Rhif cofrestredig y cwmni: 6204415 Rhif yr elusen: 1120223
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
Datganiadau Ariannol Am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2022 Sydd Wedi’u Paratoi Heb Archwiliad Ariannol.
Hoffai Menter Iaith Sir Ddinbych ddiolch i’w noddwyr am eu cymorth yn ystod 2021-2022
----- Start of picture text -----
Cyngor Tref Prestatyn
Prestatyn Town Council
----- End of picture text -----
Diolch hefyd i swyddogion a phwyllgor Mentrau Iaith Cymru am eu cefnogaeth a chydweithrediad gwerthfawr gydol y flwyddyn.
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
| Cynnwys | |
|---|---|
| Tudalen | |
| Adroddiad yr Ymddiriedolwyr | 1 - 5 |
| Adroddiad yr archiliwr annibynnol | 6 |
| Datganiad o weithgareddau ariannol | 7 |
| Mantolen | 8 |
| Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol | 9 – 18 |
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
CYFEIRNOD A MANYLION GWEINYDDOL.
Enw'r elusen gofrestredig Menter Iaith Sir Ddinbych Rhif cofrestru'r elusen: 1120223 Rhif cofrestredig y cwmni 6204415 (Cymru a Lloegr) Swyddfa gofrestredig 6 Heigad DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3LE
Cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr
Y cyfarwyddyr ac ymddiriedolwyr a fu’n gwasanaethu’r elusen yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2021 hyd at 31 Mawrth 2022 oedd:
Cadeirydd Alice Jones (hyd at 20/10/21) Arwel Roberts (o 20/10/21) Is-gadeirydd Arwel Roberts (hyd at 20/10/21) Bethan Cartwright (o 20/10/21) Trysorydd Owain Gwyn Morris Cyfarwyddyr ac Bethan Cartwright Ymddiriedolwyr eraill Alaw Griffith Emrys Wynne Gwenan Prysor Menna Eluned Jones Lowri Haf Ellis (apwyntiwyd 20 Hydref 2021) Catrin Eynon (apwyntiwyd 20 Hydref 2021)
Ysgrifennydd
Anna Lloyd Edwards
Bancwyr
HSBC 17 Stryd y Dyffryn DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3AG
Cyfrifwyr Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ
1
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
Strwythur a rheolaeth
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen gofrestredig, rhif 1120223, wedi ei sefydlu fel cwmni cyfyngedig, rhif 6204415. Mae cyfansoddiad y cwmni yn unol â chyfansoddiad elusennol a chwmnïau cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol. Cofrestrwyd Menter Iaith Sir Ddinbych fel elusen gofrestredig, ac fel cwmni cyfyngedig, ar 5 Ebrill 2007.
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych (yr ‘Elusen’) yn cael ei gweinyddu a’i rheoli yn ôl y memorandwm ac erthyglau cymdeithasol y cwmni, a gan aelodau bwrdd y cyfarwyddwyr.
Mae aelodaeth yr Elusen yn agored i unigolion dros 18 oed ac unrhyw gymdeithas, gorfforedig neu anghorfforedig, sydd yn cytuno ag amcanion a gwaith yr Elusen, heb wahaniaethu rhwng pobl o safbwynt eu cyfoeth, gwleidyddiaeth, hil, crefydd, rhyw neu anabledd. Bydd i bob aelodfudiad benodi unigolyn i’w gynrychioli ac i bleidleisio.
Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn unfrydol ac am reswm da, roi terfyn ar aelodaeth unrhyw unigolyn neu aelod-fudiad: cyhyd a bod gan yr unigolyn dan sylw neu gynrychiolydd penodedig yr aelod-fudiad dan sylw'r hawl i wrandawiad gan y Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yng nghwmni ffrind, cyn y gwneir penderfyniad terfynol.
Bwrdd y cyfarwyddwyr
Rheolir busnes yr Elusen gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a fydd yn atebol i'r aelodau. Ni fydd gan unrhyw berson hawl i weithredu fel Cyfarwyddwr, boed hynny am, y tro cyntaf neu dro dilynol, hyd nes y bydd wedi llofnodi datganiad derbyn parodrwydd i weithredu er budd yr Elusen yn llyfr cofnodion Bwrdd y Cyfarwyddwyr.
Bydd Bwrdd y cyfarwyddwyr yn cynnwys dim llai na 5 o gyfarwyddwyr a dim mwy na 12 o gyfarwyddwyr.
Gall y Cyfarwyddwyr ar unrhyw adeg gyfethol unrhyw berson i Fwrdd y Cyfarwyddwyr cyn belled na fydd mwy nag un rhan o dair o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn gyfetholedig a chyn belled na ragorir ar yr uchafswm a benodir yn erthygl 39, ac na wneir rhagor na thri chyfetholiad o’r fath rhwng un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r nesaf. Rhaid i bob person a gyfetholir fel hyn ymddiswyddo yn y Cyfarfod Blynyddol yn dilyn eu cyfetholiad, ond byddent yn gymwys i’w hailbenodi wedi hynny.
