OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator. This document is also available as Markdown.

2022-08-31-accounts

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

(Cwmni wedi ei gyfyngu trwy warant)

ADRODDIAD A DATGANIADAU CYLLIDOL am y FLWYDDYN i’r 31ain AWST 2022

RHIF Y CWMNI : 3102665

RHIF ELUSEN COFRESTREDIG : 1097614

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG ADRODDIAD BLYNYDDOL AM Y FLWYDDYN I'R 31ain AWST 2022

Cynnwys Tudalen
Gwybodaeth gyfreithiol a gweinyddol 1
Adroddiad yr ymddiriedolwyr 2 – 3
Adroddiad yr arholwr annibynnol 4
Datganiad o weithredoedd ariannol 5
Mantolen 6
Datganiad ynghylch Llif Arian 7
Nodiadau ar y datganiadau ariannol 8 – 15

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL

Cyfansoddiad

Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi ei gyfyngu trwy warant a gofrestrwyd yn elusen ar yr 20fed Mai 2003. Rheolir y cwmni gan ei erthyglau a memorandwm cymdeithasu. Rhif y cwmni: 3102665. Rhif yr elusen: 1097614.

Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr

Cyfarwyddwyr y cwmni elusennol (‘yr elusen’), hefyd yw ymddiriedolwyr yr elusen. Trwy gydol yr adroddiad hwn cyfeirir atynt fel yr ymddiriedolwyr. Gan eithrio’r Cyfarfod Blynyddol gyntaf mae un rhan o dair o aelodau’r Bwrdd i ymddiswyddo yn eu cylchdro yn flynyddol. Mae’r aelodau hyn gyda’r hawl i’w hail-ethol i’r Bwrdd.

Strwythur y cwmni

Rheolir y cwmni gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am wneud prif benderfyniadau'r cwmni. Gwasanaethir y cwmni gan y Cyfarwyddwr Creadigol, Mr Tudur Eames sydd yn gyfrifol am redeg y cwmni o ddydd i ddydd.

Prif Swyddfa Uned 21-23
Galeri
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
Bancwyr Banc HSBC
24 Y Sgwâr
Caernarfon
Gwynedd
LL55 2NB
Cyfreithiwr Darwin Gray LLP,
Helmont House,
Churchill Way,
Caerdydd.
CF10 2HE
Arholwr Annibynnol W J Matthews a’i Fab
11-15 Y Bont Bridd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1AB
1

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN HYD AT 31ain AWST 2022

Cyflwyna’r ymddiriedolwyr eu hadroddiad a’r cyfrifon archwiliedig am y flwyddyn hyd at 31ain Awst 2022. Mae gwybodaeth gyfreithiol a gweinyddol wedi eu cynnwys ar dudalen 1 ac yn ffurfio rhan o’r adroddiad hwn. Mae’r cyfrifon yn cydsynio gyda erthyglau’r cwmni, Deddf Elusennau 2011, Deddf Cwmnïau 2006 a hefyd Datganiad o Ymarferion Cymeradwyol “Cyfrifo ac Ymadrodd gan Elusennau” yn unol a FRS102 Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Prif weithgareddau

Prif weithgareddau Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyf yw i hyrwyddo ac annog darparu gweithgareddau y celfyddydau mynegiannol yng Nghymru.

Yr Ymddiriedolwyr â’u diddordebau yn y cwmni

Yr ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn oedd:

Deilwen Hughes Sion Elwyn Hughes (Pen.17/02/23) Dewi Owen Jones (Cadeirydd) Wiliam Roger Jones Alun Llwyd Hywel Parry (Ymdd. 10/07/22) Sion Glyn Pritchard Beti Rhys Roberts Gwennant Pyrs Roberts (Pen.17/02/23) Elain Wyn Thomas (Pen.17/02/23) Dr Catrin Elis Williams

Gan fod y cwmni yn gyfyngedig trwy warant nid oes gan yr ymddiriedolwyr ddiddordeb mewn unrhyw gyfranddaliadau o’r cwmni.

