Adroddiad Blynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych Annual Report 2024 - 2025
w w w . m i s i r d d i n b y c h . c y m r u
Cynnwys Content
02
04
06
07
8
10
12
Pwy ydyn ni a Gair gan y cadeirydd?
Get to know us and Welcome from the chair
Strwythur y Fenter a’r Staff Menter Iaith Structure & Staff
Cyd-destun ein gwaith Our work context
Ariannu Finances
Ein sir
Our county
Ein blaenoriaethau, Ein hamcanion
Our priorities, Our objectives
Beth rydym wedi ei gyflawni? Partneriaethau
18
20
22
24
26
28
Beth rydym wedi ei gyflawni? Digwyddiadau Cymunedol What have we achieved? Community Events
Beth rydym wedi ei gyflawni? Digwyddiadau Cymunedol What have we achieved? Community Events
Beth rydym wedi ei gyflawni? Digwyddiadau Cymunedol What have we achieved? Community Events
Beth rydym wedi ei gyflawni? Plant a Phobl Ifanc What have we achieved? Children and Young People
Cyfathrebu a Gwirfoddolwyr Communications and
Volunteers
Ar y gweill, Cysylltu â ni a Diolch
Coming up, Contact us & Diolch
What have we achieved? Partners
14
Beth rydym wedi ei gyflawni? Partneriaethau
What have we achieved? Partners
16
Beth rydym wedi ei gyflawni? Teuluoedd
What have we achieved? Families
01
Pwy ydyn ni?
1998 - Menter Iaith Dinbych - Conwy 2003 - sefydlu Menter Iaith Sir Ddinbych 2004 - cofrestru’r Fenter fel elusen gofrestredig 2007 - cofrestru fel cwmni cyfyngedig trwy warant
- 12 aelod ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Fenter 3 aelod o staff
2 aelod o staff prosiect (rhan amser) 1 aelod o staff achlysurol cefnogaeth llu o wirfoddolwyr a charedigion
Croeso i’n hadroddiad blynyddol. Dyma gyfle i ni edrych nôl ar waith y flwyddyn a diolch i’r criw gweithgar o staff, aelodau o’r Bwrdd, gwirfoddolwyr a charedigion y Gymraeg am eu gwaith. Mae’r tîm yn cyflawni cymaint, diolch i chi!
Rydym yn parhau yn ein nod o hyrwyddo’r Gymraeg yn sir Ddinbych, hybu defnydd o’r iaith a chydweithio i gyrraedd nod cenedlaethol Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n nod uchelgeisiol, ond yn un rydym yn parhau i weithio tuag ati yma yn sir Ddinbych.
Gair gan y Cadeirydd
Bu’n flwyddyn o newid wrth symud i adeilad newydd sbon ‘Y Farchnad Fenyn’ ar ddiwedd y flwyddyn yma. Ond parhau yng nghalon un o drefi farchnad y sir, Dinbych y mae’r swyddfa. Mae’n lleoliad braf a hwylus ac yn siwtio byd gwaith yr unfed ganrif ar hugain. Cofiwch alw draw am dro.
Dwi’n ddiolchgar am y fraint a’r anrhydedd o fod yn rhan o’r mudiad gweithgar hwn, ymlaen â ni ar y daith.
Bethan Cartwright Cadeirydd Menter Iaith Sir Ddinbych
Trwy gydweithio mae llwyddo, a rhaid diolch i’n partneriaid, rhai hen a newydd, am barhau i gerdded y daith gyda ni. Mae nifer o brosiectau difyr wedi dwyn ffrwyth yn ystod y flwyddyn ac mae mwy i ddod. Cewch glywed am rai yng nghloriau’r adroddiad yma.
Welcome from the Chair
Get to know us
1998 – Menter Iaith Dinbych - Conwy 2003 – Menter Iaith Sir Ddinbych established 2004 – register as a registered charity 2007 – register as a company limited by guarantee
12 members on Menter Iaith’s Board of Directors
-
3 staff members
-
2 project staff (part time)
-
1 casual staff members
support from many volunteers and Welsh language supporters
Welcome to our annual report. This is an opportunity for us to look back at the year’s work and to thank the hardworking team of staff, Board members, volunteers and Welsh language supporters for their efforts. This team achieves so much – diolch yn fawr iawn i chi!
We continue in our aim of promoting the Welsh language in Denbighshire, encouraging its use and working together to reach the Welsh Government’s national goal of securing a million Welsh speakers by 2050.
It is an ambitious goal, but one we continue to work towards here in this county.
It has been a year of change as we moved into our brand‑new building ‘Y Farchnad Fenyn (The Butter Market) at the end of this year. But our office remains at the heart of one of the county’s market towns, Dinbych. It is a stunning and convenient location, well suited to a work space in the 21st century. Please do call in for a chat.
Through collaboration comes success, and we must thank our partners, both old and new, for continuing to walk this journey with us. A number of exciting projects have come to fruition during the year and there is still more to come. You can read about some of these within the pages of this report.
Bethan Cartwright
Cadeirydd y Fenter sy’n dod a phrofiad helaeth i’r Bwrdd o’i gyrfa yn y byd addysg Menter Iaith Chair who brings a wealth of experience to the Board as an educational sector expert
I am grateful for the privilege and honoured to be part of this active organisation – 'onwards and upwards on our important journey.
Bethan Cartwright Chair
Menter Iaith Sir Ddinbych
03
02
Strwythur y Fenter 2024-2025
Ein Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr ww) “la io a A / Bethan Gwenan Owain Gwyn Llŷr Arwel Menna Cartwright Prysor Morris Williams Roberts Jones Cadeirydd Is–Gadeirydd Trysorydd Ysgrifennydd Cyfarwyddwr Cyfarwyddwr Chair Vice-Chair Treasurer Secretariat Director Director 8 mlynedd 10 mlynedd 14 blynedd 1 flwyddyn 11 mlynedd 6 mlynedd
----- Start of picture text -----
STAFF
Cyflogedig
----- End of picture text -----
Is-bwyllgor staffio S taff sub committee
----- Start of picture text -----
Ruth Williams
Prif Swyddog
Chief officer
Llawn amser | Full time
----- End of picture text -----
2 x Cyfarwyddwr 2 x Directors Prif Swyddog Chief officer
Eryl Prys Jones Swyddog Prosiect Ardal y Glannau Coastal Project Officer
Pwyllgor Apêl Staff Staff Appeal Committee
Rhan amser, cyflogir trwy gytundeb gyda Menter Iaith Conwy Part time, employed in partnership with Menter Iaith Conwy
Cadeirydd Chair
2 x Gyfarwyddwr 2 x Directors
----- Start of picture text -----
Gwenno Williams
----- End of picture text -----
Swyddog Cefnogi (achlysurol) Support Officer (casual)
Menter Iaith Structure
----- Start of picture text -----
Our Directors and Trustees
----- End of picture text -----
Catrin Lowri Dyfan Manon Rees Eifion Emrys Eynon Ellis Philips O’Brien Williams Wynne Cyfarwyddwr Cyfarwyddwr Cyfarwyddwr Cyfarwyddwr Cyfarwyddwr Cyfarwyddwr Director Director Director Director Director Director 4 mlynedd 4 mlynedd 2 flynedd 1 flwyddyn 1 flwyddyn 13 mlynedd
----- Start of picture text -----
STAFF
Salaried
----- End of picture text -----
Is-bwyllgor Cyllid ac Adnoddau Finance and Resources sub committee
Gwion Tomos-Jones Swyddog Datblygu Cymunedol Community Development Officer Llawn amser hyd at ddechrau Chwefror 2025 | Full time until begining of February 2025
Trysorydd Treasurer
Iorwen Jones
Cyfarwyddwr Director
Swyddog Cyllid a Busnes y Fenter Business & Finance Officer 4 diwrnod | 4 days
Prif Swyddog Chief officer
Swyddog Cyllid Finance Officer
Nia Evans
Swyddog Prosiect Hiraethog Project Officer Rhan amser, cyflogir trwy gytundeb gyda Menter Iaith Conwy Part time, employed in partnership with Menter Iaith Conwy
05
04
Cyd-destun ein gwaith
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn un o 22 Menter Iaith sy’n rwydwaith yn gweithio trwy Gymru gyfan.
-
Yn genedlaethol, rydym yn cefnogi dros 160,000 o blant, ieuenctid ac oedolion bob blwyddyn i gynyddu a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg.
-
Dyma ffenest siop ar gyfer y Gymraeg i helpu bobl i fyw, dysgu a mwynhau’r Gymraeg o fewn eu cymunedau.
-
Mae’n darpariaeth ni’n canolbwyntio ar Sir Ddinbych, ond wrth gwrs, trwy gydweithio â swyddogion drwy’r rhwydwaith o fentrau iaith, rydym yn rhannu arfer da, enghreifftiau o lwyddiant a dylanwadu ar gynllunio ieithyddol.
e Mae’r arian gan Llywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar dri phrif faes a rheini’n deillio o Thema 2 (Defnydd o’r Gymraeg) a rhaglen waith Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg ---eww—————__—————ii_C——— . 1. Plant a Phobl Ifanc 2. Teuluoedd
- Y Gymuned
Our work context
Menter Iaith Sir Ddinbych is one of a network of 22 Menter Iaith working throughout Wales.
Nationally, we support over 160,000 children, youth and adults every year to increase and strengthen the use of the Welsh language.
It is a shop window for everything Welsh to help people live, learn and enjoy the Welsh language within their communities.
Our provision focuses on Denbighshire, but of course, by collaborating with officers through the network of language initiatives, we share good practice, successful examples and influence linguistic planning.
The funding from the Welsh Government ensures that we focus on three main areas which derive from Theme 2 (Increasing the Use of Welsh) and the Cymraeg 2050 work programme: A Million Welsh Speakers
-
Children and Young People
-
Families
-
The Community
Ariannu / Finances
Mae’r sefyllfa ariannol eleni yn iach sy’n dangos bod llywodraethiant cadarn a chyfrifol yn parhau yn y Fenter.
Ar ddiwedd 31 Mawrth 2025 mae’r arian dderbyniwyd wedi codi o £124,902 i £143,482, cynnydd o £18,580 ers llynedd (14.8%). Gwelwyd hefyd bod cyfanswm yr adnoddau wedi codi o £114,225 i £141,924 eleni, cynnydd o £27,709 (24%) yn bennaf o ganlyniad i grant penodol gan Gronfa Allweddol, trwy DVSC ar gyfer prosiect gwella sgiliau rhifedd a mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cafwyd gwarged o £1,540 am y flwyddyn o’i chymharu a £10,677 am y flwyddyn flaenorol.
| Cafwyd gwarged o £1,540 am y flwyddyn o’i chymharu a £10,677 am y flwyddyn flaenorol. |
Cafwyd gwarged o £1,540 am y flwyddyn o’i chymharu a £10,677 am y | Cafwyd gwarged o £1,540 am y flwyddyn o’i chymharu a £10,677 am y |
|---|---|---|
| Incwm | Income | |
| Rhoddion a grantiau craidd tuag at gynnal y sefydliad a chreu cyfleoedd i drigolion ddefnyddio’r Gymraeg |
£96,646 | Donations and core grants towards maintaining the organisation and creating opportunities for residents to use the Welsh language |
| Grantiau a rhoddion er mwyn cynnal gweithgareddau i blant, bobl ifanc, oedolion a |
Grants and donations in order to carry out activities for children, young people, |
|
| dysgwyr Cymraeg Incwm trwy werthiant, e.e. tocynnau a gweithgareddau gwyliau i blant Incwm arall |
£30,980 £10,458 £5,398 |
adults and Welsh learners Income through sales, e.g. tickets and holiday activities for children Other income |
| Cyfanswm incwm | £143,482 | Total income |
| Gwariant | Expenditure | |
|---|---|---|
| Gwariant ar weithgareddau’r Fenter Incwm / Gwariant Net Cyfanswm cronfeydd 31.3.25 |
£141,934 £1,548 £55,364 |
Expenditure on activities supplied by Menter Iaith Income / Net Expenditure Total funds 31.3.25 |
This year's financial situation is healthy, evidence that sound and responsible governance continues within Menter Iaith.
