THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
(Cwmni Cyfyngedig trwy Warant)
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AC ADRODDIADAU ARIANNOL
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
(Rhif y Cwmni 04784488) (Rhif Elusen 1106032)
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
CWMNI CYFYNGEDIG TRWY WARANT
| Cynnwys | Tudalen |
|---|---|
| Adroddiad yr Ymddiriedolwyr | 2–13 |
| Adroddiad yr Archwilwyr | 14–16 |
| Datganiad o Symudiadau | 17–18 |
| Mantolen | 19–20 |
| Nodiadau ar y Cyfrifon | 21–30 |
- 1 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyflwyno’u hadroddiad, ynghyd â’r cyfrifon wedi eu harchwilio, am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022.
Prif weithgaredd ac adolygiad
Prif weithgaredd y cwmni yw cynhyrchu gweithgaredd theatraidd Cymraeg.
Cyfeirnod a Manylion Gweinyddol yr Elusen, ei Hymddiriedolwyr a’i Hymgynghorwyr
Rhif Cofrestru: 04784488 Rhif Elusen Gofrestredig: 1106032 Swyddfa Gofrestredig: Y Llwyfan Heol y Coleg Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 3EQ Bancwyr: HSBC 15 Heol Awst Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 3AQ Archwilwyr: Ashmole & Co. 3 Stryd y Farchnad Llandeilo Sir Gaerfyrddin SA19 6AH Cyfarwyddwr Artistig (Prif Weithredwr): Arwel Gruffydd
Aelodau’r Bwrdd
Dan y Ddeddf Cwmnïau, mae gan aelodau’r Bwrdd yr un cyfrifoldebau â chyfarwyddwyr. Yr aelodau a wasanaethodd yn ystod y cyfnod dan sylw yw:
Dr N N Edwards-Behi Mr J D Ellis Mr S W Fôn Mr A G Griffiths Mrs E Gruffudd Jones Mr E Jones Miss F A Phillips Mrs C M L Rees Mr R M Thomas Mr M R Williams Mr G Williams Mr W G Jones
Ysgrifennydd
Mrs H A Jones Leefe
- 2 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021
Mae’r Ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr yr elusen ar gyfer dibenion y Ddeddf Cwmnïau 2006, yn cyflwyno eu hadroddiad gyda datganiadau cyllid yr elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu darpariaethau Datganiadau o Arferion Cymeradwy: Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau sy’n berthnasol i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â’r Safon Adrodd Gyllidol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (effeithiol o 1 Ionawr 2015).
1. STATWS, STRWYTHUR, TREFN LYWODRAETHU A RHEOLAETH
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd heb unrhyw gyfalaf cyfrannau. Caiff y cwmni ei lywodraethu gan ei amcanion elusennol a’r Memorandwm Cymdeithasiad a’r Erthyglau Cymdeithasiad. Mae aelodau’r bwrdd llywodraethol (Bwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru) yn Ymddiriedolwyr yr elusen ac yn gyfarwyddwyr y cwmni. Penodir Ymddiriedolwyr drwy broses agored, gan ddiogelu’r sgiliau gofynnol ac allweddol.
Mae pob aelod newydd yn mynd trwy gyfnod o gynefino, ac yn derbyn gwybodaeth am ei rôl fel Ymddiriedolwr ac fel cyfarwyddwr y cwmni. Mae’r aelodau newydd hefyd yn derbyn pecyn cynefino sy’n cynnwys Erthyglau Cymdeithasiad y cwmni, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Bwrdd, copi diweddar o gyfrifon rheolaeth y cwmni, a chopi o gynllun busnes cyfredol y cwmni. Anogir aelodau newydd i gwrdd â staff y cwmni, ac i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi a ddarperir ar gyfer Ymddiriedolwyr gan fudiadau megis Celf a Busnes Cymru ac UK Theatre.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod fel Bwrdd o leiaf dair gwaith y flwyddyn. Y Bwrdd sy’n gyfrifol am osod cyfeiriad strategol y cwmni, ac i’r perwyl hwnnw mae’n cymeradwyo’r polisïau allweddol hynny sy’n llywio’r cyfeiriad strategol, ac yn cymeradwyo gweithdrefnau strategol a chynlluniau hirdymor y cwmni. Mae’r Bwrdd hefyd yn monitro gweithrediad y cwmni a pherfformiad y Cyfarwyddwr Artistig, a pherfformiad y Cyfarwyddwr Gweithredol o fis Mai 2022. Mae’n gyfrifol am hydaledd ariannol y cwmni, ond yn dirprwyo’r rheolaeth o ddydd i ddydd i’r Cyfarwyddwr Artistig a’r Cyfarwyddwr Gweithredol a’u swyddogion.
Mae gan y Bwrdd ddau Bwyllgor:
-
Pwyllgor Cyllid a Materion Gweithredol;
-
Pwyllgor Cynnwys a Chynulleidfaoedd.
Mae’r ddau Bwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd; maent yn atebol i’r Bwrdd, ac yn cyflwyno argymhellion iddo.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod y cwmni wedi’i sefydlu er budd y cyhoedd yn gyfan gwbl; maent yn ymwybodol o’r angen i sicrhau bod y cyfan o’r nawdd cyhoeddus a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio i’r perwyl hwnnw, a bod lles y cyhoedd yn gyfan gwbl yn ystyriaeth sy’n rhedeg drwy holl weithgaredd y cwmni.
Rheoli Risg
Mae’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol o’r ffaith bod yr elusen yn agored i amrywiol beryglon posibl. Caiff y Gofrestr Risg Strategol a’u Gofrestr Risg Weithredol eu monitro’n rheolaidd, a rhoddwyd systemau ar waith i leihau’r peryglon hyn. Cydnabyddir fod Cyllid, ynghyd â materion Iechyd a Diogelwch, ymhlith y prif beryglon posibl.
Cyflawnir asesiadau risg Iechyd a Diogelwch ar bob gweithgaredd neu brosiect creadigol unigol, yn unol â pholisi Iechyd a Diogelwch y cwmni. Mae’r Cyfarwyddwr Gweithredol neu’r Pennaeth Cynhyrchu yn adrodd
- 3 -
yn rheolaidd i’r Bwrdd ar faterion yn ymwneud â pheryglon, hyfforddiant staff a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch.
Archwilir y cyfrifon yn fanwl yn rheolaidd, gan sicrhau bod unrhyw orwariant neu darged incwm nas cyrhaeddir yn cael ei wrthweithio.
Crëwyd cofrestr risg benodol ar gyfer COVID-19 ac mae honno’n cael eu monitro a diweddaru’r rheolaidd.
2. AMCANION A GWEITHGAREDDAU
Ein Gweledigaeth
Creu theatr Cymraeg eithriadol i bawb
Ein Cenhadaeth
Creu a chyflwyno profiadau theatr Cymraeg sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at fywydau pobl Cymru a thu hwnt.
Ein Gwerthoedd:
-
Cymraeg: Ry’n ni’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ein holl weithgareddau, ac yn defnyddio pob cyfle i ddefnyddio, hybu a dathlu’n hiaith arbennig.
-
Cynhwysol: Ry’n ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnwys pawb yn ein gwaith mewn ffordd ystyrlon.
-
Creadigol: Ry’n ni’n ddyfeisgar, yn feiddgar ac yn uchelgeisiol yn y modd yr ydym yn comisiynu a chreu gwaith, gyda’r nod o ddiddanu ac ysbrydoli ein cynulleidfaoedd.
-
Cynaliadwy: Ry’n ni’n ceisio’r gwerth gorau am arian a sicrhau’r incwm mwyaf posibl o’n gweithgareddau, a ry’n ni’n ymdrechu’n gyson i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.
-
Perthnasol: Ry'n ni'n gwmni theatr cyfoes sy'n cynnig arlwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n berthnasol i fywydau pobl yng Nghymru heddiw.
Y Cwmni
Sefydlwyd ac ymgorfforwyd Theatr Genedlaethol Cymru yn 2003.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cadarnhau eu bod wedi cydymffurfio â’u dyletswydd dan adran 17 (5) o Ddeddf Elusennau 2011 o ran arweiniad cyffredinol y Comisiwn Elusennau er budd cyhoeddus wrth adolygu’r Elusen ac amcanion wrth gynllunio gweithgareddau yn y dyfodol.
Mae’r cwmni yn gwmni theatr teithiol sy’n cynhyrchu dramâu prif lwyfan, cynyrchiadau mewn lleoliadau arbennig, a chynyrchiadau yng nghalon cymunedau Cymru. Ei fwriad yw creu rhaglen gytbwys o waith theatr sy’n adloniannol, arloesol ac uchelgeisiol, ac sy’n cynrychioli diwylliant deinamig Cymru.
Prif Swyddogaethau’r Cwmni:
-
Cynyddu’r ddarpariaeth ddiwylliannol a chelfyddydol yn y Gymraeg.
-
Datblygu hunaniaeth genedlaethol trwy gyfrwng theatr.
-
Datblygu theatr fel cyfrwng celfyddydol yng nghyd-destun y diwylliant Cymraeg.
-
Datblygu sgiliau a hyder gweithwyr theatr, rhanddeiliaid, mynychwyr a chyfranogwyr theatr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn y cyfnod cyn COVID-19, arfer y cwmni – a leolir yng Nghaerfyrddin – oedd cyflwyno lleiafswm o bedwar cynhyrchiad theatr y flwyddyn, a’r rheiny’n amrywio o ddramâu clasurol Cymraeg, addasiadau llwyfan o glasuron llenyddol Cymraeg, trosiadau o glasuron theatr ryngwladol, ysgrifennu newydd, theatr i blant a phobl ifanc, prosiectau cymunedol, cynyrchiadau safle-benodol, theatr ddawns a theatr gerddorol. Yr arfer oedd creu cynyrchiadau ar gyfer eu teithio i ganolfannau celfyddydol ar draws Cymru, yn brif lwyfannau a
- 4 -
chanolfannau graddfa ganolig, bychan a chymunedol, a hefyd teithio’n achlysurol y tu hwnt i Gymru yn y DU ac yn rhyngwladol. Oherwydd cyfyngiadau sylweddol ar weithrediadau arferol y cwmni, ar y sector theatr yn gyffredinol ac ar gymdeithas yn ehangach, yn arbennig felly’r ffaith bod Llywodraeth Cymru – fel rhan o’u mesurau i warchod iechyd y cyhoedd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – wedi gorfodi theatrau a chanolfannau celfyddydol i gau eu drysau am y cyfan o’r flwyddyn ariannol 2020/21, bu’n rhaid i’r cwmni newid dros nos y modd yr oedd yn gweithio, a’r gwasanaeth yr oedd yn ei ddarparu i’r cyhoedd.
Mae’r cwmni, mewn cyfnod arferol, yn creu prosiectau ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed, ac ar gyfer cymunedau amrywiol, yn gymunedau diwydiannol, gwledig a dinesig. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â chanolfannau i gynhyrchu prosiectau theatr, yn ogystal ag i lwyfannu ei waith, ac i ddatblygu cynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru. Ffocws 2021/22 oedd dychwelyd i gyflwyno perfformiadau byw, a gwnaethpwyd hynny’n llwyddiannus, gan fanteisio ar gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau amrywiol ar draws y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol, a sefydliadau eraill y tu hwnt.
