwyddyn hyd at 31[ain ] Rhagfyr 2020

Capel y Tabernacl, Cyf.

Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig: 06349041(Cymru) Elusen Gofrestredig Rhif: 1122584

1

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

CYNNWYS

Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol Tudalen 2–3
Swyddogion y Tabernacl Tudalen 4–5
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr Tudalen 6–7
Adroddiad y Cadeirydd Tudalen 8–9
Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol Tudalen 10
Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol Tudalen 11
Mantolen Tudalen 12
Nodiadau sy’n ffurfio rhan o’r Datganiadau Ariannol Tudalen 13–20
Datganiad Manwl o’r Gweithgareddau Ariannol Tudalen 21

Dymuna Capel y Tabernacl, Cyf. ddiolch i’r canlynol am eu cymorth ariannol gyda’r gwaith o wella’r adeiladau yn ddiweddar:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Ymddiriedolaeth Pantyfedwen.

Enw cofrestredig y cwmni: Capel y Tabernacl, Cyf. Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig: 06349041(Cymru) Elusen Gofrestredig: 1122584 Cyfeiriad Cofrestredig: 9 Gerddi’r Sofran, Ffordd Cefn yr Hendy, Meisgyn, Pont-y-clun CF72 8SZ Ysgrifennydd y Cwmni: Gwilym Huws

2

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

YMDDIRIEDOLWYR YR ELUSEN A CHYFARWYDDWYR Y CWMNI

Enw Etholwyd

Siân Llewelyn Barnes Tachwedd 2017 Geraint Wyn Davies Tachwedd 2019 Eluned Mary Davies-Scott Tachwedd 2017 Edwyn Evans Tachwedd 2018 (Cadeirydd) Hefin Gwyn Gruffydd Tachwedd 2020 Bethan Haulwen Guilfoyle Tachwedd 2020 Arwyn Lloyd Jones Tachwedd 2017 Sarah Eleri Jones Tachwedd 2019 Rhiannon Llewelyn Tachwedd 2017 Bethan Angharad Herbert Lloyd Tachwedd 2018 Helen Middleton Tachwedd 2020 Iwan Llwyd Rowlands Tachwedd 2020 Gwenfil Edwina Thomas Tachwedd 2019 David Michael West Tachwedd 2018 Nia Mair Williams Tachwedd 2019

Mae disgwyl i draean yr ymddiriedolwyr / cyfarwyddwyr ymddeol yn eu tro bob blwyddyn. Ymddeolodd y rhai gyda * ar bwys eu henwau ym mis Tachwedd 2020.

Gwefan: www.tabernacl.org

Cyfreithwyr: Devonalds, York House, Pontypridd CF37 1JW

Banc: Lloyds Bank, Sgwâr y Farchnad, Pontypridd CF37 2TF

Cyfrifwyr: Huw Aled Accountants Ltd., Cyfrifwyr Siartredig, 6, Heol Alfreda, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2EH

3

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

SWYDDOGION Y TABERNACL

Cadeirydd

Edwyn Evans

Ysgrifennydd Gwilym Huws

Trysorydd Arwyn Lloyd Jones

Trefnydd Oedfaon, Cyhoeddiadau a Phriodasau

Geraint Rees

Panel Priodasau

Geraint Rees Cofrestru Priodasau Rhys Llewelyn a Helen Middleton

Organyddion a Chyfeilyddion

Sian Elin Jones gyda chymorth Bethan Roberts, Rhiannon Humphreys ac Eleri Huws

Golygydd y Wefan a Bas-data cyfeiriadau e-bost Emlyn Davies

Gweithgor Cysylltwyr Ardal

Geraint Wyn Davies (Cadeirydd) Lowri Roberts (Ysgrifennydd)

4

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

SWYDDOGION Y TABERNACL - parhad

Y Gweithgor Gweinidogaethu

Y Parchedig D. Eirian Rees (Cadeirydd) Geraint Rees

Merched y Tabernacl

Judith Thomas Gaynor Evans

Y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol

John Ll. Thomas (Cadeirydd) Ann D. Davies (Ysgrifennydd) Cymorth Cristnogol: John Ll. Thomas Bwydo’r Digartref: Gill Rees Cronfa Lesotho: Nia Williams

Yr Ysgol Sul a’r Twmiaid Lowri Roberts (Ysgrifennydd) Ysgol Sul: Bethan Reynolds a Manon Humphreys Huws

Pwyllgor Amddiffyn Plant ac Oedolion Bregus

Gwion Evans (Cadeirydd)

Gwirwyr DBS: Wendy Reynolds a Gwerfyl Morse

Pwyllgor y Meddiannau Mike West (Cadeirydd)

Gweithgor Ariannol

Gwilym Huws (Cadeirydd) Arwyn Lloyd Jones (Trysorydd)

5

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

Mae’r Ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn Gyfarwyddwyr yr elusen at ddiben deddfwriaeth cwmnïau, yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu’r “Datganiad o Arferion a Argymhellwyd i Elusennau” a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015 wrth baratoi’r adroddiad blynyddol, ac mae’r datganiadau hyn yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2015).

Strwythur, rheoli a threfn lywodraethol

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni elusennol ac yn gwmni cyfyngedig o dan warant fel y’i diffinnir yn Neddf Cwmnïau 2006. Fe’i sefydlwyd yn unol â’r Memorandwm sy’n datgan manylion a phwerau’r cwmni, a chaiff ei reoli’n unol â’r Erthyglau Cymdeithasiad.

Prif ddiben y cwmni yw hybu’r grefydd Gristnogol yn unol â chredoau’r anghydffurfwyr Protestannaidd a elwir yn Annibynwyr Cymraeg, fel aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; a hefyd at ddibenion cyffredinol y cyfryw gyrff elusennol neu at ddibenion eraill a fydd yn elusennol yn unig fel y penderfynir o bryd i’w gilydd gan yr Ymddiriedolwyr. Y Bwrdd sydd yn gyfrifol am arolygu holl waith a busnes yr elusen, gyda’r aelodau’n gweithredu fel Ymddiriedolwyr.