On the 31 March 2025, the end of the financial year, the finances received has risen from £124,902 to £143,482, an increase of £18,580 since last year (14.8%).
In addition, the total resources rose from £114,225 to £141,924 this year, an increase of £27,709 (24%) mainly as a result of a specific grant from the Key Fund, via DVSC for a project to improve numeracy and mathematical skills through the medium of Welsh. A surplus of £1,540 was returned for the year compared to £10,677 for the previous year.
06
07
Ein sir
Gyda thros 93,000 o bobl dros dair oed yn byw yn Sir Ddinbych, mae: 23% ohonynt yn gallu’r Gymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021. 25% oedd yn gallu’r Gymraeg yn Nghyfrifiad 2011. |
- Gostyngiad felly o 1300 o siaradwyr ond pwysig yw nodi bod cynnydd yng nghyfanswm y boblogaeth yn yr un cyfnod.
Mae 50% o boblogaeth y sir yn byw ym Mhrestatyn a’r Rhyl. 14% sy’n gallu’r Gymraeg yn y trefi arfordirol yma.
Yn ne orllewin Dyffryn Clwyd ac Edeirnion, mae dros 40% yn gallu siarad Cymraeg. Mae pum cymuned yno gyda thros 50% yn gallu’r Gymraeg, a Chynwyd yw’r gymuned Cymreiciaf, gyda bron i 60% o’r boblogaeth yn gallu siarad yr iaith.
Y ddwy brif dref yn Nyffryn Clwyd yw Dinbych a Rhuthun. Mae 33% yn siarad yr iaith yn Ninbych a 38% yn siarad y Gymraeg yn Rhuthun. Ond mae’n bwysig nodi’r amrywiaeth o fewn cymdogaethau’r trefi marchnad, sy’n rhoi heriau a chyfleoedd wrth gynllunio rhaglenni gwaith. Er enghraifft, yn Ninbych Uchaf mae ardaloedd o siaradwyr Cymraeg yn 15% tra bod rhai cymdogaethau yn Ninbych Isaf cymaint â 52%
Yn ne ddwyrain y sir, mae tua 20% yn gallu’r Gymraeg, cymunedau fel Llangollen, Llantysilio, Llandegla a Llanarmon yn Iâl.
Dyna felly gynnig trosolwg ieithyddol o’r sir.
Our county
-
With over 93,000 people over the age of three living in Denbighshire 23% of them report being able to speak Welsh according to the 2021 census.
-
25% said they were able to speak Welsh in the 2011 census.
-
This is a 1,300 less speakers compared to the 2011 census, but it's important to note that the overall population has grown during that time.
Half of the county's population lives in Prestatyn and Rhyl. 14% speak Welsh in these coastal towns.
In the south western part of Vale of Clwyd and Edeirnion, over 40% speak Welsh. There are five communities in this area where over 50% speak Welsh, with Cynwyd being the most Welsh-speaking area at nearly 60%.
The two main towns in the Vale of Clwyd are Denbigh and Ruthin. In Denbigh, 33% speak Welsh whilst in Ruthin it reaches 38%. However, there is significant variation between neighbourhoods within these market towns, posing both challenges and opportunities when planning work programmes. For example, in Upper Denbigh only 15% speak Welsh, whereas some neighbourhoods in Lower Denbigh reach 52%.
In the south east of the county, around 20% can speak Welsh in communities such as Llangollen, Llantysilio, Llandegla, and Llanarmon-yn-Iâl. This provides a linguistic overview of the county. 08 ©
----- Start of picture text -----
Y Rhyl
Prestatyn
? Llai na 20%
20.0 - 29.9%
Rhuddlan
30.0 - 39.9%
2?
40.0 - 49.9%
Bodelwyddan
9 Llanelwy 50.0 - 59.9%
60.0% - 69.9%
70% a mwy
Henllan Trefnant
Dinbych
Llandyrnog
Llanrhaeadr
Nantglyn
Llanbedr-Dyffryn-Clwyd
Rhuthun
Prion
Pentre-celyn
Cyffylliog
Derwen
Llandegla
Corwen
Llangollen
Glyndyfrdwy
Cynwyd
09
©
----- End of picture text -----
Ein Blaenoriaethau
Normaleiddio'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd Sir Ddinbych.
Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr a thrigolion di-Gymraeg i ddysgu’r iaith.
Sicrhau fod cyfleoedd i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth a defnydd o’r iaith.
Dylanwadu ar yr ystod eang o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, addysgiadol sy’n digwydd o fewn y sir er mwyn datblygu i fod yn drwyadl ddwyieithog neu Gymraeg.
Ein Hamcanion
Cynorthwyo’r sector wirfoddol i gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Annog y di-Gymraeg i fabwysiadu agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith e.e. cymhathu mewnfudwyr a chynorthwyo’r dysgwyr i ddod yn rhugl ac i ddod yn rhan o’r gymdeithas Gymraeg.
Cynnal digwyddiadau newydd unai’n annibynnol neu trwy gydweithio mewn partneriaethau
- i bontio rhwng ysgol a chymdeithas.
-
i ategu at waith darpariaeth Cymraeg i oedolion.
-
i gyfoethogi bywyd Cymraeg yn gyffredinol.
Cefnogi gweithgareddau gwirfoddol sy’n bodoli eisoes yn y Gymraeg.
Annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg a threfnu gweithgareddau ar eu cyfer.
Hyrwyddo trosglwyddiad o’r Gymraeg o fewn y teulu.
Our Priorities
To normalise using the Welsh language in every aspect of life in Denbighshire.
To ensure that there are opportunities and encouragement for incomers and non-Welsh speaking residents to learn the language.
To ensure that there are opportunities for native residents to develop their knowledge and use of the language.
To influence the wide range of social, economic, cultural, and educational activity within the county so that it develops to become thoroughly bilingual or Welsh.
Our Objectives
To assist the voluntary sector to offer a bilingual service.
To encourage non-Welsh speakers to adopt a positive attitude toward the language, for example by assimilating immigrant communities and helping learners to become fluent speakers and a part of the Welsh speaking community.
To hold new events either independently or by working in partnership with others
-
to bridge the gap between schools and the community.
-
to support the work of the Welsh for Adults provision.
-
to enrich and enliven life through the medium of Welsh in general.
To support existing voluntary activities in Welsh.
To encourage children and young people to use Welsh and to organise events for them.
To promote the transmission of the Welsh language within families.
11
10
Beth rydym wedi ei gyflawni? Beth rydym wedi ei gyflawni?
Cydweithio a Gorymdaith Gŵyl Ddewi
Yn ystod y flwyddyn bu cydweithio helaeth gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg o fewn cymunedau’r sir. Gweithiwyd gyda swyddogion cymunedol Urdd Gobaith Cymru Sir Ddinbych ar glybiau amser cinio yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Dinas Brân. Cafwyd cefnogaeth gan rai o’r Urdd, Cyngor Tref Dinbych, Grŵp Cynefin a Heddlu Gogledd Cymru i’n Gorymdaith flynyddol yn nhref Dinbych, Dydd Gŵyl Dewi, hefyd. Diwrnod llwyddiannus eto eleni!
Dysgwyr Paned a Sgwrs, Teithiau a Chelf yn y Gymraeg
Buom yn cydweithio hefyd gyda gwirfoddolwyr a sefydliadau megis Popeth Cymraeg, Canolfan Llyn Brenig a Hwb Pentredŵr wnaeth alluogi parhad a datblygiad sesiynau Paned a Sgwrs a theithiau i ddysgwyr – 34 sesiwn mewn 7 lleoliad, gyda 162 o ddysgwyr unigryw. Cynhaliwyd teithiau a sesiynau celf i ddysgwyr er mwyn pontio gyda siaradwyr rhugl.
Partneriaethau
Partnerships
What have we achieved?
----- Start of picture text -----
t 9" a4
i
i i
u
e
o
v
a
i s
e
t
102
d
f
d
c o
d o
A r
re li
a
a o
d
g n
u
h
l
t
t
i
s
e
w
G
----- End of picture text -----
Partnership and celebrating Gŵyl Ddewi
During the year there was extensive collaboration with local and regional partners to strengthen the Welsh language provision within the county's communities. We worked with Urdd Gobaith Cymru’s Denbighshire community officers on lunchtime clubs at Ysgol Brynhyfryd and Ysgol Dinas Brân. There was also support from some of the Urdd officers, Denbigh Town Council, Grŵp Cynefin and North Wales Police for our annual Dydd Gŵyl Ddewi Parade through the town of Denbigh. Another successful day for our patron saint!
Welsh learners enjoy a ‘Paned a Sgwrs’ chat and cuppa and some Welsh Art sessions
We also worked in partnership with volunteers and organisations such as Popeth Cymraeg, Canolfan Llyn Brenig and Hwb Pentredŵr which enabled the
continuation and development of Paned a Sgwrs sessions and trips for learners. All in all we had 34 sessions at 7 locations, with 162 unique learners. Trips and art sessions were also held for learners in order to bridge their skills with fluent Welsh speakers.
12
13
Beth rydym wedi ei gyflawni?
----- Start of picture text -----
f
ed
r a
r d
o
a
m
13
a
f
g
il
u
s i
h
e e
it i
i s
d
t
e
i
w e
v
u
i
G
t
l
c
u
A
o
e
d
d
----- End of picture text -----
Sesiwn Werin yn plesio yn Y Rhuddlan
Yn Rhuddlan, datblygodd criw bychan o wirfoddolwyr hunaniaeth leol newydd a chynnal digwyddiad llwyddiannus, gan ddenu aelodau newydd a datblygu cynlluniau i ehangu eu darpariaeth Gymraeg. Uchafbwynt y cyfnod yng nghymuned Rhuddlan oedd Sesiwn Werin Gŵyl Ddewi gyda Gwilym Bowen Rhys, a ddenodd 45 o bobl o bob oed.
Partneriaethau
Y Gymraeg drwy Lego, Minecraft a’r annwyl, Fagi Ann
Partnerships
Parhaodd y berthynas agos sydd gennym gyda’n cydweithwyr ym Mentrau Iaith Conwy,
Fflint a Wrecsam, gan gynnwys gweithdai Lego a Minecraft, a hyfforddiant i rannu adnoddau. Buom yn cydweithio hefyd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ystod Wythnos Dathlu’r Gymraeg, gan gynnwys ymweliad gan Gomisiynydd yr Iaith, Efa Gruffudd Jones, a sesiwn stori arbennig gyda Magi Ann ar Ward y Plant, Ysbyty Glan Clwyd.
