ADRODDIAD
LYNYDDOL
Menter
Iaith
Sir Ddinbych
2022 - 2023
Y ts'LAIYIIALI
MENTRAU IAIT
Newyddion Ileol i
9ymunedou Ileol
MARC ELUSEN
DDIBYNADWY
Elusen Gofrestredig: 1120223
Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant: 6204415

## **CYNNWYS:**

|Adroddiad y Cadeirydd|3|

|Beth yw Menter Iaith?|4|
|Menter Iaith Sir Ddinbych|5|
|Cyfarwyddwyr 2022-2023|6|
|Staff y Fenter 2022-2023|6|
|Yr ardal a wasanaethir|7|
|Nodau ac Amcanion Menter Iaith Sir Ddinbych|8|
|Blas ar waith y Fenter 2022-2023|9 – 15|
|Datblygu a Chryfhau’r Fenter||
|Diolchiadau|16|

Menter Iaith Sir Ddinbych 6 Heigad Dinbych Sir Ddinbych LL16 3LE  01745 812822

E-bost: menter@MISirDdinbych.cymru

Gwefan: www.misirddinbych.cymru

Menter Iaith Sir Ddinbych @MIDinbych @cymraeg_sirddinbych

2

## **ADRODDIAD Y CADEIRYDD**

Mae blwyddyn yn amser hir pan fyddwch yn ifanc ond byr iawn pan fyddwch yn heneiddio. Mae wedi bod yn bleser mawr i fod yn Gadeirydd ar y Fenter y flwyddyn hon.

Megis ddoe roeddem yn dathlu Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd Sir Ddinbych ac yn ymfalchïo yn ein treftadaeth a'r fenter yn ei chanol hi. Gweithgareddau wedi eu trefnu yn ddyheug gan ein staff ac roedd yn bleser ymuno pan oeddwn ar y pryd yn dechrau ar fy nghyfnod fel Cadeirydd Sir Ddinbych.

Cofier bod effaith yr haint yn dal yn llechu ar hyd y flwyddyn a dyna oedd a fydd y diolch pennaf sydd gan y pwyllgor tuag at ein staff dan arweinyddiaeth drylwyr Ruth ein bod wedi goresgyn effaith y Cofid . Mae'r haint wedi newid cymdeithas ac oherwydd wedi newid dulliau o weithredu'r Fenter.

Serch hynny mae'r un penderfyniad o weithio yn ddiflino gan Ruth, Iorwen a Gwion. Rhaid diolch iddynt o waelod calon. Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r pwyllgor, y gwirfoddolwyr cydwybodol, diolch am eich cefnogaeth i'r staff .

Mae'r swyddfa yn un o'r mwyaf trefnus ac mae'r trefniadau o chwilio am gyllid ychwanegol yn wych. O Gorwen i Brestatyn does yr un lle wedi bod yn angof. Gwthio a chefnogi yn ddiflino fydd yn fy nghof am y flwyddyn.

Mae fy nghyfnod fel Cadeirydd yn dirwyn i ben, ond mae’r ddwy flynedd yn y gadair wedi bod yn rhai dymunol iawn. Braf yn ddiweddar oedd bod yn rhan o'r asesiad ar gyfer farc safon Elusen Ddibynadwy a cymaint oedd fy malchder fod y safonau wedi ei gwireddu a'i gwella.

Pob dymuniad da i'r Fenter yn y dyfodol.

Arwel Roberts Cadeirydd Hydref 2023

3

t r laith?
at's a M nter lait
11
Mae 22 Menter yn gweithio yn
ein cymunedau dr05 Gymru
There are 22 Welsh language
enterprises working in Wales
yn cefnogi dros 160,000 0
bobl o bob oed
i gynyddu a chryfhau'r defnydd
o'r Gymraegyn ein cymunedau.
supportingover 160.000 to increase and strengthen the use
people of all ages
of Welsh in our communities.
GOOOOOOL?
Yn trefnu gwyliau. clybiau gofal. mae'r fenter yn 5iop-un-5top
sesiynau iaith a mwy -
ar gyfer yr taith,
yn ein helpu i fyw, dy5gu a
mwynhau yn Gymraeg.
Or8anisin8 festivals. childcare.
language sessions and more -
Menter laith is a one-stop-
shop for the language,
helptn8 us live. learn and
enjoy in Welsh
MEWRAU IArrH
,YNPllb
ae'r
entTau laith i bawb.
I ddarganfod mwy ewch i
m¢ntrauiaith.cymru
entrau laith is for everyone.
To find out more go to
mentrauiaith.cymru

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

Sefydlwyd Menter Iaith Sir Ddinbych ym mis Hydref 2003 pan esblygodd o’r hen Fenter Iaith Dinbych-Conwy a oedd wedi bodoli ers 1998.

Mae’r Fenter yn elusen gofrestredig ers 11eg Tachwedd 2004 ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant ers 5ed Ebrill 2007.  Mae gan y Fenter fwrdd o gyfarwyddwyr profiadol, gweithgar a chefnogol iawn.

## **Strwythur  Menter Iaith Sir Ddinbych 2022-2023**

## **PWYLLGOR RHEOLI**

**----- Start of picture text -----**

11 x Cyfarwyddwr
2 x Aelod o Staff
Is- bwyllgor
Is-bwyllgor
Staffio
Cyllid ac
STAFF
Adnoddau
2 Cyfarwyddwr  (Cyflogedig)
Trysorydd
Prif Swyddog Prif Swyddog
(llawn amser)  1 Cyfarwyddwr
Swyddog Cyllid a  Prif Swyddog
Busnes y Fenter
Swyddog Cyllid
(Rhan amser 0.8)
Pwyllgor  Swyddog Datblygu
Apêl Staff  Cymunedol
(llawn amser)
Cadeirydd
2 Cyfarwyddwr
**----- End of picture text -----**

5

## **CYFARWYDDWYR / YMDDIRIEDOLWYR 2022-2023**

**Enw: Cynrychioli Etholwyd** Cadeirydd Arwel Roberts Unigolyn                24/04/2014 Is–Gadeirydd          Bethan Cartwright Unigolyn 11/10/2017 Trysorydd Owain Gwyn Morris Unigolyn 20/10/2011 Ysgrifennydd           Anna Lloyd Edwards Unigolyn 16/10/2019 Emrys Wynne Unigolyn 03/10/2012 Gwenan Prysor Unigolyn 21/10/2015 Alaw Griffith Unigolyn                19/10/2016 Menna Jones                                Unigolyn                16/01/2019 Catrin Eynon                                 Unigolyn                 21/10/2021 Lowri Ellis                                      Unigolyn                21/10/2021 Alice Jones Unigolyn 21/10/2015

_Hyd at Ionawr 2023_

## **STAFF**

## **Prif Swyddog: Ruth Williams**

Mae Ruth wedi gweithio i’r Fenter ers Medi 2013. Yn llawn amser, mae hi’n rheoli’r Fenter o ddydd i ddydd, yn gyfrifol am faterion strategol, marchnata a chyfathrebu. Mae hi hefyd yn gyfrifol am ambell i weithgaredd cymunedol.

## **Swyddog Cyllid a Busnes: Iorwen Jones**

Mae Iorwen wedi gweithio i’r Fenter ers Ebrill 2004. Yn gweithio 4 diwrnod yr wythnos, mae hi’n gyfrifol am weinyddiaeth a chyllid y Fenter ac yn cefnogi peth o waith cymunedol y Fenter.

## **Swyddog Datblygu Cymunedol: Gwion Tomos-Jones**

Mae Gwion wedi gweithio i’r Fenter, yn llawn amser, ers Hydref 2013. Mae prif feysydd gwaith Gwion yn ymwneud â chyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

## **Melys Edwards**

Swyddog Prosiect y Glannau (rhan amser)

Cafwyd llwyddiant gyda chais i gronfa Gwynt y Môr yn yr Hydref 2022, a oedd yn golygu bod cefnogaeth swyddog rhan amser 11.5 awr yr wythnos i ardal y glannau wedi’i rhannu rhyngom ni a Menter Iaith Conwy.

6

## **YR ARDAL A WASANAETHIR GAN Y FENTER**

**Mae ychydig dros 93,000 o bobl dros 3 oed yn byw yn Sir Ddinbych, ac mae 22.5% o’r rheini yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021. Mae hyn yn cymharu â 24.6% yng Nghyfrifiad 2011. Mae hyn o ganlyniad i ostyngiad o 1,300 yn niferoedd y rhai sy’n gallu siarad Cymraeg, a chynnydd yng nghyfanswm y boblogaeth gyffredinol dros yr un cyfnod.**

Drwy’r sir i gyd, cafodd 58% o’r boblogaeth eu geni yng Nghymru, ac o Loegr mae’r mwyafrif llethol o’r gweddill yn hanu. O’r rhai a aned yng Nghymru, mae ychydig dros eu traean (33.8%) yn gallu siarad Cymraeg.

