THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
(Cwmni Cyfyngedig trwy Warant)
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AC ADRODDIADAU ARIANNOL
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021
(Rhif y Cwmni 04784488) (Rhif Elusen 1106032)
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
CWMNI CYFYNGEDIG TRWY WARANT
| Cynnwys | Tudalen |
|---|---|
| Adroddiad yr Ymddiriedolwyr | 2–17 |
| Adroddiad yr Archwilwyr | 18–20 |
| Datganiad o Symudiadau | 21–22 |
| Mantolen | 23–24 |
| Nodiadau ar y Cyfrifon | 25–33 |
- 1 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyflwyno’u hadroddiad, ynghyd â’r cyfrifon wedi eu harchwilio, am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021.
Prif weithgaredd ac adolygiad
Prif weithgaredd y cwmni yw cynhyrchu gweithgaredd theatraidd Cymraeg.
Cyfeirnod a Manylion Gweinyddol yr Elusen, ei Hymddiriedolwyr a’i Hymgynghorwyr
Rhif Cofrestru: 04784488 Rhif Elusen Gofrestredig: 1106032 Swyddfa Gofrestredig: Y Llwyfan Ffordd y Coleg Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 3EQ Bancwyr: HSBC 15 Heol Awst Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 3AQ Archwilwyr: Ashmole & Co. 3 Stryd y Farchnad Llandeilo Sir Gaerfyrddin SA19 6AH Cyfarwyddwr Artistig (Prif Weithredwr): Arwel Gruffydd Aelodau’r Bwrdd
Dan y Ddeddf Cwmnïau, mae gan aelodau’r Bwrdd yr un cyfrifoldebau â chyfarwyddwyr. Yr aelodau a wasanaethodd yn ystod y cyfnod dan sylw yw:
Mrs C E Beard (ymddiswyddo 2 Chwefror 2021) Mr A W Edwards (ymddiswyddo 2 Chwefror 2021) Mrs G Griffith (ymddiswyddo 2 Chwefror 2021) Dr N N Edwards-Behi (apwyntiwyd 27.4.21) Mr J D Ellis (apwyntiwyd 23.2.21) Mr S W Fôn (apwyntiwyd 23.2.21) Mr A G Griffiths Mrs E Gruffudd Jones Mr E Jones Miss F A Phillips (apwyntiwyd 23.2.21) Mrs C M L Rees Mr R M Thomas (apwyntiwyd 23.2.21) Mr M R Williams Mr G Williams Mr W G Jones
Ysgrifennydd
Mrs H A Jones Leefe
- 2 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021
Mae’r Ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr yr elusen ar gyfer dibenion y Ddeddf Cwmnïau 2006, yn cyflwyno eu hadroddiad gyda datganiadau cyllid yr elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu darpariaethau Datganiadau o Arferion Cymeradwy: Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau sy’n berthnasol i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â’r Safon Adrodd Gyllidol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (effeithiol o 1 Ionawr 2015).
1. STATWS, STRWYTHUR, TREFN LYWODRAETHU A RHEOLAETH
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd heb unrhyw gyfalaf cyfrannau. Caiff y cwmni ei lywodraethu gan ei amcanion elusennol a’r Memorandwm Cymdeithasiad a’r Erthyglau Cymdeithasiad. Mae aelodau’r bwrdd llywodraethol (Bwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru) yn Ymddiriedolwyr yr elusen ac yn gyfarwyddwyr y cwmni. Penodir Ymddiriedolwyr drwy broses agored, gan ddiogelu’r sgiliau gofynnol ac allweddol.
Mae pob aelod newydd yn mynd trwy gyfnod o gynefino, ac yn derbyn gwybodaeth am ei rôl fel Ymddiriedolwr ac fel cyfarwyddwr y cwmni. Mae’r aelodau newydd hefyd yn derbyn pecyn cynefino sy’n cynnwys Erthyglau Cymdeithasiad y cwmni, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Bwrdd, copi diweddar o gyfrifon rheolaeth y cwmni, a chopi o gynllun busnes cyfredol y cwmni. Anogir aelodau newydd i gwrdd â staff y cwmni, ac i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi a ddarperir ar gyfer Ymddiriedolwyr gan fudiadau megis Celf a Busnes Cymru ac UK Theatre.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod fel Bwrdd o leiaf dair gwaith y flwyddyn. Y Bwrdd sy’n gyfrifol am osod cyfeiriad strategol y cwmni, ac i’r perwyl hwnnw mae’n cymeradwyo’r polisïau allweddol hynny sy’n llywio’r cyfeiriad strategol, ac yn cymeradwyo gweithdrefnau strategol a chynlluniau hirdymor y cwmni. Mae’r Bwrdd hefyd yn monitro gweithrediad y cwmni a pherfformiad y Cyfarwyddwr Artistig. Mae’n gyfrifol am hydaledd ariannol y cwmni, ond yn dirprwyo’r rheolaeth o ddydd i ddydd i’r Cyfarwyddwr Artistig a’i swyddogion.
Mae gan y Bwrdd ddau Bwyllgor:
-
Pwyllgor Cyllid a Materion Gweithredol;
-
Pwyllgor Cynnwys a Chynulleidfaoedd.
Mae’r ddau Bwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd; maent yn atebol i’r Bwrdd, ac yn cyflwyno argymhellion iddo.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod y cwmni wedi’i sefydlu er budd y cyhoedd yn gyfan gwbl; maent yn ymwybodol o’r angen i sicrhau bod y cyfan o’r nawdd cyhoeddus a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio i’r perwyl hwnnw, a bod lles y cyhoedd yn gyfan gwbl yn ystyriaeth sy’n rhedeg drwy holl weithgaredd y cwmni.
Rheoli Risg
Mae’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol o’r ffaith bod yr elusen yn agored i amrywiol beryglon posibl. Caiff y Gofrestr Risg ei monitro’n rheolaidd, a rhoddwyd systemau ar waith i leihau’r peryglon hyn. Cydnabyddir fod Cyllid, ynghyd â materion Iechyd a Diogelwch, ymhlith y prif beryglon posibl.
Cyflawnir asesiadau risg Iechyd a Diogelwch ar bob gweithgaredd neu brosiect creadigol unigol, yn unol â pholisi Iechyd a Diogelwch y cwmni. Mae’r Cyfarwyddwr Gweithredol neu’r Pennaeth Cynhyrchu yn adrodd yn rheolaidd i’r Bwrdd ar faterion yn ymwneud â pheryglon, hyfforddiant staff a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch.
- 3 -
Archwilir y cyfrifon yn fanwl yn rheolaidd, gan sicrhau bod unrhyw orwariant neu darged incwm nas cyrhaeddir yn cael ei wrthweithio.
2. AMCANION A GWEITHGAREDDAU
EIN GWELEDIGAETH
Rhoi theatr Cymraeg wrth galon Cymru.
EIN CENHADAETH
Cyflwyno amrywiaeth o brofiadau theatr Cymraeg eang eu hapêl sy’n cyfoethogi bywydau pobl ledled Cymru.
EIN GWERTHOEDD
- CYFRWNG CYMRAEG
Rydym yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ein holl weithgareddau, ac yn defnyddio’r iaith fel ein prif arf wrth greu theatr.
- CYNHWYSOL
Rydym bob amser yn gynhwysol wrth greu a chyflwyno’n gwaith, gan sicrhau nad oes neb yn cael eu heithrio o’n gweithgareddau, a bod ein rhaglen gytbwys o waith yn eang ei hapêl ac yn cyrraedd yr ystod ehangaf posibl o ran cynulleidfaoedd ac ymgyfranogwyr ar draws Cymru.
- CYDWEITHREDOL
Rydym bob amser yn ceisio dysgu gan, a gwneud y mwyaf o, brofiadau, sgiliau ac adnoddau ein cydweithwyr, ein cydweithredwyr a’n cyd-artistiaid, ac yn rhannu’n hael y cyfan sydd gennym ninnau i’w gynnig, wrth i ni geisio creu’r gwaith gorau a mwyaf perthnasol.
- CEFNOGOL
Rydym yn manteisio ar bob cyfle i adnabod a meithrin talent ar draws y sector, a chefnogi datblygiad proffesiynol ein staff a’n cyd-weithwyr. Rydym hefyd yn cefnogi sefydliadau, artistiaid a gweithwyr theatr eraill, wrth iddynt geisio gwireddu nodau ac amcanion sy’n gydnaws â’n rhai ninnau, ac sydd er budd y sector theatr yng Nghymru, yn enwedig felly theatr drwy gyfrwng y Gymraeg.
- CREADIGOL
Rydym bob amser yn ddyfeisgar, yn feiddgar ac yn uchelgeisiol yn y modd yr ydym yn . . .
-
comisiynu a chreu gwaith newydd
-
archwilio dulliau newydd o greu theatr
-
diddanu ein cynulleidfaoedd
-
ymgysylltu â’n hymgyfranogwyr
-
ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr theatr.
-
CYNALIADWY
Rydym bob amser yn ceisio’r gwerth gorau am arian a sicrhau’r incwm gorau posibl o’n gweithgareddau a’n hadnoddau. Rydym yn ymdrechu’n gyson i leihau ein dibyniaeth ar nawdd cyhoeddus a’n heffaith ar yr amgylchedd.
Y Cwmni
Sefydlwyd ac ymgorfforwyd Theatr Genedlaethol Cymru yn 2003.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cadarnhau eu bod wedi cydymffurfio â’u dyletswydd dan adran 17 (5) o Ddeddf Elusennau 2011 o ran arweiniad cyffredinol y Comisiwn Elusennau er budd cyhoeddus wrth adolygu’r Elusen ac amcanion wrth gynllunio gweithgareddau yn y dyfodol.
Mae’r cwmni yn gwmni theatr teithiol sy’n cynhyrchu dramâu prif lwyfan, cynyrchiadau mewn lleoliadau arbennig, a chynyrchiadau yng nghalon cymunedau Cymru. Ei fwriad yw creu rhaglen gytbwys o waith theatr sy’n adloniannol, arloesol ac uchelgeisiol, ac sy’n cynrychioli diwylliant deinamig Cymru.
- 4 -
Prif Swyddogaethau’r Cwmni:
-
Cynyddu’r ddarpariaeth ddiwylliannol a chelfyddydol yn y Gymraeg.
-
Datblygu hunaniaeth genedlaethol trwy gyfrwng theatr.
-
Datblygu theatr fel cyfrwng celfyddydol yng nghyd-destun y diwylliant Cymraeg.
-
Datblygu sgiliau a hyder gweithwyr theatr, rhanddeiliaid, mynychwyr a chyfranogwyr theatr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn y cyfnod cyn Covid-19, arfer y cwmni – a leolir yng Nghaerfyrddin – oedd cyflwyno lleiafswm o bedwar cynhyrchiad theatr y flwyddyn, a’r rheiny’n amrywio o ddramâu clasurol Cymraeg, addasiadau llwyfan o glasuron llenyddol Cymraeg, trosiadau o glasuron theatr ryngwladol, ysgrifennu newydd, theatr i blant a phobl ifanc, prosiectau cymunedol, cynyrchiadau safle-benodol, theatr ddawns a theatr gerddorol. Yr arfer oedd creu cynyrchiadau ar gyfer eu teithio i ganolfannau celfyddydol ar draws Cymru, yn brif lwyfannau a chanolfannau graddfa ganolig, bychan a chymunedol, a hefyd teithio’n achlysurol y tu hwnt i Gymru yn y DU ac yn rhyngwladol. Oherwydd cyfyngiadau sylweddol ar weithrediadau arferol y cwmni, ar y sector theatr yn gyffredinol ac ar gymdeithas yn ehangach, yn arbennig felly’r ffaith bod Llywodraeth Cymru – fel rhan o’u mesurau i warchod iechyd y cyhoedd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – wedi gorfodi theatrau a chanolfannau celfyddydol i gau eu drysau am y cyfan o’r flwyddyn ariannol 2020/21, bu’n rhaid i’r cwmni newid dros nos y modd yr oedd yn gweithio, a’r gwasanaeth yr oedd yn ei ddarparu i’r cyhoedd.
Mae’r cwmni, mewn cyfnod arferol, yn creu prosiectau ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed, ac ar gyfer cymunedau amrywiol, yn gymunedau diwydiannol, gwledig a dinesig. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â chanolfannau i gynhyrchu prosiectau theatr, yn ogystal ag i lwyfannu ei waith, ac i ddatblygu cynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru. Yn ystod 2020/21 parhaodd y cwmni i wneud peth o’r gwaith hwn, ac eithrio llwyfannu perfformiadau byw mewn canolfannau, gan fanteisio ar gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau amrywiol ar draws y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol, a sefydliadau eraill y tu hwnt. Addasodd ei allbwn creadigol er mwyn parhau i gyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl, ond trwy wneud defnydd o blatfformau cyfleu a oedd ar gael iddo yn ystod y flwyddyn, gan fod theatrau a chanolfannau celfyddydol ar gau.
Parhaodd y cwmni i gyflwyno rhaglen amrywiol o waith cyfranogol, yn cynnwys gweithdai a sgyrsiau i ysgolion a grwpiau cymunedol o bob oed, gan barhau hefyd i weithio’n gyson gydag asiantaethau a sefydliadau eraill ar y ddarpariaeth hon.