Parhaodd y cwmni i gyflwyno rhaglen amrywiol o waith cyfranogol, yn cynnwys gweithdai a sgyrsiau i ysgolion a grwpiau cymunedol o bob oed, gan barhau hefyd i weithio’n gyson gydag asiantaethau a sefydliadau eraill ar y ddarpariaeth hon.
Mae gwaith y cwmni wedi’i anelu’n bennaf at siaradwyr Cymraeg, ond anelir hefyd at gyrraedd dysgwyr y Gymraeg a’r di-Gymraeg yng Nghymru. Mae’r cwmni’n creu pecynnau addysg a phecynnau ar gyfer dysgwyr sy’n cyd-fynd â’i gynyrchiadau. Er mwyn darparu mynediad i gynyrchiadau’r cwmni i’r rhai sydd dim yn medru’r Gymraeg, defnyddir cyfuniad o ap Sibrwd a chapsiynau, yn dibynnu ar ba opsiwn sydd fwyaf addas ar gyfer y cynhyrchiad. Gyda chynnwys digidol y cwmni, darperir capsiynau Cymraeg a Saesneg.
Er bod gwaith y cwmni wedi’i wreiddio yng Nghymru, mae wedi ymrwymo i godi proffil Cymru, y Gymraeg, a theatr trwy gyfrwng y Gymraeg y tu hwnt i Gymru, o fewn y Deyrnas Unedig yn ehangach, ac yn rhyngwladol.
Cynllun Strategol 2021-25
Yn wyneb COVID, newidiodd blaenoriaethau’r cwmni yn sydyn iawn a doedd dim modd cyflawni’r targedau a nodwyd uchod. Gosodwyd blaenoriaethau dros dro, mewn ymateb i’r sefyllfa ar y pryd, a chrëwyd cynllun gweithredu tymor byr yn 2020. Blaenoriaethau’r cynllun gweithredu yna oedd:
-
Amrywiaeth a Chynhwysiant
-
Marchnata a Chyfathrebu
-
Datblygu Sgiliau a Chefnogi’r Sector
-
Cefnogi Canolfannau Celfyddydol
-
Cynnal Diddordeb Cynulleidfaoedd
-
Datblygu Gwaith Newydd ar gyfer y Dyfodol
Yn 2021, yn dilyn adolygiad o waith y cwmni a’r cyd-destun gweithredu presennol, adnabuwyd y blaenoriaethau isod ar gyfer y cyfnod 2021-2025:
-
Cynyddu cynulleidfaoedd
-
Arallgyfeirio ein ffrydiau incwm
-
Cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant
-
Datblygu gwaith marchnata a chyfathrebu'r cwmni
-
Lleihau effaith y cwmni ar yr amgylchedd
Cytunwyd ar dargedau yn ymwneud â phob un o’r blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 ymlaen.
- 5 -
Prif Weithgareddau’r Cwmni
Yn unol â’i genhadaeth, mae’r cwmni’n cynnig amrywiaeth o brofiadau theatr Cymraeg eang eu hapêl, sy’n cynnwys perfformiadau o’i gynyrchiadau ac amrywiaeth o gyfleoedd i ymgyfranogi yn y celfyddydau.
Ar ddechrau 2021/22 roedd theatrau yn parhau i fod ar gau oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a doedd dim modd cynnal perfformiadau byw felly roedd yr arlwy yn ystod misoedd cyntaf 2021/22 yn arlwy digidol. Llaciwyd y cyfyngiadau yn haf 2021, a chroesawom y cyfle i ddychwelyd i gynnal perfformiadau a digwyddiadau byw.
Yn ystod 2021/22 roedd gweithgaredd y cwmni yn cynnwys:
Cynyrchiadau:
-
Pryd mae’r haf? (digidol) – Trosiad newydd i’r Gymraeg gan Gwawr Loader o ddrama Chloë Moss, Christmas is Miles Away , wedi’i gosod yng nghymoedd y de ar ddiwedd y 1980au. Dyma ddrama dyner am gyfeillgarwch, gobeithion ac ofnau pobl ifanc ym mhob oes. Llwyfannwyd y cynhyrchiad hwn yn wreiddiol ym mis Chwefror 2020 gyda pherfformiadau yn Theatr Soar, Merthyr Tudful, a The Other Room yng Nghaerdydd. Yn sgil COVID-19, bu raid canslo gweddill y daith genedlaethol oedd i ddilyn ym mis Ebrill 2020. Perfformiwyd a ffilmiwyd y cynhyrchiad yn fyw yng Nghanolfan S4C yr Egin y mis Mai 2021, heb gynulleidfa fyw oherwydd cyfyngiadau COVID. Ffrydiwyd y gwaith yn ddigidol ar blatfform TicketCo gyda dau ffrydiad digidol o berfformiadau byw, a tri ffrydiad digidol o recordiad gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg a BSL. Roedd hwn yn gyd-gynhyrchiad gyda chwmni theatr Criw Brwd, mewn partneriaeth â Chanolfan Soar a The Other Room.
-
Faust + Greta - Cynhyrchiad wedi’i ddyfeisio a’i berfformio gan ensemble o 13 o bobl ifanc rhwng 17 a 25, wrth ddod allan o’r cyfnod clo. Ysbrydolwyd y cynhyrchiad gan drosiad Cymraeg T. Gwynn Jones o waith gwreiddiol Goethe, a chydweithiodd yr ensemble ifanc gyda thîm o artistiaid proffesiynol i greu’r gwaith. Llwyfannwyd y cynhyrchiad mewn theatr wag yn Pontio a ffrydiwyd pedwar perfformiad byw yn ddigidol, yn ogystal â thri ffrydiad digidol ar-alw gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg a BSL. Cydgynhyrchiad Frân Wen, Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio.
-
Gwlad yr Asyn – Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr o ddrama wreiddiol newydd gan Wyn Mason. Yn gyfuniad o ddychan, cerddoriaeth fyw ac alegori, mae’r ddrama’n adrodd stori asyn benywaidd tra gwahanol, sydd wedi ei magu mewn byngalo ac yn mwynhau yfed pop a gwylio’r teledu! Ond y tu ôl i’r hiwmor, mae stori deimladwy am alar, camdriniaeth a chyfle i archwilio a chwestiynu ein perthynas ni gydag anifeiliaid a byd natur a hefyd sefyllfa wleidyddol Cymru. Hwn oedd y cynhyrchiad cyntaf i’r cwmni gyflwyno i gynulleidfaoedd byw ers dechrau COVID. Cyflwynwyd 11 perfformiad byw mewn 6 lleoliad gwahanol – yn gymysgedd o awyr agored a dan do mewn ymateb i COVID.
-
Anfamol - Drama newydd, ddoniol a thyner gan Rhiannon Boyle am hunaniaeth, colled, cariad a pherthyn, ac am fod yn fam ac yn rhiant sengl yn y byd sydd ohoni. Hon oedd y daith genedlaethol gyntaf ers COVID gyda 15 perfformiad mewn 8 canolfan. Dewiswyd y cynhyrchiad hwn yn fwriadol am ei bod yn sioe fonolog gydag un actor, er mwyn rheoli risg COVID. Er bod cyfyngiadau COVID wedi eu llacio’n sylweddol erbyn i’r cwmni deithio’r cynhyrchiad hwn, roedd nifer o ganolfannau yn parhau i weithredu gydag ymbellhau cymdeithasol mewn lle. Cafwyd ymateb anhygoel gan y gynulleidfa i’r cynhyrchiad, gyda thocynnau wedi gwerthu allan ar gyfer nifer o berfformiadau.
-
Llygoden yr Eira - Cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Iolo. Penderfynwyd teithio’r sioe hon unwaith eto, ar ôl llwyddiant y daith yn 2019 ac mewn ymateb i’r galw am arlwy theatr i blant ar ôl y cyfnodau clo. Cynhyrchiad twymgalon a hudolus ar gyfer plant dan 5 oed a’u teuluoedd; stori aeafol swynol, yn llawn cerddoriaeth, pypedwaith a chwarae. Roed hon yn daith genedlaethol gyda 42 o berfformiadau mewn 10 canolfan.
-
Petula - Cyd-gynhyrchiad gyda National Theatre Wales ac August 012. Cynhyrchiad newydd o ddrama wreiddiol gan Fabrice Melquiot, gyda sgript amlieithog gan Daf James ac wedi ei gyfarwyddo gan Mathilde Lopez. Mae’r ddrama yn gyfuniad tywyll a swreal o gomedi ac antur, ac yn adrodd stori bachgen yn ei arddegau sydd wedi cael llond bol ar ei rieni, a’r holl bwysau o fod yn berson ifanc yn y
-
6 -
byd. Mae’n dianc ar antur i’r gofod, i chwilio am atebion ac i geisio dod o hyd i’w gyfnither goll, Petula. Mae’r cynnwys yn cyffwrdd â nifer o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc ledled y byd – byw mewn teuluoedd cymysg, cartrefi dwyieithog, delwedd y corff a pherthnasoedd. Teithiwyd y sioe yn genedlaethol, gyda’r bwriad gwreiddiol o gyflwyno 17 perfformiad mewn 7 canolfan. Canslwyd nifer o berfformiadau o ganlyniad i COVID ac felly, yn y pen draw, fe gyflwynwyd 10 perfformiad mewn 5 canolfan. Roedd effaith COVID ar y cynhyrchiad hwn yn sylweddol – yn uniongyrchol oherwydd salwch, ond hefyd oherwydd ansicrwydd cynulleidfaoedd ar ôl y cyfnod clo mewn ymateb i amrywiad Omicron.
Arlwy digidol
Yn 2020/21 fe aethpwyd ati i greu a rhannu ystod eang o arlwy theatrig digidol er mwyn cynnal diddordeb ein cynulleidfaoedd yn ystod y cyfnodau clo ac ar adegau lle nad oedd modd cynnal perfformiadau byw. Fel parhad i’r gwaith yna, chrëwyd a rhannwyd yr arlwy ddigidol isod yn ystod 2021/22:
-
Enfys gan Melangell Dolma - Yn dilyn llwyddiant y ddrama ddigidol Enfys gan Melangell Dolma, cynhyrchwyd 3 pennod ddigidol newydd yn adrodd hanes Nick, wnaeth ddechrau dysgu Cymraeg yn y cyfnod clo cyntaf, a’i berthynas gyda’i athrawes Gymraeg - Enfys. Roedd hwn yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw ac fe rannwyd y pedair drama fer ddigidol ar Facebook a YouTube, yn ystod Wythnos Dathlu Dysgwyr Cymraeg Radio Cymru.