Yr Ymddiriedolwyr

Etholir yr Ymddiriedolwyr gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Capel y Tabernacl, Cyf. Ni fyddant yn llai na chwech mewn nifer ond (oni bai y pennir fel arall gan benderfyniad cyffredin), ni fyddant yn amodol ar unrhyw uchafswm. Mae gan y Bwrdd hawl i gyfethol Ymddiriedolwyr ychwanegol. Yn dilyn pob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd yr Ymddiriedolwyr yn penodi un o’u plith i fod yn gadeirydd eu cyfarfodydd. Y nifer angenrheidiol i ffurfio cworwm yw 6 person sydd â’r hawl i bleidleisio ar y mater i’w drafod.

Rheoli

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn fisol. Mae gwaith yr eglwys yn cael ei drefnu o ddydd i ddydd gan nifer o bwyllgorau a gweithgorau sy’n cwrdd yn rheolaidd.

Bydd pob un o’r pwyllgorau a’r gweithgorau hyn yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd yn rheolaidd.

Mae’r Erthyglau Cymdeithasiad yn datgan bod pob aelod o’r Elusen yn ymgymryd i gyfrannu at asedau’r elusen swm gofynnol na fydd yn fwy na deg punt os digwydd i’r elusen gael ei dirwyn i ben.

Cyflogaeth

Mae Capel y Tabernacl Cyf. yn cyflogi un person rhan-amser, fel Rheolwr Safle, ynghyd â glanhawr.

Adolygiad Risg

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi adolygu’r risgiau sylweddol hynny lle mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn agored i risg, ac mae systemau wedi eu sefydlu i leihau’r risgiau hynny. Paratowyd adroddiadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod y camau priodol yn bodoli i leihau’r risgiau, sydd yn cynnwys risgiau megis parhad y capel, materion ariannol, iechyd a diogelwch, amddiffyn plant ac oedolion bregus, data personol yr aelodau, staffio a’r amgylchedd.

Amcanion a Gweithgareddau

Mae’r elusen yn rhoi sylw dyladwy i arweiniad y Comisiwn Elusennol ar lesâd cyhoeddus. Prif amcan yr elusen yw bod yn eglwys sy’n cynnig cyfle i’r aelodau fod yn dystion i Iesu Grist ym mhentref Efail Isaf, ac yn yr ardal o gwmpas. Golyga hynny ymgymryd â’r holl weithgareddau sy’n arferol i eglwys Gristnogol ac fe’u rhestrir yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. Mae gan y cwmni hefyd hawl i arddel at ddibenion cyffredinol unrhyw gorff elusennol y dymuna’r Ymddiriedolwyr ei gefnogi, neu at ddibenion eraill y bydd yr Ymddiriedolwyr yn eu hystyried yn rhai cyfan gwbl elusennol.

Llwyddiannau a Pherfformiad

Gweler adroddiad y Cadeirydd. Hefyd ceir manylion pellach yng nghorff yr Adroddiad Blynyddol.

6

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

Adolygiad Ariannol

Adroddir canlyniadau’r elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020 yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar dudalennau 11–20.

Derbyniwyd cyfanswm incwm o £47,009 (2019: £42,412) a gwariwyd £52,000 (2019: £52,845), ac felly y gwariant net oedd £4,991 (2019: £10,433). Un ffactor yn y cynnydd yn yr incwm ar y naill law a’r cynnydd yn y gwariant ar y llaw arall o’i gymharu â 2019 yw’r swm sylweddol o arian a godwyd tuag at ymgyrchoedd elusennol a dyngarol cyn trosglwyddo’r arian i’r achosion hynny. Eleni hefyd fe gwblhawyd y taliad olaf o £3,000, sef y benthyciad di-log oddi wrth Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, tuag at gostau atgyweirio’r capel.

Cyfanswm cronfeydd y cwmni ar 31 Rhagfyr 2020 oedd £770,268 o’r hyn roedd £5,024 wedi ei gadw at ddibenion cyfyngedig a £678,513 wedi ei glymu mewn asedau sefydlog. O ganlyniad roedd gan yr elusen £86,731 wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn (2019: £79,097). Ni roddwyd unrhyw dâl i’r Ymddiriedolwyr.

Polisi Arian Wrth Gefn

Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr roi ystyriaeth fanwl i anghenion y cwmni elusennol am arian wrth gefn, yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau yn y ddogfen “Elusennau a chronfeydd wrth gefn” (CC19).

Yn ein barn ni, mae angen cronfa wrth gefn i’r dibenion canlynol:

  1. I gynnal gwaith yr elusen a gweithgareddau’r eglwys mewn cyfnodau lle y gallem fod yn wynebu gostyngiad mewn incwm.

  2. I wireddu prosiectau mewn cyfnod byr yn ôl y galw.

  3. I gynnal a chadw’r adeiladau fel ein bod yn medru wynebu unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol heb i’r gost lesteirio ein prif waith fel eglwys.

Polisi Buddsoddi

Rheolwyd polisi buddsoddi’r cwmni gan yr Erthyglau Cymdeithasiad, o fewn y canllawiau a osodwyd. Rydym yn adolygu’r sefyllfa hon yn gyson.

Polisi Cronfeydd

Mae’r cwmni’n ffodus bod cyfran helaeth o’r incwm yn dod trwy gyfraniadau aelodau, a’r rheiny ar y cyfan yn weddol gyson trwy’r flwyddyn, gyda nifer helaeth yn talu trwy archeb banc. Derbynnir tua £22,000 y flwyddyn mewn cyfraniadau gan aelodau. Y polisi yw ceisio sicrhau bod tua 3 mis o wariant arferol yn aros yn y cyfrif cyfredol yn gyson, a’r gweddill yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa fuddsoddi, fel y nodwyd uchod.

Datblygiadau

Teimla’r Ymddiriedolwyr yn hyderus fod dyfodol ariannol Capel y Tabernacl, Cyf. ar seiliau cadarn iawn.

Archwilydd Annibynnol

Archwilydd Annibynnol y cyfrifon hyn oedd Huw Aled Accountants Ltd., 6 Heol Alfeda, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2EH.

Paratowyd yr adroddiad hwn ar sail canllawiau Cyfrifo ac Adrodd i Elusennau: Datganiad o Arferion a Argymhellwyd sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon ac yn unol â gofynion Safonau Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2015).