Ceir talu holl gostau teithio, gwesty a threuliau eraill rhesymol cyfarwyddwyr mewn perthynas â’u presenoldeb mewn cyfarfod Cyfarwyddwyr, pwyllgorau neu gyfarfod cyffredinol neu mewn perthynas â chyflawni eu dyletswyddau, ond fel arall ni fyddant yn derbyn tal.
2
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
Nodau'r elusen
-
Normaleiddio'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yn Sir Ddinbych.
-
Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr a thrigolion di-gymraeg ddysgu’r iaith
-
Sicrhau fod cyfleoedd i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth a defnydd o’r iaith. 4. Dylanwadu ar yr ystod eang o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, addysgiadol sy’n digwydd o fewn y sir er mwyn datblygu i fod yn drwyadl ddwyieithog neu Gymraeg.
Amcanion yr elusen
-
i) Cynorthwyo’r sector wirfoddol i gynnig gwasanaeth dwyieithog.
-
ii) Annog y di-gymraeg i fabwysiadu agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith e.e. cymhathu mewnfudwyr a chynorthwyo’r dysgwyr i ddod yn rhugl ac i ddod yn rhan o’r gymdeithas Gymraeg.
-
iii) Cynnal digwyddiadau newydd naill a’i yn annibynnol neu trwy gydweithio mewn partneriaeth ag eraill
-
i bontio rhwng ysgol a chymdeithas.
-
i ategu at waith y ddarpariaeth Cymraeg i oedolion.
-
i gyfoethogi a bywiocáu bywyd Cymraeg yn gyffredinol.
-
iv) Cefnogi gweithgareddau gwirfoddol sy’n bodoli eisoes yn Gymraeg.
-
v) Annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg, a threfnu gweithgareddau ar eu cyfer.
-
vi) Hyrwyddo trosglwyddiad o’r Gymraeg o fewn y teulu.
Darparu budd i’r cyhoedd
Wrth gynllunio ein gwaith am y flwyddyn, mae aelodau’r pwyllgor sy’n gyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau a’r budd i’r cyhoedd. Yn benodol, ceisiwn gynorthwyo a chefnogi’r gymuned yn ei chyfanrwydd o ran hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan bob oedran. Rydym yn gweithio ar draws y sir gyfan a darparwn gyfleoedd i bobl wella proffil y Gymraeg a dwyieithrwydd, drwy ddarparu cyngor, cymorth, prosiectau a gweithgareddau penodol. Ein corff ni yw’r unig un â’r brîff penodol i normaleiddio’r Gymraeg/dwyieithrwydd mewn bywyd teuluol a bywyd cyhoeddus ar draws sbectrwm oedran y sir. Gweithiwn ar y cyd gyda phartneriaid allweddol megis yr Urdd a Mudiad Meithrin a darparwyr statudol megis ysgolion a’r Cyngor Sir. Rydym yn gweithio gyda chyrff eraill sy’n ymwneud â darparu gwersi Cymraeg i oedolion hefyd gan gynorthwyo i ymestyn y cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Mae ein deunyddiau cynnig cyngor a marchnata ar gael bob amser, ac mae’r Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr yn cytuno ar dargedau ar gyfer gwaith cymunedol yn flynyddol.
3
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
Adolygiad ariannol
Mae’r prif weithgareddau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys rhai i blant a phobl ifanc, mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol eraill. Er bod cyfnod Covid-19 wedi llacio rhyw gymaint, fe barhaodd heriau i’n hwynebu, ac mae’r Fenter wedi parhau i gyflawni peth o’i waith trwy ddulliau digidol. Defnyddir yr holl incwm a dderbynnir i wella’r gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd, p’un ai ar y ffôn, drwy gyfrwng e-bost neu wyneb yn wyneb. Ceisiwn sicrhau presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol, gan dargedu’r cyhoedd drwy gynnig cyngor am ddim a gweithgareddau neu weithdai celfyddydol, llenyddol, digidol a rhai sy’n addas i siaradwyr Cymraeg rhugl neu siaradwyr Cymraeg newydd.
Campau a gyflawnwyd
Am ddarlun mwy manwl o weithgareddau’r flwyddyn sy’n cyflawni nodau ac amcanion yr elusen ac yn rhoi budd i’r cyhoedd gweler Adroddiad Blynyddol yr elusen.
Perfformiad Ariannol yr Elusen
Mae cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 wedi gostwng o £133,814 i £115,449, sef gostyniad o £18,365 (13.7%) ar y flwyddyn flaenorol. Mae’r gyfradd llog yn parhau i fod yn isel iawn a derbyniwyd £3 o incwm buddsoddiad yn unig am y flwyddyn (2021 - £4). Mae cyfanswm yr adnoddau a dreuliwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 wedi cynyddu o £110,046 i £111,154 sef tyfiant o £1,108 (1.0%) ar y flwyddyn flaenorol. Cafwyd gwarged felly o £4,295 am y flwyddyn i gymharu â gwarged o £23,768 am y flwyddyn flaenorol. Mae mwy o fanylder i’w weld yn Adroddiad Blynyddol yr elusen.