Amcanion er Budd y Cyhoedd

Mae’r Cwmni yn elusen ac mae’n bodoli er budd y cyhoedd fel a ganlyn:

Mae’r ymddiriedolwyr o’r farn bod yr amcanion ar gyfer y flwyddyn wedi eu cyflawni drwy barhau i baratoi gwasanaeth cerdd yn yr Ardal ac ehangu ar y niferoedd sydd yn elwa o’r gwasanaeth. Bwriad yr ymddiriedolwyr am y dyfodol yw i barhau gyda chynnig gwasanaeth cerddorol yn yr Ardal.

Gwybodaeth Gyllidol

Gwelwyd cyfanswm incwm o’r ysgolion yn cynyddu i £624,382 (2021 - £476,804) yn ystod y flwyddyn, ynghyd a chynnydd mewn incwm craidd a grantiau cynnal addysg i £106,410 (2021 - £104,209, a hefyd incwm o grantiau, llog banc, difidend ac eraill i £106,657 (2021 - £12,715).

Cynyddu hefyd wnaeth y costau am y flwyddyn wrth i weithgareddau’r cwmni ail-gychwyn wedi’r cyfnodau clo a hefyd wrth amddiffyn yn llwyddiannus mewn tribiwnlys cyflogaeth. Yn dilyn y rhyfel yn Wcráin a’r dirywiad economaidd a ddilynodd gwelwyd ostyngiad yng ngwerth y portffolio buddsoddi gan arwain at gyfanswm costau net am y flwyddyn o £57,546 (2021 – incwm net £47,082). Er gwaetha’r gwariant net am y flwyddyn, mae’r Bwrdd yn ffyddiog bod y cwmni yn parhau i fod mewn sefyllfa gryf i ymateb i unrhyw her ariannol a ddaw yn y dyfodol.

2

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN HYD AT 31ain AWST 2022

Anwythiad a hyfforddiant Ymddiriedolwyr

Mae’r ymddiriedolwyr wedi derbyn hyfforddiant ar eu rolau a’u cyfrifoldebau.

Strategaeth, polisi cronfa wrth gefn a buddsoddiadau

Yn sgil adrodd gwariant net am y flwyddyn o £57,546 mae cronfa anghyfyngedig yr elusen ar 31ain Awst 2022 wedi gostwng i £607,015 (2021 - £664,561). Mae £116,000 o’r gronfa anghyfyngedig wedi ei glustnodi mewn cronfa benodedig ar gyfer costau diswyddo ynghyd a chostau rhedeg y cwmni am gyfnod o chwe mis pe byddai’r gwasanaeth yn dod i ben. Drwy sefydlu cronfa wrth gefn gall Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyf ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf ac hefyd dilyn y strategaeth o geisio cynyddu’r cyfleon cerddorfaol yn yr Ardal.

Yn dilyn penderfyniad gan yr ymddiriedolwyr yn 2011, ail-fuddsoddwyd cronfa’r ‘Common Fund for Income’ mewn buddsoddiad ‘HSBC Global Asset Management’, sef Portffolio Buddsoddi a rheoli’r gan yr HSBC. Cydnabyddir bod y risg sydd yn ymwneud gyda’r buddsoddiad yma yn uwch nac o’r blaen, ond bydd disgwyl gweld cynnydd yn yr incwm a dderbynnir yn y dyfodol ynghyd a chynnydd yng ngwerth y buddsoddiad. Ar gyfer y flwyddyn i’r 31ain Awst 2022, gwelwyd gostyngiad yn yr incwm difidend i £3,908 (2021 - £7,010), gyda colledion o £23,514 ar ail-brisio a gwerthu buddsoddiadau (2021 – ennillion £38,726). Mae’r gostyngiadau a colledion yma yn deillio yn uniongyrchol o’r rhyfel yn Wcráin.

Yn ogystal ag adolygu’r polisi buddsoddiadau mae’r Elusen hefyd wedi adolygu sut mae’r gwasanaeth yn cael ei gyflawni, gan gymeryd camau i dorri costau rhedeg.