Cymeradwywyd gan y Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr ar 13 Gorffennaf 2021 ac fe’i llofnodwyd ar eu rhan gan:

7

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD Y CADEIRYDD

Braint ac anrhydedd i mi yw cael cyflwyno’r adroddiad hwn i’ch sylw. Yng ngeiriau cân Dafydd Iwan, rydym ‘Yma o Hyd’, er na fu modd i ni gyd-gwrdd ac addoli gyda’n gilydd ers bron i flwyddyn a hanner. Wedi dweud hynny, gallwn edrych yn ôl dros gyfnod pryd y cynhaliwyd llawer iawn o weithgareddau, a hynny bob amser yn enw eglwys y Tabernacl. Mae yna ddywediad Saesneg, ‘when the going gets tough, the tough get going’, a dyma’n union sydd wedi digwydd i ni. Yn rhyfeddol iawn, mae rhyw wytnwch cynhenid wedi ysbrydoli rhai, ac annog eraill, i gyflwyno a gweithredu dysgeidiaeth efengyl Iesu Grist mewn modd na fyddai neb wedi ei ragweld ddeunaw mis yn ôl.

Yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol mis Tachwedd y llynedd, ffarweliwyd â phedwar aelod o’r Bwrdd, sef Eluned Davies-Scott, Siân Llewelyn Barnes, Arwyn Lloyd Jones a Rhiannon Llewelyn. Diolch i bob un ohonynt am eu hymroddiad i’r dasg o lywodraethu’r Tabernacl yn ystod eu tymor fel Cyfarwyddwyr. Rwy’n siŵr y caf faddeuant gan y tri arall wrth gyfeirio’n benodol at Eluned Davies-Scott, gan ddiolch iddi am ei harweiniad doeth fel Cadeirydd y Bwrdd dros gyfnod o ddwy flynedd. Gan ddilyn amodau’r cyfansoddiad, enwebwyd pedwar aelod newydd i’r Bwrdd am dymor o dair blynedd, sef Hefin Gruffydd, Bethan Guilfoyle, Iwan Rowlands a Helen Middleton. Rydym eisoes wedi elwa o’u cyfraniadau yn nhrafodaethau a gwaith y Bwrdd dros y cyfnod prysur a heriol rydym wedi ei wynebu dros y misoedd diwethaf.

Gyda thristwch mawr bu’n rhaid gohirio cynnal ein gwasanaethau cynulleidfaol arferol trwy gydol y flwyddyn a aeth heibio yn sgil y pandemig a hynny i raddau helaeth iawn oherwydd ein llwyddiant fel eglwys gyda chymaint yn dymuno troi i mewn i addoli ar foreau Sul. Er bod hawl cyfreithiol gennym i gynnal gwasanaethau yn yr adeilad am ran helaethaf o’r cyfnod clo, roedd gofyn dilyn rheoliadau llym i wneud hynny – canllawiau oedd yn gwbl anymarferol i ni yma yn y Tabernacl allu eu cwrdd. Rydym yn byw mewn gobaith y gallwn gwrdd unwaith yn rhagor ar fore Sul yn y dyfodol agos.

Yn anffodus hefyd oherwydd y gwaharddiadau i ymgynnull fel cynulleidfa yn sgil Covid-19 bu’n rhaid gohirio llawer o’r trefniadau a wnaed i ddathlu 150 mlynedd adeiladu’r Capel presennol. Serch hynny, i gyd-fynd â dyddiad ailagor y Capel ar ei newydd wedd ym mis Gorffennaf 1870, fe baratowyd cyfrol aml-gyfryngol lliwgar a bywiog – Dathlu’r 150 – yn adrodd hanes yr achos dros y ganrif a hanner ddiwethaf. Dim ond y fersiwn ddigidol oedd wedi ymddangos pan luniwyd adroddiad llynedd ond ym mis Awst fe ddosbarthwyd copi caled i bob aelod. Mae ein dyled yn fawr iawn i Emlyn Davies am ei holl waith yn llunio cofrodd mor deilwng a darllenadwy i gofnodi hanes yr achos yn Efail Isaf.

Er y gwaharddiadau ar ymgynnull wyneb-yn-wyneb, paratowyd myfyrdodau’n wythnosol drwy holl gyfnod y clo, ac rydym yn ddiolchgar dros ben i’r holl aelodau hynny sydd wedi cyfrannu at yr arlwy yma a meistroli’r dechnoleg i alluogi rhannu neges yr efengyl nid yn unig ymhlith ein haelodau, ond hefyd i bawb yn y byd oedd yn medru tiwnio i mewn. ‘Trwy ddirgel ffyrdd mae’r Arglwydd Iôr yn dwyn ei waith i ben’. Rydym ninnau fel aelodau’r Bwrdd wedi cwrdd yn rhithiol, gan sicrhau parhad i reolaeth yr Eglwys. Diolch i Gwilym Huws am sicrhau hyn dros Zoom.

Llawenydd o’r mwyaf yw medru adrodd bod cyfraniadau ariannol yr aelodau a chyfeillion tuag at achosion dyngarol ac elusennol yn ystod y flwyddyn 2020 wedi bod yn sylweddol uwch nag erioed o’r blaen. Ymhlith yr achosion a gefnogwyd yn y modd hwn roedd y Talebau Nadolig i bobl ifanc oedd yn gadael gofal a theganau i blant bach drwy'r Gwasanaeth Cymdeithasol ( £1,195), Wythnos Cymorth Cristnogol (£1,455), y Gronfa Elusennau (£3,813), Banc Bwyd Taf Elái (£4,385) ag Apêl y Llifogydd (£2,095). Hefyd mae’r arian wedi parhau i lifo i mewn yn gyson i’r ymgyrchoedd hynny lle mae’r galw’n parhau (e.e. y banc bwyd).

Rhaid talu teyrnged a gair o ddiolch diffuant i’r Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol dan arweiniad John Llywelyn Thomas ac Ann Dwynwen Davies. Mae’r Capel wedi edrych yn debycach i warws yn ystod y misoedd diwethaf wrth i gelfi, llestri a dillad gael eu cyfrannu gan yr aelodau a thrigolion y pentref, a’r rheiny yn eu tro yn cael eu dosbarthu ymhlith yr anghenus. Penllanw’r gwaith anhygoel yma oedd gweld yr Eglwys a John Llewelyn Thomas yn derbyn ymweliad gan Jason Edwards, Uchel Siryf Canol Morgannwg, a gyflwynodd dystysgrifau i John a’r Eglwys fel gwerthfawrogiad o’r holl waith dyngarol a gyflawnwyd yma.