-
Cynyrchiadau o ddramâu buddugol Cystadleuaeth Medal Ddrama’r Urdd 2020 - Cyd-gynhyrchwyd tair drama fer ddigidol gyda Hansh, ac mewn partneriaeth gyda’r Urdd. Y tair drama yma ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Medal Ddrama’r Urdd Eisteddfod T 2020 - Help(u) , Dan Orfod , Gwydr . Rhannwyd y dramâu digidol ar gyfrifon Facebook a YouTube Theatr Genedlaethol Cymru a Hansh.
-
Theatr Gen Eto: cyflwyniadau ar-lein o recordiadau rhai o gyn-gynyrchiadau’r cwmni - Yn 2020/21 rhannwyd nifer o recordiadau o gynyrchiadau’r cwmni o’r gorffennol yn rhad ac am ddim i wylwyr arlein. Roedd y tair olaf yn y casgliad hwn ar gael i’w gwylio yn ystod misoedd cyntaf 2021/22 :
-
Macbeth
- Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter. Dyma gynhyrchiad o glasur William Shakespeare mewn trosiad i’r Gymraeg gan Gwyn Thomas, a gyflwynwyd yn wreiddiol ar leoliad yng Nghastell Caerffili ac mewn darllediad byw trwy gyfrwng lloeren i ganolfannau ledled Cymru yn 2017.
-
Blodeuwedd
- Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth gan Cadw, o glasur Saunders Lewis, a gyflwynwyd yn wreiddiol ar leoliad ar safle Tomen y Mur yng Ngwynedd ym mis Gorffennaf 2013.
-
Y Tŵr
- Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Music Theatre Wales mewn partneriaeth â Pontio. Dyma gynhyrchiad o opera wreiddiol gan Guto Puw, gyda libreto gan Gwyneth Glyn, yn seiliedig ar ddrama wreiddiol Gwenlyn Parry. Cyflwynwyd y cynhyrchiad yn wreiddiol fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg, gyda chefnogaeth gan Theatr y Sherman, ac yna ar daith ledled Cymru yn 2017.
Datblygu Talent a Sgiliau
Mae’r cwmni wedi ymrwymo i ddatblygu talent yn y sector theatr yng Nghymru, boed hynny’n ddramodwyr, cyfarwyddwyr, gwneuthurwyr theatr, cynllunwyr, actorion neu unrhyw ymarferwyr disgyblaeth theatr arall, yn arbennig ymysg siaradwyr Cymraeg. Mae’n elfen bwysig o waith y cwmni er mwyn diogelu ei ddyfodol, ac er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth theatr a chelfyddydau Cymraeg eu hiaith yng Nghymru.
-
Bwrsariaethau – Yn 2020/21 fe ddyrannodd y cwmni 6 Bwrsari Datblygu Syniad, sef cynllun bwrsariaeth yn benodol ar gyfer artistiaid anabl ac artistiaid o gefndiroedd ethnig amrywiol. Roedd y bwrsariaethau hyn yn rhoi cyfle i’r artistiaid ddatblygu eu syniadau ar gyfer prosiect theatraidd gyda chefnogaeth y
-
7 -
cwmni. Dyrannwyd 5 bwrsari arall o’r enw Bwrsari Artist a Chymuned. Roedd y cynllun hwn yn annog artistiaid i ddatblygu gwaith gyda chymuned benodol, boed honno’n gymuned ddaearyddol, broffesiynol, ar-lein neu’n gymuned sy’n rhannu nodweddion neilltuol. Yn 2021/22, derbyniodd nifer o’r artistiaid gomisiwn datblygu er mwyn datblygu eu syniadau ymhellach ac fe dderbyniodd tri artist gomisiwn llawn er mwyn datblygu eu syniadau yn ddramâu llawn.
-
Cymraeg Gwaith: Hybu Hyder: Yn ystod 2020/21 fe ddaeth i’r amlwg fod diffyg hyder yn y Gymraeg yn rhwystr i rai artistiaid a gweithwyr theatr rhag eu cyflwyno eu hunain i’r cwmni ar gyfer darpar gyflogaeth, neu gynnig syniadau creadigol iddo. Oherwydd hynny, bu’r cwmni’n cydweithio gyda CCC a Chanolfan Nant Gwrtheyrn ar gynllun peilot i roi cyfleoedd i weithwyr llawrydd ym maes y celfyddydau perfformio i fynychu cyrsiau datblygu sgiliau iaith, a hynny fel rhan o gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Estynnwyd y cynllun am rownd arall yn 2021/22 a chyflwynwyd adroddiad i CCC ar ail rownd y peilot. Mae CCC bellach wedi penodi Cydlynydd Dysgu Cymraeg i ymgymryd â’r gwaith yma.
-
Awenau: Yn 2018 sefydlwyd Cynllun Awenau i hyfforddi a chefnogi egin gyfarwyddwyr. Fel gwaddol i’r cynllun yna penderfynwyd i gynnig cyfleoedd datblygu i gyfarwyddwr ar gynyrchiadau’r cwmni. Cyflogwyd Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar bob cynhyrchiad yn 2021/22.
-
PAIR: Lansiwyd y cynllun ym mis Mawrth 2022, mewn partneriaeth gydag S4C, ac mae’n gynllun sy’n rhoi cyfle i artistiaid cyfle i gyd-greu drwy ddyfeisio mewn gofod creadigol. Rhoddwyd cyfle i weithwyr llawrydd celfyddydol i ymgeisio i fod yn un o ddeuddeg o bobl i dderbyn hyfforddiant a chymryd rhan mewn gweithdai er mwyn dysgu sgiliau ymchwil, dulliau dyfeisio, a sgiliau creu ar y cyd. Y gobaith yw y bydd rhai o’r syniadau a gyflwynir yn arwain at gomisiynau gan Theatr Gen i greu cynyrchiadau theatr byw dyfeisiedig, a allai gynnwys elfennau digidol hefyd. Bydd hefyd yn fodd i artistiaid a chrewyr cynnwys dramataidd o bob math ddatblygu perthynas greadigol a phroffesiynol gyda Theatr Genedlaethol Cymru ac S4C. Cadarnhawyd yr artistiaid llwyddiannus ym mis Ebrill 2022 a chychwynnwyd y sesiynau hyfforddi a chydweithio ym mis Mai 2022, sydd tu hwnt i’r cyfnod sy’n ffocws i’r adroddiad hwn.
-
Am Ddrama: Mae Am Ddrama / Play On yn gynllun ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd a National Theatre Wales i ddod o hyd i sgriptiau a dramâu newydd a chyffrous gan ddramodwyr sydd yn hanu o Gymru ac / neu wedi eu lleoli yng Nghymru. Mae Am Ddrama yn galluogi dramodwyr i anfon eu sgriptiau a’u dramâu sydd heb eu cyhoeddi yn ddienw at banel eiddgar o ddarllenwyr i gael adborth gwerthfawr. Mae’n bosibl y bydd cyfle i’r sgriptiau mwyaf addawol gael eu datblygu, gan baru’r sgript a’r dramodydd gydag un o’r tri sefydliad sy’n fwyaf addas i’w datblygu, ei chomisiynu a’i chynhyrchu. Mae’r darllenwyr ar y panel yn newid bob 6 mis ac yn cael eu dewis drwy broses ymgeisio. Er mwyn gallu darparu adborth cynhwysfawr a defnyddiol i’r dramodwyr, mae’r darllenwyr yn derbyn sesiynau hyfforddi gan ddramatwrg profiadol.
Cyfranogi
Mae ein gwaith cyfranogi yn ffordd holl bwysig o ymwneud �a’n cynulleidfaoedd mewn modd gwahanol, ond hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i bobl gymryd rhan yn y celfyddydau – i fwynhau, magu hyder a datblygu sgiliau. Mae’r ymwneud â’r celfyddydau hefyd yn gallu cefnogi adferiad a gwella iechyd a lles. Yn aml yn y gwaith yma daw pŵer y celfyddydau i’r amlwg.
Mae gwaith ymgyfranogi’r cwmni yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgaredd theatr, yn cynnwys gweithdai i grwpiau gwahanol (e.e. disgyblion a myfyrwyr, ac artistiaid ar eu prifiant), sgyrsiau cyn ac ar ôl sioeau, a sesiynau i ddysgwyr. Mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n datblygu cynulleidfa ar gyfer cynyrchiadau, a gweithgareddau sy’n ymateb i alw gan gymunedau amrywiol, boed yn grŵp cymunedol, yn fusnes neu’n sefydliad mewn sector arall.
-
Clybiau Drama: Yn ystod Haf 2021, cynhaliwyd sesiynau pellach o Glwb Theatr Cymru yn rhithiol, ar y cyd gyda Mentrau Iaith Cymru. Mae’r cwmni yn parhau i gynnal 3 clwb drama yn Ne Orllewin Cymru mewn partneriaeth gyda Mentrau Iaith lleol. Yng Nghaerfyrddin, mae Clwb Joio Drama ar gyfer plant cynradd Blwyddyn 1-3, a Chlwb Drama i blant cynradd Blwyddyn 4-6 – y ddau mewn partneriaeth gyda
-
8 -
Menter Gorllewin Sir Gâr. Yn Sir Benfro, mae Clwb Drama i blant cynradd mewn partneriaeth gyda Menter Sir Benfro, a chynhelir y sesiynau ym Maenclochog. Llwyddwyd i ddychwelyd i gynnal sesiynau wyneb yn wyneb i’r clybiau yn 2021/22 ar ôl cynnal sesiynau digidol yn ystod y cyfnod clo.
-
Ar y Dibyn: Mae prosiect Ar y Dibyn yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddibyniaeth – boed hynny’n bobl sy’n byw gyda dibyniaeth neu sy’n cefnogi pobl eraill gyda’u dibyniaeth – i ddod at ei gilydd a rhannu’r straeon hynny mewn ffordd greadigol. Yn ystod y cyfnodau clo cynhaliwyd sesiynau gydag ymgyfranogwyr yn ddigidol, ond yn ystod 2021/22, fe lwyddwyd i gynnal sesiynau wyneb yn wyneb yn ogystal â rhai digidol. Derbyniwyd cefnogaeth ariannol ar gyfer y prosiect yn 2021/22 gan raglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil Pobl (HARP) NESTA, Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Gwynedd ac Ynys Môn a Chymdeithas Tai Adra. Cydweithiwr gyda Llenyddiaeth Cymru a Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Gwynedd ac Ynys Môn i gynnal y prosiect.
-
Cynllun Dramodwyr Ifanc a’r Dramodydd Preswyl Ifanc : Bu’r cwmni’n cydweithio gyda’r Urdd, S4C, ac am y tro cyntaf - BBC Studio, i ddarparu cynllun datblygu a hyfforddi ar gyfer dramodwyr ifanc (16-25 oed). Yn debyg i 2020/21, cyflwynwyd rhaglen o ddosbarthiadau meistr a gweithdai gyda dramodwyr proffesiynol er mwyn cefnogi’r bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu, gyda’r nod o annog cystadleuwyr i gyflwyno gwaith ar gyfer Medal Ddrama Eisteddfod T 2022. Daeth Rhiannon Williams i’r brig yng nghystadlaethau Medal Ddrama’r Urdd yn 2021 ac felly hi oedd Dramodydd Preswyl Ifanc cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru. Fel y Dramodydd Preswyl Ifanc, mae Rhiannon wedi derbyn pecyn o gefnogaeth cyn cynnwys mentora a chyfle i gysgodi aelodau o staff y cwmni mewn cyfarfodydd.