Mae hanner poblogaeth y sir yn byw yn nhrefi Prestatyn a’r Rhyl, a dyma ran fwyaf Seisnig y sir, gyda’r gyfran sy’n gallu siarad Cymraeg yn 13.6% ar gyfartaledd rhyngddynt. Ychydig dros hanner y boblogaeth (53.3%) a aned yng Nghymru, ac mae’n llai na hanner mewn sawl ward.

Mae ychydig dros 11,000 o bobl yn byw yn y pentrefi, trefi a’r maestrefi cyfagos – Rhuddlan, Bodelwyddan, Dyserth a dinas Llanelwy. Mae’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg ychydig yn uwch yma – 18.5%.

Yn gyffredinol mae’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn codi wrth symud i fyny Dyffryn Clwyd, gyda rhwng tua chwarter a

thraean yn gallu siarad Cymraeg yn mhentrefi dwyreiniol a gwaelod y dyffryn. Y ddwy brif dref yw Dinbych, lle mae 33% yn siarad Cymraeg, a Rhuthun gyda chanran o 37.8%

Rhan Gymreiciaf y sir yw de-orllewin Dyffryn Clwyd a Edeirnion, lle mae dros 40% yn gallu siarad Cymraeg ar gyfartaledd, gan godi i dros 50% mewn pum cymuned. Cynwyd yw’r gymuned fwyaf Cymraeg gyda 58.4% o’r boblogaeth yn gallu siarad yr iaith, a’r unig gymunedau eraill sydd â mymryn dros hanner yn gallu siarad Cymraeg yw Gwyddelwern, Betws Gwerfyl Goch a Llandrillo yng nghyffiniau Corwen, a Llanrhaeadr yn Nyffryn Clwyd.

Mae llawer o’r ardaloedd hyn yn ffinio at ardaloedd cyfagos yn siroedd Conwy a Gwynedd, lle mae dros ddau draean o’r boblogaeth yn gallu sairad Cymraeg.

Yn olaf, mae’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn isel – tua 20 y cant ar gyfartaledd – yn nwyrain y sir, sef Llangollen a chymunedau cyfagos Llantysilio, Llandegla a Llanarmon yn Iâl.

**Uchod: Map yn dangos cymunedau sir Ddinbych lle mae 20% a mwy yn gallu siarad Cymraeg**

7

## **NODAU AC AMCANION**

## : **Prif nodau hir dymor y Fenter yw**

1. Normaleiddio'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yn Sir Ddinbych.

2. Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr a thrigolion diGymraeg ddysgu’r iaith

3. Sicrhau fod cyfleoedd i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth a defnydd o’r iaith.

4. Dylanwadu ar yr ystod eang o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, addysgiadol sy’n digwydd o fewn y sir er mwyn datblygu i fod yn drwyadl ddwyieithog neu Gymraeg.

## **Amcanion**

- i) Cynorthwyo’r sector wirfoddol i gynnig gwasanaeth dwyieithog.

- ii) Annog y di-Gymraeg i fabwysiadu agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith e.e. cymhathu mewnfudwyr a chynorthwyo’r dysgwyr i ddod yn rhugl ac i ddod yn rhan o’r gymdeithas Gymraeg.

- iii) Cynnal digwyddiadau newydd naill a’i yn annibynnol neu trwy gydweithio mewn partneriaeth ag eraill

- i bontio rhwng ysgol a chymdeithas.

- i ategu at waith y ddarpariaeth Cymraeg i oedolion.

- i gyfoethogi a bywiocáu bywyd Cymraeg yn gyffredinol.

- iv) Cefnogi gweithgareddau gwirfoddol sy’n bodoli eisoes yn Gymraeg.

- v) Annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg, a threfnu gweithgareddau ar eu cyfer.

- vi) Hyrwyddo trosglwyddiad o’r Gymraeg o fewn y teulu.

## **Safbwyntiau am y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol**

Gosodwyd safbwyntiau’r rhwydwaith o Fentrau Iaith am y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol mewn maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2021. Darllenwch y maniffesto ar wefan Mentrau Iaith Cymru.

8

## **BLAS AR WAITH Y FENTER YN 2022-2023**

Braf oedd gweld bod effaith pandemig Covid-19 ar addysg a chymdeithasu wedi lleihau erbyn dechrau 2022. Bu i’r gwersi a ddysgwyd yn ystod y cyfnod Covid am iechyd a diogelwch barhau yn ein meddyliau wrth gynllunio a chynnal gweithgareddau ond roedd egni newydd ar waith wrth weld grwpiau gwirfoddol cymunedol yn ail-gydiad mewn digwyddiadau cymdeithasol.

Wedi hir ymaros, a dwy flynedd o ohirio fe ddaeth Eisteddfod yr Urdd i Sir Ddinbych a chafwyd wythnos lwyddiannus iawn rhwng 30 Mai – 3 Mehefin. Buom fel Menter yn cefnogi pwyllgorau’r Eisteddfod yn ystod y blynyddoedd cynllunio, ac yn cefnogi’r Urdd wrth hyrwyddo’r Eisteddfod yn lleol. Ond hefyd, roedd maes yr Eisteddfod yn lleoliad pwysig i ni fel Menter gael rhannu a dathlu ein gwaith, a braf oedd medru croesawu Gweinidog y Gymraeg atom i’r babell er mwyn iddo gael blas ar weithgareddau Lego a Minecraft.

Yn unol ag amodau’r grant craidd gan Lywodraeth Cymru, roedd ein targedau diwygiedig yn dal i ganolbwyntio ar dri phrif faes a rheini’n deillio o Thema 2 ( _**Defnydd**_ o’r Gymraeg) rhaglen waith Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

## **1. Plant a Phobl Ifanc**

**2. Teuluoedd**

## **3. Y Gymuned**

- O dan y penawdau hynny buom yn gweithio tuag at:

- Mwy o blant a phobl ifanc yn defnyddio'r Gymraeg yn naturiol a hyderus tu allan i oriau addysg

- Codi'r lefel o ymwybyddiaeth am y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg/Cymreig a chynyddu'r nifer o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned.

I ddilyn, mae detholiad o’r math o waith roedd y Fenter yn ei wneud rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.   Blas yn unig sydd yma.  Ceir darlun mwy manwl a’r cyfle i weld lluniau ac ambell glip fideo o’r gweithgareddau ar ein gwefan ac ar ein tudalennau Facebook , X (Twitter) ac Instagram.

Roedd y gwaith yn cynnwys :

- i. Gweithgareddau i blant a phobl ifanc a theuluoedd

- ii. Gweithgareddau cymunedol

- iii. Cefnogi grwpiau cymunedol / gwirfoddol

- iv. Cefnogi ymgyrchoedd y Llywodraeth

- v. Fforwm Iaith – parhau i gydweithio a chynllunio gyda phartneriaid

- vi. Cefnogi a chydweithio gyda phartneriaid Cymraeg mewn addysg

- vii. Cyfathrebu â’r cyhoedd

- viii. Cefnogi busnesau

9

## **i. Gweithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd**

Trefnwyd 96 **o weithgareddau i blant a phobl ifanc** , gyda 3073 o blant 1-10 oed yn cymryd rhan a 308 o bobl ifanc 11-25 oed yn cymryd rhan ynddynt.

Diolch i nawdd gan y Loteri Genedlaethol a chynllun Haf o Hwyl, cafwyd cyfleoedd lu o gyfleoedd i gynnal gweithgareddau yn defnyddio Lego a Minecraft ar thema hanes lleol.

Rydym wedi datblygu cyfres Bocs Trysor Sir Ddinbych sy’n cynnwys sesiynau Lego a Minecraft yn ogystal â theithiau tywysedig lleol i blant.

Mae’r adnodd Minecraft sy’n parhau i dyfu bellach yn cynnwys sawl tref ac ardal yn Nyffryn Clwyd o fewn ein ‘byd’ ar ‘server’ arbennig i ni. Mae plant yn dysgu am eu hanes lleol (gydag ogwydd Gymreig) wrth fwynhau chwarae a chymdeithasu gyda’r offer ac mae’r Minecraft hefyd wedi cael ei gyflwyno i blant ar draws y gogledd wrth i ni gydweithio gyda Mentrau Iaith eraill i gynnal Clybiau Gemau Fideo rhithiol.

Rydym yn gweld galw cynyddol am ein sesiynau Lego a Minecraft gan ysgolion cynradd ac wrthi’n cynllunio i ddatblygu ein cynnig i ysgolion fel bod modd i’r pecyn fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Rhoddwyd sylw i Lego a Minecraft ar ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener yn Eisteddfod yr Urdd, lle cafwyd canmoliaeth gan Weinidog y Gymraeg wrth iddo ymweld â phabell y Mentrau Iaith.

Cafwyd llwyddiant gyda’r prosiect Bocs Trysor Sir Ddinbych yn ennill categori Plant a Phobl Ifanc yng ngwobrau cenedlaethol Y Mentrau Iaith ddiwedd mis Ionawr. Rhoddodd hyn hwb i ni o ran cyfleoedd PR ac edrychwn ymlaen at barhau gyda rhaglen cyffrous o weithdai Lego a Minecraft gydol y flwyddyn nesaf.