Polisi Cronfeydd
Mae’n rhan o bolisi’r Elusen i gadw cronfeydd anghyfyngedig sef y cronfeydd rhyddion, ar lefel sy’n hafal i tua 3 mis o dreuliau anghyfyngedig. Mae hyn yn caniatáu cronfa ddigonol i dalu costau rheoli, gweinyddu a chynnal yr Elusen.
Polisi Buddsoddiad
Yr amcan buddsoddiad yw diogelu'r buddsoddiadau cyfredol yn erbyn chwyddiant ac i gael incwm rhesymol yn ôl. Mae perfformiad y buddsoddiadau yn cael eu hadolygu ar sail gyson trwy eu cymharu gyda maincfesuriad addas.
Rheolaeth Risg
Gwnaed arolwg gan y Cyfarwyddwyr ym meysydd busnes a gweithredu’r Elusen a gallant gadarnhau y byddai’r Elusen mewn sefyllfa i liniaru unrhyw risg.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Mae’r Elusen yn parhau i weithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a phartneriaid eraill i hybu’r iaith Gymraeg drwy Sir Ddinbych gyfan. Mae’r Elusen hefyd yn parhau i ddatblygu presenoldeb ar y we a chyfryngau cymdeithasol drwy’r wefan a rhwydweithiau cymdeithasol, a hyn wedi dod yn bwysicach fyth ers i gyfyngiadau Covid-19 newid patrymau cymdeithasu, dysgu a hamddena. Mae’r Elusen bellach wedi’i ddyfarnu’n Elusen Ddibynadwy gan yr NCVO (marc ansawdd PQASSO gynt). Golyga hyn bod prosesau yn eu lle i roi sicrwydd i bartneriaid ac arianwyr a photensial i ddenu mwy o fuddsoddiad.
4
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
Datganiad o Gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr
Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr ar Fenter Iaith Sir Ddinbych at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi adroddiad yr ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifeg y DU (Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig).
Mae cyfraith cwmnïau yn gofyn bod yr ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi safbwynt cywir a theg ar faterion y cwmni elusennol fel y mae pethau ac o'r ffynonellau sy'n dod i mewn a defnydd y ffynonellau, gan gynnwys incwm a gwariant y cwmni elusennol dros y cyfnod hwnnw. Fel rhan o waith paratoi'r datganiadau ariannol, bydd gofyn i'r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:
-
Dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu rhoi ar waith yn gyson
-
Dilyn dulliau ac egwyddorion Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen
-
Beirniadu ac amcangyfrif yn rhesymol ac yn bwyllog
-
Paratoi'r datganiadau ariannol yn seiliedig ar fusnes sydd ar fynd oni bai ei bod yn anaddas cymryd y bydd y cwmni elusennol yn parhau mewn busnes.
Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion ariannol digonol sy'n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, beth ydy sefyllfa ariannol y cwmni elusennol ac yn eu galluogi nhw i sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda Deddf Cwmnïau 2006. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r cwmni elusennol ac felly hefyd dros gymryd camau rhesymol er mwyn rhwystro a datgelu unrhyw dwyll neu anghysondeb arall.
Cafodd adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ei fabwysiadu ar 26 Hydref 2022 a’i arwyddo ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr gan:
Llofnod Enw llawn Anna Lloyd Edwards
Safle Ysgrifennydd
5
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CWMNI ELUSENNOL MENTER IAITH SIR DDINBYCH (‘y Cwmni’)
Adroddaf i’r ymddiriedolwyr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022.
Cyfrifoldebau a’r sail adrodd
Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (a hefyd ei gyfarwyddwyr at ddibenion y gyfraith cwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).
Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archiliwad ariannol o gyfrifon y Cwmni o dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael archwiliad annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m harchwiliad o gyfrifon eich elusen fel y cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’). Wrth gynnal fy archwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.
Datganiad yr archwiliwr annibynnol
Cwblheais fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas â’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu:
-
bod cofnodion cyfrifyddu heb eu cadw ar gyfer y Cwmni fel sy’n ofynnol gan adran 386 o Ddeddf Cwmnïau 2006; neu
-
nid yw’r cyfrifon yn cyfateb â’r cofnodion hynny; neu
-
nid yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion cyfrifyddu perthnasol o dan adran 396 o Ddeddf 2006 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun ‘gwir a theg’ nad yw’n fater i’w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; neu
-
nid yw’r cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â dulliau ac egwyddorion y Datganiad o Arferion Cymeradwy ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau gan elusennau yn gymwys i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).
Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.