8

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

Mae’r Pwyllgor Meddiannau, dan arweiniad Mike West, yn parhau â’r gwaith o sicrhau bod adeiladau’r Tabernacl mewn cyflwr graenus ac yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch. Rydym yn hynod ddiolchgar i Mike am ymgymryd â’r rôl gofalwr tra rydym yn parhau i chwilio am olynydd i Ioan Rees. Braf yw gallu adrodd bod y criw bach bore Iau wedi datblygu’n fawr iawn, ac yn sgil yr oriau o lafur caled, a chymorth JCB bychan, fe gliriwyd y gordyfiant o’r rhandiroedd gan agor pedair llain newydd. Mae dwy ohonynt eisoes wedi eu gosod i arddwyr newydd, a gyda chymorth Emma Shepherd mae’r gweddill yn cael eu datblygu i fod yn ardd gymunedol. Yn sgil hyn, rydym wedi sicrhau nawdd gan Cadw Cymru’n Daclus tuag at wella’r cyfleusterau yn y rhandiroedd.

Yn gynharach eleni sefydlwyd Is-bwyllgor gan y Bwrdd i ystyried gwahoddiad gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i holl eglwysi’r enwad i wneud cais am gefnogaeth ariannol wrth iddynt lansio eu rhaglen Buddsoddi ac Arloesi. Eu nod yw annog eglwysi i ‘fuddsoddi yn eu dyfodol drwy fentro mewn ffyrdd newydd ac arloesol o hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl ac estyn allan i wasanaethu eu cymunedau’. I ddenu cefnogaeth ariannol roedd angen cyflwyno cais i Banel Dyfarnu’r Undeb. Yn ystod hanner cyntaf 2021 bu’r Is-bwyllgor Arloesi a Buddsoddi’n weithgar iawn wrth bwyso a mesur pa drywydd i’w ddilyn. Y cam cyntaf oedd cymryd stoc o gryfderau a gwendidau presennol yr eglwys, ynghyd a'r cyfleoedd a’r bygythiadau a wynebwn. Trwy ymgynghori ag aelodau’r Bwrdd a threfnu cyfarfodydd rhithiol gyda rhai carfannau o’r gynulleidfa gwelwyd bod consensws wedi ffurfio mai’r maes i ganolbwyntio arno oedd gweithgareddau ymhlith ieuenctid a phobl ifanc yr eglwys. Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd lluniwyd cynnig i gyflogi Swyddog Ieuenctid a Chymunedol rhan-amser a derbyniodd y cynnig hwnnw gefnogaeth unfrydol mewn Cwrdd Eglwys. Wedi cyflwyno’r cais bu’n rhaid aros yn amyneddgar am rai wythnosau cyn clywed y dyfarniad. Rhyddhad o’r mwyaf, felly, oedd derbyn neges ddiwedd Mehefin gan yr Undeb i’r cais gael ei dderbyn yn llawn, sef swm o £10,000 y flwyddyn am 5 mlynedd, i’n galluogi i gyflogi’r Swyddog Ieuenctid a Chymunedol. Dyma newyddion gwych i ni fel eglwys a fydd gobeithio yn agor pennod newydd a chyffrous yn ein hanes.

Her arall i’r dyfodol fydd ailafael yn y tresi pan fydd y canllawiau’n caniatáu i ni gwrdd unwaith eto. Does gennyf ddim pryderon na fydd graen ar ein gwasanaethau, a chynulleidfa haeddiannol yn dychwelyd i’r Capel ar y Sul. Y sialens fwyaf fydd ysgogi ein hieuenctid i ailafael yng ngweithgareddau’r Ysgol Sul. Yno mae ein dyfodol, ac mae’n ddyletswydd arnom ni i gyd i gefnogi’r rhai fydd yn gofalu am lwyddiant y gweithgarwch heriol hwn.

I gloi, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd at waith yr Eglwys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein dyled yn fawr iawn. Diolch hefyd i Huw Aled Accountants am y gwaith o baratoi’r adroddiad ariannol manwl yma i’ch sylw.

Edwyn Evans Cadeirydd Gorffennaf 2021

9

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CAPEL Y TABERNACL, CYF.

Adroddiad yr archwilydd annibynnol i ymddiriedolwyr Capel y Tabernacl, Cyf. (‘y Cwmni’)

Yr wyf yn adrodd i ymddiriedolwyr yr elusen am fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020.

Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad

Fel ymddiriedolwyr y Cwmni (a hefyd y cyfarwyddwyr at ddibenion deddfwriaeth cwmnïau) chi’n sy’n gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).

Wedi bodloni fy hun nad oes angen i gyfrifon y Cwmni dderbyn awdit o dan Rhan 16 Deddf 2006, a’i bod yn gymwys ar gyfer archwiliad annibynnol, gallaf adrodd ar sail fy archwiliad o gyfrifon yr elusen o dan Adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’). Wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn Cyfarwyddiadau y Comisiwn Elusennau o dan Adran 145(5) (b) o Ddeddf 2011).

Datganiad yr Archwilydd Annibynnol

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad, a gallaf gadarnhau nad oes unrhyw fater wedi dod i’m sylw mewn cysylltiad â’m harchwiliad sy’n peri i mi gredu:

  1. nad yw’r cofnodion cyllido wedi eu cadw mewn perthynas â’r Cwmni yn unol â gofynion Adran 386 Deddf 2006; neu

  2. nad yw’r cyfrifon yn cyd-fynd â’r cofnodion hyn; neu

  3. nad yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion Adran 396 Deddf 2006 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn cyflwyno darlun cywir a theg nad yw’n rhan o’r materion gaiff eu hystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; neu

  4. nad yw’r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â methodoleg ac egwyddorion y Datganiad o Ymarfer a Argymhellwyd ( Statement of Recommended Practice ) a ddefnyddir i gyfrifo ac adrodd gan elusennau sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon yn ôl gofynion Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Nid oes gennyf unrhyw gonsýrn ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion mewn cysylltiad â’r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn dod i ddealltwriaeth llawn o’r cyfrifon.