Addysg cyfrwng Cymraeg a gwersi i oedolion
Bu partneriaethau eang gyda thiwtoriaid Cymraeg i Oedolion ar sesiynau Paned a Sgwrs, a gyda RhAG a’r papurau bro ar hyrwyddo addysg Gymraeg (gan gynnwys dosbarthu 5,000 o daflenni). Cynhaliwyd stondinau a sgyrsiau hyrwyddo mewn digwyddiadau mawr fel Carnifal Dinbych a Diwrnod Chwarae Cenedlaethol.
Grantiau Ffermydd Gwynt yr arfordir
Diolch i gefnogaeth ariannol ffermydd gwynt ar yr arfordir, rydym wedi llwyddo i ddatblygu perthynas dda gyda chriwiau gwirfoddol sy’n awyddus i ddatblygu’r Gyrmaeg yn eu hardaloedd. Cyflwynwyd cyfleoedd newydd i gymdeithasu, gan gynnwys gigs gydag Al Lewis, Eve Goodman a Ffenast.
----- Start of picture text -----
What have
we achieved?
Folk session hits the
mark at Rhuddlan
g
ua
a o
n l
l e
n A
o d
A d
d o
2236
u
d li
lt
ny on
c
y
o
l
n
b
t
a
lt
c
l
t
w
s
y
C
----- End of picture text -----
In Rhuddlan, a small group of volunteers developed a new local identity and held a successful event, attracting new members and developing plans to expand its Welsh language social events. The highlight of this period within Rhuddlan community was the St. David's Day Folk Session with Gwilym Bowen Rhys, which attracted 45 people of all differing ages.
Coastal Wind Farms Grants
Thanks to the financial support of wind farms on the coast, we have succeeded in developing a great relationship with volunteers at Prestatyn keen to develop Welsh language activities in their area. New opportunities to socialise were organised which included gigs with Al Lewis, Eve Goodman and Ffenast.
Lego and Minecraft in Welsh and the joy of Magi Ann
The close relationship we have with our colleagues at Mentrau Iaith Conwy, Flint and Wrexham continued, including organising Lego and Minecraft workshops, and training to share resources. We also collaborated with Betsi Cadwaladr Health Board during the week long celebration of the language, which included a visit from the Welsh Language Commissioner, Efa Gruffudd Jones, and a special story session with Magi Ann on the Children's Ward at Ysbyty Glan Clwyd.
Welsh language education and adult lessons
There have been extensive partnerships with Welsh language tutors for adults during our Paned a Sgwrs sessions, and with RhAG (parents for Welsh medium education) and local papers promoting Welsh language education (incl distribution of 5,000 leaflets). Promotional stalls and talks were held at major events such as Denbigh Carnival and National Play Day.
15
14
Beth rydym wedi ei gyflawni?
Geirfa Bywyd Gwyllt a miri’r Carnifal
Bu’r flwyddyn yn un llawn gweithgareddau creadigol a chydweithio i ymgysylltu â theuluoedd a hyrwyddo’r Gymraeg ledled Sir Ddinbych. Cynhaliwyd Diwrnod Natur Mewn Perllan yng Nghae Dai, Dinbych, gyda helfa drysor dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Cyflwynwyd enwau Cymraeg newydd am fyd natur a bywyd gwyllt i nifer o blant ac oedolion wrth fwynhau’r awyr agored. Draw yng Ngharnifal Dinbych, denwyd dros 60 o blant i weithgareddau creu bathodynnau a chafwyd sgyrsiau adeiladol gyda dros 35 o rieni ac oedolion am addysg Gymraeg a gwersi i oedolion.
Taith Llyfrgelloedd yr Hydref a digwyddiadau’r Nadolig
Yn nhymor yr hydref, trefnwyd Taith Llyfrgelloedd Magi Ann mewn partneriaeth â RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) a Llyfrgelloedd y Sir. Cynhaliwyd wyth sesiwn llawn gyda tua 150 o rieni a 180 o blant bach yn mynychu. Dros y gaeaf, bu presenoldeb cryf gennym mewn digwyddiadau Nadolig, gan gynnwys Ffair Nadolig Dinbych (80 o blant, 35 o rieni) a Ffair Nadolig Rhewl (30 o blant, 15 o rieni) gyda gweithgareddau celf a chyfle i hyrwyddo adnoddau Cymraeg gyda theuluoedd.
Teuluoedd
Families
Y Nadolig yn cyrraedd Pwllglas
Cawsom Sesiwn Stori a Chân Nadolig ym Mhwllglas cyn yr Ŵyl, gan ddod â dros 50 o blant bach a 30 o rieni ynghyd i weld Magi Ann a derbyn pecynnau gwybodaeth am fanteision addysg Gymraeg. Trwy’r gweithgareddau hyn, llwyddwyd i gysylltu â channoedd o blant a rhieni, cryfhau ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a chynnig cyfleoedd i’w defnyddio mewn amgylchedd cymunedol a theuluol.
Autumn Library Tour and Christmas celebrations
What have we achieved?
Wildlife Vocabulary and the merriment of the Carnival
----- Start of picture text -----
The year was full of creative activities and
partnerships to engage with families and
promote the Welsh language throughout
Denbighshire. A Nature Day in an Orchard was
held at Cae Dai, Denbigh, with a treasure hunt
led by the North Wales Wildlife Trust. Welsh
names were presented to a number of children
and adults for fauna and flora while enjoying the
outdoors. Over at the Denbigh Carnival, over 60
children participated in badge making activities
and there were constructive conversations with
over 35 parents and adults about Welsh medium
education and Welsh lessons for adult learners.
16
n
bl i
o w
o f
ti i
h a
c t
n
1116
p
a h
c
r
â
e yo
t
t
l
u
l
n
I n
w
g
s
y
p
C
e
o
p
l
e
----- End of picture text -----
During the autumn, our life sized character, Magi Ann's Library Tour was organised in partnership with RhAG (Parents for Welsh Medium Education) and the County Libraries. Eight full sessions were held with approximately 150 parents and 180 young children attending. During the winter, we had a strong presence at Christmas events, including Denbigh’s annual Christmas Fair (80 children, 35 parents) and Rhewl’s Christmas Fair (30 children, 15 parents) with art and craft activities plus an opportunity to promote Welsh language resources with families.
Christmas arrives at Pwllglas
We had a Christmas story and song ‘Stori a Chan’ session in Pwllglas before the festivities, bringing over 50 young children and 30 parents together to enjoy a visit from Magi Ann and receive information packs about the benefits of Welsh medium education. Through these activities, we manage to connect with hundreds of children and parents, strengthen awareness of the Welsh language and offer opportunities to use Cymraeg within a community and family environment.
=°
17
Beth rydym wedi ei gyflawni?
Digwyddiadau Cymunedol
Community Events
Cerddoriaeth a theatr Gymraeg
Yn y gwanwyn a’r haf, cynhaliwyd cyfres o gigs llwyddiannus gan gynnwys perfformiadau gan Hen Fegin a Lleuwen Steffan draw yn Ninbych; Steve Eaves a Jacob Elwy ym Mhrestatyn a pherfformiadau gan Gwmni Theatr Bara Caws draw yng Nghlawddnewydd. Bu’r gantores Mared Williams yn diddanu yn Ninbych a chefnogwyd hefyd elfennau Cymraeg Gŵyl gerddorol flynyddol Rhuthun yn ogystal a noson ‘Meddianu’r Castell’ yn Nhafarn y Plu. Bu’r cyfuniad o ddigwyddiadau yn fodd i ddenu bron i 1500 o bobl i ddigwyddiadau Cymraeg na fyddai wedi eu trefnu onibai am waith a mewnbwn Menter Iaith Sir Ddinbych.
Amrywiaeth celfyddydol
Roedd tymor yr hydref yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau: taith archaeolegol gyda Rhys Mwyn, gig gan Ffenest a Bau Cat ac yna gig arall gyda Lo-fi Jones ac Osian Gierke. Aethom draw â stondin a threfnu perfformiad roc Cymraeg yn Niwrnod Hwyl Rhuddlan i gefnogi’r criw yno a rhoi blas o’r hyn sy’n bosib, yn y Gymraeg. Cynhaliwyd hefyd gweithdai Celf a Phaned a Sgwrs yn Nolbelydr, yn ogystal a threfnu cyfres o weithdai ‘Sgiliau Bywyd’ yn Hwb Dinbych dros gyfnod o 12 wythnos. Bu’r gweithdai celf, ‘Siarad i Greu’ yn gyfle i ddenu siaradwyr Cymraeg newydd a siaradwyr profiadol i saith sesiwn gwahanol dros gyfnod o chwe mis.
A diverse artistic season
What have we achieved?
Welsh theatre and music
In the spring and summer, a series of successful gigs were held including performances by Hen Fegin and Lleuwen Steffan in Denbigh; Steve Eaves and Jacob Elwy in Prestatyn and performances by Theatr Bara Caws theatre company across in Clawddnewydd. Singer, Mared Williams, entertained a crowd in Denbigh and Menter Iaith supported Welsh elements of Ruthin's annual music festival, Gwyl Rhuthun, as well as the ‘Meddianu’r Castell’ event at Tafarn y Plu. The combination of people at these events attracted almost 1500 attendees given the opportunity to enjoy Welsh language artists not possible but for the work and input of Menter Iaith Sir Ddinbych.
The autumn season included a variety of events: an archaeological tour with Rhys Mwyn, a gig by Ffenest and Bau Cat and then another gig with Lo-fi Jones and Osian Gierke. We attended Rhuddlan Fun Day to support the local committee by offering a taste of what is possible through the medium of Welsh. Our stall was warmly welcomed and the Welsh rock performance was a great hit. Artistic plus Paned a Sgwrs workshops were also held in Dolbelydr, Henllan as well as a series of 'Life Skills' workshops in Hwb Denbigh over a period of 12 weeks. The art workshops, 'Siarad i Greu' were an opportunity to attract new Welsh and experienced speakers to seven different sessions over a period of six months.
19
18
Beth rydym wedi ei gyflawni?
Perfformwyr cenedlaethol yn y sir
Dros y gaeaf, daeth y sioe ‘1936’ gan Gwmni Theatr Bara Caws draw i Lanelwy, a chynhaliwyd taith genedlaethol Gwilym Bowen Rhys Trio. Cynhaliwyd ein cystadleuaeth ffenestr orau’r dref gyda busnesau dros gyfnod Dydd Gŵyl Ddewi a buo ni’n brysur yn trefnu taith dywys i ddysgwyr yn Nolbelydr. Penllanw’r flwyddyn oedd gwylio’r sioe un dyn ‘Congrinero’ gan Mewn Cymeriad yn Theatr Twm o’r Nant.
Trwy’r gweithgareddau uchod, llwyddwyd i wneud cyswllt â bron i 800 o unigolion a busnesau yn Sir Ddinbych a brofodd y diwylliant Cymraeg, meithrin cysylltiadau cymunedol a rhoi llwyfan i artistiaid a pherfformwyr lleol a chenedlaethol.