Arwyddwyd:
Dyddiad: 26 Hydref 2022
R A Roberts, BSc, FCA Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ
6
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
Datganiad o weithgareddau ariannol (yn cynnwys crynodeb o gyfrif incwm a gwariant) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022
| 2022 | 2022 | 2022 | 2021 | ||
|---|---|---|---|---|---|
| Nodyn | Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
| Anghyfyngedig | Cyfygedig | Cronfeydd | Cronfeydd | ||
| £ | £ | £ | £ | ||
| Incwm | |||||
| Incwm a gwaddoliadau | |||||
| Rhoddion a chymynroddion | 3 | 95,174 | - | 95,174 | 94,454 |
| Gweithgareddau elusennol | 4 | 5,845 | - | 5,845 | 22,409 |
| Gweithgareddau masnachu arall | 5 | 5,686 | - | 5,686 | 1,881 |
| Incwm arall | 6 | 8,741 | - | 8,741 | 15,066 |
| Buddsoddiant | 7 | 3 | - | 3 | 4 |
| _ | __ | _ | __ | ||
| Cyfanswm incwm | 115,449 | - | 115,449 | 133,814 | |
| _ | __ | _ | _ | ||
| Gwariant | |||||
| Gwariant ar weithgareddau | |||||
| elusennol | 8 | 105,326 | 5,828 | 111,154 | 110,046 |
| _ | __ | _ | __ | ||
| Cyfanswm gwariant | 105,326 | 5,828 | 111,154 | 110,046 | |
| _ | __ | _ | _ | ||
| Incwm / gwariant net | 11 | 10,123 | (5,828) | 4,295 | 23,768 |
| Trosglwyddiadau gros rhwng | |||||
| cronfeydd | - | - | - | - | |
| _ | __ | _ | _ | ||
| Symudiad net yn y cronfeydd | 10,123 | (5,828) | 4,295 | 23,768 | |
| Cyfanswm cronfeydd | 24,384 | 11,354 | 35,738 | 11,970 | |
| 01 Ebrill 2021 | |||||
| _ | _ | _ | __ | ||
| Cyfanswm cronfeydd | 34,507 | 5,526 | 40,033 | 35,738 | |
| 31 Mawrth 2022 | ======= | ======= | ======= | ======= |
Mae holl weithgareddau’r cwmni yn cael eu hystyried yn rhai parhaol.
Nid oedd gan y cwmni enillion na cholledion heblaw am y gwarged am y flwyddyn.
Mae’r nodiadau ar dudalennau 9 i 18 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma.
7
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2022
| Nodyn | 2022 | 2021 | |||
|---|---|---|---|---|---|
| £ | £ | £ | £ | ||
| Asedau sefydlog | |||||
| Asedau cyffyrddadwy | 16 | 3,313 | 271 | ||
| Asedau cyfredol | |||||
| Dyledwyr | 17 | 1,602 | 981 | ||
| Arian yn y banc | 37,609 | 38,228 | |||
| Arian mewn llaw | 5 | 11 | |||
| ______ | _ | ||||
| 39,216 | 39,220 | ||||
| _ | _ | ||||
| Credydwyr -yn daladwy | |||||
| o fewn blwyddyn | 18 | 2,496 | 3,753 | ||
| _ | _ | ||||
| Asedau cyfredol net | 36,720 | 35,467 | |||
| _ | _ | ||||
| Asedau net | £40,033 | £35,738 | |||
| ======= | ======= | ||||
| £ | £ | ||||
| Cronfeydd wrth gefn | |||||
| Cronfeydd anghyfyngedig | 19 | 34,507 | 24,384 | ||
| Cronfeydd cyfyngedig | 19 | 5,526 | 11,354 | ||
| _ | _ | ||||
| Cyfanswm cronfeydd | £40,033 | £35,738 | |||
| ======= | ======= |
Roedd gan y cwmni hawl i eithrio rhag archwilio’r datganiadau ariannol yn rhinwedd adran 477 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006 yn berthnasol i gwmnïau bychan.
Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni gael archwiliad o’r datganiadau ariannol am y flwyddyn berthnasol yn unol ag adran 476;
Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu dyletswyddau i gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf ynglŷn â chadw cofnodion cyfrifyddu a pharatoi’r datganiadau ariannol.
Y mae’r datganiadau ariannol yma wedi eu paratoi mewn cytundeb â’r ddarpariaeth arbennig adran XV o ddeddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bach ac yn unol â FRS 102 SORP.
Mabwysiadwyd y datganiadau ariannol hyn gan Fwrdd yr Cyfarwyddwyr ar 26 Hydref 2022 ac arwyddwyd ar eu rhan gan:
Llofnod:
Owain Gwyn Morris Trysorydd - Cyfarwyddwr
Mae’r nodiadau ar dudalennau 9 i 18 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma
8
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
1 Gwybodaeth Statudol
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn gwmni cyfyngedig drwy warant wedi'i gorffori yng Nghymru, yn y DU. Y swyddfa gofrestredig ydy 6 Heigad, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 3LE.
Caiff y datganiadau ariannol eu cyflwyno mewn punnoedd sterling (£), arian gweithredu'r cwmni, a'i dalgrynnu at y bunt agosaf.
Mae'r polisïau cyfrifyddu arwyddocaol sydd wedi'u defnyddio wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn wedi'u gosod isod. Mae'r polisïau wedi'u defnyddio yn gyson gyda phob blwyddyn gaiff ei chyflwyno, oni bai y nodir yn wahanol.
2 Polisïau Cyfrifyddu
Sail paratoi'r datganiadau ariannol
Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sy'n endid budd cyhoeddus o dan FRS102, wedi'u paratoi yn unol â Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen (FRS102) 'Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arferion Argymelledig sy'n berthnasol i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (mewn grym 1 Ionawr 2015)', Safon Adrodd Ariannol 102 'Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2016. Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi yn unol â'r confensiwn costau hanesyddol.