Mae gwaith y cwmni wedi’i anelu’n bennaf at siaradwyr Cymraeg, ond anelir hefyd at gyrraedd dysgwyr y Gymraeg a’r di-Gymraeg yng Nghymru. Mae’r cwmni’n creu pecynnau addysg a phecynnau ar gyfer dysgwyr sy’n cyd-fynd â’i gynyrchiadau. Hefyd, yn ystod y flwyddyn anarferol hon, darparwyd is-deitlau neu gapsiynau Cymraeg a Saesneg ar bron y cyfan o’i gyflwyniadau ar-lein, gyda’r nod o barhau i ddatblygu ei gynulleidfa ddi-Gymraeg, yn ogystal â’i gynulleidfa o blith dysgwyr y Gymraeg. Roedd y ddarpariaeth hon, yn ogystal, yn golygu bod cyflwyniadau ar-lein y cwmni yn hygyrch i bobl byddar a thrwm eu clyw.
Mewn blwyddyn arferol, mae’r cwmni’n defnyddio’r ap mynediad iaith, Sibrwd, a ddatblygwyd yn arbennig ar ei gyfer trwy gydweithrediad â chwmni digidol Galactig (sy’n rhan o gwmni Rondo Media), wrth gyflwyno digwyddiadau byw mewn canolfannau. Mae Sibrwd yn caniatáu i’r cwmni ddarparu mynediad i’r diGymraeg a dysgwyr y Gymraeg yn uniongyrchol, heb amharu ar brofiad siaradwyr Cymraeg. Yn ystod 2020/21, gweithiodd y cwmni gyda chwmni Galactig i ddatblygu’r adnodd hwn, a hynny trwy nawdd gan gronfa Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, fel rhan o gynllun ehangach o’r enw Connect Up.
Er bod gwaith y cwmni wedi’i wreiddio yng Nghymru, mae wedi ymrwymo i godi proffil Cymru, y Gymraeg, a theatr trwy gyfrwng y Gymraeg y tu hwnt i Gymru, o fewn y Deyrnas Unedig yn ehangach, ac yn rhyngwladol.
- 5 -
Cynllun Strategol 2019–23 ac ailosod blaenoriaethau yn sgil COVID-19
Yn 2018, gyda chefnogaeth gan Raglen Wytnwch Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC), lluniwyd cynllun busnes ac iddo gyfeiriad strategol clir ar gyfer y cyfnod 2018–2022. Gan fod y cynllun busnes yn ddogfen fyw ac yn ddogfen weithiol, mae wedi ei ddiweddaru’n flynyddol ers hynny.
Yn 2018, cynhaliwyd arolwg a dadansoddiad manwl o waith y cwmni, gan ffocysu ar ei brif flaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf – blaenoriaethau a fyddai’n arwain at wneud y cwmni’n fwy gwydn. Rhoddwyd ystyriaeth i gyd-destun gweithredu’r cwmni a’i rôl wrth geisio cyflawni’r amcanion a amlinellir yn Strategaeth y Llywodraeth: Cymraeg 2050; Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chynllun Corfforaethol Cyngor Celfyddydau Cymru. Drwy’r broses hon adnabuwyd dwy flaenoriaeth strategol ar gyfer y cyfnod dan sylw, sef cynyddu cynulleidfaoedd – boed hynny’n fynychwyr i berfformiadau neu’n ymgyfranogwyr – ac arallgyfeirio ei ffrydiau incwm, a thrwy hynny leihau ei ddibyniaeth ar nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Y targedau a osodwyd yn 2018 ar gyfer cyfnod y cynllun strategol yw:
-
Yn ystod y cyfnod 2018–2022, bydd Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyrraedd cyfanswm o 70,000 o bobl – yn fynychwyr ac yn gyfranogwyr
-
Yn 2021/22, bydd cyfanswm y bobl y bydd yn eu cyrraedd 30% yn uwch nag yr oedd yn 2018/19.
Erbyn diwedd 2019/20, llwyddodd y cwmni i gyrraedd ei dargedau blynyddol o ran y ddwy flaenoriaeth uchod, ac roedd arwyddion clir ei fod ar y ffordd i gyrraedd y targedau a osodwyd ar gyfer diwedd cyfnod y cynllun strategol hwn.
Wrth adolygu’r cynllun busnes yn 2020, daeth yn amlwg fod angen gosod cyfeiriad clir ar gyfer y cwmni a’i weithgareddau yn wyneb y newid sylweddol i’r cyd-destun gweithredu o ganlyniad i COVID-19, ac mewn ymateb i’r anghyfiawnderau a amlygwyd yn eang yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, yn arbennig, o ran amrywiaeth a chynhwysiant, ac awydd y cwmni i fod yn fwy cynhwysol ac i’w waith fod yn fwy cynrychioliadol o wahanol hunaniaethau a chymunedau Cymru.
Gan nad oedd modd cynnal digwyddiadau theatr byw yn ystod 2020/21, nid oedd yn realistig nac yn ymarferol i’r cwmni barhau i geisio cyrraedd y ddau darged uchod, felly penderfynwyd ym mis Hydref 2020 ar y 6 blaenoriaeth isod ar gyfer y cyfnod hyd at ddiwedd 2021.
-
Amrywiaeth a Chynhwysiant
-
Marchnata a Chyfathrebu
-
Datblygu Sgiliau a Chefnogi’r Sector
-
Cefnogi Canolfannau Celfyddydol
-
Cynnal Diddordeb Cynulleidfaoedd
-
Datblygu Gwaith Newydd ar gyfer y Dyfodol.
Yn ystod 2021, bwriada’r cwmni lunio cynllun strategol newydd a fydd yn ymateb i’r cyd-destun gweithredu tra gwahanol, gan weithredu’r cynllun hwnnw o fis Ionawr 2022 ymlaen.
Prif Weithgareddau’r Cwmni
Yn unol â’i genhadaeth, mae’r cwmni’n cynnig amrywiaeth o brofiadau theatr Cymraeg eang eu hapêl, sy’n cynnwys perfformiadau o’i gynyrchiadau ac amrywiaeth o gyfleoedd i ymgyfranogi yn y celfyddydau.
Yn ystod 2020/21 bu’n rhaid canslo’r cyfan o’r gweithgareddau a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer y flwyddyn, gan nad oedd modd eu cyflwyno yn wyneb COVID-19. Aed ati’n gyflym i gynllunio rhaglen o waith a oedd yn ymateb i’r cyd-destun newydd a’r cyfyngiadau yn sgil COVID-19, a chyflwynwyd y rhaglen honno yn ystod y flwyddyn. O fis Hydref 2021, roedd y rhaglen honno hefyd yn ymateb i’r blaenoriaethau newydd a osodwyd ar gyfer gweddill y flwyddyn. Dyma adrodd, felly, ar weithgareddau’r cwmni yn unol â’r blaenoriaethau newydd hynny a osodwyd:
- 6 -
1. Amrywiaeth a Chynhwysiant
Bu i effeithiau cymdeithasol y pandemig ac ymgyrchoedd megis Black Lives Matter a #WeShallNotBeRemoved beri i’r cwmni ailfeddwl sut mae’n sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant yn ei waith. Aeth Bwrdd Ymddiriedolwyr y cwmni ati i sefydlu Gweithgor yn benodol i graffu ar y materion hyn – Gweithgor sy’n cynnwys nifer o ymddiriedolwyr, aelodau o staff ac aelodau allanol sy’n dod â phrofiad bywyd sy’n benodol i grwpiau a dangynrychiolwyd yn y celfyddydau. Bu’r Gweithgor yn craffu ar bob agwedd o waith y cwmni er mwyn sicrhau cynrychiolaeth a chynhwysiant ar bob lefel.
-
Bwrdd – Penodwyd 4 ymddiriedolwr newydd i’r Bwrdd drwy broses agored a chynhwysol. Lluniwyd pecyn recriwtio gan ddefnyddio cyngor o becyn cymorth gan Weston Jerwood ar sut mae lleihau’r rhwystrau a allai atal pobl rhag ymwneud â’r cwmni. Croesawyd ceisiadau gan unrhyw un, ond yn arbennig gan bobl ifanc, pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, a phobl anabl. Gosodwyd a chyrhaeddwyd targed i recriwtio o leiaf 2 aelod newydd o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig arall, a/neu’n anabl.
-
Staff – Penodwyd i 2 swydd newydd – Cydlynydd Cyfranogi a Swyddog Datblygu Creadigol. Bu’r cwmni’n ffodus i gael ei dderbyn i’r cynllun Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood, sy’n ehangu mynediad i yrfaoedd yn y celfyddydau i bobl o gefndiroedd socio-economaidd is. Drwy’r cynllun Weston Jerwood, derbyniodd y cwmni gefnogaeth datblygiad sefydliadol a oedd yn ffocysu yn y lle cyntaf ar arferion recriwtio cynhwysol. Bu i hyn lywio’r ffordd yr aeth y cwmni ati i recriwtio i’r swyddi uchod, a arweiniodd at wella amrywiaeth o ran ei weithlu. Yn ogystal, cynhaliodd y cwmni adolygiad o’r amodau gweithio i staff, er mwyn sicrhau cynhwysiant.
-
Castio a Chyfleoedd Gwaith – Sefydlwyd arferiad newydd, lle rhennir yn gyhoeddus wybodaeth am gyfleoedd llawrydd i weithio gyda’r cwmni, drwy alwadau ar gyfer anghenion penodol – boed hynny’n actorion, criw llwyfan a thechnegol neu dîm artistig. Mae’r cwmni hefyd bellach yn cynnal sesiynau agored rheolaidd, yn gyfuniad o gyfleoedd i staff gyfarfod â gweithwyr llawrydd newydd, ond hefyd i ailgysylltu gydag unigolion sydd wedi gweithio i’r cwmni yn y gorffennol. Lansiwyd cynllun Drws Agored er mwyn cyfathrebu ynglŷn â’r cyfleoedd hyn i gyfarfod â staff y cwmni. Yn ystod 2020/21, cynhaliwyd y rhain yn bennaf ar-lein oherwydd cyfyngiadau Covid, ond hefyd er mwyn hwyluso mynediad i rai nad ydynt yn ei chael yn rhwydd i fynychu mannau penodol, er enghraifft am resymau iechyd neu ariannol. Hefyd, gan i 2020 fod yn flwyddyn heriol i raddedigion newydd ym maes y celfyddydau perfformio, yn dilyn gwahoddiad agored cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd ar-lein i roi cyfle i raddedigion newydd eu cyflwyno eu hunain i staff y cwmni.
-
Cynnwys Artistig a Datblygu Sgiliau Proffesiynol – Roedd y cynnydd i’r ddwy elfen hon wedi cydredeg, gan i’r cwmni adnabod yn y lle cyntaf bod prinder yn y gwaith y mae’n ei ddatblygu a’i gyflwyno o ran gwaith sy’n berthnasol i grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yn y celfyddydau’n gyffredinol, neu waith sy’n cynnwys cymeriadau ac iddynt nodweddion gwarchodedig; ac yn ail, bod hyn yn debygol o fod o ganlyniad i ddiffyg yn ei ymwneud gydag artistiaid o’r grwpiau hynny. Fe ddyrannodd y cwmni 6 Bwrsari Datblygu Syniad, sef cynllun bwrsariaeth yn benodol ar gyfer artistiaid anabl ac artistiaid o gefndiroedd ethnig amrywiol. Roedd y bwrsariaethau hyn yn rhoi cyfle i’r artistiaid ddatblygu eu syniadau ar gyfer prosiect theatraidd gyda chefnogaeth y cwmni. Dyrannwyd 5 bwrsari arall o’r enw Bwrsari Artist a Chymuned. Roedd y cynllun hwn yn annog artistiaid i ddatblygu gwaith gyda chymuned benodol, boed honno’n gymuned ddaearyddol, broffesiynol, arlein neu’n gymuned sy’n rhannu nodweddion neilltuol. Derbyniodd nifer o’r artistiaid a gafodd Fwrsari Datblygu Syniad gomisiwn i ddatblygu eu gwaith ymhellach. Bwriad y cwmni yw cynnig comisiynau datblygu pellach yn 2021/22 i artistiaid y cynllun Bwrsari Artist a Chymuned.
-
Ymgyfranogi – Wrth gynllunio a chyflwyno gweithgareddau ymgyfranogi, sicrhaodd y cwmni fod cynrychiolaeth o ystod eang o bobl ymhlith arweinwyr ac ymgyfranogwyr. Yn ogystal, fe ddarparodd glybiau drama a Chlwb Theatr Cymru ar-lein, tra’n gweithio’n agos gyda’i bartneriaid yn y cynlluniau hyn i sicrhau bod yr arlwy yn hygyrch a chynhwysol.