10

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL (YN CYNNWYS CYFRIF O INCWM A GWARIANT) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2020

Nodiadau
INCWM A GWADDOLION O:
Rhoddion a Chymynroddion
4
Gweithgareddau Elusennol
Gweithgareddau crefyddol
6
Incwm o fuddsoddiadau
5
Cyfanswm
GWARIANT AR
Gweithgareddau Elusennol
Gweithgareddau Crefyddol
7
(GWARIANT)/INCWM
GWEITHREDU NET
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio
asedau buddsoddi
14
INCWM/(GWARIANT) NET
CYSONI’R CRONFEYDD
12
Cysoni’r cronfeydd a gariwyd
ymlaen
CYFANSWM Y CRONFEYDD A
DDYGWYD YMLAEN
Cronfeydd
Anghyfyngedig
Cronfeydd
Cyfyngedig
£
£
33,886
-
-
13,102
21
-
33,907
13,102
39,682
12,318
(5,775)
784
10,000
-
4,225
784
761,019
4,240
765,244
5,024
2020
Cyfanswm
Cronfeydd
£
33,886
13,102
21
47,009
52,000
(4,991)
10,000
5,009
765,259
770,268
Ailddatganwyd
2019
Cyfanswm
Cronfeydd
£
38,541
3,842
29
42,412
52,845
(10,433)
22,313
11,880
753,379
765,259

Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

11

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

MANTOLEN
AR 31 RHAGFYR 2020
ASEDAU SEFYDLOG
Nodiadau
Asedau Diriaethol
13
Asedau Buddsoddi
14
ASEDAU CYFREDOL
Dyledwyr
15
Arian yn y banc
CREDYDWYR
Yn ddyledus o fewn blwyddyn
16
ASEDAU NET CYFREDOL
CYFANSWM ASEDAU LLAI
DYLEDION CYFREDOL
ASEDAU NET
CRONFEYDD
18
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfeydd Cyfyngedig
CYFANSWM Y CRONFEYDD
Cronfeydd
Anghyfyngedig
Cronfeydd
Cyfyngedig
£
£
543,513
-
135,000
-
2,494
-
85,287
5,024
2020
Cyfanswm
Cronfeydd
£
543,513
135,000
2,494
90,311
Ailddatganwyd
2019
Cyfanswm
Cronfeydd
£
556,922
125,000
2,402
84,985
87,781
5,024
(1,050)
-
92,805
(1,050)
87,837
(4,050)
86,731
5,024
91,755 83,337
765,244
5,024
770,268 765,259
765,244
5,024
770,268 765,259
765,244
5,024
761,019
4,240
770,268 765,259

Mae gan y cwmni elusennol hawl i beidio â chynnal awdit, dan Adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006, am y flwyddyn yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2020.

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni elusennol gynnal awdit o’u cyfrifon ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020 yn unol ag Adran 476 Deddf Cwmnïau 2006.

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb dros y canlynol:

(a) sicrhau bod y cwmni elusennol yn cadw cyfrifon sy’n cyd-fynd â gofynion Adran 386 a 387 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ac

(b) yn paratoi datganiadau ariannol sy’n adlewyrchu’n gywir a theg sefyllfa’r cwmni elusennol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gan gynnwys y gwarged neu’r ddyled yn unol â gofynion Adrannau 394 a 395 ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 o safbwynt datganiadau ariannol sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol.

Cafodd y datganiadau ariannol hyn eu paratoi i gydymffurfio â gofynion arbennig Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol bychan.

Cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar 13 Gorffennaf 2021 a’u llofnodi ar eu rhan gan:

Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

12

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2020

1. GWYBODAETH STATUDOL

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni cyfyngedig dan warant wedi ei ymgorffori yng Nghymru o fewn y Deyrnas Gyfunol. Y Swyddfa Gofrestredig yw 9 Gerddi’r Sofran, Meisgyn, Pontyclun, Cymru, CF72 8SZ.

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu cyflwyno mewn Sterling (£), sef arian cyfred y cwmni, yn grwn i’r bunt agosaf.

Prif ddiben a natur yr elusen yw hybu gweithgarwch crefyddol.

Caiff y prif bolisïau cyfrifo a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn eu nodi isod. Cafodd y polisïau eu gweithredu’n gyson dros yr holl flynyddoedd a gyflwynir, oni nodir yn wahanol.

2. POLISÏAU CYFRIFO

Sail paratoi’r datganiadau ariannol

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sydd yn endid budd cyhoeddus o dan FRS 102, wedi cael eu paratoi yn unol â SORP (FRS 102) Accounting and Reporting by Charities: Statement of Recommended Practice sy’n gymwys i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102 S1A Bwletin Diweddariad 1) (gweithredol o 1 Ionawr 2015), a Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r datganiadau ariannol wedi eu paratoi ar sail confensiwn hanesyddol.

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn cwrdd â’r diffiniad o endid budd cyhoeddus dan FRS 102. Caiff yr asedau a’r dyledion eu cydnabod o’r cychwyn cyntaf ar gost neu werth gweithrediad hanesyddol oni nodir yn wahanol yn y nodyn / nodiadau cyfrifo perthnasol.

Incwm

Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith mae gan yr elusen hawl i’r cronfeydd, mae’r incwm yn debygol o gael ei dderbyn, ac mae modd mesur y swm yn hyderus.

Incwm cyfraniadau a chymynroddion

Mae incwm cyfraniadau a chymynroddion yn cynnwys cyfraniadau, rhoddion a grantiau sy’n sicrhau cyllid craidd neu sydd o natur gyffredinol a gydnabyddir lle bo hawl, a thebygolrwydd o’i dderbyn, a lle gellir mesur y swm gyda hyder digonol. Caiff incwm ei gadw’n ôl yn unig pan fydd y rhoddwr yn nodi bod rhaid ei ddefnyddio mewn cyfnod cyfrifo gwahanol, neu lle bo’r rhoddwr wedi gosod amodau y mae’n rhaid i’r elusen gwrdd â hwy cyn sicrhau hawl diamod ar y swm.

Incwm o weithgareddau elusennol

Mae’r incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm a dderbyniwyd dan gytundeb neu lle bo’r hawl yn amodol ar berfformiad dan amodau penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod gan bod y gwasanaethau perthynol yn cael eu darparu, ac y mae yna hawl, a thebygolrwydd o dderbynneb, a gellir mesur y swm gyda dibynadwyedd digonol. Caiff yr incwm ei ohirio lle bo’r arian yn cael ei dderbyn cyn cyflawni’r gwasanaeth neu’r digwyddiad mae’r arian yn berthnasol iddo.