Yn ystod gwyliau’r haf, eto, diolch i nawdd cronfa Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru bu posib i ni gynnal gweithdai drama, gweithdai sgwennu creadigol a gweithdai sgwennu cân.

Fel rhan o’n cefnogaeth i bwyllgorau gwirfoddol Penwythnosau Drysau Agored Rhuthun a Dinbych (digwyddiadau treftadaeth flynyddol), cynhaliwyd gweithdai celf yn y ddwy dref gyda 32 o blant yn cymryd rhan dros ddau ddiwrnod llawn. Nodwyd pob un o’r rhieni pa mor wych oedd cael gweithgareddau Cymraeg ar benwythnosau. Gweithdy Celf Rhuthun Gweithdy Celf Dinbych

Wrth weld galw cynyddol gan rieni ym Mhrestatyn am weithgareddau Cymraeg tu allan i oriau ysgol, aethpwyd ati i drefnu gweithdai ukulele i ddau grŵp o blant 7- 11 oed, gyda 27 o blant yn cael cyfle i ddatblygu sgil newydd a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd 280 o blant gyfle i fynd allan o’u hysgolion ganol fis Medi i wylio sioe Y Mabinogi yn Nghastell Rhuddlan a Chastell Dinbych, a gan fod y sioe yn un ddwyieithog, roedd hyn wedi creu cyfle i ni ailgysylltu hefo ambell ysgol cyfrwng Saesneg hefyd er mwyn cyflwyno adnodd gwych i gefnogi eu rhaglenni Cymraeg Campus.

10

Gyda chyfleoedd lu yn ystod Chwarter 3 a ddaeth ar gefn Cymru’n chwarae peldroed yng **Nghwpan y Byd** , aethom ati i gynnal sawl gweithgaredd i blant a phobl ifanc. Esiamplau o hyn oedd:

**Twrnamaint Fifa yn yr hen Lŷs** dros ddau ddiwrnod mewn sesiynau ar ôl ysgol **Cystadleuaeth Het Bwced**

Pob ysgol yn Sir Ddinbych wedi derbyn pecynnau, a falch oeddem i weld disgybl o Sir Ddinbych yn dod yn drydydd yn genedlaethol! **Murlun Corwen**

Wedi trefnu i un o furluniau’r rhwydwaith cenedlaethol gael ei greu yng Nghorwen. - - - - - - - - https://www.misirddinbych.cymru/y mentrau iaith yn peintio cymrun goch gyda - - murluniau pel droed/

**Clwb Gemau Fideo rhithiol** Parhawyd gyda’r cydweithio â Mentrau Iaith eraill ar draws y gogledd i gynnal Clwb Gemau Fideo rhithiol yn ystod misoedd y gaeaf.

## **Cwis Dim Clem**

Yn rhan o weithgaredd cenedlaethol rhwydwaith y Mentrau Iaith, bu i 6 ysgol Gymraeg yn Sir Ddinbych gymryd rhan yn yr hydref. Yn y flwyddyn newydd cafwyd rownd ranbarthol i ogledd Cymru, ac yna’r rownd genedlaethol ym mis Mawrth.

Trefnwyd **20 gweithgaredd** i deuluoedd gydol y flwyddyn gyda 1000 o blant a 429 **o rieni/oedolion** yn cymryd rhan a llawer mwy yn derbyn gwybodaeth am fanteision y Gymraeg i’w plant trwy dulliau eraill yn **.** cynnwys ein gwaith i dargedu rheini ar y rhwydweithiau cymdeithasol

Wrth i’r Gwanwyn gyrraedd, a chyfyngiadau Covid-19 leihau, bu posib mynd yn ôl ati i gynnal gweithgareddau i deuluoedd wyneb yn wyneb. Bu croeso mawr i’r gweithgareddau hyn ond roedd mynd yn ôl ati i gynnal digwyddiadau yn ddiogel gan gadw at asesiadau risg ychwanegol yn golygu mwy o waith cynllunio a chyfathrebu. Esiamplau o’r gweithgareddau hyn oedd Helfa Wyau Pasg a drefnwyd ar y cyd â phwyllgor Neuadd bentref Groes, ger Dinbych, sesiynau Camau Cerdd yn Nantglyn a sioe Professor Llusern yng Nghyffylliog.

Gyda’r Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gynnal yn Ninbych ym mis Mai, roedd hyn yn gyfle euraidd i ni o ran manteisio ar gynulleidfa o deuluoedd ar y maes. Ond yn bwysicach i ni oedd medru targedu teuluoedd lleol o flaen llaw i’w hannog i ddod i’r Eisteddfod gan fod mynediad am ddim iddynt eleni, diolch i Lywodraeth Cymru.

Bu wythnos Eisteddfod yr Urdd yn ffocws mawr i ni yn ystod Chwarter 1 eleni, gan fod angen cynllunio digon o weithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar gyfer 6 diwrnod llawn ar y maes.

O ran gwaith i dargedu teuluoedd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, buom yn rhagweithiol yn datblygu ein perthynas gyda theuluoedd o fewnfudwyr o Syria. Roeddem wedi dod i nabod y teuluoedd hyn sydd bellach wedi ymgartrefu yn y Rhyl, Llanelwy a Llangollen mewn gwaith a wnaed yn ystod 2021. Daeth 18 o deuluoedd Syria /Sir Ddinbych (34 o oedolion / 46 o blant) ar y daith i’r Eisteddfod a braf iawn oedd, medru estyn y croeso arbennig iddyn nhw, tra bod cyfle wedi’i greu trwy

11

gydweithio â swyddogion MIFfaW i adeiladu ar y berthynas gyda theuluoedd eraill ar draws y gogledd ddwyrain.

Yn ystod gwyliau’r haf, diolch i gyllid ychwanegol Haf o Hwyl, cafwyd cyfle i roi profiad o sioe theatr yn yr awyr agored am ddim i 20 o deuluoedd (40 oedolion/60 o blant 5-12 oed yn bennaf). Daeth o leiaf 25 o deuluoedd eraill i weld y sioe a oeddem wedi bod yn hyrwyddo’n lleol ar ran y cwmni theatr.

Esiampl arall o weithgaredd llwyddiannus yn ystod gwyliau’r haf oedd sesiwn i rieni di-Gymraeg a’u plant bach. Cynhaliwyd sesiwn chwarae i’r plant er mwyn dod â rhieni atom am baned ac i gael cyngor a chefnogaeth ar sut i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn y cartref. Er nad oedd niferoedd yn uchel iawn, roedd yn sesiwn hynod ddefnyddiol i’r rhieni `meddai pob un ohonynt, gan ei fod yn gyfle i sgwrsio’n ddwys am eu hanghenion.

Wrth i’r Hydref gyrraedd, roedd cyfyngiadau Covid wedi hen ddiflannu a phleser oedd cael cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau i deuluoedd. Esiamplau o’r gweithgareddau hyn oedd:

- Hwyl **Calan Gaeaf** a gynhaliwyd ar y cyd â phwyllgor Neuadd bentref Groes, a sioe Calan Gaeaf gyda Professor Llusern yn Nhrefnant a Rhuthun.

- 4 dangosiad o ffilm newydd **Deian a Loli** trwy gydweithio â gwirfoddolwyr Theatr Twm o’r Nant, gyda bron i **280 o blant** a **70 o rieni** yn mwynhau.

- Ar 25 Tachwedd, cafodd **70 o deuluoedd** y fraint o gyfarfod **Sion Corn yn Neuadd y Dref, Dinbych** , a dechreuwyd **pob** sgwrs ganddo yn Gymraeg. Roedd 3-4 ym mhob grŵp teulu ac fe ddosbarthwyd **240** o anrhegion i **blant** . Cafwyd sawl sylw a chanmoliaeth gan rieni am y fantais o gael Sion Corn Cymraeg, ac na fyddent wedi dod pe na ba’i wedi gallu’r Gymraeg.

- **Taith Magi Ann** ym mis Rhagfyr i bartïon Nadolig Miri Meithrin (ger Rhuthun), Twm o’r Nant a Snuggles (Dinbych), Tŷ Traeth (y Rhyl) a Puddleducks (Trefnant).