-
7 -
2. Marchnata a Chyfathrebu
Fel rhan o’r gefnogaeth a dderbyniodd y cwmni drwy Raglen Wytnwch CCC, cafodd grant i gynnal Archwiliad Canfyddiad o’r cwmni, sef y canfyddiad ohono ymysg ei gynulleidfa, partneriaid strategol, artistiaid a rhanddeiliaid ehangach. Cynhaliwyd yr archwiliad hwn yn ystod 2020/21. Un o’r prif bwyntiau a ddaeth i’r amlwg o’r ymchwil oedd bod angen i’r cwmni gryfhau ei negeseuon cyfathrebu. Roedd yr adborth gan y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil yn nodi bod cyfathrebu’r cwmni yn ffocysu’n benodol ar gynyrchiadau, ac nad oedd llawer o gyfathrebu am y gwaith sy’n digwydd y tu hwnt i gynyrchiadau. Teimlai sawl un rhyw ddiffyg hyder wrth roi barn ar waith y cwmni yng nghyd-destun cyfleoedd cyfranogi a gwaith datblygu sgiliau, am nad oeddynt yn ymwybodol o’r gwaith hwnnw neu am nad oeddent yn gwybod digon amdano. Roedd nifer o’r rhai wnaeth ymateb yn nodi awydd i gael mwy o ymdeimlad o berthynas gyda’r cwmni yn y cyfathrebu, a honno’n berthynas gyson. Roedd sawl un hefyd yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallent gefnogi’r cwmni a’i waith. Cafwyd peth adborth ar frand y cwmni, gan nodi bod y brand yn un gweddol gyfarwydd, ac wedi bod yn gyson, ond bod ymdeimlad corfforaethol iddo a’i bod yn amser am newid neu adnewyddu. Nododd sawl un fod enw’r cwmni’n ychwanegu at y naws gorfforaethol, a bod ‘Theatr Gen’ fel enw yn teimlo’n fwy cyfeillgar ac agos atoch.
Fe wnaeth yr uchod atgyfnerthu’r ymdeimlad a oedd eisoes yn bodoli ymhlith staff y cwmni, ac amlygu’r angen i roi pwyslais ar ddatblygu gwaith cyfathrebu a marchnata’r cwmni er mwyn cynnal perthynas gyda’i gynulleidfa a’i gefnogwyr, ac i godi ymwybyddiaeth o’i waith ehangach (y tu hwnt i gynyrchiadau) a fydd, yn y pen draw, gobeithir, yn amlygu budd cyhoeddus y cwmni, ac yn hwyluso’r gwaith o farchnata cynyrchiadau. Cyflwynwyd adroddiad llawn o’r gwaith hwn i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i staff y cwmni. O ganlyniad i ganfyddiadau’r arolwg, bwriada’r cwmni ddatblygu gwefan newydd yn ystod 2021/22, ac yna ail-frandio yn 2022/23. Bydd symiau priodol yn cael eu clustnodi yng nghyllidebau’r blynyddoedd hynny ar gyfer y gweithgareddau hyn.
3. Datblygu Sgiliau a Chefnogi’r Sector
Gan fod COVID-19 wedi cael effaith mor niweidiol ar fywoliaeth a chyfleoedd gwaith gweithwyr theatr llawrydd yn y maes celfyddydau perfformio, fe gymerodd y cwmni gamau neilltuol i geisio lliniaru rhywfaint ar effaith y pandemig yn hyn o beth. Roedd y camau hynny’n cyd-fynd â nodau strategol neu flaenoriaethau eraill, e.e. Amrywiaeth a Chynhwysiant, a Chynnal Diddordeb Cynulleidfaoedd. O ran yr olaf o’r rhain, cyflogodd y cwmni weithwyr llawrydd ar nifer fawr o gyflwyniadau digidol yn ystod y flwyddyn, gan nad oedd modd creu digwyddiadau byw yn y ffordd arferol oherwydd COVID-19. Adroddir ar y cyflwyniadau hynny isod (gweler Cynnal Diddordeb Cynulleidfa). Dyrannwyd 347 o gytundebau llawrydd yn ystod y flwyddyn, i 219 o unigolion, a hynny ar brosiectau’n cynnwys gwaith digidol gwreiddiol a gwaith ymgyfranogi, yn ogystal â chyflwyniadau ar-lein o recordiadau o gynyrchiadau’r cwmni o’r gorffennol.
Gan fod y cyd-destun gweithredu wedi golygu nad oedd modd i’r cwmni gyflwyno cynyrchiadau theatr byw, manteisiwyd ar gyfleoedd yn y cyfnod hwn i ddatblygu sgiliau’n gyffredinol yn y sector theatr Gymraeg. Roedd y gweithgareddau hyn yn cysylltu gyda rhai o’i flaenoriaethau eraill. Bwriad y cwmni yw parhau â’r cynlluniau hyn a datblygu cynlluniau pellach yn ystod 2021/22.
Faust
Gweithiodd y cwmni gyda Chwmni’r Frân Wen a Pontio i greu cynhyrchiad theatr i’w gyflwyno yn 2021/22, gan gynnig cyfleoedd yn 2020/21 (sef y cyfnod paratoi ac ymarfer) i 10 o berfformwyr ifanc (18–25 oed) yn y gymuned (nad oeddynt yn weithwyr theatr proffesiynol) yn ardal Glannau’r Fenai, i ddatblygu sgiliau perfformio. Crëwyd ensemble o berfformwyr er mwyn cyflwyno cynhyrchiad ar-lein; trwy weithio gyda thîm creadigol o artistiaid proffesiynol, derbyniodd yr artistiaid ifanc o’r gymuned arweiniad ac anogaeth, a
- 8 -
chyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, yn arbennig o ran sgiliau actio, gwaith llais, theatr gorfforol a dyfeisio theatr, yn ogystal ag elfennau o greu gwaith digidol a dylunio.
Academi Leeway
Bu’r cwmni’n cefnogi prosiect a arweiniwyd gan Leeway Productions, gyda chefnogaeth hefyd gan Theatr Soar, Merthyr Tudful, a oedd yn datblygu sgiliau artistiaid ifanc yn y gymuned yn ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Caerffili ac ardaloedd cyfagos. Dan arweiniaid artistiaid proffesiynol, roedd yr artistiaid ifanc hyn yn creu ac yn cyflwyno’n ddigidol eu sioeau cerdd gwreiddiol eu hunain.
Pair
Cychwynnwyd ar y gwaith o ddatblygu’r cynllun newydd hwn a fydd yn cynnig cyfleoedd i wneuthurwyr theatr i ddatblygu eu sgiliau ym maes dyfeisio theatr. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru, rhoddodd y cwmni gefnogaeth i Dr Rhiannon Williams i’w galluogi i archwilio a datblygu syniadau a fydd yn sail i brosiect y bwriedir ei gyflwyno yn 2021/22. Cefnogir y cynllun hwn gan S4C.
Cynllun Dramodwyr Ifanc
Bu’r cwmni’n cydweithio gyda’r Urdd ac S4C i greu cynllun datblygu a hyfforddi ar gyfer dramodwyr ifanc (16–25 oed). Cyflwynwyd rhaglen o ddosbarthiadau meistr a gweithdai gyda dramodwyr proffesiynol, gyda’r bwriad o annog cystadleuwyr i gyflwyno gwaith ar gyfer Medal Ddrama Eisteddfod T 2021. Y bwriad yw parhau gyda’r cynllun yn 2021/22 trwy gynnig rôl i enillydd y gystadleuaeth fel Dramodydd Preswyl Ifanc Theatr Genedlaethol Cymru.
Cyfleoedd ar gyfer egin gyfarwyddwyr
Fel parhad i gynllun Awenau – sef rhaglen o hyfforddiant, mentoriaeth a chyfleoedd cyflogaeth i gyfarwyddwyr theatr – cyflwynodd y cwmni weithdy terfynol y prosiect, a pharhau hefyd i gefnogi rhai o’r egin gyfarwyddwyr a fu’n rhan o’r cynllun trwy gynnig gwaith cyflogedig iddynt naill ai fel cyfarwyddwyr cynorthwyol neu fel cyfarwyddwyr ar gynyrchiadau digidol yn ystod y flwyddyn.
Hybu Hyder – Cymraeg Gwaith
Daeth i’r amlwg fod diffyg hyder yn y Gymraeg yn rhwystr i rai artistiaid a gweithwyr theatr rhag eu cyflwyno eu hunain i’r cwmni ar gyfer darpar gyflogaeth, neu gynnig syniadau creadigol iddo. Oherwydd hynny, bu’r cwmni’n cydweithio gyda CCC a Chanolfan Nant Gwrtheyrn ar gynllun i roi cyfleoedd i weithwyr llawrydd ym maes y celfyddydau perfformio i fynychu cyrsiau datblygu sgiliau iaith, a hynny fel rhan o gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
4. Cefnogi Canolfannau Celfyddydol
Wrth ddiwygio’i strategaeth mewn perthynas â chanolfannau a theithio yn sgil COVID-19, cymerodd y cwmni i ystyriaeth yr heriau sylweddol a wynebwyd gan y canolfannau yn sgil y pandemig.
Yn ystod 2020/21, tra bod theatrau a chanolfannau ar gau, a chyfyngiadau sylweddol wedi bod ar greu cynyrchiadau theatr, canolbwyntiodd y cwmni ar weithio gyda chanolfannau i hyrwyddo cynyrchiadau arlein (gweler isod – Cynnal Diddordeb Cynulleidfaoedd) ac ar roi trefniadau mewn lle i alluogi’r cwmni i symud yn gyflym i ailddechrau cyflwyno cynyrchiadau mewn canolfannau unwaith y byddai’r cyfyngiadau’n cael eu llacio.
Bwriad y cwmni yn 2021/22 a thu hwnt, pan fydd y cyfyngiadau ar greu a chyflwyno digwyddiadau theatr wedi llacio, yw cynorthwyo canolfannau i ddenu cynulleidfaoedd yn ôl yn dilyn cyfnod mor ddinistriol i’r sector.
- 9 -
5. Cynnal Diddordeb Cynulleidfa
Roedd y cyfyngiadau a osodwyd gan y Llywodraeth mewn ymateb i argyfwng Covid-19 yn golygu bod canolfannau theatr wedi bod ar gau drwy’r flwyddyn gyfan, ac nad oedd modd ymgynnull i greu perfformiadau theatr yn y dull arferol. O ganlyniad, cafodd unigolion a chymunedau ledled Cymru eu hamddifadu’n llwyr o gyfleoedd yn ystod y flwyddyn i brofi ac i ymwneud â theatr byw (yn y fan a’r lle). Felly fe aeth y cwmni ati i symud y cyfan o’i gyflwyniadau a’i weithgareddau ymgyfranogi i blatfformau digidol. Roedd y cyflwyniadau hynny naill ai’n gyflwyniadau a grëwyd o’r newydd, neu’n recordiadau o gynyrchiadau a grëwyd ac a gyflwynwyd eisoes. Roedd y gweithgareddau ymgyfranogi naill ai’n recordiadau o sesiynau wedi eu recordio ymlaen llaw, yn sesiynau wedi eu ffrydio’n fyw lle nad oedd modd rhyngweithio, neu’n sesiynau wedi eu ffrydio’n fyw lle roedd cyfle i ymgyfranogwyr ryngweithio. Er mwyn cyflwyno a hyrwyddo’r gwaith hwn a oedd, i bob pwrpas, yn weithgaredd cwbl newydd i’r cwmni, sefydlwyd is-frandiau o’r newydd, sef Creu Ar-lein, Pawb Ar-lein a Theatr Gen Eto.
Cyflwynwyd y prosiectau a’r cynyrchiadau hyn ar amrywiol blatfformau yn cynnwys YouTube, AM a Facebook, a’r cyfan yn rhad ac am ddim i’r gwylwyr.
-
Creu Ar-lein: cynyrchiadau digidol gwreiddiol
-
Comisiynau Digidol Newydd
- Roedd hwn yn gynllun newydd ac yn bartneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, gyda chefnogaeth gan BBC Cymru Wales a BBC Arts. Fel rhan o’r cynllun hwn, arweiniodd Theatr Genedlaethol Cymru ar greu a chyflwyno tri chynhyrchiad digidol newydd ac arloesol, sef Fy Ynys Las gan yr artist aml-ddisgyblaethol Eddie Ladd (a fu’n aelod o Awenau, cynllun hyfforddi cyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru); Er Cofid 19 gan ensemble o artistiaid benywaidd ifanc o’r enw Er Cof; ac O Ben’groes at Droed Amser gan y bardd Karen Owen. Fe ailryddhawyd y cynyrchiadau hyn yn ystod y flwyddyn fel rhan o raglen Theatr Gen Eto.
-
Dramâu Micro
- Roedd y cynllun hwn yn gydweithrediad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw. Fel rhan o’r cynllun, crëwyd a chyflwynwyd dwy ddrama wreiddiol fer, sef Enfys gan Melangell Dolma, wedi’i chyfarwyddo gan Rhian Blythe (a fu’n aelod o Awenau, cynllun hyfforddi cyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru), a Carys ac Andy gan Elin Gwyn.