-
Faust + Greta: Rhoddwyd cyfle i ensemble o bobl ifanc rhwng 18 a 25 i gydweithio gydag artistiaid proffesiynol i greu’r cynhyrchiad Faust + Greta. Derbyniodd yr artistiaid ifanc o’r gymuned arweiniad ac anogaeth, a chyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, yn arbennig o ran sgiliau actio, gwaith llais, theatr gorfforol a dyfeisio theatr, yn ogystal ag elfennau o greu gwaith digidol a dylunio. Pen llanw’r cynllun oedd y cyfle i berfformio’r cynhyrchiad yn theatr Bryn Terfel yn Pontio a ffrydiwyd y perfformiad yn fyw yn ddigidol.
-
Academi Leeway: Darparwyd cefnogaeth unwaith eto yn 2021/22 i brosiect a arweiniwyd gan Leeway Productions, gyda chefnogaeth hefyd gan Theatr Soar, Merthyr Tudful, a oedd yn datblygu sgiliau artistiaid ifanc yn y gymuned yn ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Caerffili ac ardaloedd cyfagos. Dan arweiniad artistiaid proffesiynol, roedd yr artistiaid ifanc yn creu ac yn cyflwyno’n ddigidol eu sioeau cerdd gwreiddiol eu hunain.
-
Dysgwyr: Darparwyd amrywiaeth o weithdai i ddysgwyr mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Cymru. Cydweithiwyd unwaith eto gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gefnogi'r cwricwlwm.
-
Prosiect Ysgol Bro Pedr: Trwy gefnogaeth ariannol gan Western Power, cynhaliwyd gweithdai creadigol gyda disgyblion sy’n rhan o adran anghenion addysg ychwanegol Ysgol Bro Pedr. Y nod oedd rhoi’r cyfle i ddisgyblion, sydd ddim fel arfer yn cael mynediad i’r celfyddydau, i weithio gydag artist proffesiynol i greu murlun wedi’i ysbrydoli gan eu hardal leol.
-
Criw Creu: Mae’r prosiect hwn yn barhad i’r cynllun a ddechreuwyd yn Ysgol Bro Pedr. Prosiect cenedlaethol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw Criw Creu sy’n cael ei arwain gan Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Lenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru. Mae disgyblion pedair ysgol uwchradd yn rhan o’r prosiect, sef Ysgol Bro Pedr, Criw Hwb Ysgol Tryfan Bangor, disgyblion Sgiliau Bywyd Ysgol Penweddig Aberystwyth a chriw o Ysgol Plasmawr, Caerdydd. Dyma’r tro cyntaf i nifer o’r disgyblion gael y cyfle i gydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol. Cafwyd gweithdai drama gan Sian Elin, Cydlynydd Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru. Daeth Casi Wyn, Bardd Plant Cymru, i gydweithio â’r disgyblion a chreu darnau gwreiddiol o farddoniaeth. Cafwyd gweithdai animeiddio gyda Sioned Medi Evans o gwmni SMEI a hefyd recordio cerddoriaeth gyda cherddorion a swyddogion yr Urdd, Marged Gwenllian, Osian Rhys, Caryl Griffiths, Seimon Thomas a Lewys Wyn Jones.
-
Petula - Ymgynghorwyr Ifanc : Gweithiwyd gyda National Theatre Wales ac August012 i ymgynnull 2 grŵp o bobl ifanc fel ymgynghorwyr ar Petula - cyd-gynhyrchiad rhwng y 3 cwmni. Roedd 1 grŵp o bobl ifanc o amryw o leoliadau ar draws Cymru yn cyfarfod yn rhithiol i roi adborth ar farchnata, a grŵp arall
-
9 -
yn cyfarfod wyneb yn wyneb yn Theatr Sherman i fod yn rhan o greu’r cynhyrchiad a mynychu ymarferion.
- Casgliad Dysgu: Mae’r cwmni yn parhau i gynnig adnoddau addysg ar lein trwy Casgliad Dysgu. Mae Casgliad Dysgu yn rhoi cyfle i ddarlithwyr, athrawon, myfyrwyr, disgyblion, addysgwyr a dysgwyr i wylio, astudio a mwynhau theatr Gymraeg. Mae capsiynau caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael ar bob cynhyrchiad yn y casgliad.
Cydweithiwyd gydag ystod eang o bartneriaid er mwyn darparu cyfleoedd i ymgyfranogi yn y celfyddydau, gan gynnwys Mentrau Iaith Cymru, Urdd Gobaith Cymru, S4C, BBC Studio, Cymdeithas Tai Adra, Llenyddiaeth Cymru, Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Gwynedd ac Ynys Môn, Frân Wen, Pontio, Cynyrchiadau Leeway, Theatr Soar, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, August012, Menter Gorllewin Sir Gâr, Menter Iaith Sir Benfro, Menter Iaith Cered, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Roedd cefnogaeth y partneriaid hyn yn allweddol i lwyddiant y gwaith.
3. CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD
Trosolwg o Brif Weithgaredd y Flwyddyn:
| 3. CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD Trosolwg o Brif Weithgaredd y Flwyddyn: |
|||
|---|---|---|---|
| Targedau a chyrhaeddiad | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 |
| Theatr Byw – Mynychwyr | 16,399 | 0 | 7,046 |
| Cyflwyniadau Theatr Ddigidol – Gwyliadau | 0 | 73,427 | 27,799 |
| Cyfranogwyr – Plant a Phobl Ifanc | 3,979 | 5,762 | 2,126 |
| Cyfranogwyr – Cyffredinol | 1,462 | 99 | 185 |
| Sgyrsiau a Sesiynau Holi ac Ateb | 1,174 | 622 | 2,098 |
| Cyfanswm Cyfranogwyr | 6,615 | 6,483 | 4,409 |
| Cyfanswm y Mynychwyr a’r Cyfranogwyr | 23,014 | 79,910 | 39,254 |
4. ADOLYGIAD ARIANNOL
Tra bod y cyfan o wariant y cwmni yn gysylltiedig mewn rhyw fodd â gwasanaethau’r cwmni, mae gwariant uniongyrchol ar brif weithgareddau’r cwmni, fel y disgrifir hwy uchod, yn cynrychioli’r rhan helaethaf o wariant blynyddol y cwmni. Mae’r rhan helaethaf o gostau cyflwyno cynyrchiadau theatraidd yn gysylltiedig â gwaith artistiaid llawrydd wrth greu’r gwaith, ac â staffio’r cynyrchiadau. Er mwyn cynnal y safonau artistig uchaf posibl, mae’r cwmni’n cyflogi naill ai’r artistiaid mwyaf profiadol neu’r mwyaf cymwys, ac yn gweithredu taliadau yn unol â chanllawiau a chytundebau UK Theatre, sef y sefydliad ambarél y mae’r cwmni’n aelod ohono. Mae’r taliadau hynny, yn eu tro, yn seiliedig ar gytundebau’r sefydliad hwnnw gydag undebau llafur y diwydiannau creadigol a’r sector ddiwylliannol.
Mae gwerthoedd cynhyrchu uchel y cwmni – yn unol â disgwyliadau’r gynulleidfa wrth ystyried gwaith cwmni theatr cenedlaethol, a nodau ac amcanion y cwmni – yn golygu bod rhan sylweddol o gyllideb pob cynhyrchiad yn gysylltiedig â chostau cynhyrchu (e.e. cynllunio a chreu neu ddarparu set a gwisgoedd, cynlluniau sain a goleuo, rheoli llwyfan, ac ati, ac yn achos cynyrchiadau digidol, gwaith camera a golygu, a chostau ffrydio).
- 10 -
Sicrhau Gwerth am Arian
Ym mhob agwedd o’i waith, mae’r cwmni’n ymdrechu bob amser i sicrhau gwerth am arian, gan ofalu ei fod yn sicrhau prisiau cystadleuol wrth, e.e. brynu offer, archebu llety a chostau eraill yn gysylltiedig â chreu cynyrchiadau theatr. Mae gan y cwmni bolisi caffael sy’n nodi’r isod:
| cynyrchiadau theatr. Mae gan y | cwmni bolisi caffael sy’n nodi’r isod: |
|---|---|
| Cost | Gofyniad |
| Hyd at £5,000 | Dyfynbrisiau – Isafswm o 1 |
| £5,000 i £25,000 | Dyfynbrisiau – Isafswm o 3 |
| £25,000 i £75,000 | Proses dendrogaeedig–gwahodd 4–6(angen derbyn o leiaf 2) |
| Uwch na £75,000 | Proses dendro agored(angen derbyn o leiaf 2) |
Pennir cyflogau staff parhaol yn seiliedig ar arolwg o gyflogau cyfatebol yn y sector ac yn lleol, er mwyn sicrhau gwerth am arian, tra ar yr un pryd yn cynnal safonau disgwyliedig.
Polisi Cronfeydd
Cedwir swm o £195,000 wrth gefn (y swm i’w adolygu’n flynyddol) ar gyfer amgylchiadau eithriadol na ellir eu rhagweld.
Arwyddwyd prydles newydd ar ran o adeilad Y Llwyfan (sef pencadlys y cwmni) ym mis Hydref 2018. Prydles 10 mlynedd yw’r cytundeb presennol, gyda chymal torri ar ôl 5 mlynedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r cwmni wedi bod yn neilltuo swm yn flynyddol tuag at y brydles newydd, a defnyddiwyd y gronfa hon i dalu cost y brydles am y 5 mlynedd gyntaf. Cytunodd y Bwrdd y dylid neilltuo £37,000 yn 2018/19 a £35,000 am y 4 blynedd nesaf ar gyfer taliad nesaf y brydles (h.y. y 5 mlynedd sy’n weddill).
Ers nifer o flynyddoedd mae’r cwmni wedi bod yn neilltuo swm o £10,000 yn flynyddol i gronfa gyfalaf, er mwyn adnewyddu offer presennol y cwmni, yn cynnwys cerbydau, a buddsoddi mewn offer sy’n lleihau costau refeniw’r cwmni. Yn 2021/22 penderfynodd y Bwrdd i beidio neilltuo’r £10,000 am fod y swm iach wedi ei adeiladu yn y gronfa bellach. Bydd y Bwrdd yn adolygu’r polisi hwn yn flynyddol.
Nawdd Cyhoeddus
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC), ac mae’r statws hwnnw’n rhoi sicrwydd cymharol o gyllid am gyfnod penodol o bum mlynedd. Bydd CCC yn cynnal Adolygiad Buddsoddiad o’i Bortffolio yn 2023, a’r disgwyliad yw y bydd y Portffolio o sefydliadau a ariennir yn flynyddol (yn cychwyn am gyfnod o bum mlynedd o Ebrill 2024) yn cael ei gadarnhau ym mis Medi 2023.