- **Sioe Hud a Lledrith Hanner Tymor** – cynhaliwyd dwy sioe yn ystod hanner tymor Chwefror, un ym Mhrestatyn a’r ail yng Nghorwen

12

## **ii. Gweithgareddau cymunedol**

Cynhaliwyd **24 o weithgareddau cymunedol** yn ystod y flwyddyn. Rydym yn amcangyfrif fod dros 1,453 o oedolion wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, a 350 o blant. (Hyn heb gyfri’r niferoedd lu a oedd wedi mynychu gweithgareddau eraill a drefnwyd gan grwpiau a gefnogwyd gennym ee Gŵyl Rhuthun)

Rydym wedi parhau i gefnogi grwpiau gwirfoddol megis Grŵp Amgueddfa Dinbych, Theatr Twm o’r Nant, Sgyrsiau Cwmulus, Prosiect y Farchnad Fenyn, Gŵyl Rhuthun, Partneriaeth De Sir Ddinbych, Cymdeithas Lenyddol y Glannau, Cymdeithas Gymraeg Dinbych, Menter Gymraeg Rhuddlan, Yr Hen Lŷs Rhuthun, Gŵyl Rhuthun, Pwyllgor Dathlu Dydd Owain Glyndŵr a Gŵyl Ganol Haf Dinbych a sawl grŵp / elusen arall wedi cael cefnogaeth gennym o ran cyfieithu a pholisïau iaith. Llawer iawn o’r grwpiau hyn yn cysylltu i ofyn i ni helpu hyrwyddo cyfarfodydd neu weithgareddau hefyd ar ein rhwydweithiau cymdeithasol – weithiau gan nad oes modd ganddynt gyrraedd cynulleidfaoedd yn ddigidol eu hunain.

Un esiampl o fantais ein cefnogaeth ydy’r bartneriaeth rhwng Amgueddfa Gwefr gwirfoddol yn Ninbych a chriw o wirfoddolwyr Cwmulus sydd wedi bod yn cynnal sgyrsiau ar lein ers dechrau’r Cyfnodau Clo yn 2020. Buom yn dylanwadu ac yn cefnogi’r grŵp gydol 2020-21, ac maent bellach yn parhau i raglennu sgyrsiau Cymraeg ar lein diolch i’r gefnogaeth ac anogaeth maent wedi’i dderbyn gennym fel Menter, ac wedi nodi llwyddiant y ddarpariaeth Gymraeg yn gyhoeddus.

Cynhaliwyd sesiynau canu gyda dysgwyr, yn defnyddio’r llyfryn Mae’n Wlad i Mi (cyfnod Cwpan y Byd) yn Ysgol Pen Barras, Gŵyl Tŷ Gwyrdd , y Llew Coch, Cyffylliog a pnawn i ddysgwyr yn Ninbych ar ddydd Santes Dwynwen >>> Calon Lân

Cefnogwyd pwyllgor gwirfoddol Theatr Twm o’r Nant i gynnal 6 digwyddiad Cymraeg yn ystod yr Hydref a’r Gaeaf a chefnogwyd Menter Gymraeg Rhuddlan i gynnal dwy gig – un ohonynt ar gyfnod Dydd Miwsig Cymru.

## **Cefnogi Dysgwyr Cymraeg**

Trwy gydweithrediad â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg a Mentrau Iaith Cymru buom yn cynllunio a darparu teithiau tywysedig Cymraeg i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg o bob lefel. Cafwyd taith lwyddiannus gyda Iolo Williams dechrau mis Mai, a roddodd gyfle i ni lansio cyfres o deithiau eraill lleol dros yr haf.

## **iii.Cefnogi grwpiau cymunedol / gwirfoddol**

Cefnogwyd sawl grŵp gwirfoddol yn ystod y flwyddyn, yn cynnwys pwyllgor Gŵyl Ganol Haf Dinbych, pwyllgorau Drysau Agored Rhuthun a Dinbych, Papurau Bro, pwyllgor Dydd Owain Glyndŵr a phwyllgor Gŵyl Rhuthun. Nodwyd fod heriau yn parhau i wynebu grwpiau gwirfoddol, ac yn arbennig rheini sydd mewn ardaloedd gwledig a Chymraeg, gyda llai o bobl yn fodlon bod ar bwyllgorau trefnu.

13

## **iv. Cefnogi ymgyrchoedd y Llywodraeth**

Parhawyd i rannu ac ail-drydar ymgyrchoedd ac ymgynhoriadau perthnasol gan Lywodraeth Cymru ar dudalennau Facebook a Twitter Menter Iaith Sir Ddinbych.

## **v. Fforwm Iaith Sirol (Partner Iaith Sir Ddinbych) a vi. Cefnogi a chydweithio gyda phartneriaid Cymraeg mewn addysg**

Cydlynwyd ein fforwm iaith sirol ar 22 Medi 2022 a 23 Ionawr 2023 gyda cynrychiolaeth yn mynychu o’r Cyngor Sir, Merched y Wawr, CFfI Clwyd, Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Popeth Cymraeg a Choleg Cambria, yn ogystal a ninnau. Mwy na dim, fforwm i rannu profiadau, blaenoriaethau ac adrodd ar heriau a chyfleoedd oeddynt, ond hefyd yn gyfle i drafod syniadau o ran cydweithio ar ambell beth, er engraifft presenoldeb yng Ngharnifal Dinbych i hyrwyddo’r Gymraeg.

Mynychwyd cyfarfodydd y Grŵp Strategol Cymraeg Mewn Addysg ar 19 Hydref 2022 a 24 Ionawr 2023, yn ogystal â sawl is-bwyllgor newydd a sefydlwyd yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer gweithredu deilliannau 1, 2 5 a 7.

## **vii. Cyfathrebu â’r Cyhoedd**

Rhannu negeseuon a chynyddu cynulleidfaoedd

## **Rhwydweithiau cymdeithasol**

Gwelsom gynnydd da yn y nifer yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn hon, yn adlewyrchu ein cynnydd yn y defnydd o ddulliau digidol i gyrraedd pobl o bob oed a diddordeb.

**Cyhoeddwyd o leiaf 1000 eitem** ar y gwahanol gyfrifon digidol dros y flwyddyn (hynny ddim yn cynnwys ail-drydariadau a rhannu gan sefydliadau eraill, er bod hi’n werth nodi bod hynny’n digwydd o leiaf 20 gwaith yr wythnos hefyd). Mae dadansoddiad o’r cyfnod ar facebook yn dangos bod y postiadau mwyaf poblogaidd wedi cyrraedd o dros 4,000 o linellau amser.

Yn ogystal â chyhoeddi negeseuon ar y gwahanol llwyfannau digidol, byddwn yn gyrru eitemau i’r papurau bro, i’r papurau wythnosol lleol, Radio Cymru, Heno (S4C), Golwg, Daily Post – pan fydd yr eitemau’n berthnasol i’w cynulleidfaoedd.

Bydd posteri hefyd yn cael eu creu ar gyfer ein gweithgareddau, a rheini’n cael eu dosbarthu i llyfrgelloedd, siopau Cymraeg, busnesau a chanolfannau lleol i’r digwyddiad dan sylw.

## **viii. Busnesau**

Mae busnesau bach y sir yn parhau i gysylltu hefo ni am gefnogaeth – fel arfer angen cyfieithu ond weithiau syniadau am sut i gyrraedd mwy o farchnad Gymraeg a Chymreig. Amcangyfrifwn i ni fod wedi delio â 140+ o fusnesau bach yn ystod y flwyddyn hon, yn arbennig trwy weithio mewn ffeiri megis Gŵyl Eirin Dinbych, Ffair Nadolig Dinbych a thrwy gynnal cystadleuaeth Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi ym Mhrestatyn, Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun.

14

## **DATBLYGU A CHRYFHAU’R FENTER**

Mae’r Fenter yn ymfalchïo yn y farc ansawdd Elusen Ddibynadwy a ddyfarnwyd am 3 mlynedd yn 2020 ac wedi parhau i gynnal y safonau llywodraethu a phrosesau gydol 2022-23. _(N.B. bellach wedi derbyn marc safon am yr eilwaith ym mis Medi 2023)_

## **DIOLCH**

Diolch i holl rieni, plant a phobl ifanc am droi atom yn y Fenter Iaith i chwilio am gefnogaeth neu weithgareddau gydol y flwyddyn.

Rydym yn falch o fod wedi parhau i wasanaethu trigolion Sir Ddinbych, drwy gynnig rhywfaint o gymorth o ran eu hanghenion ieithyddol, ac yn falch o fod wedi dwyn perswâd ar eraill o ran rhoi cynnig ar ddefnyddio’r Gymraeg a manteisio o’i defnyddio, boed fel dysgwyr, grwpiau cymunedol neu fusnesau.

Diolchwn hefyd i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser yn ystod y cyfnod hwn, i helpu llywio gwaith y Fenter, neu i’n cefnogi wrth gynnal gweithgareddau neu rannu negeseuon.

_Ruth Williams Prif Swyddog Hydref 2023_

15

## **Hoffai Menter Iaith Sir Ddinbych ddiolch i’w noddwyr a’n partneriaid am eu cymorth yn ystod 2022-2023**

Diolch hefyd i swyddogion a phwyllgor Mentrau Iaith Cymru am eu cefnogaeth a chydweithrediad gwerthfawr gydol y flwyddyn.

16

## **Rhif cofrestredig y cwmni: 6204415 Rhif yr elusen: 1120223**

**Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

**Datganiadau Ariannol Am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2023 Sydd Wedi’u Paratoi Heb Archwiliad Ariannol.**

## **Hoffai Menter Iaith Sir Ddinbych ddiolch i’w noddwyr am eu cymorth yn ystod 2022-2023**

**----- Start of picture text -----**

Cyngor Tref Prestatyn
Prestatyn Town Council
**----- End of picture text -----**

Diolch hefyd i swyddogion a phwyllgor Mentrau Iaith Cymru am eu cefnogaeth a chydweithrediad gwerthfawr gydol y flwyddyn.