-
Cyflwyniadau Digidol o Ddramâu Newydd
- Cynhyrchwyd a chyflwynwyd dwy ddrama lawn hyd, y naill yn ddrama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2019, sef Sgidie, Sgidie, Sgidie gan Mared Roberts, wedi’i chyfarwyddo gan Gethin Roberts (a fu’n aelod o Awenau, cynllun hyfforddi cyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru) ac a gyflwynwyd mewn partneriaeth ag Eisteddfod yr Urdd; a’r llall yn ddrama fuddugol cystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sef Adar Papur gan Gareth Evans Jones, wedi’i chyfarwyddo gan Branwen Davies (a fu’n aelod o Awenau, cynllun hyfforddi cyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru) ac a gyflwynwyd mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
-
Cynnwys digidol byr arall
- I ddathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym mis Gorffennaf 2020, ac er mwyn dathlu cyfraniad gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn gyffredinol (yn arbennig yn ystod cyfnod y pandemig) crëwyd a chyflwynwyd perfformiad digidol o un o’r caneuon a fu’n rhan o gynhyrchiad y cwmni yn 2018 o’r ddrama air-am-air, Nyrsys, sef Switchio Off.
-
Pawb Ar-lein: prosiectau cyfranogi ar-lein
Mewn blwyddyn arferol, mae gwaith cyfranogi’r cwmni yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgaredd theatr, yn cynnwys gweithdai i grwpiau gwahanol (e.e. disgyblion ysgol a myfyrwyr, ac artistiaid ar eu prifiant), sgyrsiau cyn ac ar ôl sioeau, a sesiynau i ddysgwyr. Mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n datblygu cynulleidfa ar gyfer cynyrchiadau, a gweithgareddau sy’n
- 10 -
ymateb i alw gan gymunedau amrywiol, boed yn grŵp cymunedol, yn fusnes neu’n sefydliad mewn sector arall. Yn wyneb y pandemig, ceisiwyd trosglwyddo cymaint ag y bo modd o’r gwaith i gael eu cynnal yn rhithiol, ar amryw o blatfformau. Hyrwyddwyd y gweithgareddau hyn dan frand Pawb Ar-lein.
-
Clybiau Drama: Gan nad oedd modd cynnal sesiynau wyneb yn wyneb, cynhaliwyd sesiynau digidol dros Zoom i aelodau’r clybiau drama a sefydlwyd mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr (Caerfyrddin) a Menter Cered a Menter Iaith Sir Benfro (Aberteifi). Adeiladwyd ar lwyddiant y sesiynau yma drwy sefydlu Clwb Theatr Cymru. Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni gydweithio gyda holl fentrau iaith Cymru er mwyn cynnal sesiynau digidol i blant oedran cynradd. Cynhaliwyd y sesiynau am y tro cyntaf dros wyliau’r haf 2020, a chynhaliwyd sesiynau pellach dros y gwyliau Nadolig hefyd. Adroddodd nifer o rieni fod eu plant wedi cael cyfle gwerthfawr i greu cysylltiadau, a hynny yn ystod cyfnod oedd yn anodd iawn iddynt oherwydd y cyfnodau clo a’r ysgolion ar gau. Yn ogystal â’r clybiau drama i blant oedran cynradd, cynhaliwyd dosbarthiadau meistr i bobl ifanc, oedran ysgol uwchradd, gydag amrywiaeth o artistiaid. Roedd y dosbarthiadau’n gyfle i’r bobl ifanc holi’r artistiaid a derbyn cyngor. Trefnwyd y dosbarthiadau meistr ar y cyd â sawl menter iaith.
-
Sgwennu ar y Dibyn / Ar y Dibyn: Sefydlwyd y prosiect hwn yn 2019/20 er mwyn cefnogi pobl yng ngogledd-orllewin Cymru sydd wedi cael eu heffeithio gan ddibyniaeth – boed hynny’n bobl sy’n byw gyda dibyniaeth neu rai sy’n cefnogi pobl eraill gyda’u dibyniaeth – i ddod at ei gilydd a rhannu’r straeon hynny mewn ffordd greadigol. Yn 2020/21, estynnwyd y prosiect i beilota gweithredu ar lefel genedlaethol, a pharhawyd i gynnal sesiynau, ond bellach yn ddigidol. Derbyniwyd cefnogaeth ariannol gan Gymdeithas Tai Adra, a chydweithiwyd gyda Llenyddiaeth Cymru a Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Gwynedd ac Ynys Môn i gynnal y prosiect. Cyflwynwyd cais i raglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil Pobl (HARP) ar ddiwedd 2020/21, er mwyn ymestyn y prosiect ymhellach yn 2021/22.
-
Academi Leeway: Darparwyd cefnogaeth i Academy Leeway, prosiect Cynyrchiadau Leeway mewn partneriaeth â Theatr Soar, sef academi theatr gerdd ar lawr gwlad i bobl ifanc 14–25 oed. Roedd y prosiect yn gyfle i bobl ifanc a chanddynt ddiddordeb mewn creu neu berfformio theatr gerdd i ddatblygu eu sgiliau creadigol. Cymerodd 19 o bobl ifanc ran yn y prosiect, a chydweithiwyd gyda thri chyfansoddwr profiadol – sef Kizzy Crawford, Lynwen Haf Roberts a James Williams – i ddatblygu tri darn o waith dan y teitl Rhyfeloedd y ’Rona.
-
Cynllun Dramodwyr Ifanc: Yn 2020/21 daeth Theatr Genedlaethol Cymru, Eisteddfod yr Urdd ac S4C ynghyd i sefydlu partneriaeth newydd sbon, er mwyn rhannu eu sgiliau amrywiol a darparu cyfleoedd hyfforddi a mentora unigryw ar gyfer cenhedlaeth newydd o ddramodwyr ifanc. Cafwyd ymateb gwych i’r Cynllun Dramodwyr Ifanc. Derbyniwyd 45 o geisiadau gan bobl ifanc ledled Cymru, a phob un wedi eu derbyn i fod yn rhan o’r fenter newydd. Roedd cyfle i’r bobl ifanc fynychu gweithdai meistr gyda dramodwyr Cymreig llwyddiannus, arbenigwyr theatr, a rhai sy’n gweithio ym myd y ddrama o fewn sector y cyfryngau, a chawsant eu hannog i gystadlu yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd.
-
Faust + Greta – Ensemble Ifanc: Fel y nodwyd eisoes, roedd 10 o bobl ifanc yn rhan o ensemble Faust + Greta. Roedd y grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn, yn bennaf yn rhithiol, er mwyn cyd-ddatblygu’r gwaith gyda grŵp o artistiaid proffesiynol. Roedd hwn yn gyfle gwych i’r bobl ifanc fagu hyder a datblygu eu sgiliau, yn arbennig o ran sgiliau actio, gwaith llais, theatr gorfforol a dyfeisio theatr, yn ogystal ag elfennau o greu gwaith digidol a dylunio.
-
Dysgwyr: Darparwyd amrywiaeth o weithdai rhithiol i ddysgwyr. Cydweithiwyd unwaith eto gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gefnogi'r cwricwlwm.
-
Addysg – Casgliad Dysgu: Lansiwyd y Casgliad Dysgu ym mis Chwefror 2021. Bwriad y casgliad hwn yw rhoi cyfle i ddarlithwyr, athrawon, myfyrwyr, disgyblion, addysgwyr a dysgwyr i wylio, astudio a mwynhau theatr Gymraeg. Mae capsiynau caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael ar bob cynhyrchiad yn y casgliad.
-
11 -
-
Sgyrsiau ar-lein: Cynhaliwyd nifer o sgyrsiau a sesiynau trafod ar-lein. Roedd sawl un yn rhan o rhaglen AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol, yn cynnwys sgwrs yn dathlu’r Fedal Ddrama a sgwrs ‘Merched Syth a Dynion yn Unig’ mewn cydweithrediad â Stonewall a Mas ar y Maes.
-
Cynhadledd Ceangal / Dolen – Cynhaliwyd y gynhadledd ym mis Tachwedd 2020, ar blatfform rhithiol. Roedd y cwmni’n bartner yn y gynhadledd, ynghyd ag Ealaín na Gaeltachta, Ollscoil na hÉireann Gaillimh, An Taibhdhearc, a Theatre Gu Leòr. Pwrpas y gynhadledd oedd ennyn trafodaethau rhwng artistiaid, academyddion, cwmnïau theatr a noddwyr sy’n gweithio drwy gyfrwng yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a Chymraeg, gan eu hannog i gydweithio a meithrin partneriaethau. Roedd y cwmni’n aelod o’r pwyllgor llywio, a chyflwynwyd rhan o’r araith agoriadol gan ein Cyfarwyddwr Artistig.
Cydweithiwyd gydag ystod eang o bartneriaid er mwyn darparu cyfleoedd i ymgyfranogi yn y celfyddydau, gan gynnwys Mentrau Iaith Cymru, Urdd Gobaith Cymru, S4C, Cymdeithas Tai Adra, Llenyddiaeth Cymru, Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Gwynedd ac Ynys Mon, Frân Wen, Pontio, Cynyrchiadau Leeway, Theatr Soar, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Menter Gorllewin Sir Gâr, Menter Iaith Sir Benfro, Menter Iaith Cered, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Roedd cefnogaeth y partneriaid hyn yn allweddol i lwyddiant y gwaith.
Yn ystod 2020/21, llwyddwyd i gyrraedd 6,483 o ymgyfranogwyr, sef bron yr un nifer o ymgyfranogwyr ag a gyrhaeddwyd yn 2019/20. O ystyried ein bod wedi gorfod trawsnewid y ffordd roedd y cwmni’n ymwneud ag ymgyfranogwyr, yn sgil y pandemig rydym yn ystyried bod y cyrhaeddiad hwn yn un llwyddiannus iawn ac rydym yn falch o fod wedi gallu cynnal y berthynas gyda’n hymgyfranogwyr. Byddwn yn parhau i geisio gwneud hynny yn 2021/22, gan ddefnyddio’r hyn rydym wedi ei ddysgu am weithio’n rhithiol/ddigidol wrth i ni ddychwelyd i gynnig gweithgaredd wyneb yn wyneb hefyd.
-
Theatr Gen Eto: cyflwyniadau ar-lein o recordiadau rhai o gyn-gynyrchiadau’r cwmni
-
Bu’r cwmni’n negodi gyda’r undebau perthnasol ar fater cyfraddau a thelerau ar gyfer taliadau hawlfraint i artistiaid a gweithwyr theatr oedd yn gysylltiedig â chynyrchiadau a grëwyd ac a recordiwyd gan y cwmni yn y gorffennol ar gyfer rhyddhau’r recordiadau hynny ar blatfformau digidol. Cytundebwyd y gweithwyr llawrydd hynny a oedd y gysylltiedig â’r cynyrchiadau isod yn unol â’r cyfraddau a’r telerau hynny. Rhyddhawyd recordiadau o’r cynyrchiadau isod yn ystod y flwyddyn, pob un am gyfnodau penodedig, a’r cyfan yn rhad ac am ddim i wylwyr ar-lein.
-
Llygoden yr Eira
- Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, yn seiliedig ar y cynhyrchiad gwreiddiol Snow Mouse gan the egg a Travelling Light, gyda chefnogaeth Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe. Dyma gynhyrchiad twymgalon a hudolus ar gyfer plant dan 5 oed a’u teuluoedd; stori aeafol swynol, yn llawn cerddoriaeth, pypedwaith a chwarae, a gyflwynwyd yn wreiddiol mewn canolfannau ledled Cymru ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2019.
-
Nos Sadwrn o Hyd
- Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mas ar y Maes, Stonewall Cymru ac OOMFF, gyda chefnogaeth gan Theatr Clwyd. Cyflwynwyd y cynhyrchiad yn wreiddiol ar daith yn 2019, fel rhan o gyflwyniad dwbl a oedd hefyd yn cynnwys y ddrama Merched Caerdydd.
-
Mrs Reynolds a’r Cena Bach
- Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chwmni’r Frân Wen a Galeri Caernarfon. Cynhyrchiad o drosiad i’r Gymraeg gan Meic Povey o ddrama wreiddiol Gary Owen, ‘Mrs Reynolds and the Ruffian’. Cyflwynwyd y cynhyrchiad yn wreiddiol ar daith genedlaethol yn 2016.
-
Bachu
Cynhyrchiad Melangell Dolma, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd, gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru drwy Gronfa Gari, a Chanolfan Mileniwm Cymru. Wedi’i datblygu’n
- 12 -
wreiddiol fel rhan o gynllun awduron preswyl Theatr Clwyd, dyma ddrama ysgafn gan Melangell Dolma (a fu’n aelod o gynllun hyfforddi dramodwyr Theatr Genedlaethol Cymru, sef y Grŵp Dramodwyr Newydd) am gariad, cyfeillgarwch a chalonnau dryslyd, a gyflwynwyd yn wreiddiol yng Nghaffi Maes B ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
- Estron
Cynhyrchiad o ddrama fuddugol cystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016, a gyflwynwyd yn wreiddiol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 ac yna ar daith ledled Cymru yn 2018. Mae’r ddrama’n ymdrin â phrofedigaeth dyn ifanc ac yn cynnwys elfennau gwyddonias. Roedd hwn yn gynhyrchiad mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
- Milwr yn y Meddwl
Cynhyrchiad o ddrama fuddugol cystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, a gyflwynwyd yn wreiddiol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Mae’r ddrama’n archwilio effaith trawma ar filwr o Gymru, wrth iddo ef a’i deulu geisio dod i delerau â digwyddiadau erchyll o’i orffennol a’r heriau newydd sy’n ei wynebu. Roedd hwn yn gydgynhyrchiad gyda Theatr y Sherman, ac mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
- X
Cynhyrchiad o ddrama fuddugol cystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a gyflwynwyd yn wreiddiol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Mae hon yn ddrama wedi ei gosod yn y dyfodol ac yn edrych ar hunaniaeth wleidyddol Cymru. Roedd hwn yn gynhyrchiad mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
- Macbeth
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter. Dyma gynhyrchiad o glasur William Shakespeare mewn trosiad i’r Gymraeg gan Gwyn Thomas, a gyflwynwyd yn wreiddiol ar leoliad yng Nghastell Caerffili ac mewn darllediad byw trwy gyfrwng lloeren i ganolfannau ledled Cymru ym mis Chwefror 2017, ac yna fel ailddangosiad yn y canolfannau hynny yn ystod gwanwyn 2017.