What have we achieved?
National artists in the county
During the winter, the '1936' performance by Cwmni Theatr Bara Caws visited St Asaph, and the national tour with Gwilym Bowen Rhys Trio also visited Denbighshire. Our town's best business window competition was held during St David's Day celebrations and we were busy organising a guided tour for learners at Dolbelydr. Another highlight of the year was watching the one man show of 'Congrinero' by Mewn Cymeriad productions at Theatr Twm o'r Nant.
Through the activities above, we managed to make contact with almost 800 individuals and businesses in Denbighshire who experienced Welsh culture, fostered community relations and gave a platform to local and national artists and performers. 20
Digwyddiadau Cymunedol
Community Events
Llwyddiant Paned a Sgwrs
O ganlyniad i gefnogaeth gwirfoddolwyr mae’r gwaith rydym yn ei gyflawni fel Menter gyda parhad a thwf sesiynau Paned a Sgwrs i ddysgwyr yn parhau i dyfu. Erbyn y cyfnod hwn, mae dros 150 o unigolion yn cymryd rhan mewn bron i 30 o sesiynau a hynny mewn naw lleoliad gwahanol ledled Sir Ddinbych. Mae’r sesiynau yn cynnig cyfleoedd cymdeithasol i unigolion ac yn rhoi’r cyfle iddynt ddysgu ar wahanol gamau o’u taith Gymraeg, gyda chefnogaeth adnoddau a syniadau ymarferol gan y Fenter.
The success of Paned a Sgwrs
As a result of the support of volunteers the continued work we carry out as Menter Iaith has seen a growth in Paned and Sgwrs sessions for learners continues. During this period, over 150 individuals are taking part in almost 30 sessions across nine different locations throughout Denbighshire. The sessions offer social opportunities for individuals and give them the opportunity to learn at different stages of their Welsh language journey, with the support of resources and practical ideas from Menter Iaith.
21
Digwyddiadau Cymunedol
Beth rydym wedi ei gyflawni?
Community Events
Rhuddlan, Prestatyn a Dyserth
Yn lleol, parhaodd Menter Gymraeg Rhuddlan sydd â phedwar gwirfoddolwr gweithgar i drefnu digwyddiadau cymdeithasol yn yr ardal. Draw ym Mhrestatyn mae criw gweithgar o 11 wedi ffurfio pwyllgor newydd Llais Prestatyn ac wedi cynnal pum digwyddiad a denu cynulleidfaoedd newydd i gigs a gweithgareddau. Draw yn Nyserth, ffurfiodd grŵp Paned a Sgwrs bwyllgor ardal newydd hefyd.
I fyny’r Dyffryn
Cefnogwyd pwyllgorau gwirfoddol eraill gan gynnwys Gŵyl Ganol Haf Dinbych, Gŵyl Rhuthun, Drysau Agored Dinbych, Dydd Owain Glyndŵr a Menter y Plu, gan gynnig cyngor, presenoldeb mewn cyfarfodydd a chynorthwyo gyda deunydd hyrwyddo.
What have we achieved?
Rhuddlan, Prestatyn & Dyserth
Locally, Menter Gymraeg Rhuddlan which has four active volunteers continued to organise social events in the area. Over in Prestatyn an active group of 11 have formed the new Llais Prestatyn committee and have held five events and attracted new audiences to gigs and activities. Over in Dyserth, the Paned a Sgwrs group has also evolved into a new area committee.
In the Vale
Other voluntary committees were supported during the year including Denbigh Midsummer Festival, Ruthin Festival, Denbigh Open Doors, Owain Glyndŵr Day and Menter y Plu, offering practical strategic advice, attendance at meetings and assisting with promotional material.
Pwysigrwydd y cydweithio
Parhaodd cydweithio agos gyda Mentrau Iaith Conwy a Fflint a Wrecsam, gan gynnwys sesiynau ar y cyd, gweithdai Lego a Minecraft, a datblygu swydd i’n Swyddog prosiect newydd ardal Hiraethog gyda nawdd melinau gwynt. Cynhaliwyd hefyd gyfarfodydd Fforwm Iaith Sir Ddinbych a chydweithio trwy rwydwaith y Mentrau ar brosiectau cenedlaethol. Yn Hiraethog, dechreuwyd gwaith cynllunio gyda chymunedau lleol, gan gynnwys ymgynghoriadau gyda phobl ifanc ac ysgolion i lunio rhaglen weithgareddau ar gyfer 2025. Trwy’r holl weithgareddau hyn, mae’r Fenter wedi cryfhau cysylltiadau cymunedol, ehangu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, a chefnogi grwpiau lleol i dyfu a ffynnu.
Partnership work is crucial
----- Start of picture text -----
Close partnership working continued
with Mentrau Iaith Conwy, Flint and 4 N
Wrexham, including joint sessions of i)
Lego and Minecraft workshops, and the ta
N . — ;
exciting development of a new projectofficer role for the Hiraethog area I7+ y>i 4 Y , rs; ve4 \ 17
thanks to funding support via of \
windmills project. Denbighshire
Language Forum meetings were also a=
held during the year and we continued
i)
our partnership work through the
Mentrau Iaith Cymru’s network on
national projects. In Hiraethog, planningwork began with local communities, ‘
including consultations with young
people and schools to draw up a
programme of activities for 2025.
Through all these activities, Menter Iaith
has strengthened community relations,
expanded opportunities to use the
Welsh language, and supported local
groups to grow and flourish.
23
o
t
l
n a
d i
c
o
o
e
t
o n
C w
g
2236
it
a
h
lt
a
l
d
w
u
s
l
y
t
s
C
----- End of picture text -----
22
Plant a Phobl Ifanc
Beth rydym wedi ei gyflawni?
Cerddoriaeth yn cynnig cyfleoedd
Bu’r flwyddyn yn llawn cyfleoedd creadigol ac addysgol i bobl ifanc ar draws y sir. Cynhaliwyd Brwydr y Bandiau Brynhyfryd mewn partneriaeth â Gŵyl Rhuthun, gan roi cyfle i 21 o bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau mewn tri gweithdy a pherfformio o flaen 200 o gynulleidfa, gyda’r band buddugol yn chwarae ar lwyfan ‘Dop Dre’ yr Ŵyl.
----- Start of picture text -----
n
hi
a t
c l
l
d
a
r
b
r
62
o
p
e
i
f
h
n
u
s
o
e
a
&
b
i
d
t
l
i y
d i
v o
e f
i
a
u
r
t
n
c n
a
c
A g
g
h
p
t
e
i
e
w o
lp
G
e
----- End of picture text -----
Pum tref yn elwa o’r gwaith Lego a Minecraft
Cynhaliwyd wyth gweithdy Lego a Minecraft i dros 100 o blant (7–15 oed) mewn pum tref, gan gyfuno hanes lleol a threftadaeth daearyddol a hynny trwy chwarae creadigol yn y Gymraeg. Rydyn ni’n falch iawn o’r gwaith datblygu rydyn ni wedi ei wneud dros y blynyddoedd yn y maes hwn. Draw yn Nolbelydr, plasdy hanesyddol a chartref Henry Salesbury ger Henllan, trefnwyd dau weithdy Lego i 32 o blant o Ysgolion Henllan a Phant Pastynog.
Clybiau’r Ysgolion Uwchradd
Parhaodd clybiau amser cinio yn Ysgol Glan Clwyd, Brynhyfryd a Dinas Brân, gyda 60 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, gan gynnwys yr ymgyrch genedlaethol flynyddol ‘Shwmae / Su’mae?.’ Cynhaliwyd hefyd sioe newydd gan gwmni theatr Mewn Cymeriad ‘Geirie’ yn Glan Clwyd gyda 420 o ddisgyblion yn mynychu tri pherfformiad.
Children & Young People
What have we achieved?
Music Offers Opportunities
The year was full of creative and educational opportunities for young people across the county. Brwydr y Bandiau Brynhyfryd competition was held in partnership with Ruthin Festival, giving 21 young people the opportunity to develop their skills at three workshops and perform in front of a 200 audience, with the winning band playing on the Festival's 'Dop Dre' stage.
Five towns benefit from Lego and Minecraft sessions
Eight Lego and Minecraft workshops were held for over 100 children (aged 7–15) in five towns, combining local history and geographical heritage through creative play in Welsh. We are very proud of the development work we have done over the years in this area. Over in Dolbelydr, the historic mansion and home of Henry Salesbury near Henllan, two Lego workshops were organised for 32 children from Henllan and Pant Pastynog Schools.
----- Start of picture text -----
w
ch
s ll
h i
t
l
y
t
1362
i d
C â
w re
p
t n
h
c
l
a
a
t
n
n
t
o
C
----- End of picture text -----
Secondary School Clubs
Lunchtime clubs continued at Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Brynhyfryd and Ysgol Dinas Brân, with 60 young people taking part in various activities, including the annual national campaign 'Shwmae / Su'mae?.' A new show was also performed by theatre company Mewn Cymeriad called 'Geirie' in Ysgol Glan Clwyd. 420 pupils attended the three performances. 25
24
Cyfathrebu
Mae’r gwaith o ledaenu’r gair am y Gymraeg wrth galon ein gweithgareddau. Rydym yn gyson godi proffil am yr hyn rydym yn ei chynnig i’n cymunedau ac am fanteision y Gymraeg a dwyieithrwydd drwy’r wasg, cyfryngau cymdeithasol, yn uniongyrchol gydag unigolion a grwpiau a chyda’r busnesau o fewn y sir.
Dros y flwyddyn gwnaethom gyhoeddi:
bron i 400 o negeseuon i’n 2700 o ddilynwyr Facebook bron i 60 o bostiadau i’r dros 1000 o ddilynwyr Instagram dros 100 o bostiadau i’n 2600 o ddilynwyr ar X 13 ar ein cyfrif Bluesky newydd a 10 neges ar Threads
Mae dros 150 o straeon wedi eu cyhoeddi ar ein tudalen Gymraeg wythnosol yn y Denbighshire Free Press, diolch i wirfoddolwr brwd ac mae ein herthyglau yn y papurau bro yn parhau i’n cynorthwyo i gyrraedd cynulleidfa Gymraeg. Mae hyn ar ben y cyfweliadau a’r straeon gaiff eu darlledu a’u cyhoeddi yn y wasg, o dro i dro.
Communications
Communicating the general message about the benefits of the Welsh language is at the heart of our activities. We are constantly raising the profile of what we offer to our communities and the benefits the Welsh language and bilingualism has on people’s outlook through the press, social media, directly with individuals and groups plus with the county’s business community.
During the year we published:
-
almost 400 messages to our 2700 Facebook followers
-
almost 60 posts to over 1000 Instagram followers
-
over 100 posts to our 2600 followers on X
-
13 on our new Bluesky account and 10 messages on Threads
Over 150 stories have been published on our weekly Welsh page in the Denbighshire Free Press, thanks to an enthusiastic volunteer and our articles in the local Welsh language community papers continue to help us reach a Welsh audience. This is on top of the interviews and stories that are broadcast and published in the press, on occasions.
Gwirfoddolwyr
“Rydyn ni’n hynod o ffodus, bod cymaint o bobl yn gweithio yn wirfoddol o fewn ein cymunedau ledled y sir,” meddai Ruth, ein prif swyddog.