Busnes hyfyw
Paratowyd y datganiadau ariannol ar sail busnes hyfyw.
Er gwaethaf sefyllfa Covid-19 yn parhau i gael effaith mae'r elusen wedi parhau i weithredu yn y cyfnod cyfrifyddu cyfredol. Mae'r ymddiriedolwyr yn hyderus bydd yr elusen yn parhau i weithredu. Mae’r elusen wedi llwyddo i ddal gafael ar brif grantiau, nodi ffynonellau grantiau newydd, a chychwyn ar y broses o ymgeisio am sawl un. Ar ôl gwneud ymholiadau, mae gan yr ymddiriedolwyr ddisgwyliad rhesymol bod gan yr elusen adnoddau digonol i barhau mewn bodolaeth weithredol hyd y gellir rhagweld.
Mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â dyfodol yr elusen, sydd o leiaf, ond heb ei gyfyngu i, ddeuddeg mis o ddyddiad cymeradwyo'r datganiadau ariannol yma.
Incwm
Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith bydd gan yr elusen hawl dros yr arian.
Incwm o weithgareddau elusennol
Mae incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm wedi'i dderbyn trwy gytundeb neu lle mae hawl dros arian grant yn dibynnu ar amodau perfformio penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod wrth i'r gwasanaethau cysylltiedig gael eu darparu ac wrth gaffael yr hawl, bydd modd mesur tebygrwydd faint gaiff ei dderbyn a'r swm ei hun gyda digon o ddibynadwyedd. Caiff incwm ei ohirio pan gaiff swm ei dderbyn cyn perfformio'r gwasanaeth neu ddigwyddiad y mae'n gysylltiedig ag o.
9
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
2 Polisïau Cyfrifyddu - parhad
Incwm o fuddsoddiad
Caiff incwm o fuddsoddiad ei gydnabod pan gaiff ei derbyn.
Gwariant
Caiff dyledion eu cydnabod fel gwariant unwaith y bydd gorfodaeth ymarferol neu gyfreithiol sy'n ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debyg y bydd angen trosglwyddo buddion economaidd wrth ei dalu a bydd modd mesur swm yr orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff gwariant ei ystyried ar sail croniadau ac mae wedi'i ddosbarthu o dan benawdau sy'n crynhoi'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r categori. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw DAW nad oes modd ei hawlio yn ôl.
Mae ‘gwariant elusennol’ yn cynnwys y costau hynny mae'r elusen wedi'i wario wrth ddarparu ei gweithgareddau a'i gwasanaethau ar gyfer ei buddiolwyr. Mae'n cynnwys costau y mae modd eu dyrannu yn uniongyrchol tuag at weithgareddau o'r fath a'r costau hynny o natur anuniongyrchol sy'n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.
‘Costau cefnogi’ ydy'r costau hynny sy'n angenrheidiol er mwyn darparu gweithgaredd ond er hynny, tydyn nhw ddim yn cynhyrchu neu yn creu allbwn gweithgaredd yr elusen. Mae hyn yn cynnwys costau llywodraethol sef y costau hynny sy'n gysylltiedig gyda chwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen ac yn cynnwys y ffioedd a chostau cyfrifyddu sy'n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen yn ogystal â rhan o'r cyflogau sy'n seiliedig ar fras amcan o'r amser a dreuliwyd ar yr adran hon.
Asedau sefydlog cyffyrddadwy
Mae asedau sefydlog wedi'u cofnodi trwy gostau i ddechrau.
Dibrisiad
Caiff dibrisiad ei gyfrifo er mwyn dileu cost ased, llai o'i werth sy'n weddill dros fywyd economaidd defnyddiol yr ased fel a ganlyn:
Offer swyddfa - lleihau'r cyfanswm o 25%
Treth
Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.
Cyfrifyddu cronfeydd
Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i'r elusen eu defnyddio, fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn ddoeth, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud ag amcanion yr elusen.
Mae cronfeydd cyfyngedig wedi'u derbyn yn amodol gan y rhoddwyr at y diben sydd wedi'i bwriadu ar eu cyfer.
Offerynnau ariannol
Does gan yr elusen ddim ond asedau ariannol a dyledion ariannol o natur sy'n cymhwyso fel offerynnau ariannol syml. Caiff offerynnau ariannol syml eu hadnabod yn gyntaf drwy werth trosglwyddo ac yna eu mesur trwy eu gwerth talu.
10
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
2 Polisïau Cyfrifyddu - parhad
Dyledwyr
Caiff dyledwyr masnachu a dyledwyr eraill eu cydnabod trwy'r swm talu sy'n ddyledus ar ôl cynnig unrhyw ostyngiad masnachu.
Caiff taliadau o flaen llaw eu prisio ar y swm net a dalwyd o flaen llaw ar unrhyw ostyngiad dyledus.
Credydwyr
Caiff credydwyr eu cydnabod lle bo gan yr elusen orfodaeth bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad blaenorol fydd mwy na thebyg yn arwain at drosglwyddo cronfeydd at drydydd parti a bydd modd mesur neu amcangyfrif y swm sy'n ddyledus er mwyn talu’r orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff credydwyr gan amlaf eu cydnabod trwy eu swm talu ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw ostyngiadau masnachu sy'n ddyledus.