- Blodeuwedd
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth gan Cadw, o glasur Saunders Lewis, a gyflwynwyd yn wreiddiol ar leoliad ar safle Tomen y Mur yng Ngwynedd ym mis Gorffennaf 2013.
- Y Tŵr
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Music Theatre Wales mewn partneriaeth â Pontio. Dyma gynhyrchiad o opera wreiddiol gan Guto Puw, gyda libreto gan Gwyneth Glyn, yn seiliedig ar ddrama wreiddiol Gwenlyn Parry. Cyflwynwyd y cynhyrchiad yn wreiddiol fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg, gyda chefnogaeth gan Theatr y Sherman, ac yna ar daith ledled Cymru yn 2017.
6. Datblygu Gwaith Newydd ar gyfer y Dyfodol
Yn ogystal â chomisiynu gweithiau newydd i’w cyflwyno o fewn y flwyddyn, cynorthwyo yn natblygiad creadigol y gweithiau hynny a goruchwylio ansawdd artistig y cyflwyniadau digidol uchod (fel rhan o arlwy Creu Ar-lein), bu’r cwmni hefyd yn datblygu arlwy newydd ac eang ar gyfer y dyfodol. Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i greu gwaith newydd a fydd yn cyfrannu at adferiad y sector ac adferiad cymdeithasol yn gyffredinol o ganlyniad i’r pandemig, yn cynnwys denu cynulleidfaoedd yn ôl i’n canolfannau i fynychu digwyddiadau theatr byw yn y dyfodol. Penderfynwyd y byddid yn canolbwyntio ar gomisiynu a datblygu gweithiau newydd . . .
-
sy’n fentrus a dychmygus
-
sy’n boblogaidd neu ac iddynt elfennau adloniannol amlwg
-
a fydd yn apelio’n arbennig at gynulleidfa ifanc a chymharol ifanc
-
13 -
-
a fydd yn arbennig o berthnasol i gynulleidfaoedd ac amrywiol gymunedau Cymru mewn cyfnod ôlbandemig
-
a fydd yn cyd-fynd â blaenoriaethau datblygu a rhaglennu artistig strategol y cwmni’n gyffredinol (yn cynnwys creu gwaith ac iddo apêl arbennig i grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ac sy’n ymateb i themâu neilltuol megis iechyd, digartrefedd a ffoaduriaid)
-
a fydd yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a’r cyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol cyfredol wrth iddo esblygu
-
a fydd yn chwarae rôl amlwg o ran adferiad cymdeithasol
-
y bydd modd eu creu a’u cyflwyno mewn canolfannau dan amodau a rheoliadau ymbellhau cymdeithasol
-
y bydd modd eu creu a’u cyflwyno mewn lleoliadau amgen, yn cynnwys yn yr awyr agored.
Bu’r gwaith o gynorthwyo datblygiad comisiynau newydd a ddyrannwyd yn ystod 2020/21, yn ogystal ag ar gomisiynau a gychwynnwyd mewn blynyddoedd blaenorol, yn digwydd bron yn ddieithriad ar-lein. Yn ogystal, cynhaliwyd gweithdai datblygu sgript a darlleniadau o weithiau mewn datblygiad, oll ar-lein.
3. CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD
Trosolwg o Brif Weithgaredd y Flwyddyn:
| Targedau a chyrhaeddiad | 2019/20 | 2020/21 |
|---|---|---|
| Theatr Byw – Mynychwyr | 16,399 | 0 |
| Cyflwyniadau Theatr Ddigidol – Gwyliadau | 0 | 73,427 |
| Cyfranogwyr – Plant a Phobl Ifanc | 3,979 | 5,762 |
| Cyfranogwyr – Cyffredinol | 1,462 | 99 |
| Sgyrsiau a Sesiynau Holi ac Ateb | 1,174 | 622 |
| Cyfanswm Cyfranogwyr | 6,615 | 6,483 |
| Cyfanswm y Mynychwyr a’r Cyfranogwyr | 23,014 | 79,910 |
4. ADOLYGIAD ARIANNOL
Tra bod y cyfan o wariant y cwmni yn gysylltiedig mewn rhyw fodd â gwasanaethau’r cwmni, mae gwariant uniongyrchol ar brif weithgareddau’r cwmni, fel y disgrifir hwy uchod, yn cynrychioli’r rhan helaethaf o wariant blynyddol y cwmni. Mae’r rhan helaethaf o gostau cyflwyno cynyrchiadau theatraidd yn gysylltiedig â gwaith artistiaid llawrydd wrth greu’r gwaith, ac â staffio’r cynyrchiadau. Er mwyn cynnal y safonau artistig uchaf posibl, mae’r cwmni’n cyflogi naill ai’r artistiaid mwyaf profiadol neu’r mwyaf cymwys, ac yn gweithredu taliadau yn unol â chanllawiau a chytundebau UK Theatre, sef y sefydliad ambarél y mae’r cwmni’n aelod ohono. Mae’r taliadau hynny, yn eu tro, yn seiliedig ar gytundebau’r sefydliad hwnnw gydag undebau llafur y diwydiannau creadigol a’r sector ddiwylliannol.
Mae gwerthoedd cynhyrchu uchel y cwmni – yn unol â disgwyliadau’r gynulleidfa wrth ystyried gwaith cwmni theatr cenedlaethol, a nodau ac amcanion y cwmni – yn golygu bod rhan sylweddol o gyllideb pob cynhyrchiad yn gysylltiedig â chostau cynhyrchu (e.e. cynllunio a chreu neu ddarparu set a gwisgoedd, cynlluniau sain a goleuo, rheoli llwyfan, ac ati, ac yn achos cynyrchiadau digidol, gwaith camera a golygu, a chostau ffrydio).
- 14 -
Sicrhau Gwerth am Arian
Ym mhob agwedd o’i waith, mae’r cwmni’n ymdrechu bob amser i sicrhau gwerth am arian, gan ofalu ei fod yn sicrhau prisiau cystadleuol wrth, e.e. brynu offer, archebu llety a chostau eraill yn gysylltiedig â chreu cynyrchiadau theatr. Mae gan y cwmni bolisi caffael sy’n nodi’r isod:
| cynyrchiadau theatr. Mae gan y | cwmni bolisi caffael sy’n nodi’r isod: |
|---|---|
| Cost | Gofyniad |
| Hyd at £5,000 | Dyfynbrisiau – Isafswm o 1 |
| £5,000 i £25,000 | Dyfynbrisiau – Isafswm o 3 |
| £25,000 i £75,000 | Proses dendrogaeedig–gwahodd 4–6(angen derbyn o leiaf 2) |
| Uwch na £75,000 | Proses dendro agored(angen derbyn o leiaf 2) |
Pennir cyflogau staff parhaol yn seiliedig ar arolwg o gyflogau cyfatebol yn y sector ac yn lleol, er mwyn sicrhau gwerth am arian, tra ar yr un pryd yn cynnal safonau disgwyliedig.
Polisi Cronfeydd
Cedwir swm o £195,000 wrth gefn (y swm i’w adolygu’n flynyddol) ar gyfer amgylchiadau eithriadol na ellir eu rhagweld.
Arwyddwyd prydles newydd ar ran o adeilad Y Llwyfan (sef pencadlys y cwmni) ym mis Hydref 2018. Prydles 10 mlynedd yw’r cytundeb presennol, gyda chymal torri ar ôl 5 mlynedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r cwmni wedi bod yn neilltuo swm yn flynyddol tuag at y brydles newydd, a defnyddiwyd y gronfa hon i dalu cost y brydles am y 5 mlynedd gyntaf. Cytunodd y Bwrdd y dylid neilltuo £37,000 yn 2018/19 a £35,000 am y 4 blynedd nesaf ar gyfer taliad nesaf y brydles (h.y. y 5 mlynedd sy’n weddill).
Er mwyn adnewyddu offer presennol y cwmni, yn cynnwys cerbydau, a buddsoddi mewn offer sy’n lleihau costau refeniw’r cwmni, mae’r Bwrdd wedi penderfynu neilltuo swm blynyddol o £10,000 i gronfa gyfalaf.
Nawdd Cyhoeddus
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC), ac mae’r statws hwnnw’n rhoi sicrwydd cymharol o gyllid am gyfnod penodol o bum mlynedd. Bydd CCC yn cynnal Adolygiad Buddsoddiad o’i Bortffolio yn 2023, a’r disgwyliad yw y bydd y Portffolio o sefydliadau a ariennir yn flynyddol (yn cychwyn am gyfnod o bum mlynedd o Ebrill 2024) yn cael ei gadarnhau ym mis Medi 2023.
Mae’r cwmni’n cyfarfod a thrafod yn gyson gyda CCC, ei brif noddwr. Mae’r cwmni’n falch iawn o barhau i fod yn aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru CCC, ac mae ganddo berthynas adeiladol gyda’i brif noddwr. Mae’r cwmni’n adrodd yn ôl yn gyson i CCC, ac yn cyflawni’r holl orchwylion a’r gofynion sydd ynghlwm â derbyn y nawdd hwn.
Yn hanesyddol, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi dibynnu’n drwm ar gyllid gan CCC. Mae hyn yn gosod risg sylweddol i’r cwmni oherwydd y pwysau cynyddol sydd ar arian cyhoeddus. Un o’n prif nodau ar gyfer cyfnod cynllun busnes 2018–22 oedd lleihau’r ddibyniaeth ar arian CCC trwy gynyddu incwm o ffynonellau eraill. Yn 2019/20 llwyddwyd i ostwng ein lefel dibyniaeth ar arian CCC y tu hwnt i’r targed a osodwyd, ac roedd y gostyngiad yn 10% o’r flwyddyn flaenorol (2018/19). Y nod oedd lleihau’r ddibyniaeth ymhellach dros y blynyddoedd nesaf, ac erbyn 2022 byddai cyllid CCC yn cynrychioli 75% o gyfanswm incwm y cwmni.
| 2019/20 | 2020/21 | |
|---|---|---|
| Cyllid CCC | £1,054,495 | £1,072,566 |
| Cyfanswm Incwm | £1,364,196 | £1,103,316 |
| Cyllid CCC fel % | 77% | 97% |
Yn sgil COVID-19, cynyddodd y lefel ddibyniaeth yn sylweddol unwaith eto, gyda chyllid CCC yn cynrychioli 97% o holl incwm y cwmni. Roedd hyn yn bennaf oherwydd nad oedd modd cynhyrchu incwm o werthiant
- 15 -
tocynnau i berfformiadau, na denu incwm partneriaeth i gynyrchiadau. O 2021/22 ymlaen, fe fydd yn flaenoriaeth unwaith eto ar leihau’r ddibyniaeth ar arian CCC.
Staff
-
Yn ystod 2020/21 roedd staff craidd y cwmni’n cynnwys 10 aelod o staff llawn amser (2019/20:9) a 5 aelod o staff rhan amser (2019/20:4), ar gyfartaledd.
-
Mae staff y cwmni’n cynyddu’n sylweddol wrth gyflogi artistiaid a gweithwyr llawrydd mewn perthynas â phrosiectau penodol drwy gydol y flwyddyn. Rhoddwyd 347 o gytundebau llawrydd i weithwyr llawrydd yn ystod 2020/21, gyda nifer o weithwyr yn derbyn mwy nag 1 cytundeb.
-
Mae holl staff parhaol y cwmni’n siarad Cymraeg, ac felly hefyd y rhan helaethaf o’r gweithwyr a’r artistiaid a gyflogir ar gytundebau tymor byr.
Cartref y Cwmni
Lleolir pencadlys y cwmni yn adeilad Y Llwyfan ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Yno, mae gan y cwmni swyddfeydd, storfeydd ac ystafell gyfarfod. Fel rhan o’r cytundeb prydles presennol mae gan y cwmni ddefnydd o ystafell ymarfer ac ystafelloedd newid pwrpasol am 12 wythnos y flwyddyn. Mae gan y cwmni storfa ychwanegol ar safle y tu allan i’r dref. Mae’r adnoddau hyn yn caniatáu i’r cwmni weithredu’n effeithiol. Mae’r cytundeb presennol yn Y Llwyfan yn para hyd ddiwedd Medi 2028, gydag opsiwn i dorri’r les yn 2023.