Trwy gynllun ‘Cyfeillion y Gymraeg’ bu’r Fenter yn ffurfioli nifer o’r prosesau sydd gennym, er mwyn creu banc o bobl i ehangu ein heffaith a’n dylanwad ar yr iaith yn Sir Ddinbych. Diolch o galon i bobl fel Elin, yn y llun, sy’n gwirfoddoli’n gyson gyda ni!
Volunteers
“We are extremely fortunate that so many people work voluntarily within our communities throughout the county," said Ruth, our chief officer. During the year an Initiative we used formalised a number of the processes we have to create a bank of volunteers, like Elin, in the picture, who regularly volunteers with us! Bringing in learners and new Welsh speakers as volunteers benefits both them and us, as an organisation. 27
26
Ar y gweill 25-26
Cartref newydd i’r Fenter
Mae paratoi a chynllunio manwl wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ar gyfer symud i’n cartref newydd yn Y Farchnad Fenyn. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, symudodd y gweithlu i’r adeilad newydd yng nghanol tref farchnad Dinbych. Dyma gyfnod newydd a chyffrous i’r gweithlu a’n cefnogwyr. Rydyn ni’n edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod yn ein cartref newydd.
Ymestyn Prosiect Gwynt y Môr
Yn ystod y flwyddyn gwnaethom gais am gefnogaeth ariannol ar gyfer Swyddog Y Glannau i gefnogi capasiti’r Fenter o weithredu ar lawr gwlad yn ardaloedd glan môr sir Ddinbych. Clywsom yn ddiweddar bod y cais wedi bod yn llwyddiannus. O ganlyniad byddwn yn ymestyn y ddarpariaeth yn yr ardal ac ar ddiwedd y cynllun, byddwn wedi gweithredu ar y glannau am chwe blynedd.
Coming up in 25-26
New Home for Menter Iaith
As we prepared to move into our new home, Y Farchnad Fenyn (The Butter Market building) in-depth planning has been in the pipeline during the year. At the end of the financial year, the workforce moved to the new building in the centre of Denbigh’s market town. This is a new and exciting time for our small team and our supporters. We look forward to the year ahead as we settle into our new offices.
Expansion of Gwynt y Môr project
During the year we applied for financial support for a Coastal Officer to support the team's capacity to operate at grassroot level in Denbighshire's coastal areas. We received the news recently that the application was successful. As a result we will extend the provision in the area and at the end of the project, we will have operated at these coastal areas for six years.
MICymru Manifesto
During the year, as a national network, we worked on a manifesto that sets out Mentrau Iaith Cymru’s aspirations for the Welsh language, the community and the local economy. The publication of the Manifesto sets out our priorities and our desire to work with political candidates standing for next year's Welsh Senedd Election. You can see a copy by visiting: www.mentrauiaith.cymru/ein-maniffesto/
Maniffesto MICymru
Yn ystod y flwyddyn, buom fel rhwydwaith o Fentrau yn gweithio ar faniffesto sy’n nodi safbwyntiau’r Mentrau Iaith am ein dyheadau dros y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol. Mae cyhoeddi’r Maniffesto yn nodi ein blaenoriaethau a’n hawydd i gydweithio gyda ymgeiswyr gwleidyddol sy’n sefyll ar gyfer Etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf. Gallwch weld copi o’r maniffesto trwy fynd i: www.mentrauiaith.cymru/ein-maniffesto/
Cysylltu â ni
Contact us
menter@misirddinbych.cymru Menter Iaith Sir Ddinbych Y Farchnad Fenyn, () (01745) 812822 Llain y Capel, Dinbych LL16 3TU www.misirddinbych.cymru
Menter Iaith Sir Ddinbych @MIDinbych @cymraeg_sirddinbych x
Diolch
I’n harianwyr a’n partneriaid.
I’r holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser yn ystod y flwyddyn. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr.
A huge thank you goes to to our funders and partners.
And another diolch to all the volunteers for giving their time to support our work during the year.
29
28
Rhif cofrestredig y cwmni: 6204415 Rhif yr elusen: 1120223
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
Datganiadau Ariannol Am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2025 Sydd Wedi’u Paratoi Heb Archwiliad Ariannol.
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn dymuno cydnabod ei chyllidwyr 2024–25 Menter Iaith Sir Ddinbych wishes to acknowledge its funders 2024-25
UK Government
Diolch hefyd i swyddogion a phwyllgor Mentrau Iaith Cymru ac i rwydwaith y Mentrau Iaith am eu cefnogaeth a chydweithrediad gwerthfawr gydol y flwyddyn
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
| Cynnwys | |
|---|---|
| Tudalen | |
| Adroddiad yr Ymddiriedolwyr | 1 - 5 |
| Adroddiad yr archiliwr annibynnol | 6 |
| Datganiad o weithgareddau ariannol | 7 |
| Mantolen | 8 |
| Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol | 9 – 18 |
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
CYFEIRNOD A MANYLION GWEINYDDOL.
Enw'r elusen gofrestredig Menter Iaith Sir Ddinbych Rhif cofrestru'r elusen: 1120223 Rhif cofrestredig y cwmni 6204415 (Cymru a Lloegr) Swyddfa gofrestredig Y Farchnad Fenyn Llain y Capel DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3TU
Cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr
Y cyfarwyddyr ac ymddiriedolwyr a fu’n gwasanaethu’r elusen yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2024 hyd at 31 Mawrth 2025 oedd:
Cadeirydd Bethan Cartwright Trysorydd Owain Gwyn Morris Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr eraill Gwenan Prysor Emrys Wynne Arwel Roberts Menna Eluned Jones Catrin Williams Lowri Haf Ellis Dyfan Mael Phillips Manon Rees-O’Brien (ethol 23/10/2024) Eifion Williams (ethol 23/10/2024) Owain Llŷr Williams (ethol 23/10/2024) Ysgrifennydd Owain Llŷr Williams Bancwyr HSBC 17 Stryd y Dyffryn DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3AG Cyfrifwyr Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ
1
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
Strwythur a rheolaeth
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen gofrestredig, rhif 1120223, wedi ei sefydlu fel cwmni cyfyngedig, rhif 6204415. Mae cyfansoddiad y cwmni yn unol â chyfansoddiad elusennol a chwmnïau cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol. Cofrestrwyd Menter Iaith Sir Ddinbych fel elusen gofrestredig, ac fel cwmni cyfyngedig, ar 5 Ebrill 2007.
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych (yr ‘Elusen’) yn cael ei gweinyddu a’i rheoli yn ôl y memorandwm ac erthyglau cymdeithasol y cwmni, a gan aelodau bwrdd y cyfarwyddwyr.
Mae aelodaeth yr Elusen yn agored i unigolion dros 18 oed ac unrhyw gymdeithas, gorfforedig neu anghorfforedig, sydd yn cytuno ag amcanion a gwaith yr Elusen, heb wahaniaethu rhwng pobl o safbwynt eu cyfoeth, gwleidyddiaeth, hil, crefydd, rhyw neu anabledd. Bydd i bob aelodfudiad benodi unigolyn i’w gynrychioli ac i bleidleisio.
Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn unfrydol ac am reswm da, roi terfyn ar aelodaeth unrhyw unigolyn neu aelod-fudiad: cyhyd a bod gan yr unigolyn dan sylw neu gynrychiolydd penodedig yr aelod-fudiad dan sylw'r hawl i wrandawiad gan y Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yng nghwmni ffrind, cyn y gwneir penderfyniad terfynol.
Bwrdd y cyfarwyddwyr
Rheolir busnes yr Elusen gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a fydd yn atebol i'r aelodau. Ni fydd gan unrhyw berson hawl i weithredu fel Cyfarwyddwr, boed hynny am, y tro cyntaf neu dro dilynol, hyd nes y bydd wedi llofnodi datganiad derbyn parodrwydd i weithredu er budd yr Elusen yn llyfr cofnodion Bwrdd y Cyfarwyddwyr.
Bydd Bwrdd y cyfarwyddwyr yn cynnwys dim llai na 5 o gyfarwyddwyr a dim mwy na 14 o gyfarwyddwyr.
Gall y Cyfarwyddwyr ar unrhyw adeg gyfethol unrhyw berson i Fwrdd y Cyfarwyddwyr cyn belled na fydd mwy nag un rhan o dair o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn gyfetholedig a chyn belled na ragorir ar yr uchafswm a benodir yn erthygl 39, ac na wneir rhagor na thri chyfetholiad o’r fath rhwng un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r nesaf. Rhaid i bob person a gyfetholir fel hyn ymddiswyddo yn y Cyfarfod Blynyddol yn dilyn eu cyfetholiad, ond byddent yn gymwys i’w hailbenodi wedi hynny.
Ceir talu holl gostau teithio, gwesty a threuliau eraill rhesymol cyfarwyddwyr mewn perthynas â’u presenoldeb mewn cyfarfod Cyfarwyddwyr, pwyllgorau neu gyfarfod cyffredinol neu mewn perthynas â chyflawni eu dyletswyddau, ond fel arall ni fyddant yn derbyn tal.
2
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
Nodau'r elusen
-
Normaleiddio'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yn Sir Ddinbych.
-
Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr a thrigolion di-gymraeg ddysgu’r iaith
-
Sicrhau fod cyfleoedd i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth a defnydd o’r iaith. 4. Dylanwadu ar yr ystod eang o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, addysgiadol sy’n digwydd o fewn y sir er mwyn datblygu i fod yn drwyadl ddwyieithog neu Gymraeg.
Amcanion yr elusen
-
i) Cynorthwyo’r sector wirfoddol i gynnig gwasanaeth dwyieithog.
-
ii) Annog y di-gymraeg i fabwysiadu agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith e.e. cymhathu mewnfudwyr a chynorthwyo’r dysgwyr i ddod yn rhugl ac i ddod yn rhan o’r gymdeithas Gymraeg.
-
iii) Cynnal digwyddiadau newydd naill a’i yn annibynnol neu trwy gydweithio mewn partneriaeth ag eraill
-
i bontio rhwng ysgol a chymdeithas.
-
i ategu at waith y ddarpariaeth Cymraeg i oedolion.
-
i gyfoethogi a bywiocáu bywyd Cymraeg yn gyffredinol.
-
iv) Cefnogi gweithgareddau gwirfoddol sy’n bodoli eisoes yn Gymraeg.
-
v) Annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg, a threfnu gweithgareddau ar eu cyfer.
-
vi) Hyrwyddo trosglwyddiad o’r Gymraeg o fewn y teulu.