Adolygiad Risg

Sefydlwyd systemau i leihau amlygiad i beryglon mawr. Mae gweithdrefnau mewn lle i leihau risg mewnol trwy weithredu prosesau awdurdodi priodol i sicrhau cysondeb ansawdd darpariaeth ar gyfer holl agweddau gweithredol yr elusen. Adolygir y gweithdrefnau o bryd i’w gilydd.

Cyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi'r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol ac Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GAAP). Mae gan yr ymddiriedolwyr gyfrifoldeb penodedig am baratoi adroddiadau i'r aelodau ac am asedau'r cwmni. Mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr gyflwyno, ar gyfer pob cyfnod, ddatganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r darpariaethau yn Neddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bychain, ynglŷn ag amgylchiadau'r cwmni ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddol, a'r elw neu golled am y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, rhaid defnyddio a chymhwyso yn gyson bolisïau cyfrifyddol addas a luniwyd, gan gyfeirio at ddyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol a phwyllog. Defnyddiwyd safonau cyfrifyddol cymwys a pharatowyd y cyfrifon ar sail busnes byw. Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am sicrhau fod trefniadau wedi eu gwneud i gynnal cofnodion cyfrifyddol digonol, i ddiogelu asedau'r cwmni, ac i sicrhau y gwneir darpariaeth i atal a darganfod twyll ac afreoleidd-dra arall.

Rhestrir ar dudalen 2 aelodau’r cwmni a wasanaethodd yn ystod y flwyddyn a hyd at ddyddiad yr adroddiad, sef ymddiriedolwyr i bwrpas cyfraith cwmni ac ymddiriedolwyr i bwrpas cyfraith elusennol.

Paratowyd adroddiad y cyfarwyddwyr yn unol â'r darpariaethau arbennig sydd yn berthnasol i gwmnïau bychain yn unol a cyfundrefn cwmnïau bychain.

Cymeradwywyd ar ran yr Ymddiriedolwyr ar 25ain Ebrill 2023 ac arwyddwyd gan:

............................................................................ Dewi Owen Jones (Ymddiriedolwr)

3

ADRODDIAD ARHOLWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

Adroddaf i ymddiriedolwyr yr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni ar dudalennau 5 - 15 am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Awst 2022.

Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad

Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (a hefyd ei chyfarwyddwyr at ddibenion y gyfraith cwmnïau) rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’)

Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gyfrifon y Cwmni gael eu harchwilio o dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’u bod yn gymwys i gael eu harchwilio’n annibynnol, byddaf yn adrodd mewn perthynas â’m harchwiliad o gyfrifon eich elusen fel y’i cynhaliwyd o dan Ddeddf Elusennau 2011, adran 145 (‘Deddf 2011’). Wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.

Datganiad yr arholwr annibynnol

Gan fod incwm gros y Cwmni yn fwy na £250,000 rhaid i’ch archwiliwr fod yn aelod o gorff a restrir yn adran 145 o Ddeddf 2011. Cadarnhaf fy mod yn gymwys i gynnal yr archwiliad oherwydd fy mod yn aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, sy'n un o'r cyrff rhestredig.

Rwyf wedi cwblhau fy arholiad. Cadarnhaf nad oes unrhyw faterion wedi dod i’m sylw mewn cysylltiad â’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu:

Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â’r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth gywir o’r cyfrifon.

David Chidley, W J Matthews a’i Fab, Cyfrifwyr Siartredig, 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon, LL55 1AB.