Adnoddau Technegol
Er mwyn darparu ei wasanaethau, mae’n ofynnol i’r cwmni logi offer technegol o bryd i’w gilydd, a thro arall ei bwrcasu. Dros y blynyddoedd, mae’r cwmni wedi cronni casgliad sylweddol o offer technegol a ddefnyddir wrth i’r cwmni greu a theithio prosiectau theatr. Mae’r casgliad hwn o offer technegol hefyd yn fodd o gefnogi’r sector a chreu partneriaethau gyda chwmnïau eraill, lle mae modd i sefydliadau eraill elwa o’r adnoddau hyn. Mae gan y cwmni restr gynhwysfawr o’i holl offer, ynghyd â gweithdrefnau manwl a hylaw er mwyn caniatáu llogi a chyd-rannu’r offer pan fo hynny’n briodol neu’n fanteisiol iddo.
Adnoddau Eraill
Mae gan y cwmni hefyd nifer o adnoddau eraill, megis cerbydau ac offer swyddfa, sy’n caniatáu iddo weithredu’n effeithiol a chost-effeithiol. Derbyniwyd grant cyfalaf tuag at brynu cerbydau newydd yn ystod 2017/18.
COVID-19
Daeth effeithiau COVID-19 i’r amlwg ar ddiwedd 2019/20, a’r clo mawr yn dechrau ar ddiwedd mis Mawrth 2020. Bu raid canslo 2 gynhyrchiad oedd i fod i deithio o amgylch Cymru ym misoedd Mawrth ac Ebrill 2020. Nid oedd modd cyflwyno unrhyw berfformiadau byw yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21, ond fe drodd y cwmni at blatfformau amgen a mentro i gynhyrchu theatr ddigidol, gan fanteisio ar bartneriaethau strategol newydd. Mae’r cwmni bellach wedi dychwelyd i gyflwyno perfformiadau byw, gan i’r Llywodraeth lacio cyfyngiadau COVID, gyda’r perfformiadau byw cyntaf i gynulleidfa yn digwydd ym mis Awst 2021. Mae’n amlwg o’r profiadau a gafodd y cwmni ers hynny, gyda thaith lwyddiannus Anfamol, bod awydd gan gynulleidfaoedd i ddychwelyd i theatrau. Serch hynny, mae’r sefyllfa’n parhau i fod yn fregus, a’r posibilirwydd o gyfyngiadau’n cael eu hailgyflwyno os bydd sefyllfa COVID yn gwaethygu. Bydd y staff a’r ymddiriedolwyr yn ceisio sicrhau bod y cwmni’n gweithredu mewn modd digon hyblyg i ymateb yn gyflym i heriau sy’n codi. Bydd yr ymddiriedolwyr a’r staff hefyd yn monitro sefyllfa ariannol y cwmni’n ofalus i sicrhau nad yw COVID-19 yn cael effaith ddinistriol, gan gydweithio’n agos gyda’r prif arianwyr i sicrhau bod y cwmni’n diwallu eu hanghenion.
Lluniwyd Cofrestr Risg COVID-19 er mwyn cynorthwyo’r Bwrdd a’r swyddogion i adnabod risgiau penodol yn ymwneud â’r pandemig ac i gytuno ar drefniadau rheoli priodol.
- 16 -
5. CYFRIFOLDEBAU’R YMDDIRIEDOLWYR
Mae’r Ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru i bwrpasau cyfraith cwmni) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a’r datganiadau cyllid yn unol â’r gyfraith berthnasol o Safonau Cyfrifyddu’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifyddu Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig).
Yn ôl y ddeddf ar gyfer cwmnïau, mae’n ofynnol i’r Ymddiriedolwyr baratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol, a’r rheiny’n rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y cwmni yn ystod y cyfnod dan sylw. Wrth baratoi’r cyfrifon hyn, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:
-
dewis polisïau cyfrifyddu addas a’u gweithredu’n gyson;
-
arsylwi ar y dulliau a’r egwyddorion yn y SORP Elusennau;
-
dyfarnu ac amcangyfrif yn rhesymol ac yn ddoeth;
-
paratoi’r cyfrifon ar y sail y bydd y cwmni’n parhau i weithredu, os nad yw’n amhriodol i dybio hyn.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu addas sy’n datgelu sefyllfa ariannol y cwmni’n gymharol gywir ar unrhyw adeg, ac yn eu galluogi i sicrhau bod y datganiadau cyllidol yn unol â Deddf Cwmnïau 2006. Mae ganddynt hefyd gyfrifoldeb dros warchod asedau’r cwmni a chymryd camau rhesymol i atal a darganfod twyll neu afreoleidd-dra arall.
Cyn belled ag y mae’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol:
-
nid oes gwybodaeth archwiliad perthnasol nad yw’n wybyddus i archwilwyr y cwmni elusennol;
-
- mae’r Ymddiriedolwyr wedi cymryd pob cam angenrheidiol i’w gwneud yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwiliad perthnasol ac i sefydlu bod yr archwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth honno.
Trwy orchymyn y Bwrdd
………………………………………..................................
Cadeirydd: Efa Gruffudd Jones
Dyddiad:
30/11/2021 ...........................................................................
- 17 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
Barn
Archwiliwyd cyfrifon Theatr Genedlaethol Cymru am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021; maent yn cynnwys y Datganiad o Symudiadau Ariannol, y Fantolen a’r nodiadau perthnasol. Paratowyd y cyfrifon yn unol â’r polisïau cyfrifo a nodir yn y cyfrifon. Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifyddu Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig), sy’n cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.
Yn ein barn ni:
-
Mae’r cyfrifon yn rhoi adlewyrchiad cywir a theg o gyflwr ariannol y cwmni ar 31 Mawrth 2021 a’r adnoddau a ddefnyddiwyd am y flwyddyn ariannol;
-
Mae’r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â’r gyfraith berthnasol o Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifo Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig), sy’n cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.
-
Mae’r cyfrifon wedi eu paratoi’n gywir yn unol â Deddf Cwmnïau 2006;
Sail ein Barn
Gwnaethom gynnal ein harchwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (“ISA’s (UK)”) a’r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau o dan ISAs (DU) ymhellach yn adran Cyfrifoldebau’r archwilwyr am archwilio’r datganiadau ariannol o’nn hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r elusen gofrestredig yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, sy’n cynnwys Safon Foesegol yr FRC, a’r darpariaethau ar gyfer endidau bach, ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credwn fod y dystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sylfaen i’n barn ni.
Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol
Wrth archwilio’r cyfrifon, rydym o’r farn bod defnydd yr ymddiriedolwyr o sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.
Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i wneud, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi.
Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.
Gwybodaeth arall
Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y wybodaeth arall. Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, ac eithrio'r datganiadau ariannol ac Aadroddiad ar yr Archwilwyr Annibynnol.
Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir fel arall yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arno.
Mewn cysylltiad â'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn anghyson yn sylweddol â'r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad neu fel arall yn ymddangos eu bod wedi'i camddatgan yn sylweddol. Os byddwn yn nodi anghysondebau sylweddol o'r fath neu gamddatganiadau ymddangosiadol sylweddol, mae'n ofynnol i ni benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddwn, yn seiliedig ar y gwaith yr ydym
- 18 -
wedi'i wneud, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i ni adrodd y ffaith honno. Nid oes gennym ddim i'w adrodd yn hyn o beth.
Materion yr ydym yn rwymedig i adrodd drwy eithriad
Nid oes gennym ddim i’w adrodd mewn perthynas â’r eitemau canlynol lle mae’r Ddeddf Elusennau 2011 yn gofyn i ni adrodd i chi os, yn ein barn ni:
-
mae’r wybodaeth a roddir yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr yn anghyson mewn unrhyw berthynas materol â’r datganiadau cyllid; neu
-
bod y cwmni elusennol heb gadw cofnodion cyfrifo derbynniol; neu
-
bod y datganiadau cyllid ddim yn cyd fynd â’r cofnodion cyfrifo a ffurflenni statudol: neu
-
nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau anghenrheidiol i gyflawni ein archwiliad.
Cyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr
Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau Ymddiriedolwyr, mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg, ac am unrhyw reolaeth fewnol y mae'r ymddiriedolwyr yn penderfynu sy'n angenrheidiol er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiad sylweddol, boed hynny oherwydd twyll neu wall.
Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu'r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo'n berthnasol, unrhyw fater ynghylch defnyddio sail busnes gweithredol cyfrifyddu oni bai bod yr ymddiriedolwyr naill ai'n bwriadu diddymu'r cwmni elusennol neu roi'r gorau i weithrediadau, neu nad oes ganddynt ddewis amgen realistig ond gwneud hynny.
Cyfrifoldebau’r archwilwyr am archwilio’r datganiadau ariannol
Rydym wedi'n penodi'n archwilwyr o dan Adran 144 o Ddeddf Elusennau 2011 ac yn adrodd yn unol â'r Ddeddf a'r rheoliadau perthnasol a wnaed neu sy'n cael effaith o dan y Ddeddf honno.
Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn ei cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiad perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, ac i gyhoeddi Adroddiad gan yr Archwilwyr Annibynnol sy'n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu gamgymeriad ac fe'u hystyrir yn berthnasol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu ar y cyfan, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau yw afreoleidd-dra. Amcanion ein harchwiliad yw cael digon o dystiolaeth archwilio priodol ynghylch cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau sy'n cael effaith uniongyrchol ar benderfynu ar symiau a datgeliadau sylweddol yn y datganiadau ariannol, cyflawni gweithdrefnau archwilio er mwyn helpu nodi achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau eraill a allai gael effaith sylweddol ar y datganiadau ariannol, ac i ymateb yn briodol i ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau a nodwyd yn ystod yr archwiliad.
O ran twyll, amcanion ein harchwiliad yw nodi ac asesu'r risg o gamddatganiad sylweddol o'r datganiadau ariannol oherwydd twyll, casglu digon o dystiolaeth archwilio priodol ynghylch y risgiau aseswyd o gamddatganiad sylweddol trwy dwyll gan ddylunio a gweithredu ymatebion priodol ac ymateb yn briodol i dwyll neu dwyll tybiedig a nodwyd yn ystod yr archwiliad.