Darparu budd i’r cyhoedd
Wrth gynllunio ein gwaith am y flwyddyn, mae aelodau’r pwyllgor sy’n gyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau a’r budd i’r cyhoedd. Yn benodol, ceisiwn gynorthwyo a chefnogi’r gymuned yn ei chyfanrwydd o ran hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan bob oedran. Rydym yn gweithio ar draws y sir gyfan a darparwn gyfleoedd i bobl wella proffil y Gymraeg a dwyieithrwydd, drwy ddarparu cyngor, cymorth, prosiectau a gweithgareddau penodol. Ein corff ni yw’r unig un â’r brîff penodol i normaleiddio’r Gymraeg/dwyieithrwydd mewn bywyd teuluol a bywyd cyhoeddus ar draws sbectrwm oedran y sir. Gweithiwn ar y cyd gyda phartneriaid allweddol megis yr Urdd a Mudiad Meithrin a darparwyr statudol megis ysgolion a’r Cyngor Sir. Rydym yn gweithio gyda chyrff eraill sy’n ymwneud â darparu gwersi Cymraeg i oedolion hefyd gan gynorthwyo i ymestyn y cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Mae ein deunyddiau cynnig cyngor a marchnata ar gael bob amser, ac mae’r Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr yn cytuno ar dargedau ar gyfer gwaith cymunedol yn flynyddol.
3
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
Adolygiad ariannol
Mae’r prif weithgareddau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys rhai i blant a phobl ifanc, mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol eraill. Defnyddir yr holl incwm a dderbynnir i wella’r gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd, p’un ai ar y ffôn, drwy gyfrwng e-bost neu wyneb yn wyneb. Ceisiwn sicrhau presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol, gan dargedu’r cyhoedd drwy gynnig cyngor am ddim a gweithgareddau neu weithdai celfyddydol, llenyddol, digidol a rhai sy’n addas i siaradwyr Cymraeg rhugl neu siaradwyr Cymraeg newydd.
Campau a gyflawnwyd
Am ddarlun mwy manwl o weithgareddau’r flwyddyn sy’n cyflawni nodau ac amcanion yr elusen ac yn rhoi budd i’r cyhoedd gweler Adroddiad Blynyddol yr elusen.
Perfformiad Ariannol yr Elusen
Mae cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025 wedi codi o £124,902 i £143,482, sef cynydd o £18,580 (14.87%) ar y flwyddyn flaenorol. Mae’r cyfradd llog wedi aros yn debyg ac erbyn diwedd y flwyddyn derbyniwyd £389 o incwm buddsoddiad am y flwyddyn (2024 - £380). Mae cyfanswm yr adnoddau a dreuliwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025 wedi codi o £114,225 i £141,934 sef cynydd o £27,709 (24.25%) ar y flwyddyn flaenorol. Cafwyd gwarged o £1,548 am y flwyddyn i gymharu â gwarged o £10,677 am y flwyddyn flaenorol. Mae mwy o fanylder i’w weld yn Adroddiad Blynyddol yr Elusen.
Polisi Cronfeydd
Mae’n rhan o bolisi’r Elusen i gadw cronfeydd anghyfyngedig sef y cronfeydd rhyddion, ar lefel sy’n hafal i tua 3 mis o dreuliau anghyfyngedig. Mae hyn yn caniatáu cronfa ddigonol i dalu costau rheoli, gweinyddu a chynnal yr Elusen.
Polisi Buddsoddiad
Yr amcan buddsoddiad yw diogelu'r buddsoddiadau cyfredol yn erbyn chwyddiant ac i gael incwm rhesymol yn ôl. Mae perfformiad y buddsoddiadau yn cael eu hadolygu ar sail gyson trwy eu cymharu gyda maincfesuriad addas.
Rheolaeth Risg
Gwnaed arolwg gan y Cyfarwyddwyr ym meysydd busnes a gweithredu’r Elusen a gallant gadarnhau y byddai’r Elusen mewn sefyllfa i liniaru unrhyw risg.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Mae’r Elusen yn parhau i weithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a phartneriaid eraill i hybu’r iaith Gymraeg drwy Sir Ddinbych gyfan. Mae’r Elusen hefyd yn parhau i ddatblygu presenoldeb ar y we a chyfryngau cymdeithasol drwy’r wefan a rhwydweithiau cymdeithasol, a hyn wedi dod yn bwysicach dros y blynyddoedd ddiwethaf wrth i batrymau cyfathrebu a chymdeithasu newid. Mae’r Elusen bellach wedi’i ddyfarnu’n Elusen Ddibynadwy gan yr NCVO am yr ail dro ym mis Medi 2023. Golyga hyn bod prosesau yn eu lle i roi sicrwydd i bartneriaid ac arianwyr a photensial i ddenu mwy o fuddsoddiad a gwaith mewn partneriaeth.
4
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
Datganiad o Gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr
Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr ar Fenter Iaith Sir Ddinbych at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi adroddiad yr ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifeg y DU (Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig).
Mae cyfraith cwmnïau yn gofyn bod yr ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi safbwynt cywir a theg ar faterion y cwmni elusennol fel y mae pethau ac o'r ffynonellau sy'n dod i mewn a defnydd y ffynonellau, gan gynnwys incwm a gwariant y cwmni elusennol dros y cyfnod hwnnw. Fel rhan o waith paratoi'r datganiadau ariannol, bydd gofyn i'r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:
-
Dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu rhoi ar waith yn gyson
-
Dilyn dulliau ac egwyddorion Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen
-
Beirniadu ac amcangyfrif yn rhesymol ac yn bwyllog
-
Paratoi'r datganiadau ariannol yn seiliedig ar fusnes sydd ar fynd oni bai ei bod yn anaddas cymryd y bydd y cwmni elusennol yn parhau mewn busnes.
Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion ariannol digonol sy'n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, beth ydy sefyllfa ariannol y cwmni elusennol ac yn eu galluogi nhw i sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda Deddf Cwmnïau 2006. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r cwmni elusennol ac felly hefyd dros gymryd camau rhesymol er mwyn rhwystro a datgelu unrhyw dwyll neu anghysondeb arall.
Cafodd adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ei fabwysiadu ar 22 Hydref 2025 a’i arwyddo ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr gan:
Llofnod Gwenan Prysor Enw llawn Gwenan Prysor Safle Is-gadeirydd
5
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CWMNI ELUSENNOL MENTER IAITH SIR DDINBYCH (‘y Cwmni’)
Adroddaf i’r ymddiriedolwyr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025.
Cyfrifoldebau a’r sail adrodd
Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (a hefyd ei gyfarwyddwyr at ddibenion y gyfraith cwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).
Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archiliwad ariannol o gyfrifon y Cwmni o dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael archwiliad annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m harchwiliad o gyfrifon eich elusen fel y cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’). Wrth gynnal fy archwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.
Datganiad yr archwiliwr annibynnol
Cwblheais fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas â’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu:
-
bod cofnodion cyfrifyddu heb eu cadw ar gyfer y Cwmni fel sy’n ofynnol gan adran 386 o Ddeddf Cwmnïau 2006; neu
-
nid yw’r cyfrifon yn cyfateb â’r cofnodion hynny; neu
-
nid yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion cyfrifyddu perthnasol o dan adran 396 o Ddeddf 2006 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun ‘gwir a theg’ nad yw’n fater i’w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; neu
-
nid yw’r cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â dulliau ac egwyddorion y Datganiad o Arferion Cymeradwy ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau gan elusennau yn gymwys i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).
Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.
Arwyddwyd: R A Roberts
Dyddiad: 31/10/2025
R A Roberts, BSc, FCA Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ
6
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
Datganiad o weithgareddau ariannol (yn cynnwys crynodeb o gyfrif incwm a gwariant) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025
| 2025 | 2025 | 2025 | 2025 | 2024 | ||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Nodyn | Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | ||
| Anghyfyngedig | Cyfygedig | Cronfeydd | Cronfeydd | |||
| £ | £ | £ | £ | |||
| Incwm | ||||||
| Incwm a gwaddoliadau | ||||||
| Rhoddion a chymynroddion | 3 | 96,646 | - | 96,646 | 96,376 | |
| Gweithgareddau elusennol | 4 | 30,980 | - | 30,980 | 13,060 | |
| Gweithgareddau masnachu arall | 5 | 10,458 | - | 10,458 | 10,086 | |
| Incwm arall | 6 | 5,000 | - | 5,000 | 5,000 | |
| Buddsoddiant | 7 | 398 | - | 380 | 380 | |
| _ | __ | _ | __ | |||
| Cyfanswm incwm | 143,482 | - | 143,482 | 124,902 | ||
| _ | __ | _ | _ | |||
| Gwariant | ||||||
| Gwariant ar weithgareddau | ||||||
| elusennol | 8 | 141,934 | - | 141,934 | 114,225 | |
| _ | __ | _ | __ | |||
| Cyfanswm gwariant | 141,934 | - | 141,934 | 114,225 | ||
| _ | __ | _ | _ | |||
| Incwm / gwariant net | 11 | 1,548 | - | 1,548 | 10,677 | |
| Trosglwyddiadau gros rhwng | ||||||
| cronfeydd | - | - | ||||
| _ | __ | _ | _ | |||
| Symudiad net yn y cronfeydd | 1,548 | - | 1,548 | 10,677 | ||
| Cyfanswm cronfeydd | 53,816 | - | 53,816 | 43,139 | ||
| 01 Ebrill 2024 | ||||||
| _ | _ | _ | __ | |||
| Cyfanswm cronfeydd | 55,364 | - | 55,364 | 53,816 | ||
| 31 Mawrth 2025 | ======= | ======= | ======= | ======= |
Mae holl weithgareddau’r cwmni yn cael eu hystyried yn rhai parhaol.
Nid oedd gan y cwmni enillion na cholledion heblaw am y gwarged am y flwyddyn.
Mae’r nodiadau ar dudalennau 9 i 18 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma.
7
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2025
| Nodyn | 2025 | 2024 | |||
|---|---|---|---|---|---|
| £ | £ | £ | £ | ||
| Asedau sefydlog | |||||
| Asedau cyffyrddadwy | 16 | 5,034 | 2,793 | ||
| Asedau cyfredol | |||||
| Dyledwyr | 17 | 355 | 943 | ||
| Arian yn y banc | 52,118 | 52,047 | |||
| Arian mewn llaw | - | - | |||
| ______ | _ | ||||
| 52,473 | 52,990 | ||||
| _ | _ | ||||
| Credydwyr -yn daladwy | |||||
| o fewn blwyddyn | 18 | 2,143 | 1,967 | ||
| _ | _ | ||||
| Asedau cyfredol net | 50,330 | 51,023 | |||
| _ | _ | ||||
| Asedau net | £55,364 | £53,816 | |||
| ======= | ======= | ||||
| £ | £ | ||||
| Cronfeydd wrth gefn | |||||
| Cronfeydd anghyfyngedig | 19 | 55,364 | 53,816 | ||
| Cronfeydd cyfyngedig | 19 | - | - | ||
| _ | _ | ||||
| Cyfanswm cronfeydd | £55,364 | £53,816 | |||
| ======= | ======= |
Roedd gan y cwmni hawl i eithrio rhag archwilio’r datganiadau ariannol yn rhinwedd adran 477 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006 yn berthnasol i gwmnïau bychan.
Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni gael archwiliad o’r datganiadau ariannol am y flwyddyn berthnasol yn unol ag adran 476;
Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu dyletswyddau i gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf ynglŷn â chadw cofnodion cyfrifyddu a pharatoi’r datganiadau ariannol.
Y mae’r datganiadau ariannol yma wedi eu paratoi mewn cytundeb â’r ddarpariaeth arbennig adran XV o ddeddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bach ac yn unol â FRS 102 SORP.