Dyddiad: 25ain Ebrill 2023

4

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG DATGANIAD O WEITHREDOEDD ARIANNOL (YN CYNNWYS CYFRIF INCWM A GWARIANT)

AM Y FLWYDDYN HYD AT 31ain AWST 2022 HYD AT 31ain AWST 2022
2022 2021
Nodyn £ £
Incwm
Gweithgareddau elusennol
Incwm ysgolion 624,382 476,804
Cyngherddau ac incwm arall 16,099 5,697
Incwm gwirfoddol
Incwm craidd 60,422 59,117
Grantiau cynnal addysg 46,088 45,092
Incwm grantiau 86,633 -
Buddsoddiadau
Llog banc 17 8
Incwm portfolio 3,908 7,010
__ __
Cyfanswm 837,549 593,728
Gwariant ar:
Gweithgareddau elusennol 5 871,581 585,372
__ __
Incwm / (Gwariant) net am y flwyddyn (34,032) 8,356
Enillion a cholledion eraill
Enillion / (Colledion) ar fuddsoddiadau 8 (23,514) 38,726
__ _
Symudiad net mewn cronfeydd (57,546) 47,082
Balans ar 1af Medi 2021 664,561 617,479
__ __
Balans ar 31ain Awst 2022 14 £607,015 £664,561
======= =======

Mae’r canlyniadau uchod yn deillio i gyd o weithgareddau sydd yn parhau.

5

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

MANTOLEN

31ain AWST 2022

2022 2022 2021 2021
Nodyn £ £ £ £
Asedau sefydlog
Asedau dirweddol 8 52,841 +
Buddsoddiadau 9 348,787 372,529
_ _
401,628 372,529
Asedau cyfredol
Dyledwyr 11 26,217 47,017
Arian yn y banc ac mewn llaw 231,884 250,569
_ _
258,101 297,586
Credydwyr:
Swm yn daladwy o fewn blwyddyn
12
(52,714) (5,554)
_ _
Asedau cyfredol llai rhwymedigaethau cyfredol 205,387 292,032
_ _
Asedau net £607,015 £664,561
======= =======
Cronfeydd
Cronfa anghyfyngedig 16 £607,015 £664,561
======= =======

Ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31Awst 2022, ‘roedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio rhag archwiliad ariannol o dan adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn ymwneud â chwmnïau bach.

Cyfrifoldebau Cyfarwyddwyr:

Paratowyd y cyfrifon yn unol a’r darpariaethau sydd yn berthynol i gwmnïau bychain ac yn unol â FRS 102 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon'.

Cymeradwywyd y datganiadau ariannol ar 25ain Ebrill 2023 ac fe'u llofnodwyd ar ran yr Ymddiriedolwyr:

.................................................

Dewi Owen Jones (Ymddiriedolwr)

6

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

DATGANIAD YNGHYLCH LLIF ARIAN

AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2022

Nodyn 2022 2021
£ £
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 14 38,823 (6,967)
_ _
Llif arian o weithgareddau buddsoddi
Llog a dderbyniwyd 17 8
Incwm difidend 3,908 7,010
Pryniant asedau (61,661) -
Gwerthiant buddsoddiadau 283,603 555,931
Cost buddsoddiadau (278,500) (558,013)
_ _
Arian a ddefnyddiwyd i fuddsoddi (52,633) 4,936
_ _
Cynnydd/(Lleihad) mewn arian a chyfatebolion arian (13,810) (2,031)
Arian a chyfatebolion arian ar 1 Medi 2021 259,704 261,735
__ __
Arian a chyfatebolion arian ar 31 Awst 2022 £245,894 £259,704
======= =======
7

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU ar y DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2022

1. Gwybodaeth gyffredinnol

Cofrestrwyd y cwmni yng Nghymru fel cwmni preifat wedi ei gyfyngu dan warant. Cyfeiriad cofrestredig y cwmni yw Uned 21- 23 Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SQ.

2. Datganiad cydymffurfio

Mae'r datganiadau ariannol wedi eu paratoi i gydymffurfio â darpariaethau Datganiad o Ymarferion Cymeradwyol “Cyfrifo ac Ymadrodd gan Elusennau” yn unol a FRS 102 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2006.

Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyf yn cwrdd a diffiniad FRS102 o endid budd y cyhoedd. Mae asedau a rhwymedigaeth wedi eu cofnodi yn y cyfrifon yn ôl cost hanesyddol oni bai eu bod wedi eu ail ddatgan yn unol a polisi cyfrifo perthnasol.