- 19 -
F¢xld bynna& prlf gyfrlfoldeb v rhe(Iwyr. gyda Boruchlath y rhai sn gyfrifol am fvodraethv. w sicrhau bod 8weithredladau'r endid yn cael Èu cynnal yn unol a d3rpariaethau cyfreithiau a rheoliadau ac ar gyfer atal a chanfod Wrth asesu a nodi'r ¥i58iau o 8amddat8aniad sylweddol mewn perthymas ag afreoleidd-dra. gan 8ynnwy5 tvryll, fe wnaeth y rim archwilio.. gael dealltwriaÈth o natur y diwydiant a'r settori gan 8ynnvrys y fframwaith ryfreithiol a rheolelddlol v mae'r elusen yn gweithredu ynddo a sut mae'n tydymffurfio a'r ffrarnwaith cyfreithiol a rheolelddiol,. holi'r rheolwyr. a'r rhai wfrifol am lywodraethu. am eu hasesiad a chydnabyddiaeth eu hunain o beryglon afreoleidd-dra gan 8ynnwys unrhyw achosion gwirioneddol. tybIed neu honedig o dwyll: drafod fflaterion ynghwch peidio a chydymffurfio a chyfreithiau a rheoliadau a 5Ut ygallal 11 ddigwydd gan 8ynnwys asesu sut a ble y gallai'r dat8aniadau ariannol fod agored i dw1. O ganlynlad i'r 8weithdrefnau hyn, rydyrn yn ystyried y cyfreithiau a'r rheoliadau mwyaf arwyddD¢aol sy'n cael effaith vnloThgyrchol ar y datganladau ariannol yw SORP ElU5erbna. FRS 102. Deddf CwMnU 2fA)6 a Deddf Elusennau 2011. Gwnaethorn gynnal 8weithdrefnau archwilio i ianfod dilfyK cydymffiirfio a allai gael effaith 5ylweddol ary datganiadau ariannol a oedd yn cynnwys adolygu'r dgeliadau yn ycyfrifon. Nododd v tlm archwilio mai'r risg mvryaf i gamddatganiad sylweddol trwy dwyll fyddèi oganlyniad i'r rhetslr yn diystyru rheolaethau mewnol. Roedd y 8weithdrelnay arthwilio a berffom)ivryd yn rynnwys ond nid oeddent wedi'u cyfyngu i brofi cyfnodolion ac adda5i3dau eraill a 8werthuso'r rhesymeg fv5ne5 mewn perthynas ag unrhyw drafodioTh sylweddol. anarferol a wnaed y tu allan i 8wrs busne5 arferol. Ceir di5grifiad pellach o'n cyfvifoldebau drosarchwilio'r datganiadau ariannd arwefan v CyngorAdrodd Ariannol yn www.frc.0rg.uvaudiknrsresp0nbIlitie$. Mae'rdi5grifbad hwn yn rhan o'n hadroddiad a(chwir annibynnol. Defnyddio'r admddlad hwn Paratowyd yr adroddiad hwn ar fer ymddiriedolvryry (wmni elusennol yn uni& fel corffyn unol agAdran 144 Deddf Elusennau 2011 a rheoleiddiadau a wnaed o dan adran 154 o'r Ddeddf honno (Rhan 4 O'r Elusennau Icyfrifon ac Adroddiadaul Rheoliadau 2(X)81. Mae ein 8waith archwlio wedi'i wneud fel yKallem ddatgan l ymddiriedolwyr v cwmThi elusennol v materion hynny y mae'n ofynnol i ni eu datgan iddymt mewn adroddiad arthwilwyr ac nld at unrhyw ddiben aro11. I'r8raddau Ilawnaf a 8ani&teir8an y r3]th, nid ydyrn yn derbyn nacyn rymryd cylrifoldeb i unrhyw un heblaw'r cwmni elusennol ac ymddiriedolwyr y cwmni elusennol fel Corff. am ein gwaith èrchwilio. ar8yfer vr adroddiad hwn. Thac am v farn yrydyrn wedi'i ffurfio. AfvtL&G A5hmole & Co (Archwilydd Statudoll CyfrlfwyrArdystiedig Siartredig & Archwiw Cofrestredi8 Yn gymwys i weithredu fel archwlwyryn unol ag adran 1212 0 Ddeddf Cwmnvau 2CK16 3 Stryd y Farchnad Llandeilo Sir Gaerfyrddin SAI9 6AH Dyddiad.. 30 -20-
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
DATGANIAD O SYMUDIADAU ARIANNOL (Incwm a Gwariant)
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021
| Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | ||
|---|---|---|---|---|---|
| Nodyn | Gyfyngedig | Anghyfyngedig | 2021 | 2020 | |
| £ | £ | £ | £ | ||
| INCWM A GWADDOLION | |||||
| Incwm gwirfoddol a chymynroddion | 2 | 40,038 | 1,048,469 | 1,088,507 | 1,080,024 |
| Gweithgareddau elusennol | 3 | - | 11,171 | 11,171 | 201,369 |
| Incwm arall a dderbynnir o weithgareddau | |||||
| masnachol | 4 | - | 2,879 | 2,879 | 4,588 |
| Buddsoddiadau – Llog | - | 759 | 759 | 2,501 | |
| --------- | ------------ | ------------ | ------------ | ||
| Cyfanswm Adnoddau a dderbynnir | 40,038 | 1,063,278 | 1,103,316 | 1,288,482 | |
| --------- | ------------ | ------------ | ------------ | ||
| ADNODDAU A WARIWYD | |||||
| Costau cynhyrchu incwm gwirfoddol | 5 | - | 4,242 | 4,242 | 2,220 |
| Gweithgareddau elusennol | 6 | 54,528 | 820,729 | 875,257 | 1,343,051 |
| -------- | ------------ | ------------ | -------------- | ||
| Cyfanswm adnoddau a wariwyd | 54,528 | 824,971 | 879,499 | 1,345,271 | |
| -------- | ------------ | ------------ | -------------- | ||
| Incwm / (Gwariant) am y flwyddyn – net | |||||
| cyn treth a throslwyddiadau | (14,490) | 238,307 | 223,817 | (56,789) | |
| Rhyddhad Treth | 7 | - | - | - | 75,714 |
| -------- | ------------ | ------------ | -------------- | ||
| Incwm / (Gwariant) am y flwyddyn – net | |||||
| ar ol treth | (14,490) | 238,307 | 223,817 | 18,925 | |
| -------- | ------------ | ------------ | -------------- | ||
| Cronfa – dygwyd ymlaen | 42,812 | 722,357 | 765,169 | 746,244 | |
| ----------- | ---------- | ----------- | ----------- | ||
| Cronfa – cariwyd ymlaen | 28,322 | 960,664 | 988,986 | 765,169 | |
| ====== | ====== | ====== | ====== |
- 21 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
DATGANIAD O SYMUDIADAU ARIANNOL (Incwm a Gwariant)
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021 – parhad
Ni pharatowyd datganiad ar wahân o incwm a gwariant.
Mae’r nodiadau ar dudalennau 17 i 24 yn ffurfio rhan gyflawn o’r cyfrifon hyn.
- 22 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2021
| ANTOLEN AR 31 MAWRTH 2021 | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Nodyn | 2021 | 2020 | |||
| £ | £ | ||||
| ASEDAU SEFYDLOG | |||||
| Asedau Gweladwy a ddefnyddir gan | 11 | 135,989 | 160,193 | ||
| yr elusen | ---------- | ---------- | |||
| ASEDAU CYFREDOL | |||||
| Dyledwyr | 12 | 142,892 | 198,153 | ||
| Arian yn y banc ac mewn llaw | 874,757 | 643,790 | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| 1,017,649 | 841,943 | ||||
| CREDYDWYR –symiau’n daladwy o | 13 | 81,277 | 153,592 | ||
| fewn blwyddyn | ---------- | ---------- | |||
| ASEDAU CYFREDOL NET | 936,372 | 688,351 | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| CYFANSWM ASEDAU LLAI | |||||
| CREDYDWYR CYFREDOL NET | 1,072,361 | 848,544 | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| CREDYDWYR –Symiau’n daladwy | 13 | ||||
| mewn dros blwyddyn | 83,375 | 83,375 | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| ASEDAU NET | 988,986 | 765,169 | |||
| ====== | ====== | ||||
| £ | £ | ||||
| CRONFEYDD | 18 | ||||
| Cronfeydd Anghyfyngedig | 960,664 | 722,357 | |||
| Cronfeydd Cyfyngedig | 28,322 | 42,812 | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| 988,986 | 765,169 | ||||
| ====== | ====== |
- 23 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2021
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 roedd hawl gan y cwmni elusennol i gael eithriad o’r gofyniad am archwiliad statudol dan adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Nid yw’r aelodau wedi ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni gael archwiliad o’i gyfrifon ar gyfer y flwyddyn dan sylw yn unol ag adran 476 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod eu cyfrifoldebau dros y canlynol:
a) sicrhau bod y cwmni’n cydymffurfio ag adrannau 386 a 387 o Ddeddf Cwmnïau 2006 o ran cofnodion cyfrifydda;
b) paratoi datganiadau ariannol sy’n cynnig darlun clir a theg o asedau, atebolrwydd, safle ariannol ac elw ar ddiwedd bob blwyddyn ariannol yn unol â gofynion adrannau 394 a 395 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Mae’r cyfrifon hyn wedi eu harchwilio dan ofynion adran 144 o’r Ddeddf Elusen 2011.
Paratowyd y cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig Rhan 15 Deddf Cwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau bychain (effeithiol Ionawr 2015).
Arwyddwyd y cyfrifon ar ran y Bwrdd gan:
……………………………………………..
(Cadeirydd)
Efa Gruffudd Jones
Dyddiad: 30/11/2021
- 24 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2021
1. Polisïau Cyfrifo
a) Sail Cyfrifo
Cafodd y datganiadau ariannol eu paratoi dan y confensiwn prisio hanesyddol ac yn unol â’r Datganiad o Arferion Cymeradwy: Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau (SORP FRSSE) a gyhoeddwyd yn Ionawr 2015, y Safon Adrodd Ariannol ar gyfer Endidau Llai (yn effeithiol o Ionawr 2015) a Deddf Cwmnïau 2006.
b) Incwm – Gwirfoddol
Cynhwysir incwm yn y datganiad o sumudiadau ariannol pan fo’r elusen â hawl i gronfa, pan fo’n debygol y bydd yr incwm yn cael ei dderbyn, a phan fydd y swm yn medru cael ei fesur yn ddibynadwy.
Caiff incwm cyfyngedig ei gynnwys mewn cronfa gyfyngedig a’i gyfatebu i’r gwariant. Caiff grantiau cyfalaf sy’n dderbyniadwy eu trin fel credydwyr hirdymor, a’u cynnwys mewn cronfa gyfyngedig sy’n cael ei dibrisio i ffwrdd yn unol â dibrisiant yr asedau.
Incwm – Adnoddau i’w derbyn o weithgareddau elusennol
Cynhwysir adnoddau i’w derbyn o weithgareddau elusennol pan yn ddyledus. Mae’r incwm yn cynnwys gwerthiant tocynnau am berfformiadau o’r cynyrchiadau yn ystod y flwyddyn.
c) Adnoddau a ddefnyddiwyd
Cydnabuwyd costau a threuliau yn y cyfnod pan yn ddyledus. Mae costau’n cynnwys TAW lle nad yw’n bosibl ei hawlio. Mae costau trefn lywodraethu’n cynrychioli’r gost o weinyddu’r elusen a chwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol. Mae’r gost o gynhyrchu incwm gwirfoddol yn cynrychioli’r gost o gwrdd â gofynion Cyngor Celfyddydau Cymru.
ch) Dibrisio
Mae’r asedau sefydlog wedi eu dibrisio dros eu bywyd defnyddiol ar y cyfraddau canlynol:
| Adeiladau prydles | – Dros gyfnod y les |
|---|---|
| Cerbydau | – 25% |
| Cyfrifiaduron ac offer | – 33% |
- d) Les Gweithredol
Ymrwymwyd i brydles newydd ar y Llwyfan o ddechrau Hydref 2018, am gyfnod o 10 mlynedd. Cyfanswm gwerth y les yw £166,750. Talwyd y swm am y 5 mlynedd gyntaf ar ddechrau’r les, o gronfa brydles y cwmni, ac fe fydd yr ail daliad yn ddyledus ym mis Hydref 2023.
dd) Cronfeydd Cyffredinol
Mae Cronfeydd Cyffredinol yn cynnwys rhoddion ac incwm i’w derbyn, neu a gynhyrchwyd am amcanion yr elusen heb bwrpas arbennig arall ac felly ar gael fel cronfa gyffredinol. Ni osodir amodau allanol ar gronfeydd cyffredinol, ac maent i’w gwario gan yr elusen yn ôl eu hamcanion/bwriadau neu i’w neilltuo tuag at bwrpasau priodol mewnol.
e) Polisi pensiwn
Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Mae’r cyfraniadau i’r cynllun pensiwn y cwmni elusennol yn cael ei ddangos ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol yn y cyfnod y maent yn ymwneud ag.
- 25 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2021 – parhad
2. INCWM GWIRFODDOL A CHYMYNRODDION
| Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Gyfyngedig | Anghyfyngedig | 2021 | 2020 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Grant CCC | - | 1,040,892 | 1,040,892 | 1,029,567 |
| Grantiau prosiect eraill CCC | 30,000 | 1,674 | 31,674 | 24,928 |
| Eraill | 10,038 | - | 10,038 | 500 |
| Rhoddion | - | 5,903 | 5,903 | 25,029 |
| -------- | ------------ | ------------ | ------------ | |
| 40,038 | 1,048,469 | 1,088,507 | 1,080,024 | |
| -------- | ------------ | ------------ | ------------ | |
| 3. GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL | ||||
| Swyddfa docynnau | - | 566 | 566 | 60,145 |
| Nawdd/Cyd-gynhyrchu | - | 6,605 | 6,605 | 123,720 |
| Incwm o bartneriaethau | - | 1,000 | 1,000 | 9,900 |
| Incwm cyfranogi | - | 3,000 | 3,000 | 7,604 |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ | |
| - | 11,171 | 11,171 | 201,369 | |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ | |
| 4. INCWM ARALL A DDERBYNNIR O WEITHGAREDDAU MASNACHOL | ||||
| Incwm Adnoddau | - | - | - | 760 |
| Incwm gwerthu nwyddau | - | - | - | 298 |
| Incwm hysbysebion | - | - | - | 800 |
| Arall | - | 754 | 754 | 2,709 |
| Elw ar werthu asedau | - | 750 | 750 | 21 |
| Incwm llogi offer | - | 1,375 | 1,375 | - |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ | |
| - | 2,879 | 2,879 | 4,588 | |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ |
- 26 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2021 – parhad
5. COSTAU O GYNHYRCHU INCWM GWIRFODDOL
| Cronfa | Cronfeydd |
Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Gyfyngedig | Anghyfyngedig | 2021 | 2020 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Costau cynnal (Nodyn 8) | - | 4,242 | 4,242 | 2,220 |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ | |
| - | 4,242 | 4,242 | 2,220 | |
| -------- | ---------- | ---------- | ------------ | |
| 6. COSTAU GWEITHGAREDDAU | ||||
| ELUSENNOL | Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm |
| Gyfyngedig | Anghyfyngedig | 2021 | 2020 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Cynyrchiadau | 17,442 | 149,661 | 167,103 | 248,498 |
| Marchnata a chyfathrebu | - | 22,542 | 22,542 | 54,777 |
| Ffioedd cynyrchiadau | - | 80,432 | 80,432 | 360,165 |
| Teithio a chynhaliaeth cynyrchiadau | - | 2,069 | 2,069 | 94,276 |
| Costau cynnal (Nodyn 8) | 37,086 | 566,025 | 603,111 | 585,335 |
| -------- | ------------ | ------------ | ------------ | |
| 54,528 | 820,729 | 875,257 | 1,343,051 | |
| -------- | ------------ | ------------ | ------------ | |
| 7. RHYDDHAD TRETH | Cronfa | Cronfeydd |
Cyfanswm | Cyfanswm |
| Gyfyngedig | Anghyfyngedig | 2021 | 2020 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Rhyddhad treth | - | - | - | 75,714 |
Nid oedd unrhyw hawliad rhyddhad treth ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021. Cyfanswm hawliad rhyddhad treth ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2020 oedd £86,959. O’r swm yma, roedd £11,245 yn ddyledus i gyd-gynhyrchwyr gan adael cyfanswm net i Theatr Genedlaethol Cymru o £75,714.