Mabwysiadwyd y datganiadau ariannol hyn gan Fwrdd yr Cyfarwyddwyr ar 22 Hydref 2025 ac arwyddwyd ar eu rhan gan:
Llofnod: O G Morris
Owain Gwyn Morris Trysorydd - Cyfarwyddwr
Mae’r nodiadau ar dudalennau 9 i 18 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma
8
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
1 Gwybodaeth Statudol
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn gwmni cyfyngedig drwy warant wedi'i gorffori yng Nghymru, yn y DU. Y swyddfa gofrestredig ydy Y Farchnad Fenyn, Llain y Capel, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 3TU.
Caiff y datganiadau ariannol eu cyflwyno mewn punnoedd sterling (£), arian gweithredu'r cwmni, a'i dalgrynnu at y bunt agosaf.
Mae'r polisïau cyfrifyddu arwyddocaol sydd wedi'u defnyddio wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn wedi'u gosod isod. Mae'r polisïau wedi'u defnyddio yn gyson gyda phob blwyddyn gaiff ei chyflwyno, oni bai y nodir yn wahanol.
2 Polisïau Cyfrifyddu
Sail paratoi'r datganiadau ariannol
Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sy'n endid budd cyhoeddus o dan FRS102, wedi'u paratoi yn unol â Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen (FRS102) 'Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arferion Argymelledig sy'n berthnasol i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (mewn grym 1 Ionawr 2019)', Safon Adrodd Ariannol 102 'Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2006. Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi yn unol â'r confensiwn costau hanesyddol.
Incwm
Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith bydd gan yr elusen hawl dros yr arian.
Incwm o weithgareddau elusennol
Mae incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm wedi'i dderbyn trwy gytundeb neu lle mae hawl dros arian grant yn dibynnu ar amodau perfformio penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod wrth i'r gwasanaethau cysylltiedig gael eu darparu ac wrth gaffael yr hawl, bydd modd mesur tebygrwydd faint gaiff ei dderbyn a'r swm ei hun gyda digon o ddibynadwyedd. Caiff incwm ei ohirio pan gaiff swm ei dderbyn cyn perfformio'r gwasanaeth neu ddigwyddiad y mae'n gysylltiedig ag o.
Incwm o fuddsoddiad
Caiff incwm o fuddsoddiad ei gydnabod pan gaiff ei derbyn.
Gwariant
Caiff dyledion eu cydnabod fel gwariant unwaith y bydd gorfodaeth ymarferol neu gyfreithiol sy'n ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debyg y bydd angen trosglwyddo buddion economaidd wrth ei dalu a bydd modd mesur swm yr orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff gwariant ei ystyried ar sail croniadau ac mae wedi'i ddosbarthu o dan benawdau sy'n crynhoi'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r categori. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw DAW nad oes modd ei hawlio yn ôl.
Mae ‘gwariant elusennol’ yn cynnwys y costau hynny mae'r elusen wedi'i wario wrth ddarparu ei gweithgareddau a'i gwasanaethau ar gyfer ei buddiolwyr. Mae'n cynnwys costau y mae modd eu dyrannu yn uniongyrchol tuag at weithgareddau o'r fath a'r costau hynny o natur anuniongyrchol sy'n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.
9
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
2 Polisïau Cyfrifyddu (parhad)
Gwariant (parhad)
‘Costau cefnogi’ ydy'r costau hynny sy'n angenrheidiol er mwyn darparu gweithgaredd ond er hynny, tydyn nhw ddim yn cynhyrchu neu yn creu allbwn gweithgaredd yr elusen. Mae hyn yn cynnwys costau llywodraethol sef y costau hynny sy'n gysylltiedig gyda chwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen ac yn cynnwys y ffioedd a chostau cyfrifyddu sy'n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen yn ogystal â rhan o'r cyflogau sy'n seiliedig ar fras amcan o'r amser a dreuliwyd ar yr adran hon.
Asedau sefydlog cyffyrddadwy
Mae asedau sefydlog wedi'u cofnodi trwy gostau i ddechrau.
Dibrisiad
Caiff dibrisiad ei gyfrifo er mwyn dileu cost ased, llai o'i werth sy'n weddill dros fywyd economaidd defnyddiol yr ased fel a ganlyn:
Offer swyddfa - lleihau'r cyfanswm o 25%
Treth
Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.
Cyfrifyddu cronfeydd
Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i'r elusen eu defnyddio, fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn ddoeth, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud ag amcanion yr elusen.
Mae cronfeydd cyfyngedig wedi'u derbyn yn amodol gan y rhoddwyr at y diben sydd wedi'i bwriadu ar eu cyfer.
Offerynnau ariannol
Does gan yr elusen ddim ond asedau ariannol a dyledion ariannol o natur sy'n cymhwyso fel offerynnau ariannol syml. Caiff offerynnau ariannol syml eu hadnabod yn gyntaf drwy werth trosglwyddo ac yna eu mesur trwy eu gwerth talu.
Dyledwyr
Caiff dyledwyr masnachu a dyledwyr eraill eu cydnabod trwy'r swm talu sy'n ddyledus ar ôl cynnig unrhyw ostyngiad masnachu.
Caiff taliadau o flaen llaw eu prisio ar y swm net a dalwyd o flaen llaw ar unrhyw ostyngiad dyledus.
Credydwyr
Caiff credydwyr eu cydnabod lle bo gan yr elusen orfodaeth bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad blaenorol fydd mwy na thebyg yn arwain at drosglwyddo cronfeydd at drydydd parti a bydd modd mesur neu amcangyfrif y swm sy'n ddyledus er mwyn talu’r orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff credydwyr gan amlaf eu cydnabod trwy eu swm talu ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw ostyngiadau masnachu sy'n ddyledus.
Costau pensiwn
Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun cyfraniad pensiwn diffiniedig. Caiff costau cyfraniadau sy'n daladwy i gynllun pensiwn y cwmni elusennol eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.
10
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
2 Polisïau Cyfrifyddu (parhad)
Costau pensiwn (parhad)
Mae'r cwmni elusennol yn gwneud cyfraniadau i gynlluniau pensiwn personol ar ran ei gyflogai. Caiff costau eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.
3 Rhoddion a chymynrhoddion
| Rhoddion a chymynrhoddion | ||||
|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
| Anghyfynedig | Cyfyngedig | 2025 | 2024 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Grant Llywodraeth Cymru | 81,583 | - | 81,583 | 81,583 |
| Grant Cyngor Sir Ddinbych | 15,063 | - | 15,063 | 14,763 |
| Rhodd Cymdeithas Cymraeg Dinbych | - |
- | - | 30 |
| _ | __ | _ | __ | |
| 96,646 | - | 96,646 | 96,376 | |
| _ | __ | _ | __ | |
| Gweithgareddau elusennol | ||||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |
| Anghyfynedig | Cyfyngedig | 2025 | 2024 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Grant Grwp Cynefin | - | - | - | 960 |
| Grant DVSC | - | - | - | 10,000 |
| Grant Cronfa Allweddol – Lluosi | ||||
| (trwy DVSC) | 20,700 | - | 20,700 | - |
| Grant Cronfa Ffyniant Gyffredin | ||||
| (trwy DLL) | 5,000 | - | 5,000 | - |
| Grant Cyngor Tref Dinbych | 3,420 | - | 3,420 | - |
| Grant Cyngor Tref Rhuthun | 1,360 | - | 1,360 | - |
| Grant Cyngor Tref Rhuddlan | - | - | - | 1,650 |
| Grant Cyngor Tref Prestatyn | - | - | - | 250 |
| Grant Cadwyn Clwyd | - | - | - | 200 |
| Grant Mentrau Iaith Cymru | 500 | - | 500 | - |
| _ | __ | _ | __ | |
| 30,980 | - | 30,980 | 13,060 | |
| _ | __ | _ | __ | |
| Gweithgareddau masnachu eraill | ||||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
| Anghyfynedig | Cyfyngedig | 2025 | 2024 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Gweithgareddau a phrosiectau | 9,433 | - | 9,433 | 8,808 |
| Incwm Arall | 1,025 | - | 1,025 | 128 |
| Prosiect y Glannau rhentu desg | - | - | - | 750 |
| Er cof am Richard Cowell | - | - | - | 400 |
| _ | __ | _ | __ | |
| 10,458 | - | 10,458 | 10,086 | |
| _ | __ | _ | __ |
4 Gweithgareddau elusennol
5 Gweithgareddau masnachu eraill
11
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
| 6 | Incwm Arall | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | ||
| Anghyfyngedig | Cyfyngedig | 2025 | 2024 | ||
| £ | £ | £ | £ | ||
| Lwfans Nawdd Cymdeithasol | 5,000 | - | 5,000 | 5,000 | |
| _ | __ | _ | __ | ||
| 5,000 | - | 5,000 | 5,000 | ||
| _ | __ | _ | __ | ||
| 7 | Incwm o fuddsoddiant | ||||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | ||
| Anghyfyngedig | Cyfyngedig | 2025 | 2024 | ||
| £ | £ | £ | £ | ||
| Llog derbyniwyd | 398 | - | 398 | 380 | |
| _ | __ | _ | __ | ||
| 398 | - | 398 | 380 | ||
| _ | __ | _ | __ |
12
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
8 Gwariant ar weithgareddau elusennol
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|
| Anghyfynedig | Cyfyngedig | 2025 | 2024 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Costau gweithgareddau elusennol | ||||
| cyffredin | ||||
| Cyflogau staff | 73,413 | - | 73,413 | 66,785 |
| Yswiriant gwladol | 6,740 | - | 6,740 | 6,048 |
| Costau pensiwn staff | 4,476 | - | 4,476 | 5,129 |
| Hyfforddiant | 26 | - | 26 | 283 |
| Costau gwasanaethau llawrydd | 3,540 | - | 3,540 | 600 |
| Rhent a llogi ystafelloedd | 1,676 | - | 1,676 | 875 |
| Prydlesi gweithredol – offer swyddfa | 168 | - | 168 | 1,402 |
| Teithio a Lluniaeth | 2,072 | - | 2,072 | 2,295 |
| Teleffon | 351 | - | 351 | 399 |
| Trydan | 91 | - | 91 | - |
| Argraffu, papur a phost | 634 | - | 634 | 425 |
| Costau Cyfrifiadur | 1,309 | - | 1,309 | 662 |