Costau pensiwn
Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun cyfraniad pensiwn diffiniedig. Caiff costau cyfraniadau sy'n daladwy i gynllun pensiwn y cwmni elusennol eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.
Mae'r cwmni elusennol yn gwneud cyfraniadau i gynlluniau pensiwn personol ar ran ei gyflogai. Caiff costau eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.
3 Rhoddion a chymynrhoddion
| Rhoddion a chymynrhoddion | ||||
|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
| Anghyfynedig | Cyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Grant Llywodraeth Cymru | 79,984 | - | 79,984 | 80,442 |
| Grant Cyngor Sir Ddinbych | 14,190 | - | 14,190 | 13,912 |
| Grant Arnold Clarke Community Fund | 1,000 | - | 1,000 | - |
| Rhodd Cymdeithas Cymraeg Dinbych | - | - | - | 100 |
| _ | __ | _ | __ | |
| 95,174 | - | 95,174 | 94,454 | |
| _ | __ | _ | __ |
11
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
4 Gweithgareddau elusennol
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Anghyfynedig | Cyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Grant Cyngor Tref Dinbych | 1,650 | - | 1,650 | 1,650 |
| Grant Cyngor Tref Rhuthun | - | - | - | 900 |
| Grant Loteri Cymunedol | - | - | - | 9,600 |
| Grant Mentrau Iaith Cymru | 3,750 | - | 3,750 | - |
| Grant Grŵp Cynefin | - | - | - | 200 |
| Grant Cadwyn Clwyd Nerth dy Ben | - | - | - | 8,459 |
| Grant Cyngor Sir Dinbych Gweithdai | ||||
| Cerdd | - | - | - | 1,100 |
| Grant Cyngor Sir Dinbych Celf | - | - | - | 500 |
| Grant Cyngor Tref Rhuddlan | 350 | - | 350 | - |
| Grant Cyngor Tref Prestatyn | 95 | - | 95 | - |
| _ | __ | _ | __ | |
| 5,845 | - | 5,845 | 22,409 | |
| _ | __ | _ | __ |
5 Gweithgareddau masnachu eraill
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Anghyfynedig | Cyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Gweithgareddau a phrosiectau | 5,286 | - | 5,286 | 900 |
| Incwm Arall | - | - | - | 481 |
| Menter Iaith Conwy/Helo Blod desg poeth | 400 |
- | 400 | 400 |
| Maer Rhuddlan cystadleuaeth ffenestri | - | - | - | 100 |
| _ | __ | _ | __ | |
| 5,686 | - | 5,686 | 1,881 | |
| _ | __ | _ | __ |
6 Incwm Arall
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Anghyfyngedig | Cyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Cyngor Sir Ddinbych – Covid 19 | 2,000 | - | 2,000 | 10,000 |
| Moondance Foundation – Covid 19 | 741 | - | 741 | 3,550 |
| DVSC – Covid 19 | 2,000 | - | 2,000 | 1,516 |
| Lwfans Nawdd Cymdeithasol | 4,000 | - | 4,000 | - |
| _ | __ | _ | __ | |
| 8,741 | - | 8,741 | 15,066 | |
| _ | __ | _ | __ |
12
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
7 Incwm o fuddsoddiant
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Anghyfyngedig | Cyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Llog derbyniwyd | 3 | - | 3 | 4 |
| _ | __ | _ | __ | |
| 3 | - | 3 | 4 | |
| _ | __ | _ | __ |
8 Gwariant ar weithgareddau elusennol
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Anghyfynedig | Cyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Costau gweithgareddau elusennol | ||||
| cyffredin | ||||
| Cyflogau staff | 61,637 | - | 61,637 | 69,227 |
| Nawdd cymdeithasol | 5,664 | - | 5,664 | 2,527 |
| Costau pensiwn staff | 4,315 | - | 4,315 | 4,485 |
| Costau gwasanaethau llawrydd | 5,829 | - | 5,829 | - |
| Rhent | 1,313 | - | 1,313 | 875 |
| Prydlesi gweithredol – offer swyddfa | 1,185 | - | 1,185 | 1,185 |
| Teithio a Lluniaeth | 504 | - | 504 | 145 |
| Teleffon | 1,096 | - | 1,096 | 1,543 |
| Argraffu, papur a phost | 484 | - | 484 | 345 |
| Costau Cyfrifiadur | 745 | - | 745 | 572 |
| Marchnata a hysbysebu | 631 | - | 631 | 479 |
| Costau banc | 97 | - | 97 | 108 |
| Aelodaeth | 910 | - | 910 | 910 |
| Dibrisiant | 968 | - | 968 | 82 |
| Prosiectau a gweithgareddau - Cymuned | 2,069 |
- | 2,069 | 1,089 |
| Prosiectau a gweithgareddau – Teulu | 760 | - | 760 | 360 |
| Prosiectau a gweithgareddau – Plant & | ||||
| Phobl Ifanc | 4,242 | - | 4,242 | 2,675 |
| Prosiectau a gweithgareddau – Nerth | ||||