Mae’r cwmni’n cyfarfod a thrafod yn gyson gyda CCC, ei brif noddwr. Mae’r cwmni’n falch iawn o barhau i fod yn aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru CCC, ac mae ganddo berthynas adeiladol gyda’i brif noddwr. Mae’r cwmni’n adrodd yn ôl yn gyson i CCC, ac yn cyflawni’r holl orchwylion a’r gofynion sydd ynghlwm â derbyn y nawdd hwn.
Yn hanesyddol, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi dibynnu’n drwm ar gyllid gan CCC. Mae hyn yn gosod risg sylweddol i’r cwmni oherwydd y pwysau cynyddol sydd ar arian cyhoeddus. Un o’n prif nodau ar gyfer cyfnod cynllun busnes 2018–22 oedd lleihau’r ddibyniaeth ar arian CCC trwy gynyddu incwm o ffynonellau eraill. Yn 2019/20 llwyddwyd i ostwng ein lefel dibyniaeth ar arian CCC y tu hwnt i’r targed a osodwyd, ac roedd y gostyngiad yn 10% o’r flwyddyn flaenorol (2018/19). Y nod oedd lleihau’r ddibyniaeth ymhellach dros y blynyddoedd nesaf, ac erbyn 2022 byddai cyllid CCC yn cynrychioli 75% o gyfanswm incwm y cwmni.
| 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | |
|---|---|---|---|
| Cyllid CCC | £1,054,495 | £1,072,566 | £1,052,142 |
| Cyfanswm Incwm | £1,364,196 | £1,103,316 | £1,280,037 |
| Cyllid CCC fel % | 77% | 97% | 82% |
Yn sgil COVID-19, cynyddodd y lefel ddibyniaeth yn sylweddol unwaith eto, gyda chyllid CCC yn cynrychioli 97% o holl incwm y cwmni. Roedd hyn yn bennaf oherwydd nad oedd modd cynhyrchu incwm o werthiant
- 11 -
tocynnau i berfformiadau, na denu incwm partneriaeth i gynyrchiadau. Yn 2021/22 llwyddwyd i leihau’r ddibyniaeth i 82% a byddwn yn parhau i geisio lleihau’r lefel ddibyniaeth ymhellach.
Staff
-
Yn ystod 2020/21 roedd staff craidd y cwmni’n cynnwys 9 aelod o staff llawn amser (2020/21:10) a 7 aelod o staff rhan amser (2020/21:5), ar gyfartaledd.
-
Mae staff y cwmni’n cynyddu’n sylweddol wrth gyflogi artistiaid a gweithwyr llawrydd mewn perthynas â phrosiectau penodol drwy gydol y flwyddyn. Cyflogwyd 205 o weithwyr llawrydd yn 2021/22, gyda nifer ohonynt yn derbyn mwy nag 1 cytundeb.
-
Mae holl staff parhaol y cwmni’n siarad Cymraeg, ac felly hefyd y rhan helaethaf o’r gweithwyr a’r artistiaid a gyflogir ar gytundebau tymor byr.
Cartref y Cwmni
Lleolir pencadlys y cwmni yn adeilad Y Llwyfan ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Yno, mae gan y cwmni swyddfeydd, storfeydd ac ystafell gyfarfod. Fel rhan o’r cytundeb prydles presennol mae gan y cwmni ddefnydd o ystafell ymarfer ac ystafelloedd newid pwrpasol am 12 wythnos y flwyddyn. Mae gan y cwmni storfa ychwanegol ar safle y tu allan i’r dref. Mae’r adnoddau hyn yn caniatáu i’r cwmni weithredu’n effeithiol. Mae’r cytundeb presennol yn Y Llwyfan yn para hyd ddiwedd Medi 2028, gydag opsiwn i dorri’r les yn 2023.
Adnoddau Technegol
Er mwyn darparu ei wasanaethau, mae’n ofynnol i’r cwmni logi offer technegol o bryd i’w gilydd, a thro arall ei bwrcasu. Dros y blynyddoedd, mae’r cwmni wedi cronni casgliad sylweddol o offer technegol a ddefnyddir wrth i’r cwmni greu a theithio prosiectau theatr. Mae’r casgliad hwn o offer technegol hefyd yn fodd o gefnogi’r sector a chreu partneriaethau gyda chwmnïau eraill, lle mae modd i sefydliadau eraill elwa o’r adnoddau hyn. Mae gan y cwmni restr gynhwysfawr o’i holl offer, ynghyd â gweithdrefnau mwyn caniatáu rannu’r offer pan fo hynny’n briodol neu’n fanteisiol iddo.
Adnoddau Eraill
Mae gan y cwmni hefyd nifer o adnoddau eraill, megis cerbydau ac offer swyddfa, sy’n caniatáu iddo weithredu’n effeithiol a chost-effeithiol. Derbyniwyd grant cyfalaf tuag at brynu cerbydau newydd yn ystod 2017/18.
COVID-19
Er y bu modd i ddychwelyd i gyflwyno perfformiadau byw yn ystod 2021/22, roedd COVID-19 yn parhau i gael effaith sylweddol ar waith y cwmni. Roedd rheoli risg yn broses feichus a chyson. Lluniwyd Cofrestr Risg COVID-19 er mwyn cynorthwyo’r Bwrdd a’r swyddogion i adnabod risgiau penodol yn ymwneud â’r pandemig ac i gytuno ar drefniadau rheoli priodol.
Rhoddwyd nifer o weithdrefnau mewn lle i geisio rheoli effaith COVID-19 ar waith y cwmni, yn cynnwys gweithdrefnau iechyd a diogelwch trylwyr iawn mewn sefyllfaoedd lle oedd pobl yn ymgynnull, a chyflogi eilyddion ar gynyrchiadau. Serch hynny, bu rhaid canslo nifer o berfformiadau o gynhyrchiad Petula oherwydd salwch, ac roedd effaith COVID hefyd i’w weld yn awydd cynulleidfa i fynychu perfformiadau yn ail hanner y flwyddyn. Mae ail-adeiladu cynulleidfaoedd mewn byd ôl-COVID yn profi i fod yn heriol ar draws y celfyddydau ac mae’n debygol y bydd effaith y pandemig ar gynulleidfaoedd i’w weld am gyfnod hir.
Mae’r cwmni wedi dangos yn y blynyddoedd diwethaf ei fod yn gallu gweithredu mewn modd hyblyg ac ymateb yn gyflym i heriau sy’n codi. Bydd y cwmni yn parhau i weithio yn y modd yma ac mae’r ymddiriedolwyr a’r staff yn monitro sefyllfa ariannol y cwmni yn gyson gan sicrhau fod unrhyw gyllid a gronnwyd yn ystod y cyfnodau clo yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd fydd yn cefnogi nodau strategol y cwmni ac adferiad y sector.
- 12 -
5. CYFRIFOLDEBAU’R YMDDIRIEDOLWYR
Mae’r Ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru i bwrpasau cyfraith cwmni) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a’r datganiadau cyllid yn unol â’r gyfraith berthnasol o Safonau Cyfrifyddu’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifyddu Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig).
Yn ôl y ddeddf ar gyfer cwmnïau, mae’n ofynnol i’r Ymddiriedolwyr baratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol, a’r rheiny’n rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y cwmni yn ystod y cyfnod dan sylw. Wrth baratoi’r cyfrifon hyn, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:
-
dewis polisïau cyfrifyddu addas a’u gweithredu’n gyson;
-
arsylwi ar y dulliau a’r egwyddorion yn y SORP Elusennau;
-
dyfarnu ac amcangyfrif yn rhesymol ac yn ddoeth;
-
paratoi’r cyfrifon ar y sail y bydd y cwmni’n parhau i weithredu, os nad yw’n amhriodol i dybio hyn.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu addas sy’n datgelu sefyllfa ariannol y cwmni’n gymharol gywir ar unrhyw adeg, ac yn eu galluogi i sicrhau bod y datganiadau cyllidol yn unol â Deddf Cwmnïau 2006. Mae ganddynt hefyd gyfrifoldeb dros warchod asedau’r cwmni a chymryd camau rhesymol i atal a darganfod twyll neu afreoleidd-dra arall.
Cyn belled ag y mae’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol:
-
nid oes gwybodaeth archwiliad perthnasol nad yw’n wybyddus i archwilwyr y cwmni elusennol;
-
- mae’r Ymddiriedolwyr wedi cymryd pob cam angenrheidiol i’w gwneud yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwiliad perthnasol ac i sefydlu bod yr archwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth honno.
Trwy orchymyn y Bwrdd
………………………………………..................................
Cadeirydd: Elwyn Jones
Dyddiad:
08.12.2022 ...........................................................................
- 13 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
Barn
Archwiliwyd cyfrifon Theatr Genedlaethol Cymru am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022; maent yn cynnwys y Datganiad o Symudiadau Ariannol, y Fantolen a’r nodiadau perthnasol. Paratowyd y cyfrifon yn unol â’r polisïau cyfrifo a nodir yn y cyfrifon. Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifyddu Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig), sy’n cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.
Yn ein barn ni:
-
Mae’r cyfrifon yn rhoi adlewyrchiad cywir a theg o gyflwr ariannol y cwmni ar 31 Mawrth 2022 a’r adnoddau a ddefnyddiwyd am y flwyddyn ariannol;
-
Mae’r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â’r gyfraith berthnasol o Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifo Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig), sy’n cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.
-
Mae’r cyfrifon wedi eu paratoi’n gywir yn unol â Deddf Cwmnïau 2006;
Sail ein Barn
Gwnaethom gynnal ein harchwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (“ISA’s (UK)”) a’r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau o dan ISAs (DU) ymhellach yn adran Cyfrifoldebau’r archwilwyr am archwilio’r datganiadau ariannol o’nn hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r elusen gofrestredig yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, sy’n cynnwys Safon Foesegol yr FRC, a’r darpariaethau ar gyfer endidau bach, ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credwn fod y dystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sylfaen i’n barn ni.
Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol
Wrth archwilio’r cyfrifon, rydym o’r farn bod defnydd yr ymddiriedolwyr o sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.
Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i wneud, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi.
Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.
Gwybodaeth arall
Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y wybodaeth arall. Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, ac eithrio'r datganiadau ariannol ac Aadroddiad ar yr Archwilwyr Annibynnol.
Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir fel arall yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arno.
Mewn cysylltiad â'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn anghyson yn sylweddol â'r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad neu fel arall yn ymddangos eu bod wedi'i camddatgan yn sylweddol. Os byddwn yn nodi anghysondebau sylweddol o'r fath neu gamddatganiadau ymddangosiadol sylweddol, mae'n ofynnol i ni benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddwn, yn seiliedig ar y gwaith yr ydym
- 14 -
wedi'i wneud, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i ni adrodd y ffaith honno. Nid oes gennym ddim i'w adrodd yn hyn o beth.