Incwm buddsoddiadau

Caiff incwm o fuddsoddiadau ei gydnabod ar sail ei dderbyn.

Nid yw’n bolisi gan yr elusen i ddangos incwm net o wariant.

Gwariant

Caiff ymrwymiadau eu cydnabod fel gwariant cyn gynted ag y bo rheidrwydd cyfreithiol neu ymarferol yn ymrwymo’r elusen i’r gwariant hwnnw. Mae’n debygol y bydd rhaid trosglwyddo buddiannau economaidd fel setliad a gellir mesur yr ymrwymiad mewn modd dibynadwy. Caiff y gwariant ei gyfrifo ar sail croniadau, ac fe’i dosbarthwyd dan benawdau sy’n corlannu’r holl gostau o fewn y categori. Lle nad oes modd clustnodi costau dan bennawd penodol, maent wedi ei glustnodi o dan weithgareddau ar sail sy’n gyson â’r defnydd a wneir o’r adnoddau.

Mae costau sy’n ymwneud â chodi arian yn cynnwys costau ymgyrchu, hysbysebu a marchnata, a defnyddiau postio uniongyrchol.

Mae gwariant ar weithgarwch elusennol yn cynnwys y costau hynny a delir gan yr elusen wrth gyflawni ei gweithgareddau a’i gwasanaethau er lles ei derbynwyr. Mae’n cynnwys nid yn unig y costau y gellir eu clustnodi’n uniongyrchol, ond hefyd y gweithgareddau a’r costau hynny o natur anuniongyrchol sy’n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

13

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2020 – PARHAD

2. POLISÏAU CYFRIFO

Gwariant – parhad

Costau Cynorthwyol yw’r costau hynny nad ydynt, er yn hanfodol i’r elusen gyflawni ei hamcanion, yn creu na chyflawni gweithgarwch elusennol. Mae’r rhain yn cynnwys costau llywodraethiant, sef y costau hynny i gwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen, gan gynnwys ffioedd cyfrifo a chostau’n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen.

Asedau Sefydlog diriaethol

Caiff asedau sefydlog eu cyfalafu ar gost.

Amcangyfrifir y dibrisiad er mwyn lleihau cost yr ased, namyn yr amcangyfrif o werth sy’n weddill, dros oes yr ased fel a ganlyn:

Eiddo rhyddfraint - dros 40 mlynedd Offer a chyfarpar - 25% o’r gost Offer cyfrifiadurol - 50% o’r gost

Asedau Buddsoddi

Mae asedau buddsoddi yn cael eu cyfalafu ar gost ac yn cael eu hailbrisio i werth teg yr ased ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae unrhyw enillion neu colledion o'r ailbrisio blynyddol yn cael eu cynnwys o dan y pennawd 'Enillion/(colledion) heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi" yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol.

Nid yw'r asedau buddsoddi yn cael eu dibrisio.

Trethiant

Mae’r elusen yn cael ei heithrio o dalu treth gorfforaethol ar ei gweithgarwch elusennol.

Cyfrifo Cronfeydd

Gellir defnyddio cronfeydd anghyfyngedig yn unol â’r amcanion elusennol gyda sêl bendith yr ymddiriedolwyr. Dim ond at ddibenion penodol o fewn amcanion yr elusen y gellir defnyddio cronfeydd cyfyngedig. Ceir cyfyngiad pan fo’r rhoddwr yn nodi hynny, neu pan fo’r gronfa wedi ei chreu i godi arian at bwrpasau cyfyngedig penodol.

Ceir esboniad pellach am natur a diben pob cronfa yn y nodiadau i’r datganiadau ariannol.

Offerynnau Ariannol

Dim ond asedau ac ymrwymiadau ariannol o’r math sy’n gymwys ar gyfer offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Caiff offerynnau ariannol sylfaenol eu derbyn yn y lle cyntaf ar sail y gwerth ariannol, ac yna eu mesur ar sail eu gwerth setliad.

Caiff benthyciadau rhatach eu derbyn a’u mesur yn y lle cyntaf ar sail eu gwerth ariannol, gyda’r symiau gaiff eu cario drosodd yn cael eu haddasu yn y blynyddoedd canlynol i adlewyrchu taliadau a wnaed ac unrhyw log sy’n deillio ohonynt.

Dyledwyr

Cydnabyddir dyledwyr masnachol a dyledwyr eraill yn ôl y swm y cytunwyd arno ar ôl cynnwys unrhyw ddisgownt masnachol. Caiff blaendaliadau eu prisio ar y swm net o unrhyw ddisgownt sy’n ddyledus a dalwyd ymlaen llaw.

Credydwyr

Cydnabyddir credydwyr lle mae gan yr elusen ymrwymiad cyfredol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol sy’n debygol o arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti, a bod y swm i gwrdd â’r ymrwymiad yn un y gellir ei fesur neu ei amcangyfrif yn ddibynadwy. Fel arfer, caiff credydwyr eu cydnabod wrth iddynt setlo’r swm ar ôl caniatáu unrhyw ddisgownt masnachol sy’n ddyledus.

3. CYWIRO DEWIS O BOLISI CYFRIFO AR GYFER ASEDAU BUDDSODDI

Yn wreiddiol, polisi cyfrifo y Capel oedd i gyfalafu pob ased sefydlog diriaethol, gan gynnwys Tŷ Capel. Gwnaeth yr Ymddiriedolwyr gadarnhau bod y Tŷ Capel yn cael ei gadw i ennill incwm rhent, yn hytrach nag i'w ddefnyddio yng ngweithgareddau arferol y Capel. O ganlyniad, bu rhaid ailddosbarthu Tŷ Capel fel ased buddsoddi yn unol â chanllawiau FRS 102 (SORP Elusennau).

Ailddatganwyd y wybodaeth ar gyfer 2019 i ddangos effeithiau'r trosglwyddiad hyn ar y cyfrifon (gweler nodiadau 13 a 14).