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

|**Cynnwys**||

||**Tudalen**|
|Adroddiad yr Ymddiriedolwyr|1 - 5|
|Adroddiad yr archiliwr annibynnol|6|
|Datganiad o weithgareddau ariannol|7|
|Mantolen|8|
|Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol|9 – 18|

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **CYFEIRNOD A MANYLION GWEINYDDOL.**

Enw'r elusen gofrestredig Menter Iaith Sir Ddinbych Rhif cofrestru'r elusen: 1120223 Rhif cofrestredig y cwmni 6204415 (Cymru a Lloegr) **Swyddfa gofrestredig** 6 Heigad DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3LE

## **Cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr**

Y cyfarwyddyr ac ymddiriedolwyr a fu’n gwasanaethu’r elusen yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2022 hyd at 31 Mawrth 2023 oedd:

Cadeirydd Arwel Roberts Is-gadeirydd Bethan Cartwright Trysorydd Owain Gwyn Morris Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr eraill Anna Lloyd Edwards Lowri Haf Ellis Catrin Eynon Alaw Griffith Alice Jones (hyd at 06/01/2023) Menna Eluned Jones Gwenan Prysor Emrys Wynne Ysgrifennydd Anna Lloyd Edwards **Bancwyr** HSBC 17 Stryd y Dyffryn DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3AG **Cyfrifwyr** Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ

1

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **Strwythur a rheolaeth**

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen gofrestredig, rhif 1120223, wedi ei sefydlu fel cwmni cyfyngedig, rhif 6204415. Mae cyfansoddiad y cwmni yn unol â chyfansoddiad elusennol a chwmnïau cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol. Cofrestrwyd Menter Iaith Sir Ddinbych fel elusen gofrestredig, ac fel cwmni cyfyngedig, ar 5 Ebrill 2007.

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych (yr ‘Elusen’) yn cael ei gweinyddu a’i rheoli yn ôl y memorandwm ac erthyglau cymdeithasol y cwmni, a gan aelodau bwrdd y cyfarwyddwyr.

Mae aelodaeth yr Elusen yn agored i unigolion dros 18 oed ac unrhyw gymdeithas, gorfforedig neu anghorfforedig, sydd yn cytuno ag amcanion a gwaith yr Elusen, heb wahaniaethu rhwng pobl o safbwynt eu cyfoeth, gwleidyddiaeth, hil, crefydd, rhyw neu anabledd. Bydd i bob aelodfudiad benodi unigolyn i’w gynrychioli ac i bleidleisio.

Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn unfrydol ac am reswm da, roi terfyn ar aelodaeth unrhyw unigolyn neu aelod-fudiad: cyhyd a bod gan yr unigolyn dan sylw neu gynrychiolydd penodedig yr aelod-fudiad dan sylw'r hawl i wrandawiad gan y Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yng nghwmni ffrind, cyn y gwneir penderfyniad terfynol.

## **Bwrdd y cyfarwyddwyr**

Rheolir busnes yr Elusen gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a fydd yn atebol i'r aelodau. Ni fydd gan unrhyw berson hawl i weithredu fel Cyfarwyddwr, boed hynny am, y tro cyntaf neu dro dilynol, hyd nes y bydd wedi llofnodi datganiad derbyn parodrwydd i weithredu er budd yr Elusen yn llyfr cofnodion Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

Bydd Bwrdd y cyfarwyddwyr yn cynnwys dim llai na 5 o gyfarwyddwyr a dim mwy na 14 o gyfarwyddwyr.

Gall y Cyfarwyddwyr ar unrhyw adeg gyfethol unrhyw berson i Fwrdd y Cyfarwyddwyr cyn belled na fydd mwy nag un rhan o dair o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn gyfetholedig a chyn belled na ragorir ar yr uchafswm a benodir yn erthygl 39, ac na wneir rhagor na thri chyfetholiad o’r fath rhwng un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r nesaf. Rhaid i bob person a gyfetholir fel hyn ymddiswyddo yn y Cyfarfod Blynyddol yn dilyn eu cyfetholiad, ond byddent yn gymwys i’w hailbenodi wedi hynny.

Ceir talu holl gostau teithio, gwesty a threuliau eraill rhesymol cyfarwyddwyr mewn perthynas â’u presenoldeb mewn cyfarfod Cyfarwyddwyr, pwyllgorau neu gyfarfod cyffredinol neu mewn perthynas â chyflawni eu dyletswyddau, ond fel arall ni fyddant yn derbyn tal.

2

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **Nodau'r elusen**

1. Normaleiddio'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yn Sir Ddinbych.

2. Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr a thrigolion di-gymraeg ddysgu’r iaith

3. Sicrhau fod cyfleoedd i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth a defnydd o’r iaith. 4. Dylanwadu ar yr ystod eang o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, addysgiadol sy’n digwydd o fewn y sir er mwyn datblygu i fod yn drwyadl ddwyieithog neu Gymraeg.

## **Amcanion yr elusen**

- i) Cynorthwyo’r sector wirfoddol i gynnig gwasanaeth dwyieithog.

- ii) Annog y di-gymraeg i fabwysiadu agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith e.e. cymhathu mewnfudwyr a chynorthwyo’r dysgwyr i ddod yn rhugl ac i ddod yn rhan o’r gymdeithas Gymraeg.

- iii) Cynnal digwyddiadau newydd naill a’i yn annibynnol neu trwy gydweithio mewn partneriaeth ag eraill

- i bontio rhwng ysgol a chymdeithas.

- i ategu at waith y ddarpariaeth Cymraeg i oedolion.

- i gyfoethogi a bywiocáu bywyd Cymraeg yn gyffredinol.

- iv) Cefnogi gweithgareddau gwirfoddol sy’n bodoli eisoes yn Gymraeg.

- v) Annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg, a threfnu gweithgareddau ar eu cyfer.

- vi) Hyrwyddo trosglwyddiad o’r Gymraeg o fewn y teulu.

## **Darparu budd i’r cyhoedd**

Wrth gynllunio ein gwaith am y flwyddyn, mae aelodau’r pwyllgor sy’n gyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau a’r budd i’r cyhoedd.  Yn benodol, ceisiwn gynorthwyo a chefnogi’r gymuned yn ei chyfanrwydd o ran hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan bob oedran.  Rydym yn gweithio ar draws y sir gyfan a darparwn gyfleoedd i bobl wella proffil y Gymraeg a dwyieithrwydd, drwy ddarparu cyngor, cymorth, prosiectau a gweithgareddau penodol.  Ein corff ni yw’r unig un â’r brîff penodol i normaleiddio’r Gymraeg/dwyieithrwydd mewn bywyd teuluol a bywyd cyhoeddus ar draws sbectrwm oedran y sir.  Gweithiwn ar y cyd gyda phartneriaid allweddol megis yr Urdd a Mudiad Meithrin a darparwyr statudol megis ysgolion a’r Cyngor Sir.  Rydym yn gweithio gyda chyrff eraill sy’n ymwneud â darparu gwersi Cymraeg i oedolion hefyd gan gynorthwyo i ymestyn y cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.  Mae ein deunyddiau cynnig cyngor a marchnata ar gael bob amser, ac mae’r Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr yn cytuno ar dargedau ar gyfer gwaith cymunedol yn flynyddol.

3

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **Adolygiad ariannol**

Mae’r prif weithgareddau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys rhai i blant a phobl ifanc, mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol eraill. Defnyddir yr holl incwm a dderbynnir i wella’r gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd, p’un ai ar y ffôn, drwy gyfrwng e-bost neu wyneb yn wyneb. Ceisiwn sicrhau presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol, gan dargedu’r cyhoedd drwy gynnig cyngor am ddim a gweithgareddau neu weithdai celfyddydol, llenyddol, digidol a rhai sy’n addas i siaradwyr Cymraeg rhugl neu siaradwyr Cymraeg newydd.

## **Campau a gyflawnwyd**

Am ddarlun mwy manwl o weithgareddau’r flwyddyn sy’n cyflawni nodau ac amcanion yr elusen ac yn rhoi budd i’r cyhoedd gweler Adroddiad Blynyddol yr elusen.

## **Perfformiad Ariannol yr Elusen**

Mae cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2023 wedi codi o £115,449 i £123,456, sef cynydd o £8,007 (6.9%) ar y flwyddyn flaenorol.  Mae’r gyfradd llog yn parhau i fod yn isel ond wedi codi erbyn diwedd y flwyddyn a derbyniwyd £103 o incwm buddsoddiad yn unig am y flwyddyn (2022 - £3).  Mae cyfanswm yr adnoddau a dreuliwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2023 wedi cynyddu o £111,154 i £120,350 sef tyfiant o £9,196 (8.3%) ar y flwyddyn flaenorol.  Cafwyd gwarged felly o £3,106 am y flwyddyn i gymharu â gwarged o £4,295 am y flwyddyn flaenorol.  Mae mwy o fanylder i’w weld yn Adroddiad Blynyddol yr elusen.