Materion yr ydym yn rwymedig i adrodd drwy eithriad
Nid oes gennym ddim i’w adrodd mewn perthynas â’r eitemau canlynol lle mae’r Ddeddf Elusennau 2011 yn gofyn i ni adrodd i chi os, yn ein barn ni:
-
mae’r wybodaeth a roddir yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr yn anghyson mewn unrhyw berthynas materol â’r datganiadau cyllid; neu
-
bod y cwmni elusennol heb gadw cofnodion cyfrifo derbynniol; neu
-
bod y datganiadau cyllid ddim yn cyd fynd â’r cofnodion cyfrifo a ffurflenni statudol: neu
-
nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau anghenrheidiol i gyflawni ein archwiliad.
Cyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr
Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau Ymddiriedolwyr, mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg, ac am unrhyw reolaeth fewnol y mae'r ymddiriedolwyr yn penderfynu sy'n angenrheidiol er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiad sylweddol, boed hynny oherwydd twyll neu wall.
Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu'r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo'n berthnasol, unrhyw fater ynghylch defnyddio sail busnes gweithredol cyfrifyddu oni bai bod yr ymddiriedolwyr naill ai'n bwriadu diddymu'r cwmni elusennol neu roi'r gorau i weithrediadau, neu nad oes ganddynt ddewis amgen realistig ond gwneud hynny.
Cyfrifoldebau’r archwilwyr am archwilio’r datganiadau ariannol
Rydym wedi'n penodi'n archwilwyr o dan Adran 144 o Ddeddf Elusennau 2011 ac yn adrodd yn unol â'r Ddeddf a'r rheoliadau perthnasol a wnaed neu sy'n cael effaith o dan y Ddeddf honno.
Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn ei cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiad perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, ac i gyhoeddi Adroddiad gan yr Archwilwyr Annibynnol sy'n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu gamgymeriad ac fe'u hystyrir yn berthnasol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu ar y cyfan, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau yw afreoleidd-dra. Amcanion ein harchwiliad yw cael digon o dystiolaeth archwilio priodol ynghylch cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau sy'n cael effaith uniongyrchol ar benderfynu ar symiau a datgeliadau sylweddol yn y datganiadau ariannol, cyflawni gweithdrefnau archwilio er mwyn helpu nodi achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau eraill a allai gael effaith sylweddol ar y datganiadau ariannol, ac i ymateb yn briodol i ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau a nodwyd yn ystod yr archwiliad.
O ran twyll, amcanion ein harchwiliad yw nodi ac asesu'r risg o gamddatganiad sylweddol o'r datganiadau ariannol oherwydd twyll, casglu digon o dystiolaeth archwilio priodol ynghylch y risgiau aseswyd o gamddatganiad sylweddol trwy dwyll gan ddylunio a gweithredu ymatebion priodol ac ymateb yn briodol i dwyll neu dwyll tybiedig a nodwyd yn ystod yr archwiliad.
- 15 -
Fodd bynna& prtf gyfrifoldeb y rheow. da ÉOTuchWiaeth y rhai sy'n gyfrifol am W(xlraethu, yw sS¢rhau bDd gweithrediadau'r endid yn cael eu cynnal yn unol a darpariaethau rytreithiau a rhediadau ac ar 8yfer atal a chanfod Wrth asesu a nodt'r ris8iau o gamddatganlad sylweddol mewn perthyTras a8 affeoleidd4ra. 8an 8ynThwys twWI. fe wnaeth yts-m ar¢hwilio- gael dealltwriaelh o natur v dilant a'r sectorj gan gynnwy5 y fframwaith cvfreithiol a rheoleidditsl y mae'r elusen yn gwÈithredu ynddo a sut mae'n cydymffurfio a'r fframwaith rytreithiol a rheoleiddiol: holi'r rheolwyr, a'r rhai 5y'Tr gyfrrfol orn Iyw(Kfrnethu. am haseslad a chydnabyddiaeth eu hunaln o beryglon afreoleidd-dra. gan gynnwys unrhyw achosion gwirioneddol. tybiedig neu honedig o d1,. drafod rnaterion ynghylch peidio a chydymffurfio a chylreithiau a rheoliadau a 5Ut v gallai twyll ddigwydd gan gynnwys a5esu 5Ut a ble v gallai'r datEaniadau &ri#nnol fod yfi agored I dwyti. O Eanlyniad i'r 8weithdrefnau hyn, rydym yn y5tyried y cyfreithlau a'r rheoliadau mwyaf arwyddocaol sy'n cael effaith uThion8yrchol ar y dat82niadau ariannol yw SORP EIu5ennau, FRS 102, Deddf Cwmniau 2fK>6 3 Deddf Elusennau 2011. fjwnaethom 8ynnal gweithdrefnau archwilio i ganfod d¢ffyg cytymffvrfio a allai gael effaiih sylweddol ary dat8aniadau ariannol a oedd yn ¢ynnwys ad0SU,f datgeliadau yn y cyfrifon. Nododd ytlm archwilio maffr risg mwyaf i gamddatganiad sylweddol trvry dwyll fyddai o ganlyniad (r rheolwyr yn diystyru rheolèethau mewnol. Roedd y gwe1thdfnaU archwilio a berfformivryd yn cynnwys ond Thid oeddent wedi'u (yfyn8u i brofi cyfnodolioTh ac addasiadau eraill a 8werthuso'rrhe5ymeKIu5nes mewn perthynas ag unrhyw drafodion sylweddol, anarferol a wnaed ytu allan i gwrs busnes arferol. Ceir disgrifiad pellath o'n cyfrifoldebau dros arChl10'r datgaThiadau ariannol ar wefan v Cyngor Adr(8ld Ariannol yn www.fr¢.org.uklauditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'n hadroddiad arthwilwyr annibynnol. Defnyddlo'r adroddiad hwn Paraiowyd yr adroddiad hwn ar gyfer ymddiriedolwyry cwmni elusennol yn ur& fel corff yn unol ag Adr3n 144 Deddf Elusennau 2011 a rheoleiddiadau a wnaed o dan adran 154 o'r Ddeddf honno IRh3n 4 O'r Elusennau Icyfrifon ac Adroddiadaul Rheoltadau 20081. Mae ein gwaith arthwilio wedi'i wneud fel v gallem ddatgan i ymddiriedolwyr y Cwmni elusennol y materit>n hynny y mae'n ofynnol I ni eu datgan iddynt rnewn adroddiad archwilwyr ac nid at unrhyw ddiben arall. I'r8raddau Ilawnaf a Zaniateii gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn natyn cymryd cyfriloldeb I unrhyw un heblaw'r cwmni elusenThol ac ymddiriedoh¥yr y cwmni elusenThol fel corff. arn ein gwaith archwilio, ar Eyfer vr adroddiad hwn. nac amy farn yrydym wedi'i ffurfio. A5hmole & Co IArchwilydd Ststudoll cyfrIrArdYstledig Siartredig & Archwiwr Cofrestredi8 Yn gymwys i weithredu fel archwlwyr yn unol a8 adran 12110 Ddeddf Cwrnn*u 2L 3 Stryd y Farchn3d Llandeilo Sir Gaerfyrddln SA19 6AH Dyddiad. 20 Iiz lio ZL 16-
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
DATGANIAD O SYMUDIADAU ARIANNOL (Incwm a Gwariant)
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022
| Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | ||
|---|---|---|---|---|---|
| Nodyn | Gyfyngedig | Anghyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | ||
| INCWM A GWADDOLION | |||||
| Incwm gwirfoddol a chymynroddion | 2 | 68,524 | 1,040,919 | 1,109,443 | 1,088,507 |
| Gweithgareddau elusennol | 3 | - | 127,904 | 127,904 | 11,171 |
| Incwm arall a dderbynnir o weithgareddau | |||||
| masnachol | 4 | - | 1,086 | 1,086 | 2,879 |
| Buddsoddiadau – Llog | - | 326 | 326 | 759 | |
| --------- | ------------ | ------------ | ------------ | ||
| Cyfanswm Adnoddau a dderbynnir | 68,524 | 1,170,235 | 1,238,759 | 1,103,316 | |
| --------- | ------------ | ------------ | ------------ | ||
| ADNODDAU A WARIWYD | |||||
| Costau cynhyrchu incwm gwirfoddol | 5 | - | 5,342 | 5,342 | 4,242 |
| Gweithgareddau elusennol | 6 | 67,537 | 1,301,477 | 1.369,014 | 875,257 |
| -------- | ------------ | ------------ | -------------- | ||
| Cyfanswm adnoddau a wariwyd | 67,537 | 1,306,819 | 1,374,356 | 879,499 | |
| -------- | ------------ | ------------ | -------------- | ||
| Incwm / (Gwariant) am y flwyddyn - net | |||||
| cyn treth a throsglwyddiadau | 987 | (136,584) | (135,597) | 223,817 | |
| Rhyddhad Treth | 7 | - | 41,278 | 41,278 | - |
| -------- | ------------ | ------------ | -------------- | ||
| Incwm / (Gwariant) am y flwyddyn - net | |||||
| ar ôl treth | 987 | (95,306) | (94,319) | 223,817 | |
| -------- | ------------ | ------------ | -------------- | ||
| Cronfa – dygwyd ymlaen | 28,322 | 960,664 | 988,986 | 765,169 | |
| ----------- | ---------- | ----------- | ----------- | ||
| Cronfa – cariwyd ymlaen | 29,309 | 865,358 | 894,667 | 988,986 | |
| ====== | ====== | ====== | ====== |
- 17 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
DATGANIAD O SYMUDIADAU ARIANNOL (Incwm a Gwariant)
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022 – parhad
Ni pharatowyd datganiad ar wahân o incwm a gwariant.
Mae’r nodiadau ar dudalennau 17 i 24 yn ffurfio rhan gyflawn o’r cyfrifon hyn.
- 18 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2022
| ANTOLEN AR 31 MAWRTH 2022 | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Nodyn | 2022 | 2021 | |||
| £ | £ | ||||
| ASEDAU SEFYDLOG | |||||
| Asedau anniriaethol | 11 | 13,912 | - | ||
| Asedau Gweladwy a ddefnyddir gan | 12 | 115,800 | 135,989 | ||
| yr elusen | ---------- | ---------- | |||
| 129,712 | 135,989 | ||||
| ASEDAU CYFREDOL | |||||
| Dyledwyr | 13 | 99,726 | 142,892 | ||
| Arian yn y banc ac mewn llaw | 960,020 | 874,757 | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| 1,059,746 | 1,017,649 | ||||
| CREDYDWYR –symiau’n daladwy o | 14 | 211,416 | 81,277 | ||
| fewn blwyddyn | ---------- | ---------- | |||
| ASEDAU CYFREDOL NET | 848,330 | 936,372 | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| CYFANSWM ASEDAU LLAI | |||||
| CREDYDWYR CYFREDOL NET | 978,042 | 1,072,361 | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| CREDYDWYR -Symiau’n daladwy | 14 | ||||
| mewn dros flwyddyn | 83,375 | 83,375 | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| ASEDAU NET | 894,667 | 988,986 | |||
| ====== | ====== | ||||
| £ | £ | ||||
| CRONFEYDD | 19 | ||||
| Cronfeydd Anghyfyngedig | 865,358 | 960,664 | |||
| Cronfeydd Cyfyngedig | 29,309 | 28,322 | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| 894,667 | 988,986 | ||||
| ====== | ====== |
- 19 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2022
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 roedd hawl gan y cwmni elusennol i gael eithriad o’r gofyniad am archwiliad statudol dan adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Nid yw’r aelodau wedi ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni gael archwiliad o’i gyfrifon ar gyfer y flwyddyn dan sylw yn unol ag adran 476 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod eu cyfrifoldebau dros y canlynol:
a) sicrhau bod y cwmni’n cydymffurfio ag adrannau 386 a 387 o Ddeddf Cwmnïau 2006 o ran cofnodion cyfrifydda;
b) paratoi datganiadau ariannol sy’n cynnig darlun clir a theg o asedau, atebolrwydd, safle ariannol ac elw ar ddiwedd bob blwyddyn ariannol yn unol â gofynion adrannau 394 a 395 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Mae’r cyfrifon hyn wedi eu harchwilio dan ofynion adran 144 o’r Ddeddf Elusen 2011.