| Marchnata a hysbysebu | 442 | - | 442 | 459 |
| Costau banc | 148 | - | 148 | 151 |
| Tanysgrifiadau | 1,003 | - | 1,003 | 957 |
| Dibrisiant | 1,471 | - | 1,471 | 816 |
| Prosiectau a gweithgareddau - Cymuned | 11,402 | - | 11,402 | 2,063 |
| Prosiectau a gweithgareddau – Teulu | 35 | - | 35 | 311 |
| Prosiectau a gweithgareddau – Plant & | ||||
| Phobl Ifanc | 2,881 | - | 2,881 | 2,703 |
| Prosiectau a gweithgareddau – Swyddog | ||||
| Prosiect y Glannau | 2,719 | - | 2,719 | 2,039 |
| Prosiectau a gweithgareddau – Swyddog | ||||
| Prosiect Hiraethog | 750 | - | 750 | - |
| Prosiectau a gweithgareddau – Lluosi | 3,657 | - | 3,657 | - |
| Prosiectau a gweithgareddau – Dysgwyr | - | - | - | 520 |
| Prosiectau a gweithgareddau – Cronfa | ||||
| Allweddol Sir Ddinbych | 5,376 | - | 5,376 | - |
| Gwaith PR ar gyfer prosiect gwirfoddolwyr | - |
- | - | 800 |
| ______ | ______ | ______ | ______ | |
| 124,380 | - | 124,380 | 95,722 | |
| ______ | ______ | ______ | ______ |
13
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
8 Gwariant ar weithgareddau elusennol (parhad)
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Anghyfynedig | Cyfyngedig | 2025 | 2024 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Costau cefnogi | ||||
| Cyflogau | 10,340 | - | 10,340 | 10,038 |
| Yswiriant gwladol | 799 | - | 799 | 758 |
| Costau pensiwn staff | 724 | - | 724 | 399 |
| Rhent | 239 | - | 239 | 125 |
| Yswiriant | 764 | - | 764 | 763 |
| Prydlesi gweithredol – offer swyddfa | 24 | - | 24 | 200 |
| Trydan | 13 | - | 13 | - |
| Glanhau | 392 | - | 392 | 486 |
| Cynnal a chadw | 56 | - | 56 | 82 |
| Argraffu, post a phapur | 91 | - | 91 | 161 |
| Marchnata a hysbysebu | 63 | - | 63 | 66 |
| Teleffon | 50 | - | 50 | 57 |
| Costau cyfrifiadur | 187 | - | 187 | 105 |
| Costau cyfieithu | 277 | - | 277 | 106 |
| Costau proffesiynol | - | - | - | 2,024 |
| Teithio a lluniaeth | 528 | - | 528 | 202 |
| Costau cyfrifo | 2,412 | - | 2,412 | 2,228 |
| Costau banc | 21 | - | 21 | 21 |
| Mân gostau | 164 | - | 164 | 341 |
| Tanysgrifiadau | 183 | - | 183 | 137 |
| Dibrisiant asedau cyffyrddadwy | 210 | - | 210 | 116 |
| (Elw)/Colled ar waredu | 8 | - | 8 | 88 |
| Llog ar dreth | 9 | - | 9 | - |
| ______ | ______ | _ | ______ | |
| 17,554 | - | 17,554 | 18,503 | |
| ______ | ______ | _ | ______ | |
| Cyfanswm gwariant ar | ||||
| weithgareddau elusennol | 141,934 | - | 141,934 | 114,225 |
| ______ | ______ | _ | ______ |
9 Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math y gronfa
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Anghyfyng | Cyfyngedig | 2025 | Anghyfyng | Cyfyngedig | 2024 | |
| -edig | -edig | |||||
| £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
| Gwariant elusennol | 124,380 |
- | 124,380 | 95,722 | - | 95,722 |
| Costau cefnogi | 17,554 | - | 17,554 | 18,503 | - | 18,503 |
| ______ | ______ | ______ | _ | ______ | ______ | |
| 141,934 | - | 141,934 | 114,225 | - | 114,225 | |
| ______ | ______ | ______ | _ | ______ | ______ |
14
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
10 Gwariant elusennol yn ôl gweithgareddau
| Gweithgareddau | Gweithgareddau | Costau | Cyfanswm | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|
| Uniongyrchol | Cefnogi | 2025 | 2024 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Gweithgareddau elusennol cyffredin | 124,380 | 13,733 | 138,113 | 109,092 |
| Gweithgareddau elusennol penodol | - | - | - | - |
| Costau llywodraethol | - | 3,821 | 3,821 | 5,133 |
| ______ | ______ | ______ | ______ | |
| 124,380 | 17,554 | 141,934 | 114,225 | |
| ______ | ______ | ______ | ______ |
11 Dadansoddiad o gostau cefnogi
| Dadansoddiad o gostau cefnogi | |||
|---|---|---|---|
| Costau | Cyfanswm | Cyfanswm | |
| Gweithgareddau | 2025 | 2024 | |
| Hybu’r iaith | |||
| Gymraeg | |||
| £ | £ | £ | |
| Costau staff | 11,863 | 11,863 | 11,195 |
| Costau eiddo | 274 | 274 | 286 |
| Costau swyddfa gyffredinol | 1,596 | 1,596 | 1,889 |
| Costau llywodraethu | 3,821 | 3,821 | 5,133 |
| _ | _ | ______ | |
| 17,554 | 17,554 | 18,503 | |
| _ | _ | ______ | |
| Gwariant / Incwm Net | |||
| Mae Gwariant net wedi ei ddatgan ar ôl codi: | £ | ||
| Dibrisiant | 959 |
12 Gwariant / Incwm Net
13 Taliadau a Budd-daliadau'r Ymddiriedolwyr
Talwyd cydnabyddiaeth i un o’r ymddiriedolwyr am ei gwaith yn cysylledig ar prosiect Lluosi ar sail hunan gyflogaeth yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025 (gweler nodyn 21). Ni thalwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiant eraill i’r ymddiriedolwyr eraill ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025 (2024 - £ Dim). Mae’r elusen yn ystyried mai ei phersonél rheoli allweddol ydy’r ymddiriedolwyr a’r prif swyddog. Cyfanswm buddiant cyflogaeth y personél rheoli allweddol, yn cynnwys cyfraniadau pensiwn, oedd £36,527 (2024 - £35,473).
Treuliau'r ymddiriedolwyr
Ni thalwyd unrhyw dreuliau i'r ymddiriedolwyr yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025 (2024 - £ Dim).
15
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
14 Costau staff
| Costau staff | ||
|---|---|---|
| 2025 | 2024 | |
| £ | £ | |
| Cyflogau | 83,753 | 76,823 |
| Yswiriant gwladol | 7,539 | 6,806 |
| Cyfraniadau pensiwn | 5,200 | 5,528 |
| Lwfans cyflogwr | (5,000) | (5,000) |
| ______ | ______ | |
| £91,492 | £84,157 | |
| ______ | ______ |
Mae'r elusen yn cyflogi 2 aelod o staff llawn amser ac 2 aelod o staff rhan-amser ar gyfartaledd (2024 - 2 amser llawn ac 2 rhan amser). Ni enillodd unrhyw aelod o staff fwy na £60,000 y flwyddyn (2024: Dim). Mae'r elusen yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniad diffiniedig mewn perthynas â'r staff. Mae rheolwyr annibynnol yn dal y cynllun a'i asedau. Mae'r tâl pensiwn yn cynrychioli cyfraniadau sy'n ddyledus gan y cwmni a'u cyfanswm yw £5,200 (2024 - £5,528). Cyfraniadau pensiwn sy'n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn oedd £dim (2024: £dim).
15 Tâl yr Arolygwyr Annibynnol
Roedd tâl yr arholwr annibynnol yn gyfystyr â ffi cyfrifo ac arholi o £1,981 (2024 - £1,800) a gwaith cyflogres o £431 (2024 - £428).
16 Asedau cyffyrddadwy sefydlog
| Offer | |||
|---|---|---|---|
| Dodrefn | Swyddfa | Cyfanswm | |
| Cost | £ | £ | £ |
| Ar 1 Ebrill 2024 | 673 | 7,647 | 8,320 |
| Ychwanegiadau | - | 3,930 | 3,930 |
| Gwaredu | (357) | (610) | (967) |
| _ | _ | _ | |
| Ar 31 Mawrth 2025 | 316 | 10,967 | 11,283 |
| _ | _ | _ | |
| Dibrisiant | |||
| Ar 1 Ebrill 2024 | 665 | 4,862 | 5,527 |
| Dibrisiant am y cyfnod | 2 | 1,679 | 1,681 |
| Dileu wrth waredu | (354) | (605) | (959) |
| _ | _ | _ | |
| Ar 31 Mawrth 2025 | 313 | 5,936 | 6,249 |
| _ | _ | _ | |
| Gwerth llyfr net | |||
| Ar 31 Mawrth 2025 | £3 | £5,031 | £5,034 |
| ======= | ======= | ======= | |
| Ar 31 Mawrth 2024 | £8 | £2,785 | £2,793 |
| ======= | ======= | ======= |
16
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
| 17 | Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn | Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn | Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn | 2025 | 2025 | 2024 |
|
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| £ | £ |
||||||
| Dyledwr eraill | 355 | 943 |
|||||
| ______ | ______ |
||||||
| 355 | 943 |
||||||
| ______ | ______ |
||||||
| 18 | Credydwyr - yn ddyledus | o fewn y flwyddyn | 2025 | 2024 |
|||
| £ | £ |
||||||
| Credydwyr masnachol | - | - |
|||||
| Trethi a nawdd cymdeithasol | - | - |
|||||
| Credydwyr eraill | 2,143 | 1,967 |
|||||
| ______ | ______ |
||||||
| 2,143 | 1,967 |
||||||
| ______ | ______ |
||||||
| 19 | Dadansoddiad o gronfeydd elusennol | ||||||
| Ar 31 | Incwm | Gwariant | Trosglwy |
Ar 31 | |||
| Mawrth | -ddiadau | Mawrth | |||||
| 2024 | 2025 | ||||||
| £ | £ | £ | £ | £ | |||
| Cronfeydd cyfyngedig | - | - | - | - | - | ||
| Cronfeydd anghyfyngedig | 53,816 | 143,482 | (141,934) | - | 55,364 | ||
| _ | _ | _ | _ | _ | |||
| Cyfanswm cronfeydd | £53,816 | £143,482 | £(141,934) | £- | £55,364 | ||
| _ | _ | _ | _ | _ | |||
| 20 | Dadansoddiad o asedau net rhwng cronfeydd | ||||||
| Asedau | Asedau | Rhwymedig | Cyfanswm | ||||
| sefydlog | Cyfredol | -aethau | |||||
| cyffyrddadwy | net | tymor hir | |||||
| £ | £ | £ | £ | ||||
| Cronfeydd cyfyngedig | - | - | - | - | |||
| Cronfeydd anghyfyngedig | 5,034 | 50,330 | - | 55,364 | |||
| _ | _ | _ | _ | ||||
| £5,034 | £50,330 | £ - | £55,364 | ||||
| _ | _ | _ | _ |
17
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
21 Trafodion gyda ymddiriedolwyr neu bersonau cysylltiedig neu debyg
Mae’r ymddiriedolwyr yn rhoi o’u hamser yn gwbl wirfoddol i gyfarfod, rheoli a chynnal gweithgaredd yr elusen, heb unrhyw dâl neu gydnabyddiaeth yn uniongyrchol nag yn anuniongyrchol o gronfa’r elusen am wneud hynny.
Yr unig eithriad eleni yw taliad i un ymddiriedolwr am ei gwaith ar y prosiect lluosi. Gwneir hynny ar sail hunan gyflogaeth ac ar yr un telerau yn union â phobl eraill nad ydynt yn Ymddiriedolwyr.
- Talwyd yr Ymddiriedolwyr canlynol am waith gyda’r prosiect lluosi:
B Cartwright £1,300
22 Ymrwymiadau ariannol arall
Ar 31 Mawrth 2025, roedd gan y cwmni ymrwymiadau o dan brydlesi gweithredol ni chaiff eu diddymu, dros weddill tymor y prydlesi yma o £dim (2024 - £dim).
18