## **Polisi Cronfeydd**

Mae’n rhan o bolisi’r Elusen i gadw cronfeydd anghyfyngedig sef y cronfeydd rhyddion, ar lefel sy’n hafal i tua 3 mis o dreuliau anghyfyngedig.  Mae hyn yn caniatáu cronfa ddigonol i dalu costau rheoli, gweinyddu a chynnal yr Elusen.

## **Polisi Buddsoddiad**

Yr amcan buddsoddiad yw diogelu'r buddsoddiadau cyfredol yn erbyn chwyddiant ac i gael incwm rhesymol yn ôl. Mae perfformiad y buddsoddiadau yn cael eu hadolygu ar sail gyson trwy eu cymharu gyda maincfesuriad addas.

## **Rheolaeth Risg**

Gwnaed arolwg gan y Cyfarwyddwyr ym meysydd busnes a gweithredu’r Elusen a gallant gadarnhau y byddai’r Elusen mewn sefyllfa i liniaru unrhyw risg.

## **Cynlluniau ar gyfer y dyfodol**

Mae’r Elusen yn parhau i weithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru,  Cyngor Sir Ddinbych a phartneriaid eraill i  hybu’r iaith Gymraeg drwy Sir Ddinbych gyfan. Mae’r Elusen hefyd yn parhau i ddatblygu presenoldeb ar y we a chyfryngau cymdeithasol drwy’r wefan a rhwydweithiau cymdeithasol, a hyn wedi dod yn bwysicach dros y blynyddoedd ddiwethaf wrth i batrymau cyfathrebu a chymdeithasu newid.  Mae’r Elusen bellach wedi’i ddyfarnu’n Elusen Ddibynadwy gan yr NCVO. Golyga hyn bod prosesau yn eu lle i roi sicrwydd i bartneriaid ac arianwyr a photensial i ddenu mwy o fuddsoddiad a gwaith mewn partneriaeth.

4

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **Datganiad o Gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr**

Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr ar Fenter Iaith Sir Ddinbych at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi adroddiad yr ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifeg y DU (Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig).

Mae cyfraith cwmnïau yn gofyn bod yr ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi safbwynt cywir a theg ar faterion y cwmni elusennol fel y mae pethau ac o'r ffynonellau sy'n dod i mewn a defnydd y ffynonellau, gan gynnwys incwm a gwariant y cwmni elusennol dros y cyfnod hwnnw. Fel rhan o waith paratoi'r datganiadau ariannol, bydd gofyn i'r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:

- Dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu rhoi ar waith yn gyson

- Dilyn dulliau ac egwyddorion Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen

- Beirniadu ac amcangyfrif yn rhesymol ac yn bwyllog

- Paratoi'r datganiadau ariannol yn seiliedig ar fusnes sydd ar fynd oni bai ei bod yn anaddas cymryd y bydd y cwmni elusennol yn parhau mewn busnes.

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion ariannol digonol sy'n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, beth ydy sefyllfa ariannol y cwmni elusennol ac yn eu galluogi nhw i sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda Deddf Cwmnïau 2006. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r cwmni elusennol ac felly hefyd dros gymryd camau rhesymol er mwyn rhwystro a datgelu unrhyw dwyll neu anghysondeb arall.

Cafodd adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ei fabwysiadu ar  18 Hydref 2023 a’i arwyddo ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr gan:

**Llofnod** _A Edwards_ **Enw llawn Anna Lloyd Edwards Safle Ysgrifennydd**

5

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CWMNI ELUSENNOL MENTER IAITH SIR DDINBYCH (‘y Cwmni’)**

Adroddaf i’r ymddiriedolwyr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2023.

## **Cyfrifoldebau a’r sail adrodd**

Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (a hefyd ei gyfarwyddwyr at ddibenion y gyfraith cwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).

Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archiliwad ariannol o gyfrifon y Cwmni o dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael archwiliad annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m harchwiliad o gyfrifon eich elusen fel y cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’).  Wrth gynnal fy archwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.

## **Datganiad yr archwiliwr annibynnol**

Cwblheais fy archwiliad.  Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas â’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu:

- bod cofnodion cyfrifyddu heb eu cadw ar gyfer y Cwmni fel sy’n ofynnol gan adran 386 o Ddeddf Cwmnïau 2006; neu

- nid yw’r cyfrifon yn cyfateb â’r cofnodion hynny; neu

- nid yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion cyfrifyddu perthnasol o dan adran 396 o Ddeddf 2006 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun ‘gwir a theg’ nad yw’n fater i’w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; neu

- nid yw’r cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â dulliau ac egwyddorion y Datganiad o Arferion Cymeradwy ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau gan elusennau yn gymwys i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.

Arwyddwyd: _R A Roberts_

Dyddiad: 18 Hydref 2023

R A Roberts, BSc, FCA Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ

6

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **Datganiad o weithgareddau ariannol (yn cynnwys crynodeb o gyfrif incwm a gwariant) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2023**

|||2023|2023|2023|2022|

|Nodyn||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|||Anghyfyngedig|Cyfygedig|Cronfeydd|Cronfeydd|

|**Incwm**||||||
|**Incwm a gwaddoliadau**||||||
|Rhoddion a chymynroddion|3|100,127|-|100,127|95,174|
|Gweithgareddau elusennol|4|14,510|-|14,510|5,845|
|Gweithgareddau masnachu arall|5|3,716|-|3,716|5,686|
|Incwm arall|6|5,000|-|5,000|8,741|
|Buddsoddiant|7|103|-|103|3|

|Cyfanswm incwm||123,456|-|123,456|115,449|

|**Gwariant**||||||
|Gwariant ar weithgareddau||||||
|elusennol|8|118,061|2,289|120,350|111,154|

|Cyfanswm gwariant||118,061|2,289|120,350|111,154|

|**Incwm / gwariant net**|11|**5,395**|**(2,289)**|**3,106**|**4,295**|
|**Trosglwyddiadau gros rhwng**||||||
|**cronfeydd**||**3,237**|**(3,237)**|**-**|**-**|

|**Symudiad net yn y cronfeydd**||**8,632**|**(5,526)**|**3,106**|**4,295**|
|Cyfanswm cronfeydd||34,507|5,526|40,033|35,738|
|01 Ebrill 2022||||||

|**Cyfanswm cronfeydd**||**43,139**|**-**|**43,139**|**40,033**|
|**31 Mawrth 2023**||=======|=======|=======|=======|

Mae holl weithgareddau’r cwmni yn cael eu hystyried yn rhai parhaol.

Nid oedd gan y cwmni enillion na cholledion heblaw am y gwarged am y flwyddyn.

Mae’r nodiadau ar dudalennau 9 i 18 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma.

7

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2023**

||**Nodyn**||**2023**||**2022**|

|**Asedau sefydlog**||||||
|Asedau cyffyrddadwy|16||2,484||3,313|
|**Asedau cyfredol**||||||
|Dyledwyr|17|1,589||1,602||
|Arian yn y banc||41,170||37,609||
|Arian mewn llaw||63||5||

|||42,822||39,216||

|**Credydwyr -yn daladwy**||||||
|**o fewn blwyddyn**|18|2,167||2,496||

|**Asedau cyfredol net**|||40,655||36,720|

|**Asedau net**|||**£43,139**||**£40,033**|

|**Cronfeydd wrth gefn**||||||
|Cronfeydd anghyfyngedig|19||43,139||34,507|
|Cronfeydd cyfyngedig|19||-||5,526|

|**Cyfanswm cronfeydd**|||**£43,139**||**£40,033**|

Roedd gan y cwmni hawl i eithrio rhag archwilio’r datganiadau ariannol yn rhinwedd adran 477 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006 yn berthnasol i gwmnïau bychan.

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni gael archwiliad o’r datganiadau ariannol am y flwyddyn berthnasol yn unol ag adran 476;

Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu dyletswyddau i gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf ynglŷn â chadw cofnodion cyfrifyddu a pharatoi’r datganiadau ariannol.

Y mae’r datganiadau ariannol yma wedi eu paratoi mewn cytundeb â’r ddarpariaeth arbennig adran XV o ddeddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bach ac yn unol â FRS 102 SORP.

Mabwysiadwyd y datganiadau ariannol hyn gan Fwrdd yr Cyfarwyddwyr ar 18 Hydref 2023 ac arwyddwyd ar eu rhan gan:

## **Llofnod:** _Owain Morris_

## **Owain Gwyn Morris Trysorydd - Cyfarwyddwr**

Mae’r nodiadau ar dudalennau 9 i 18 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma

8

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **1 Gwybodaeth Statudol**

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn gwmni cyfyngedig drwy warant wedi'i gorffori yng Nghymru, yn y DU. Y swyddfa gofrestredig ydy 6 Heigad, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 3LE.