- 27 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2021 – parhad
| ODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWR | TH 2021–parhad | |||
|---|---|---|---|---|
| 8. COSTAU CYNNAL | Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm |
| Gyfyngedig | Anghyfyngedig |
2021 | 2020 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Cyflogau cwmni | 4,265 | 414,161 | 418,426 | 386,449 |
| Costau pensiwn | - | 16,816 | 16,816 | 18,936 |
| Teithio a chynhaliaeth cwmni | - | 6,028 |
6,028 | 18,019 |
| Costau archwilio | - | 4,000 | 4,000 | 3,949 |
| Costau’r bwrdd | - | 1,975 | 1,975 | 1,758 |
| Hyfforddiant | - | 3,079 | 3,079 | 4,349 |
| Costau’r adeilad | - | 44,053 | 44,053 | 42,337 |
| Costau’r swyddfa | - | 34,159 | 34,159 | 31,347 |
| Costau proffesiynol | 10,000 | 28,848 | 38,848 | 38,578 |
| Costau banc a manion | - | 473 | 473 | 705 |
| Dibrisio – cerbydau ac offer | 22,821 | - | 22,821 | 24,453 |
| Dibrisio - prydles | 16,675 | 16,675 | 16,675 | |
| ---------- | ----------- | ---------- | ---------- | |
| 37,086 | 570,267 | 607,353 | 587,555 | |
| ---------- | ---------- | ---------- | ---------- |
| 9. COSTAU STAFF CRAIDD | ||
|---|---|---|
| Costau Cyflogau | ||
| 2021 | 2020 | |
| £ | £ | |
| Staff craidd | 384,953 | 355,089 |
| Yswiriant Gwladol y Cyflogwr | 33,473 | 31,360 |
| Costau pensiwn staff craidd | 16,816 | 18,936 |
| ----------- | ----------- | |
| 435,242 | 405,385 | |
| ----------- | ----------- |
Ar gyfartaledd, cyflogwyd 10 aelod o staff craidd llawn amser (2020: 9) a 5 aelod o staff rhan amser (2020:4) yn ystod y flwyddyn.
Ni enillodd yr un aelod o staff cyflogedig fwy na £60,000 yn y blynyddoedd 2020/21 na 2019/20.
- 28 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2021 – parhad
10. Cymhariaeth ar gyfer Datganiad o Weithgareddau Ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2020
| Cronfa | Cronfeydd | Cyfanswm | ||
|---|---|---|---|---|
| Nodyn | Gyfyngedig | Anghyfyngedig | ||
| £ | £ | £ | ||
| INCWM A GWADDOLION | ||||
| Incwm gwirfoddol a chymynroddion | 2 | 24,928 | 1,055,096 | 1,080,024 |
| Gweithgareddau elusennol | 3 | - | 201,369 | 201,369 |
| Incwm arall a dderbynnir o weithgareddau | ||||
| masnachol | 4 | - | 4,588 | 4,588 |
| Buddsoddiadau – Llog banc | - | 2,501 | 2,501 | |
| --------- | ------------ | ------------ | ||
| Cyfanswm Adnoddau a dderbynnir | 24,928 | 1,263,554 | 1,288,482 | |
| --------- | ------------ | ------------ | ||
| ADNODDAU A WARIWYD | ||||
| Costau cynhyrchu incwm gwirfoddol | 5 | - | 2,220 | 2,220 |
| Gweithgareddau elusennol | 6 | 49,381 | 1,293,671 | 1,343,052 |
| -------- | ------------ | ------------ | ||
| Cyfanswm adnoddau a wariwyd | 49,381 | 1,295,891 | 1,345,272 | |
| -------- | ------------ | ------------ | ||
| Incwm / (Gwariant) am y flwyddyn – net | ||||
| cyn treth | (24,453) | (32,336) | (56,789) | |
| Trosglwyddiadau gros rhwng cronfeydd | (7,687) | 7,687 | - | |
| Rhyddhad Treth | 7 | - | 75,714 | 75,714 |
| -------- | ------------ | ------------ | ||
| Incwm / (Gwariant) am y flwyddyn – net | ||||
| ar ol treth | (32,140) | 51,065 | 18,925 | |
| -------- | ------------ | ------------ | ||
| Cronfa – dygwyd ymlaen | 74,952 | 671,292 | 746,244 | |
| ----------- | ---------- | ----------- | ||
| Cronfa – cariwyd ymlaen | 42,812 | 722,357 | 765,169 | |
| ====== | ====== | ====== |
- 29 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2021 – parhad
11. ASEDAU SEFYDLOG
| . ASEDAU SEFYDLOG | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Eiddo ar | Cerbydau | Offer a | Offer | Offer | Cyfanswm | |
| les byr | Dodrefn | Cyfrifiadurol | Technegol | |||
| a System | ||||||
| Ffôn | ||||||
| £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
| Cost | ||||||
| Balans a ddygwyd ymlaen | 166,750 | 63,420 | 160,352 | 34,331 | 10,592 | 435,445 |
| Ychwanegiadau | - | - | - | 7,323 | 7,968 | 15,291 |
| - | ||||||
| Gwaredwyd | - | (13,064) | - | - | (13,064) | |
| --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | |
| Balans a gariwyd ymlaen | 166,750 | 50,356 | 160,352 | 41,654 | 18,560 | 437,672 |
| --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | |
| Dibrisio | ||||||
| Balans a ddygwyd ymlaen | 25,013 | 55,208 | 160,352 | 25,730 | 8,948 | 275,251 |
| Cost y flwyddyn | 16,675 | 8,212 | - | 10,309 | 4,300 | 39,496 |
| Gwaredwyd | (13,064) | - | (13,064) | |||
| --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | |
| Balans a gariwyd ymlaen | 41,688 | 50,356 | 160,352 | 36,039 | 13,248 | 301,683 |
| --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | --------- | |
| Gwerth yn y llyfrau | ||||||
| 31 Mawrth 2021 | 125,062 | - | - | 5,615 | 5,312 | 135,989 |
| ======= | ======= | ====== | ======= | ======= | ======= | |
| 31 Mawrth 2020 | 141,737 | 8,212 | - | 8,600 | 1,644 | 160,193 |
| ======= | ======= | ====== | ======= | ======= | ======= |
Defnyddiwyd yr holl asedau gan yr elusen ar gyfer gweithgareddau elusennol parhaol.
- 30 -
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU
NODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2021 – parhad
| ODIADAU AR Y CYFRIFON – 31 MAWRTH 2021 – parhad | ||
|---|---|---|
| 12. DYLEDWYR | ||
| 2021 | 2020 | |
| £ | £ | |
| Dyledwyr masnachol | 27,882 | 73,202 |
| Taliadau ymlaen llaw | 20,430 | 19,878 |
| Dyledwyr eraill | - | 10,160 |
| TAW | 7,538 | 7,954 |
| Rhyddhad Treth | 87,042 | 86,959 |
| ---------- | ---------- | |
| 142,892 | 198,153 | |
| ====== | ====== | |
| 13. CREDYDWYR – Symiau’n daladwy ymhen blwyddyn | ||
| 2021 | 2020 | |
| £ | £ | |
| Credydwyr masnachol | 36,452 | 63,571 |
| Costau wedi cronni | 13,994 | 57,974 |
| Trethi ac yswiriant gwladol | 9,764 | 10,887 |
| Credydwyr eraill | 15,067 | 19,160 |
| Incwm gohiriedig | 6,000 | 2,000 |
| ------------ | ------------ | |
| 81,277 | 153,592 | |
| ======= | ====== | |
| 13. CREDYDWYR – Symiau’n daladwy ar ol 12 mis | ||
| 2021 | 2020 | |
| £ | £ | |
| Lês | 83,375 | 83,375 |
| ======= | ======= |
14. TRETH
Mae’r elusen yn rhydd o dalu treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.
15. TALIADAU A BUDD-DALIADAU’R YMDDIRIEDOLWYR
Derbyniodd un Ymddiriedolwr, Mr Arwel Gruffydd, dâl a budd-daliadau treuliau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021, fel y caniateir gan ddogfen lywodraethol yr elusen. Derbyniodd gyflog o £59,087 yn sgil ei swydd fel Cyfarwyddwr Artistig yr elusen a chyfrannodd y Theatr £2,940 i’r Gronfa Bensiwn ar ei ran. Ni dderbyniodd unrhyw dâl yn sgil ei rôl fel Ymddiriedolwr.
- 31 -
16. TREULIAU’R YMDDIRIEDOLWYR
Ni dderbyniodd Ymddiriedolwyr ad-daliadau treuliau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (2019/20: £1,758). Roedd yr ad-daliadau i ddigolledu’r Ymddiriedolwyr am eu costau teithio, cynhaliaeth, llety a chostau eraill yn ymwneud â mynychu cyfarfodydd yr elusen. Y nifer o Ymddiriedolwyr a dderbyniodd addaliad yn ystod y flwyddyn oedd 0 (2019/20:10).
17. DATGANIAD O’R ASEDAU NET RHWNG Y CRONFEYDD
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Cyfyngedig | Anghyfyngedig | 2021 | 2020 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Asedau Sefydlog | 10,927 | 125,062 | 135,989 | 160,193 |
| Arian yn y banc ac mewn llaw | 19,266 | 855,491 | 874,757 | 643,790 |
| Dyledwyr | - | 142,892 | 142,892 | 198,153 |
| Credydwyr | (1,871) | (162,781) | (164,652) | (236,967) |
| ----------- | ----------- | ----------- | ----------- | |
| 28,322 | 960,664 | 988,986 | 765,169 | |
| ====== | ====== | ====== | ====== |
18. SYMUDIADAU YN Y CRONFEYDD
| Balans | Adnoddau a | Adnoddau a | Rhyddhad | Trosglwyddo | Balans | ||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| d/y | dderbyniwyd | Wariwyd | Treth | c/y | |||
| 01/04/202 | 31/03/202 | ||||||
| 0 | 1 | ||||||
| £ | £ | £ | £ | £ | £ | ||
| Cronfeydd Cyfyngedig | |||||||
| - | Cronfa Gyfalaf | 42,812 | 4,773 | (22,821) | - | - | 24,764 |
| - | Cronfa Refeniw | - | 35,265 | (31,707) | - | - | 3,558 |
| Cronfeydd | |||||||
| Anghyfyngedig | |||||||
| - | Cronfa Wrth Gefn | 195,000 | - | - | - | - | 195,000 |
| - | Cronfa Brydles | 213,197 | - | (16,675) | - | 16,307 | 212,829 |
| - | Cronfa Gyfalaf | 68,951 | - | - | - | 10,000 | 78,951 |
| - | Cronfa Rydd | 245,209 | 1,063,278 | (808,296) | - | (26,307) | 473,884 |
| ---------- | ------------ | ------------ | ---------- | ---------- | ---------- | ||
| 765,169 | 1,103,316 | (879,499) | - | - | 988,986 | ||
| ====== | ======= | ======= | ====== | ====== | ====== |
Polisi Cronfa wrth Gefn
Cedwir swm o £195,000 wrth gefn (y swm i’w adolygu’n flynyddol) ar gyfer amgylchiadau eithriadol na ellir eu rhagweld.
Mae’r Gronfa Anghyfyngedig yn cynnwys swm o £212,829 a glustnodwyd ar gyfer talu am brydles newydd yn Y Llwyfan ar ôl diwedd Mawrth 2021. Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr i neilltuo £35,000 i’r diben hwn yn 2019/20 a £35,000 y flwyddyn hyd at 2022/23. Mae’r Gronfa Anghyfyngedig hefyd yn cynnwys swm o £78,951 sydd wedi neilltuo ar gyfer gwariant cyfalaf yn y dyfodol.
- 32 -
Mae gan y cwmni ddwy gronfa gyfalaf – un gyfyngedig, o ganlyniad i dderbyn cymhelliant ariannol wrth leoli’r cwmni yn ei leoliad presennol, ac un anghyfyngedig. Mae unrhyw wariant cyfalaf ar offer yn cael ei wneud o’r gronfa gyfyngedig ar hyn o bryd, nes i’r gronfa honno ddod i ben. Cytunodd yr Ymddiriedolwyr i neilltuo swm o £10,000 y flwyddyn i’r gronfa anghyfyngedig o 2018/19 ymlaen er mwyn adnewyddu a buddsoddi mewn offer newydd yn y dyfodol.
19. DIGWYDDIADAU AR ÔL DYDDIAD Y FANTOLEN
Mae COVID19 yn parhau i effeithio ar weithgareddau Theatr Genedlaethol Cymru ar ôl dyddiad y fantolen, ond mae’r Bwrdd yn ffyddiog fod y cynllun sydd mewn lle ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn ateb gofynion y grant craidd.
Er bod y sefyllfa bresennol yn sgil COVID-19 yn dal i beri peth ansicrwydd, , mae’r ymddiriedolwyr yn ffyddiog na ddylai hyn effeithio ar werth net asedau a chredydwyr ar 31 Mawrth 2021. Mae’r ymddiriedolwyr hefyd o’r farn bod y cronfeydd wrth gefn yn diogelu dyfodol yr elusen am gyfnod o 12 mis wedi dyddiad y cyfarfod blynyddol.
- 33 -