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

14

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2020 – PARHAD 4. RHODDION A CHYMYNRODDION

Aelodaeth
Casgliadau Rhydd a Rhoddion
Rhent Tŷ Capel
Hurio’r Ganolfan
Amrywiol
Ad-daliad Treth Incwm
5.
INCWM BUDDSODDIADAU
Llog cyfrif cadw
6.
INCWM O WEITHGAREDDAU ELUSENNOL
Cronfa Elusennol
Gweithgarwch Crefyddol
Cymorth Cristnogol Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Talebau Nadolig Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Banc Bwyd Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Llifogydd Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Lesotho Gweithgarwch Crefyddol
7.
COSTAU GWEITHGAREDDAU CREFYDDOL

Uniongyrchol
Gweithgareddau Crefyddol
£
50,950
8.
COSTAU UNIONGYRCHOL GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL
Costau Staff
Yswiriant
Gwres, Golau a Dŵr
Pregethwyr
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Llenyddiaeth
Gweinyddol
Y Ganolfan
Y Fynwent
Amrywiol
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Costau Cynnal a Chadw
Rhoddion ychwanegol
Apêl Madagascar
Apêl Banc Bwyd
Apêl Lesotho
Apêl Felindre
Dibrisiant
2020
£
21,172
2019
£
21,769
1,065
1,800
4,340
4,590
1,280
3,139
-
1,415
6,029
5,828
33,886
38,541
2020
£
21
2019
£
29
2020
2019
£
£
3,813
2,098
1,455
100
1,195
-
4,385
-
2,095
500
159
1,144
13,102
3,842
Costau
Costau
Cymorth Cyfanswm
(gweler nodyn 7)
£
1,050
£
52,000
2020
£
2019
£
2,020
5,618
3,493
3,417
9,313
5,804
1,060
1,040
800
800
849
572
1,035
2,238
-
6,370
1,235
3,688
452
697
4,199
2,500
1,495
60
3,229
1,457
1,737
-
2,719
-
3,405
-
-
1,000
500
-
13,409
16,534
50,950
51,795
2020
£
21,172
2019
£
21,769
1,065
1,800
4,340
4,590
1,280
3,139
-
1,415
6,029
5,828
33,886
38,541
2020
£
21
2019
£
29
2020
2019
£
£
3,813
2,098
1,455
100
1,195
-
4,385
-
2,095
500
159
1,144
13,102
3,842
Costau
Costau
Cymorth Cyfanswm
(gweler nodyn 7)
£
1,050
£
52,000
2020
£
2019
£
2,020
5,618
3,493
3,417
9,313
5,804
1,060
1,040
800
800
849
572
1,035
2,238
-
6,370
1,235
3,688
452
697
4,199
2,500
1,495
60
3,229
1,457
1,737
-
2,719
-
3,405
-
-
1,000
500
-
13,409
16,534
50,950
51,795

2019
£
5,618
3,417
5,804
1,040
800
572
2,238
6,370
3,688
697
2,500
60
1,457
-
-
-
1,000
-
16,534
51,795

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

15

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2020 – PARHAD

9. INCWM NET/(GWARIANT)

Nodir incwm net/(gwariant) ar ôl codi tâl /(credydu):

Ffi archwilio
Dibrisiant – asedau’r cwmni
2020
£
1,050
13,409
2019
£
1,050
16,534

10. CYDNABYDDIAETH A BUDDIANNAU’R YMDDIRIEDOLWYR

Ni roddwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiannau eraill i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2019.

Costau’r Ymddiriedolwyr

Ad-dalwyd cyfanswm o £59 i un Ymddiriedolwr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020 am gostau a dalwyd gan yr Ymddiriedolwr ar ran y Capel. Ni thalwyd unrhyw dreuliau i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2019.

11. COSTAU STAFF

Ar gyfartaledd misol, cyflogwyd y nifer canlynol o staff yn ystod y flwyddyn:

2020 2019
2 2

Ni dderbyniodd yr un o’r cyflogeion dâl o fwy na £60,000.

12. CYMARIAETHAU AR GYFER Y DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL

INCWM A CHYMYNRODDION O:
Rhoddion a Chymynroddion
Gwaith Elusennol
Gweithgarwch Crefyddol
Incwm Buddsoddi
Cyfanswm
GWARIANT AR:
Gweithgarwch Elusennol
Gweithgarwch Crefyddol
Cyfanswm
INCWM NET/(GWARIANT) GWEITHREDU
Enillion o ailbrisio asedau buddsoddi
INCWM/(GWARIANT) NET
CYSONI CRONFEYDD
Cyfanswm a gariwyd ymlaen
CYFANSWM CRONFEYDD A DDYGWYD YMLAEN
Ailddatganwyd
Cronfeydd
anghyfyngedig
Cronfeydd
cyfyngedig
£
£
38,541
-
-
3,842
29
-
38,570
3,842
49,285
3,560
49,285
3,560
(10,715)
282
22,313
-
11,598
282
749,421
3,958
761,019
4,240
Ailddatganwyd
Cyfanswm
cronfeydd
£
38,541
3,842
29
42,412
52,845
52,845
(10,433)
22,313
11,880
753,379
765,259

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

16

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2020 – PARHAD

13. ASEDAU SEFYDLOG DIRIAETHOL

14.
ASEDAU BUDDSODDI
15.
DYLEDWYR: SYMIAU’N DDYLEDUS O FEWN UN BLWYDDYN
2020
£
Blaendaliadau
2,494
-------
Ailddatganwyd
Eiddo
Rhyddfraint
Cyfarpar ac
Offer
COST
£
£
Ar 1 Ionawr 2019
761,377
24,614
Llai: trosglwyddiad i asedau buddsoddi
(125,000)
-
Ar 1 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2020
636,377
24,614
DIBRISIANT
Ar 1 Ionawr 2019
85,234
24,614
Tâl am y flwyddyn
16,534
-
Llai: trosglwyddiad i asedau buddsoddi
(22,313)
-
Ar 1 Ionawr 2020
79,455
24,614
Tâl am y flwyddyn
13,409
-
Ar 31 Rhagfyr 2020
92,864
24,614
GWERTH NET YN Y LLYFR
Ar 31 Rhagfyr 2020
543,513
-
Ar 31 Rhagfyr 2019
556,922
-
Ar 1 Ionawr 2019
Trosglwyddiad o asedau sefydlog diriaethol
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
Ar 1 Ionawr 2020
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
Ar 31 Rhagfyr 2020
Ailddatganwyd
Eiddo
Rhyddfraint
Cyfarpar ac
Offer
£
£
761,377
24,614
(125,000)
-
Ailddatganwyd
Cyfansym-iau
£
785,991
(125,000)
636,377
24,614
660,991
85,234
24,614
16,534
-
(22,313)
-
109,848
16,534
(22,313)
79,455
24,614
13,409
-
104,069
13,409
92,864
24,614
117,478
543,513
-
543,513
556,922
-
556,922
Ailddatganwyd
Tŷ Capel
£
-
102,687
22,313
125,000
10,000
135,000
2019
£
2,402
--------