Caiff y datganiadau ariannol eu cyflwyno mewn punnoedd sterling (£), arian gweithredu'r cwmni, a'i dalgrynnu at y bunt agosaf.

Mae'r polisïau cyfrifyddu arwyddocaol sydd wedi'u defnyddio wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn wedi'u gosod isod. Mae'r polisïau wedi'u defnyddio yn gyson gyda phob blwyddyn gaiff ei chyflwyno, oni bai y nodir yn wahanol.

## **2 Polisïau Cyfrifyddu**

## **Sail paratoi'r datganiadau ariannol**

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sy'n endid budd cyhoeddus o dan FRS102, wedi'u paratoi yn unol â Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen (FRS102)  'Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arferion Argymelledig sy'n berthnasol i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (mewn grym 1 Ionawr 2019)', Safon Adrodd Ariannol 102 'Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2006. Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi yn unol â'r confensiwn costau hanesyddol.

## **Incwm**

Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith bydd gan yr elusen hawl dros yr arian.

## **Incwm o weithgareddau elusennol**

Mae incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm wedi'i dderbyn trwy gytundeb neu lle mae hawl dros arian grant yn dibynnu ar amodau perfformio penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod wrth i'r gwasanaethau cysylltiedig gael eu darparu ac wrth gaffael yr hawl, bydd modd mesur tebygrwydd faint gaiff ei dderbyn a'r swm ei hun gyda digon o ddibynadwyedd.   Caiff incwm ei ohirio pan gaiff swm ei dderbyn cyn perfformio'r gwasanaeth neu ddigwyddiad y mae'n gysylltiedig ag o.

## **Incwm o fuddsoddiad**

Caiff incwm o fuddsoddiad ei gydnabod pan gaiff ei derbyn.

## **Gwariant**

Caiff dyledion eu cydnabod fel gwariant unwaith y bydd gorfodaeth ymarferol neu gyfreithiol sy'n ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debyg y bydd angen trosglwyddo buddion economaidd wrth ei dalu a bydd modd mesur swm yr orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff gwariant ei ystyried ar sail croniadau ac mae wedi'i ddosbarthu o dan benawdau sy'n crynhoi'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r categori. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw DAW nad oes modd ei hawlio yn ôl.

Mae ‘gwariant elusennol’ yn cynnwys y costau hynny mae'r elusen wedi'i wario wrth ddarparu ei gweithgareddau a'i gwasanaethau ar gyfer ei buddiolwyr. Mae'n cynnwys costau y mae modd eu dyrannu yn uniongyrchol tuag at weithgareddau o'r fath a'r costau hynny o natur anuniongyrchol sy'n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.

9

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **2 Polisïau Cyfrifyddu (parhad)**

## **Gwariant (parhad)**

‘Costau cefnogi’ ydy'r costau hynny sy'n angenrheidiol er mwyn darparu gweithgaredd ond er hynny, tydyn nhw ddim yn cynhyrchu neu yn creu allbwn gweithgaredd yr elusen. Mae hyn yn cynnwys costau llywodraethol sef y costau hynny sy'n gysylltiedig gyda chwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen ac yn cynnwys y ffioedd a chostau cyfrifyddu sy'n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen yn ogystal â rhan o'r cyflogau sy'n seiliedig ar fras amcan o'r amser a dreuliwyd ar yr adran hon.

## **Asedau sefydlog cyffyrddadwy**

Mae asedau sefydlog wedi'u cofnodi trwy gostau i ddechrau.

## **Dibrisiad**

Caiff dibrisiad ei gyfrifo er mwyn dileu cost ased, llai o'i werth sy'n weddill dros fywyd economaidd defnyddiol yr ased fel a ganlyn:

Offer swyddfa - lleihau'r cyfanswm o 25%

## **Treth**

Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.

## **Cyfrifyddu cronfeydd**

Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i'r elusen eu defnyddio, fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn ddoeth, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud ag amcanion yr elusen.

Mae cronfeydd cyfyngedig wedi'u derbyn yn amodol gan y rhoddwyr at y diben sydd wedi'i bwriadu ar eu cyfer.

## **Offerynnau ariannol**

Does gan yr elusen ddim ond asedau ariannol a dyledion ariannol o natur sy'n cymhwyso fel offerynnau ariannol syml. Caiff offerynnau ariannol syml eu hadnabod yn gyntaf drwy werth trosglwyddo ac yna eu mesur trwy eu gwerth talu.

## **Dyledwyr**

Caiff dyledwyr masnachu a dyledwyr eraill eu cydnabod trwy'r swm talu sy'n ddyledus ar ôl cynnig unrhyw ostyngiad masnachu.

Caiff taliadau o flaen llaw eu prisio ar y swm net a dalwyd o flaen llaw ar unrhyw ostyngiad dyledus.

## **Credydwyr**

Caiff credydwyr eu cydnabod lle bo gan yr elusen orfodaeth bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad blaenorol fydd mwy na thebyg yn arwain at drosglwyddo cronfeydd at drydydd parti a bydd modd mesur neu amcangyfrif y swm sy'n ddyledus er mwyn talu’r orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff credydwyr gan amlaf eu cydnabod trwy eu swm talu ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw ostyngiadau masnachu sy'n ddyledus.

## **Costau pensiwn**

Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun cyfraniad pensiwn diffiniedig. Caiff costau cyfraniadau sy'n daladwy i gynllun pensiwn y cwmni elusennol eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.

10

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **2 Polisïau Cyfrifyddu (parhad)**

## **Costau pensiwn (parhad)**

Mae'r cwmni elusennol yn gwneud cyfraniadau i gynlluniau pensiwn personol ar ran ei gyflogai. Caiff costau eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.

## **3 Rhoddion a chymynrhoddion**

|**Rhoddion a chymynrhoddion**|||||

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|Anghyfynedig||Cyfyngedig|2023|2022|

|Grant Llywodraeth Cymru|85,603|-|85,603|79,984|
|Grant Cyngor Sir Ddinbych|14,524|-|14,524|14,190|
|Grant Arnold Clarke Community Fund|
-|-|-|1,000|

||100,127|-|100,127|95,174|

## **4 Gweithgareddau elusennol**

|**Gweithgareddau elusennol**|||||

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|
|Anghyfynedig||Cyfyngedig|2023|2022|

|Grant Cyngor Tref Dinbych|-|-|-|1,650|
|Grant Mentrau Iaith Cymru|-|-|-|3,750|
|Grant Mentrau Iaith Cymru Haf o Hwyl|
9,780|-|9,780|-|
|Grant Cyngor Sir Dinbych Haf o Hwyl|3,380|-|3,380|-|
|Grant Mentrau Iaith Cymru Dysgwyr|1,000|-|1,000|-|
|Grant Cyngor Tref Rhuddlan|-|-|-|350|
|Grant Cyngor Tref Prestatyn|350|-|350|95|

||14,510|-|14,510|5,845|

|**Gweithgareddau masnachu eraill**|||||
||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|Anghyfynedig||Cyfyngedig|2023|2022|

|Gweithgareddau a phrosiectau|3,029|-|3,029|5,286|
|Incwm Arall|437|-|437|-|
|Prosiect y Glannau rhentu desg|250|-|250|400|

||3,716|-|3,716|5,686|

## **5 Gweithgareddau masnachu eraill**

11

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

|**6**|**Incwm Arall**||||||

||||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|||Anghyfyngedig||Cyfyngedig|2023|2022|

||Cyngor Sir Ddinbych – Covid 19||-|-|-|2,000|
||Moondance Foundation – Covid|19|-|-|-|741|
||DVSC – Covid 19||-|-|-|2,000|
||Lwfans Nawdd Cymdeithasol||5,000|-|5,000|4,000|

||||5,000|-|5,000|8,741|

|**7**|**Incwm o fuddsoddiant**||||||
||||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|||Anghyfyngedig||Cyfyngedig|2023|2022|

||Llog derbyniwyd||103|-|103|3|

||||103|-|103|3|

12

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **8 Gwariant ar weithgareddau elusennol**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|

|Anghyfynedig||Cyfyngedig|2023|2022|

|**Costau gweithgareddau elusennol**|||||
|**cyffredin**|||||
|Cyflogau staff|64,257|1,275|65,532|61,637|
|Yswiriant gwladol|6,117|-|6,117|5,664|
|Costau pensiwn staff|4,530|-|4,530|4,315|
|Hyfforddiant|61|-|61|-|
|Costau gwasanaethau llawrydd|3,980|-|3,980|5,829|
|Rhent a hurio ystafelloedd|1,750|-|1,750|1,313|
|Prydlesi gweithredol – offer swyddfa|1,185|-|1,185|1,185|
|Teithio a Lluniaeth|1,848|-|1,848|504|
|Teleffon|399|-|399|1,096|
|Trydan|85|-|85|-|
|Argraffu, papur a phost|535|-|535|484|
|Costau Cyfrifiadur|754|-|754|745|
|Marchnata a hysbysebu|692|-|692|631|
|Costau banc|124|-|124|97|
|Tanysgrifiadau|1,095|-|1,095|910|
|Dibrisiant|725|-|725|968|
|Prosiectau a gweithgareddau - Cymuned|
2,665|-|2,665|2,069|
|Prosiectau a gweithgareddau – Teulu|164|-|164|760|
|Prosiectau a gweithgareddau – Plant &|||||
|Phobl Ifanc|1,753|-|1,753|4,242|
|Prosiectau a gweithgareddau – Nerth|||||
|dy Ben|-|-|-|2,400|
|Prosiectau a gweithgareddau – Bocs|||||
|Trysor|-|1,014|1,014|3,428|
|Prosiectau a gweithgareddau – Dysgwyr|3|-|3|-|
|Prosiectau a gweithgareddau – DCC|||||
|Haf o Hwyl|853|-|853|-|
|Prosiectau a gweithgareddau – MIC|||||
|Haf o Hwyl|7,754|-|7,754|-|