Paratowyd y cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig Rhan 15 Deddf Cwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau bychain (effeithiol Ionawr 2015).
Arwyddwyd y cyfrifon ar ran y Bwrdd gan:
……………………………………………..
(Cadeirydd)
Elwyn Jones
Dyddiad: 08.12.2022
- 20 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2022
1. Polisïau Cyfrifo
a) Sail Cyfrifo
Cafodd y datganiadau ariannol eu paratoi dan y confensiwn prisio hanesyddol ac yn unol â’r Datganiad o Arferion Cymeradwy: Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau (SORP FRSSE) a gyhoeddwyd yn Ionawr 2015, y Safon Adrodd Ariannol ar gyfer Endidau Llai (yn effeithiol o Ionawr 2015) a Deddf Cwmnïau 2006.
b) Incwm – Gwirfoddol
Cynhwysir incwm yn y datganiad o symudiadau ariannol pan fo’r elusen â hawl i gronfa, pan fo’n debygol y bydd yr incwm yn cael ei dderbyn, a phan fydd y swm yn medru cael ei fesur yn ddibynadwy.
Caiff incwm cyfyngedig ei gynnwys mewn cronfa gyfyngedig a’i gyfatebu i’r gwariant. Caiff grantiau cyfalaf sy’n dderbyniadwy eu trin fel credydwyr hirdymor, a’u cynnwys mewn cronfa gyfyngedig sy’n cael ei dibrisio i ffwrdd yn unol â dibrisiant yr asedau.
Incwm – Adnoddau i’w derbyn o weithgareddau elusennol
Cynhwysir adnoddau i’w derbyn o weithgareddau elusennol pan yn ddyledus. Mae’r incwm yn cynnwys gwerthiant tocynnau am berfformiadau o’r cynyrchiadau yn ystod y flwyddyn.
c) Adnoddau a ddefnyddiwyd
Cydnabuwyd costau a threuliau yn y cyfnod pan yn ddyledus. Mae costau’n cynnwys TAW lle nad yw’n bosibl ei hawlio. Mae costau trefn lywodraethu’n cynrychioli’r gost o weinyddu’r elusen a chwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol. Mae’r gost o gynhyrchu incwm gwirfoddol yn cynrychioli’r gost o gwrdd â gofynion Cyngor Celfyddydau Cymru.
ch) Asedau anniriaethol
Mae’r asedau anniriaethol wedi eu hamorteiddio dros eu bywyd defnyddiol a thros gyfnod y prosiect penodol o 3 mlynedd.
d) Asedau sefydlog
Mae’r asedau sefydlog wedi eu dibrisio dros eu bywyd defnyddiol ar y cyfraddau canlynol:
Adeiladau prydles – Dros gyfnod y les Cerbydau – 25% Cyfrifiaduron ac offer – 33%
dd) Les Gweithredol
Ymrwymwyd i brydles newydd ar y Llwyfan o ddechrau Hydref 2018, am gyfnod o 10 mlynedd. Cyfanswm gwerth y les yw £166,750. Talwyd y swm am y 5 mlynedd gyntaf ar ddechrau’r les, o gronfa brydles y cwmni, ac fe fydd yr ail daliad yn ddyledus ym mis Hydref 2023.
e) Cronfeydd Cyffredinol
Mae Cronfeydd Cyffredinol yn cynnwys rhoddion ac incwm i’w derbyn, neu a gynhyrchwyd am amcanion yr elusen heb bwrpas arbennig arall ac felly ar gael fel cronfa gyffredinol. Ni osodir amodau allanol ar gronfeydd cyffredinol, ac maent i’w gwario gan yr elusen yn ôl eu hamcanion/bwriadau neu i’w neilltuo tuag at bwrpasau priodol mewnol.
f) Polisi pensiwn
Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Mae’r cyfraniadau i’r cynllun pensiwn y cwmni elusennol yn cael ei ddangos ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol yn y cyfnod y maent yn ymwneud ag.
- 21 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2022 – parhad
2. INCWM GWIRFODDOL A CHYMYNRODDION
| Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Gyfyngedig | Anghyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Grant CCC | - | 1,040,892 | 1,040,892 | 1,040,892 |
| Grantiau prosiect eraill CCC | 11,250 | - | 11,250 | 31,674 |
| Eraill | 57,274 | - | 57,274 | 10,038 |
| Rhoddion | - | 27 | 27 | 5,903 |
| -------- | ------------ | ------------ | ------------ | |
| 68,524 | 1,040,919 | 1,109,443 | 1,088,507 | |
| -------- | ------------ | ------------ | ------------ | |
| 3. GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL | ||||
| Swyddfa docynnau | - | 45,896 | 45,896 | 566 |
| Nawdd/Cyd-gynhyrchu | - | 64,245 | 64,245 | 6,605 |
| Incwm o bartneriaethau | - | 15,819 | 15,819 | 1,000 |
| Incwm cyfranogi | - | 1,944 | 1,944 | 3,000 |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ | |
| - | 127,904 | 127,904 | 11,171 | |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ | |
| 4. INCWM ARALL A DDERBYNNIR O WEITHGAREDDAU MASNACHOL | ||||
| Arall | - | 448 | 448 | 754 |
| Elw ar werthu asedau | - | 375 | 375 | 750 |
| Incwm llogi offer | - | 263 | 263 | 1,375 |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ | |
| - | 1,086 | 1,086 | 2,879 | |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ |
- 22 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2022 – parhad
5. COSTAU O GYNHYRCHU INCWM GWIRFODDOL
| Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | ||
|---|---|---|---|---|---|
| Gyfyngedig | Anghyfyngedig | 2022 | 2021 | ||
| £ | £ | £ | £ | ||
| Cyflogau (Nodyn | 8) | - | 5,342 | 5,342 | 4,242 |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ | ||
| - | 5,342 | 5,342 | 4,242 | ||
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ |
| 6. COSTAU GWEITHGAREDDAU | ||||
|---|---|---|---|---|
| ELUSENNOL | Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm |
| Gyfyngedig | Anghyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Cynyrchiadau | 38,274 | 396,002 | 434,276 | 167,103 |
| Marchnata a chyfathrebu | - | 72,348 | 72,348 | 22,542 |
| Ffioedd cynyrchiadau | - | 113,680 | 113,680 | 80,432 |
| Teithio a chynhaliaeth cynyrchiadau | - | 47,776 | 47,776 | 2,069 |
| Costau cynnal (Nodyn 8) | 29,263 | 671,671 | 700,934 | 603,111 |
| -------- | ------------ | ------------ | ------------ | |
| 67,537 | 1,301,477 | 1,369,014 | 875,257 | |
| -------- | ------------ | ------------ | ------------ | |
| 7. RHYDDHAD TRETH | Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm |
| Gyfyngedig | Anghyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Rhyddhad treth | - | 41,278 | 41,278 | - |
Cyfanswm hawliad rhyddhad treth ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 yw £46,514. O’r swm yma, roedd £5,236 yn ddyledus i gyd-gynhyrchwyr gan adael cyfanswm net i Theatr Genedlaethol Cymru o £41,278.
- 23 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2022 – parhad
| ODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWR | TH 2022–parhad | |||
|---|---|---|---|---|
| 8. COSTAU CYNNAL | Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm |
| Gyfyngedig | Anghyfyngedig |
2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Cyflogau cwmni | 18,890 | 538,523 | 557,413 | 418,426 |
| Costau pensiwn | - | 20,101 | 20,101 | 16,816 |
| Teithio a chynhaliaeth cwmni | - | 2,390 |
2,390 | 6,028 |
| Costau archwilio | - | 4,050 | 4,050 | 4,000 |
| Costau’r bwrdd | - | 167 | 167 | 1,975 |
| Hyfforddiant | - | 1,132 | 1,132 | 3,079 |
| Costau’r adeilad | - | 41,310 | 41,310 | 44,053 |
| Costau’r swyddfa | - | 35,612 | 35,612 | 34,159 |
| Costau proffesiynol | - | 13,175 | 13,175 | 38,848 |
| Amorteiddio – gwefan | 3,489 | 3,466 | 6,955 | - |
| Costau banc a manion | - | 412 | 412 | 473 |
| Dibrisio – cerbydau ac offer | 6,884 | - | 6,884 | 22,821 |
| Dibrisio - prydles | - | 16,675 | 16,675 | 16,675 |
| ---------- | ----------- | ---------- | ---------- | |
| 29,263 | 677,013 | 706,276 | 607,353 | |
| ---------- | ---------- | ---------- | ---------- | |
| 9. COSTAU STAFF CRAIDD | ||||
| Costau Cyflogau | ||||
| 2022 | 2021 | |||
| £ | £ | |||
| Staff craidd | 519,793 | 384,953 | ||
| Yswiriant Gwladol y Cyflogwr | 37,620 | 33,473 | ||
| Costau pensiwn staff craidd | 20,101 | 16,816 | ||
| ----------- | ----------- | |||
| 577,514 | 435,242 | |||
| ----------- | ----------- |
Ar gyfartaledd, cyflogwyd 9 aelod o staff craidd llawn amser (2020/21: 10) a 7 aelod o staff rhan amser (2020/21:5) yn ystod y flwyddyn.
Ni enillodd yr un aelod o staff cyflogedig fwy na £60,000 yn y blynyddoedd 2021/22 na 2020/21.