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

17

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2020 – PARHAD

16. CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN UN BLWYDDYN

2020 2019
£ £
Benthyciadau eraill (gweler nodyn 15) - 3,000
Ffi archwilio 1,050 1,050
-------- -------
1,050 4,050
-------- -------
17. BENTHYCIADAU
Ceir dadansoddiad o ddyddiad aeddfedu benthyciadau isod:
2020 2019
£ £
Symiau sy'n ddyledus o fewn un flwyddyn:
Benthyciadau eraill - 3,000
------- -------

Roedd yr offerynnau ariannol yn mesur y swm a dderbyniwyd gyda’r swm oedd yn cael ei gario ymlaen yn cael ei addasu i adlewyrchu’r ad-daliadau ac unrhyw log cronedig. Darperir y benthyciad ariannol gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg (Corfforedig) ar raddfa llog o 0%.

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

18

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2020 – PARHAD 18. SYMUDIADAU O FEWN CRONFEYDD

Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa Gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Cronfa Lesotho
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Llifogydd
Apêl Banc Bwyd
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Diffribiliwr
Canolfan Ganser Felindre
Apêl Madagascar
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd, a gynhwysir
uchod fel a ganlyn:
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Cronfa Lesotho
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Talebau Nadolig
Canolfan Ganser Felindre
Apêl Banc Bwyd
Apêl Llifogydd
Cronfa Madagascar
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Symudiadau cymharol mewn cronfeydd
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa Gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Cronfa Lesotho
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Diffribiliwr
Canolfan Ganser Felindre
Cronfa Madagascar
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Ar 1/1/20
Symudiadau net
mewn cronfeydd
£
£
738,706
(5,775)
55
159
386
(386)
40
(40)
-
2,095
-
980
-
1,195
540
-
500
(500)
2,719
(2,719)
Ar 31/12/20
£
732,931
214
-
-
2,095
980
1,195
540
-
-
4,240
784
22,313
10,000
5,024
32,313
765,259
5,009
770,268
Adnoddau a
dderbyniwyd
£
Adnoddau a wariwyd
£
33,907
(39,682)
159
-
3,813
(4,199)
1,455
(1,495)
1,195
-
-
(500)
4,385
(3,405)
2,095
-
-
(2,719)
Symudiadau
mewn cronfeydd
£
(5,775)
159
(386)
(40)
1,195
(500)
980
2,095
(2,719)
13,102
(12,318)
10,000
-
784
10,000
57,009
(52,000)
5,009
Ar 1/1/19
Ailddatganwyd
Symudiadau net
mewn cronfeydd
£
£
749,421
(10,715)
1,055
(1,000)
788
(402)
-
40
540
-
-
500
1,575
1,144
Ailddatganwyd
Ar 31/12/19
£
738,706
55
386
40
540
500
2,719
3,958
282
4,240
-
22,313
753,379
11,880
22,313
765,259

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

19

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL

AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2020 – PARHAD

18. SYMUDIADAU O FEWN CRONFEYDD – parhad

Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd, a gynhwysir yn yr uchod fel a ganlyn:

fel a ganlyn:
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Cronfa Lesotho
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Diffribiliwr
Canolfan Ganser Felindre
Cronfa Madagascar
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Ailddatganwyd
Adnoddau a
dderbyniwyd
£
Adnoddau a wariwyd
£
Ailddatganwyd
Symudiadau
mewn
cronfeydd
£
38,570
(49,285)
(10,715)
-
(1,000)
(1,000)
2,098
(2,500)
(402)
100
(60)
40
-
-
-
500
-
500
1,144
-
1,144
3,842
(3,560)
282
22,313
-
22,313
64,725
(52,845)
11,880

19. DAGELIADAU PARTÏON PERTHYNOL

Cyfanswm y cyfraniadau a wnaed i’r elusen gan bartïon perthynol yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020 oedd £5,826 (2019: £5,139).

20. OFFERYNNAU ARIANNOL

2020 2019
£ £
Asedau ariannol ar sail cost amorteiddiad 90,312 84,985
Treuliau ariannol ar sail cost amorteiddiad 1,050 4,050

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

20

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

DATGANIAD MANWL O’R GWEITHGAREDDAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2020

INCWM A CHYMYNRODDION
Cyfraniadau a Chymynroddion
Aelodaeth
Casgliadau rhydd
Rhent Tŷ Capel
Llogi’r Ganolfan
Amrywiol
Ad-daliad Treth Incwm
Incwm Buddsoddiadau
Llog y Cyfrif Cadw
Gweithgareddau Elusennol
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Apêl Banc Bwyd
Apêl Llifogydd
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Lesotho
Apêl Madagascar
Canolfan Ganser Felindre
Cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd
GWARIANT
Gweithgareddau Elusennol
Cyflogau
Yswiriant
Gwres, golau a dŵr
Pregethwyr
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Llenyddiaeth
Gweinyddol
Y Ganolfan
Y Fynwent
Amrywiol
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Costau Cynnal a Chadw
Rhoddion ychwanegol
Apêl Madagascar
Apêl Banc Bwyd
Canolfan Ganser Felindre
Apêl Lesotho
Dibrisiant
Costau Cymorth (Costau Llywodraethu)
Ffi Archwilwyr
Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
Incwm net
2020
£
21,172
1,065
4,340
1,280
-
6,029
33,886
21
3,813
1,455
4,385
2,095
1,195
159
-
-
13,102
47,009
2,020
3,493
9,313
1,060
800
849
1,035
-
1,235
452
4,199
1,495
3,229
1,737
2,719
3,405
500
-
13,409
50,950
1,050
52,000
10,000
5,009
Ailddatganwyd
2019
£
21,769
1,800
4,590
3,139
1,415
5,828
38,541
29
2,098
100
-
-
-
-
1,144
500
3,842
42,412
5,618
3,417
5,804
1,040
800
572
2,238
6,370
3,688
697
2,500
60
1,457
-
-
-
-
1,000
16,534
51,795
1,050
52,845
22,313
11,880

Nid yw’r dudalen hon yn rhan o’r datganiad ariannol statudol

21