||101,329|2,289|103,618|98,277|

13

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **8 Gwariant ar weithgareddau elusennol (parhad)**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|

||Anghyfynedig|Cyfyngedig|2023|2022|

|**Costau cefnogi**|||||
|Cyflogau|9,818|-|9,818|7,604|
|Yswiriant gwladol|764|-|764|481|
|Costau pensiwn staff|687|-|687|532|
|Rhent|345|-|345|188|
|Yswiriant|715|-|715|557|
|Prydlesi gweithredol – offer swyddfa|169|-|169|169|
|Trydan|12|-|12|-|
|Glanhau|455|-|455|383|
|Cynnal a chadw|137|-|137|111|
|Argraffu, post a phapur|73|-|73|69|
|Marchnata a hysbysebu|99|-|99|90|
|Teleffon|57|-|57|157|
|Costau cyfrifiadur|108|-|108|106|
|Costau cyfieithu|319|-|319|-|
|Teithio a lluniaeth|114|-|114|29|
|Costau cyfrifo|2,112|-|2,112|2,028|
|Costau banc|18|-|18|14|
|Mân gostau|466|-|466|91|
|Tanysgrifiadau|156|-|156|130|
|Dibrisiant asedau cyffyrddadwy|104|-|104|138|
|Llog ar dreth|4|-|4|-|

||16,732|-|16,732|12,877|

|Cyfanswm gwariant ar|||||
|weithgareddau elusennol|118,061|2,289|120,350|111,154|

## **9 Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math y gronfa**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|

||Anghyfyng|Cyfyngedig|2023|Anghyfyng|Cyfyngedig|2022|
||-edig|||-edig|||

|Gwariant elusennol|
101,329|2,289|103,618|92,449|5,828|98,277|
|Costau cefnogi|16,732|-|16,732|12,877|-|12,877|

||118,061|2,289|120,350|105,326|5,828|111,154|

14

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **10**

## **Gwariant elusennol yn ôl gweithgareddau**

|Gweithgareddau|Gweithgareddau|Costau|Cyfanswm|Cyfanswm|

||Uniongyrchol|Cefnogi|2023|2022|

|Gweithgareddau elusennol cyffredin|101,329|14,369|115,698|109,350|
|Gweithgareddau elusennol penodol|2,289|-|2,289|-|
|Costau llywodraethol|-|2,363|2,363|1,804|

||103,618|16,732|120,350|111,154|

## **11 Dadansoddiad o gostau cefnogi**

|**Dadansoddiad o gostau cefnogi**||||

||Costau|Cyfanswm|Cyfanswm|
||Gweithgareddau|2023|2022|
||Hybu’r iaith|||
||Gymraeg|||

|Costau staff|11,269|11,269|8,617|
|Costau eiddo|241|241|249|
|Costau swyddfa gyffredinol|2,859|2,859|2,207|
|Costau llywodraethu|2,363|2,363|1,804|

||16,732|16,732|12,877|

## **12 Gwariant / Incwm Net**

Mae Gwariant net wedi ei ddatgan ar ôl codi: £ Dibrisiant 829

## **13 Taliadau a Budd-daliadau'r Ymddiriedolwyr**

Ni thalwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiant eraill i’r ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2023 (2022 - £ Dim).  Mae’r elusen yn ystyried mai ei phersonél rheoli allweddol ydy’r ymddiriedolwyr a’r prif swyddog.  Cyfanswm buddiant cyflogaeth y personél rheoli allweddol, yn cynnwys cyfraniadau pensiwn, oedd £34,544 (2022 - £34,083).

## **Treuliau'r ymddiriedolwyr**

Ni thalwyd unrhyw dreuliau i'r ymddiriedolwyr yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2023. Talwyd £62 o dreuliau teithio i un ymddiriedolwyr yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022.

15

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

|**14**|**Costau staff**|||

|||**2023**|**2022**|

||Cyflogau|75,350|69,241|
||Yswiriant gwladol|6,881|6,145|
||Cyfraniadau pensiwn|5,217|4,847|
||Lwfans cyflogwr|(5,000)|(4,000)|

|||82,448|76,233|

Mae'r elusen yn cyflogi 2 aelod o staff llawn amser ac 1 aelod o staff rhan-amser (2022 - 2 amser llawn ac 1 rhan amser).  Ni enillodd unrhyw aelod o staff fwy na £60,000 y flwyddyn (2022: Dim).  Mae'r elusen yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniad diffiniedig mewn perthynas â'r staff. Mae rheolwyr annibynnol yn dal y cynllun a'i asedau. Mae'r tâl pensiwn yn cynrychioli cyfraniadau sy'n ddyledus gan y cwmni a'u cyfanswm yw £5,217 (2022 - £4,847). Cyfraniadau pensiwn sy'n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn oedd £183 (2022: £80).  Bydd gordaliad cyfraniad pensiwn yn ystod y flwyddyn blaenorol, felly mae cyfanswm o £264 (2022: £287) yn ddyledus yn ôl i’r elusen ar ddiwedd y flwyddyn sydd wedi eu hadlewyrchu yn y costau uchod.

## **15 Tâl yr Arolygwyr Annibynnol**

Roedd tâl yr arholwr annibynnol yn gyfystyr â ffi cyfrifo ac arholi o £1,766 (2022 - £1,632) a gwaith cyflogres o £346 (2022 - £396).

## **16 Asedau cyffyrddadwy sefydlog**

|||**Offer**||

||**Dodrefn**|**Swyddfa**|**Cyfanswm**|
|**Cost**|£|£|£|
|Ar 1 Ebrill 2022|673|8,431|9,104|
|Ychwanegiadau|-|-|-|
|Gwaredu|-|-|-|

|Ar 31 Mawrth 2023|673|8,431|9,104|

|**Dibrisiant**||||
|Ar 1 Ebrill 2022|661|5,130|5,791|
|Dibrisiant am y cyfnod|2|827|829|
|Dileu wrth waredu|-|-|-|

|Ar 31 Mawrth 2023|663|5,957|6,620|

|**Gwerth llyfr net**||||
|Ar 31 Mawrth 2023|£10|£2,474|£2,484|

|Ar 31 Mawrth 2022|£12|£3,301|£3,313|

16

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

|**16**|**Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn**|**2023**|**2022**|

||Dyledwr eraill|1,589|1,602|

|||1,589|1,602|

|**17**|**Credydwyr - yn ddyledus o fewn y flwyddyn**|**2023**|**2022**|

||Credydwyr masnachol|-|69|
||Trethi a nawdd cymdeithasol|-|156|
||Credydwyr eraill|2,167|2,271|

|||2,167|2,496|

## **18 Dadansoddiad o gronfeydd elusennol**

|||**Ar 31**|**Incwm**|**Gwariant**|**Trosglwy**|**Ar 31**|

|||**Mawrth**|||**-ddiadau**|**Mawrth**|
|||**2022**||||**2023**|

||Cronfeydd cyfyngedig|5,526|-|(2,289)|
(3,237)|-|
||Cronfeydd anghyfyngedig|
34,507|123,456|(118,061)|
3,237|43,139|

||Cyfanswm cronfeydd|**£40,033**|**£123,456**|**£(120,350)**|
**£-**|**£43,139**|

|**19**|**Dadansoddiad o asedau**|**net rhwng cronfeydd**|||||
||||**Asedau**|**Asedau**|**Rhwymedig**|**Cyfanswm**|
||||**sefydlog**|**Cyfredol**|**-aethau**||
||||**cyffyrddadwy**|**net**|**tymor hir**||

||Cronfeydd cyfyngedig||-|-|-|-|
||Cronfeydd anghyfyngedig||2,484|40,655|-|43,139|

||||**£2,484**|**£40,655**|**£ -**|**£43,139**|

17

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2023**

## **20 Partïon perthynol**

Ni fu unrhyw drafodion gyda phartïon perthynol yn ystod y flwyddyn.

## **21 Ymrwymiadau ariannol arall**

Ar 31 Mawrth 2023, roedd gan y cwmni ymrwymiadau o dan brydlesi gweithredol ni chaiff eu diddymu, dros weddill tymor y prydlesi yma o £113 (2022 - £1,467).

18