- 24 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2022 – parhad
10. Cymhariaeth ar gyfer Datganiad o Weithgareddau Ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021
| Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | ||
|---|---|---|---|---|
| Nodyn | Gyfyngedig | Anghyfyngedig | ||
| £ | £ | £ | ||
| INCWM A GWADDOLION | ||||
| Incwm gwirfoddol a chymynroddion | 2 | 40,0388 | 1,048,469 | 1,088,507 |
| Gweithgareddau elusennol | 3 | - | 11,171 | 11,171 |
| Incwm arall a dderbynnir o weithgareddau | ||||
| masnachol | 4 | - | 2,879 | 2,879 |
| Buddsoddiadau – Llog banc | - | 759 | 759 | |
| --------- | ------------ | ------------ | ||
| Cyfanswm Adnoddau a dderbynnir | 40,038 | 1,063,278 | 1,103,316 | |
| --------- | ------------ | ------------ | ||
| ADNODDAU A WARIWYD | ||||
| Costau cynhyrchu incwm gwirfoddol | 5 | - | 4,242 | 4,242 |
| Gweithgareddau elusennol | 6 | 54,528 | 820,729 | 875,257 |
| -------- | ------------ | ------------ | ||
| Cyfanswm adnoddau a wariwyd | 54,528 | 824,971 | 879,499 | |
| -------- | ------------ | ------------ | ||
| Incwm / (Gwariant) am y flwyddyn – net | ||||
| cyn treth | (14,490) | 238,307 | 223,817 | |
| Trosglwyddiadau gros rhwng cronfeydd | - | - | - | |
| Rhyddhad Treth | 7 | - | - | - |
| -------- | ------------ | ------------ | ||
| Incwm / (Gwariant) am y flwyddyn – net | ||||
| ar ol treth | (14,490) | 238,307 | 223,817 | |
| -------- | ------------ | ------------ | ||
| Cronfa – dygwyd ymlaen | 42,812 | 722,357 | 765,169 | |
| ----------- | ---------- | ----------- | ||
| Cronfa – cariwyd ymlaen | 28,322 | 960,664 | 988,986 | |
| ====== | ====== | ====== |
- 25 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2022 – parhad
11. ASEDAU ANNIRIAETHOL
| . ASEDAU ANNIRIAETHOL | ||
|---|---|---|
| Gwefan | Cyfanswm | |
| £ | £ | |
| Cost | ||
| Balans a ddygwyd ymlaen | - | - |
| Ychwanegiadau | 20,867 | 20,867 |
| Gwaredwyd | - | - |
| --------- | --------- | |
| Balans a gariwyd ymlaen | 20,867 | 20,867 |
| --------- | --------- | |
| Amorteiddio | ||
| Balans a ddygwyd ymlaen | - | - |
| Cost y flwyddyn | 6,955 | 6,955 |
| Gwaredwyd | - | - |
| --------- | --------- | |
| Balans a gariwyd ymlaen | 6,955 | 6,955 |
| --------- | --------- | |
| Gwerth yn y llyfrau | ||
| 31 Mawrth 2022 | 13,912 | 13,912 |
| ======= | ======= | |
| 31 Mawrth 2021 | - | - |
| ======= | ======= |
- 26 -
12. ASEDAU SEFYDLOG
| . ASEDAU SEFYDLOG | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Eiddo ar | Cerbydau | Offer a | Offer | Offer | Cyfanswm | |
| les byr | Dodrefn | Cyfrifiadurol | Technegol | |||
| a System | ||||||
| Ffôn | ||||||
| £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
| Cost | ||||||
| Balans a ddygwyd ymlaen | 166,750 | 50,356 | 160,352 | 41,654 | 18,560 | 437,672 |
| Ychwanegiadau | - | - | - | 3,369 | - | 3,370 |
| Gwaredwyd | - | - | - | - | - | - |
| --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | |
| Balans a gariwyd ymlaen | 166,750 | 50,356 | 160,352 | 41,654 | 18,560 | 441,042 |
| --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | |
| Dibrisio | ||||||
| Balans a ddygwyd ymlaen | 41,688 | 50,356 | 160,352 | 36,309 | 13,248 | 301,683 |
| Cost y flwyddyn | 16,675 | - | - | 4,254 | 2,630 | 23,559 |
| Gwaredwyd | - | - | - | - | - | - |
| --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | |
| Balans a gariwyd ymlaen | 58,363 | 50,356 | 160,352 | 36,039 | 13,248 | 325,242 |
| --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | |
| Gwerth yn y llyfrau | ||||||
| 31 Mawrth 2022 | 108,387 | - | - | 4,730 | 2,683 | 115,800 |
| ======= | ======= | ====== | ======= | ======= | ======= | |
| 31 Mawrth 2021 | 125,062 | - | - | 5,615 | 5,312 | 135,989 |
| ======= | ======= | ====== | ======= | ======= | ======= |
Defnyddiwyd yr holl asedau gan yr elusen ar gyfer gweithgareddau elusennol parhaol.
- 27 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2022 – parhad
| ODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2022 – parhad | ||
|---|---|---|
| 13. DYLEDWYR | ||
| 2022 | 2021 | |
| £ | £ | |
| Dyledwyr masnachol | 26,938 | 27,882 |
| Taliadau ymlaen llaw | 26,274 | 20,430 |
| TAW | - | 7,538 |
| Rhyddhad Treth | 46,514 | 87,042 |
| ---------- | ---------- | |
| 99,726 | 142,892 | |
| ====== | ====== | |
| 14. CREDYDWYR – Symiau’n daladwy ymhen blwyddyn | ||
| 2022 | 2021 | |
| £ | £ | |
| Credydwyr masnachol | 142,023 | 36,452 |
| Costau wedi cronni | 36,412 | 13,994 |
| Trethi ac yswiriant gwladol | 9,416 | 9,764 |
| TAW | 4,085 | - |
| Credydwyr eraill | 19,480 | 15,067 |
| Incwm gohiriedig | - | 6,000 |
| ------------ | ------------ | |
| 211,416 | 81,277 | |
| ======= | ====== | |
| 14. CREDYDWYR – Symiau’n daladwy ar ol 12 mis | ||
| 2022 | 2021 | |
| £ | £ | |
| Les | 83,375 | 83,375 |
| ======= | ======= |
15. TRETH
Mae’r elusen yn rhydd o dalu treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.
16. TALIADAU A BUDD-DALIADAU’R YMDDIRIEDOLWYR
Derbyniodd un Ymddiriedolwr, Mr Arwel Gruffydd, dâl a budd-daliadau treuliau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, fel y caniateir gan ddogfen lywodraethol yr elusen. Derbyniodd gyflog o £59,579 yn sgil ei swydd fel Cyfarwyddwr Artistig yr elusen a chyfrannodd y Theatr £2,969 i’r Gronfa Bensiwn ar ei ran. Ni dderbyniodd unrhyw dâl yn sgil ei rôl fel Ymddiriedolwr.
- 28 -
17. TREULIAU’R YMDDIRIEDOLWYR
Derbyniodd Ymddiriedolwyr ad-daliadau treuliau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 o £103 (2020/21: £0). Yn ogystal â’r ad-daliadau, fe dalwyd am lety ar gyfer un Ymddiriedolwr £57 (2020/21:£0). Roedd yr ad-daliadau i ddigolledu’r Ymddiriedolwyr am eu costau teithio, cynhaliaeth, llety a chostau eraill yn ymwneud â mynychu cyfarfodydd yr elusen. Y nifer o Ymddiriedolwyr a dderbyniodd ad-daliad yn ystod y flwyddyn oedd 2 (2020/21:0).
18. DATGANIAD O’R ASEDAU NET RHWNG Y CRONFEYDD
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Cyfyngedig | Anghyfyngedig | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Asedau Sefydlog | 554 | 129,158 | 129,712 | 135,989 |
| Asedau Cyfredol | 30,626 | 1,029,120 | 1,059,746 | 1,017,649 |
| Credydwyr | (1,871) | (209,545) | (211,416) | (81,277) |
| Credydwyr hir dymor | - | (83,375) | (83,375) | (83,375) |
| ----------- | ----------- | ----------- | ----------- | |
| 29,309 | 865,358 | 894,667 | 988,986 | |
| ====== | ====== | ====== | ====== |
19. SYMUDIADAU YN Y CRONFEYDD
| Balans | Adnoddau a | Adnoddau a | Rhyddhad | Trosglwyddo | Balans | ||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| d/y | dderbyniwyd | Wariwyd | Treth | c/y | |||
| 01/04/21 | 31/03/22 | ||||||
| £ | £ | £ | £ | £ | £ | ||
| Cronfeydd Cyfyngedig | |||||||
| - | Cronfa Gyfalaf | 24,764 | - | (10,442) | - | - | 14,322 |
| - | Cronfa Refeniw | 3,558 | 68,524 | (57,095) | - | - | 14,987 |
| Cronfeydd | |||||||
| Anghyfyngedig | |||||||
| - | Cronfa Wrth Gefn | 195,000 | - | - | - | - | 195,000 |
| - | Cronfa Brydles | 212,829 | - | (16,675) | - | 16,307 | 212,461 |
| - | Cronfa Gyfalaf | 78,951 | - | (3,466) | - | - | 75,485 |
| - | Cronfa Rydd | 473,884 | 1,170,235 | (1,286,678) | 41,278 | (16,307) | 382,412 |
| ---------- | ------------ | ------------ | ---------- | ---------- | ---------- | ||
| 988,986 | 1,238,759 | (1,374,356) | 41,278 | - | 894,667 | ||
| ====== | ======= | ======= | ====== | ====== | ====== |
Polisi Cronfa wrth Gefn
Cedwir swm o £195,000 wrth gefn (y swm i’w adolygu’n flynyddol) ar gyfer amgylchiadau eithriadol na ellir eu rhagweld.
Mae’r Gronfa Anghyfyngedig yn cynnwys swm o £212,461 a glustnodwyd ar gyfer talu am brydles newydd yn Y Llwyfan ar ôl diwedd Mawrth 2022. Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr i neilltuo £35,000 i’r diben hwn yn 2020/21 a £35,000 y flwyddyn hyd at 2021/22. Mae’r Gronfa Anghyfyngedig hefyd yn cynnwys swm o £75,485 sydd wedi neilltuo ar gyfer gwariant cyfalaf yn y dyfodol.
- 29 -
Mae gan y cwmni ddwy gronfa gyfalaf – un gyfyngedig, o ganlyniad i dderbyn cymhelliant ariannol wrth leoli’r cwmni yn ei leoliad presennol, ac un anghyfyngedig. Mae unrhyw wariant cyfalaf ar offer yn cael ei wneud o’r gronfa gyfyngedig ar hyn o bryd, nes i’r gronfa honno ddod i ben. Cytunodd yr Ymddiriedolwyr i beidio neilltuo unrhyw arian ychwanegol i’r gronfa anghyfyngedig blwyddyn yma (2020/21:£10,000).
20. DIGWYDDIADAU AR ÔL DYDDIAD Y FANTOLEN
Mae COVID-19 yn parhau i effeithio ar weithgareddau Theatr Genedlaethol Cymru ar ôl dyddiad y fantolen, ond nid i’r un graddau a welwyd yn 2020/21 a 2021/22, ac mae’r Bwrdd yn ffyddiog fod y cynllun sydd mewn lle ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn ateb gofynion y grant craidd.
Er bod y sefyllfa bresennol yn sgil COVID-19 yn dal i beri peth ansicrwydd, mae’r ymddiriedolwyr yn ffyddiog na ddylai hyn effeithio ar werth net asedau a chredydwyr ar 31 Mawrth 2022. Mae’r ymddiriedolwyr hefyd o’r farn bod y cronfeydd wrth gefn yn diogelu dyfodol yr elusen am gyfnod o 12 mis wedi dyddiad y cyfarfod blynyddol.
- 30 -