| dy Ben | - | 2,400 | 2,400 | 6,661 |
| Prosiectau a gweithgareddau – Bocs | ||||
| Trysor | - | 3,428 | 3,428 | 94 |
| Anoddau eraill – Cadwyn Clwyd | - | - | - | 1,012 |
| ______ | ______ | ______ | ______ | |
| 92,449 | 5,828 | 98,277 | 94,374 | |
| ______ | ______ | ______ | ______ |
13
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
8 Gwariant ar weithgareddau elusennol (parhad)
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Anghyfynedig | Cyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Costau cefnogi | ||||
| Cyflogau | 7,604 | - | 7,604 | 9,607 |
| Nawdd cymdeithasol | 481 | - | 481 | 295 |
| Costau pensiwn staff | 532 | - | 532 | 713 |
| Hyfforddiant | - | - | - | 143 |
| Rhent | 188 | - | 188 | 125 |
| Yswiriant | 557 | - | 557 | 781 |
| Prydlesi gweithredol – offer swyddfa | 169 | - | 169 | 169 |
| Golau a gwres | - | - | - | - |
| Cynnal a chadw | 111 | - | 111 | 171 |
| Argraffu, post a phapur | 69 | - | 69 | 49 |
| Marchnata a hysbysebu | 90 | - | 90 | 68 |
| Teleffon | 157 | - | 157 | 220 |
| Costau Cyfrifiadur | 106 | - | 126 | 61 |
| Costau cyfieithu | - | - | - | 166 |
| Teithio a Lluniaeth | 29 | - | 29 | 14 |
| Costau Cyfrifo | 2,028 | - | 2,028 | 1,947 |
| Costau banc | 14 | - | 14 | 11 |
| Mân gostau | 474 | - | 474 | 990 |
| Aelodaeth | 130 | - | 130 | 130 |
| Dibrisiant asedau cyffyrddadwy | 138 | - | 138 | 12 |
| ______ | ______ | _ | ______ | |
| 12,877 | - | 12,877 | 15,672 | |
| ______ | ______ | _ | ______ | |
| Cyfanswm gwariant ar | ||||
| weithgareddau elusennol | 105,326 | 5,828 | 111,154 | 110,046 |
| ______ | ______ | _ | ______ |
9 Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math y gronfa
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Anghyfyng | Cyfyngedig | 2022 | Anghyfyng | Cyfyngedig | 2021 | |
| -edig | -edig | |||||
| £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
| Gwariant elusennol | 92,449 |
5,828 | 98,277 | 87,619 | 6,755 | 94,374 |
| Costau cefnogi | 12,877 | - | 12,877 | 15,672 | - | 15,672 |
| ______ | ______ | ______ | _ | ______ | ______ | |
| 105,326 | 5,828 | 111,154 | 103,291 | 6,755 | 110,046 | |
| ______ | ______ | ______ | _ | ______ | ______ |
14
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
10
Gwariant elusennol yn ôl gweithgareddau
| Gweithgareddau | Gweithgareddau | Costau | Cyfanswm | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|
| Uniongyrchol | Cefnogi | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Gweithgareddau elusennol cyffredin | 98,277 | 11,073 | 109,350 | 108,180 |
| Gweithgareddau elusennol penodol | - | - | - | - |
| Costau llywodraethol | - | 1,804 | 1,804 | 1,866 |
| ______ | ______ | ______ | ______ | |
| 98,277 | 12,877 | 111,154 | 110,046 | |
| ______ | ______ | ______ | ______ |
11 Dadansoddiad o gostau cefnogi
| Dadansoddiad o gostau cefnogi | |||
|---|---|---|---|
| Costau | Cyfanswm | Cyfanswm | |
| Gweithgareddau | 2022 | 2021 | |
| Hybu’r iaith | |||
| Gymraeg | |||
| £ | £ | £ | |
| Costau staff | 8,617 | 8,617 | 10,758 |
| Costau eiddo | 249 | 249 | 183 |
| Costau swyddfa gyffredinol | 2,207 | 2,207 | 2,865 |
| Costau llywodraethu | 1,804 | 1,804 | 1,866 |
| _ | _ | ______ | |
| 12,877 | 12,877 | 15,672 | |
| _ | _ | ______ | |
| Gwariant / Incwm Net | |||
| Mae Gwariant net wedi ei ddatgan ar ôl codi: | £ | ||
| Dibrisiant | 1,106 |
12 Gwariant / Incwm Net
13 Taliadau a Budd-daliadau'r Ymddiriedolwyr
Ni thalwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiant eraill i’r ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 (2021 - £ Dim). Mae’r elusen yn ystyried mai ei phersonél rheoli allweddol ydy’r ymddiriedolwyr a’r prif swyddog. Cyfanswm buddiant cyflogaeth y personél rheoli allweddol, yn cynnwys cyfraniadau pensiwn, oedd £34,083 (2021 - £33,668).
Treuliau'r ymddiriedolwyr
Talwyd £62 o dreuliau teithio i un ymddiriedolwyr yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022. Ni thalwyd unrhyw dreuliau i'r ymddiriedolwyr yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021.
15
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
| 14 | Costau staff | ||
|---|---|---|---|
| 2022 | 2021 | ||
| £ | £ | ||
| Cyflogau | 69,241 | 78,834 | |
| Nawdd cymdeithasol | 2,145 | 2,822 | |
| Cyfraniadau pensiwn | 4,847 | 5,198 | |
| ______ | ______ | ||
| 76,233 | 86,854 | ||
| ______ | ______ |
Mae'r elusen yn cyflogi 2 aelod o staff llawn amser ac 1 aelod o staff rhan-amser (2021 - 2 amser llawn ac 1 rhan amser). Ni enillodd unrhyw aelod o staff fwy na £60,000 y flwyddyn (2021: Dim). Mae'r elusen yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniad diffiniedig mewn perthynas â'r staff. Mae rheolwyr annibynnol yn dal y cynllun a'i asedau. Mae'r tâl pensiwn yn cynrychioli cyfraniadau sy'n ddyledus gan y cwmni a'u cyfanswm yw £4,847 (2021 - £5,198). Cyfraniadau sy'n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn oedd £80 (2021: £dim). Bydd gordaliad yn ystod y flwyddyn, felly mae cyfanswm o £287 (2021: £204) yn ddyledus yn ôl i’r elusen ar ddiwedd y flwyddyn sydd wedi eu hadlewyrchu yn y costau uchod.
15 Tâl yr Arolygwyr Annibynnol
Roedd tâl yr arholwr annibynnol yn gyfystyr â ffi cyfrifo ac arholi o £1,632 (2021 - £1,545) a gwaith cyflogres o £396 (2021 - £402).
16 Asedau cyffyrddadwy sefydlog
| Offer | |||
|---|---|---|---|
| Dodrefn | Swyddfa | Cyfanswm | |
| Cost | £ | £ | £ |
| Ar 1 Ebrill 2021 | 673 | 4,283 | 4,956 |
| Ychwanegiadau | - | 4,148 | 4,148 |
| Gwaredu | - | - | - |
| _ | _ | _ | |
| Ar 31 Mawrth 2022 | 673 | 8,431 | 9,104 |
| _ | _ | _ | |
| Dibrisiant | |||
| Ar 1 Ebrill 2021 | 657 | 4,028 | 4,685 |
| Dibrisiant am y cyfnod | 4 | 1,102 | 1,106 |
| Dileu wrth waredu | - | - | - |
| _ | _ | _ | |
| Ar 31 Mawrth 2022 | 661 | 5,130 | 5,791 |
| _ | _ | _ | |
| Gwerth llyfr net | |||
| Ar 31 Mawrth 2022 | £12 | £3,301 | £3,313 |
| ======= | ======= | ======= | |
| Ar 31 Mawrth 2021 | £16 | £255 | £271 |
| ======= | ======= | ======= |
16
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
| 16 | Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn | 2022 | 2021 |
|---|---|---|---|
| £ | £ | ||
| Dyledwyr masnachol | - | 220 | |
| Dyledwr arall | 1,602 | 761 | |
| ______ | ______ | ||
| 1,602 | 981 | ||
| ______ | ______ | ||
| 17 | Credydwyr - yn ddyledus o fewn y flwyddyn | 2022 | 2021 |
| £ | £ | ||
| Credydwyr masnachol | 69 | 857 | |
| Trethi a nawdd cymdeithasol | 156 | 156 | |
| Credydwyr eraill | 2,271 | 2,740 | |
| ______ | ______ | ||
| 2,496 | 3,753 | ||
| ______ | ______ |
18 Dadansoddiad o gronfeydd elusennol
| Ar 31 | Incwm | Gwariant | Trosglwy | Ar 31 | ||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Mawrth | -ddiadau | Mawrth | ||||
| 2021 | 2022 | |||||
| £ | £ | £ | £ | £ | ||
| Cronfeydd cyfyngedig | 11,354 | - | (5,828) | - | 5,526 | |
| Cronfeydd anghyfyngedig | 24,384 |
115,449 | (105,326) | - | 34,507 | |
| _ | _ | _ | _ | _ | ||
| Cyfanswm cronfeydd | £35,738 | £115,449 | £(111,154) | £- | £40,033 | |
| _ | _ | _ | _ | _ | ||
| 19 | Dadansoddiad o asedau | net rhwng cronfeydd |
| Asedau | Asedau | Rhwymedig | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| sefydlog | Cyfredol | -aethau | ||
| cyffyrddadwy | net | tymor hir | ||
| £ | £ | £ | £ | |
| Cronfeydd cyfyngedig | - | 5,526 | - | 5,526 |
| Cronfeydd anghyfyngedig | 3,313 | 31,194 | - | 34,507 |
| _ | _ | _ | _ | |
| £3,313 | £36,720 | £ - | £40,033 | |
| _ | _ | _ | _ |
17
MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
20 Partïon perthynol
Ni fu unrhyw drafodion gyda phartïon perthynol yn ystod y flwyddyn.
21 Ymrwymiadau ariannol arall
Ar 31 Mawrth 2022, roedd gan y cwmni ymrwymiadau o dan brydlesi gweithredol ni chaiff eu diddymu, dros weddill tymor y prydlesi yma o £1,467 (2021 - £2,821).
18