3. Polisïau cyfrifyddol

a) Paratoi’r cyfrifon ar sail busnes byw

Mae’r ymddiriedolwyr o’r farn nad oes unrhyw reswm i beidio a paratoi’r cyfrifon ar sail busnes byw.

b) Statws y cwmni

Mae'r cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant. Nid oes gan y cwmni gyfranddaliadau.

Wedi i’r cwmni ddirwyn i ben neu ei ddiddymu, os bydd unrhyw eiddo o gwbl yn weddill ar ôl talu ei holl ddyledion ac ymrwymiadau, ni chaniateir dosbarthu hwnnw ymhlith aelodau’r cwmni, ond fe’i rhoddir neu fe’i trosglwyddir i ryw sefydliad arall a bennir gan Bwyllgor Rheoli’r Cwmni adeg ei ddirwyn i ben, ac sydd ag amcanion tebyg i rai’r cwmni ac a fydd yn gwahardd dosbarthu ei eiddo ymhlith ei aelodau i o leiaf y graddau hynny y mae’r memorandwm yn gwahardd y cwmni, ac os a chyn belled ag y methir gweithredu’r ddarpariaeth hon, yna i ryw amcan elusennol ym maes addysg gerddorol.

c) Cyfrifo Cronfeydd

Cronfeydd cyffredinol yw cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i’w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb eu penodi at unrhyw bwrpas arall. Cronfeydd penodedig yw cronfeydd anghyfyngedig sydd wedi eu clustnodi tuag at gostau penodol.

ch) Adnoddau Cyllid

Dangosir adnoddau cyllid yn y Datganiad o Weithredoedd Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl gyfreithiol i’r incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl.

d) Adnoddau a ddefnyddiwyd

Cyfrifir yr holl wariant ar sail croniant ac maent wedi eu dosbarthu dan benawdau sydd yn cyfuno’r holl gostau sydd yn berthynol i’r pennawd. Lle nad yw’n bosibl priodoli costau yn uniongyrchol i benawdau maent wedi eu dyrannu ar sail sydd yn gyson a’r defnydd o’r adnoddau.

Cost gweithgareddau elusennol yw’r costau sy’n ymwneud â gwariant ar amcanion yr elusen boed yn gost uniongyrchol neu cost cynorthwyol.

Costau llywodraethu yw’r costau a godwyd mewn cysylltiad a gweinyddu yr elusen ac i gydymffurfio a gofynion cyfansoddiadol a chyfreithiol.

8

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU ar y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2022

dd) Buddsoddiadau

Mae buddsoddiadau’r cwmni wedi eu prisio yn ôl pris canolig y farchnad ar gau’r farchnad ar ddyddiad y fantolen, gyda’r colledion/enillion o ganlyniad i’r ailbrisiant yn cael eu dangos yn y Datganiad o Weithredoedd Ariannol.

e)

Dibrisiant

Mae asedau sefydlog gyda cost mwy na £500 yn cael eu cyfalafu a’u cynnwys ar gost gan gynnwys unrhyw gostau atodol o gaffaelio. Dangosir y buddiannau sefydlog ar gost llai dibrisiant. Cyfrifwyd am ddibrisiant ar sail dileu cost y buddiannau dros gyfnod amcangyfrif o’u hoes fel a ganlyn:

Moduron - pedair blynedd (lleihau cydbwysedd) Offer cyfrifiadurol - pedair blynedd (llinell syth)

e) Costau Pensiwn

Mae’r cwmni yn gweithredu cynllun pensiwn gyda chyfraniadau diffiniedig. Codir y costau pensiwn pan ddigwyddant, ar draul y datganiad o weithredoedd ariannol.

4. Trosiant ac elw

Mae'r trosiant ac elw i gyd yn deillio o ddarparu gwasanaethau cerdd i ysgolion (heb gynnwys TAW). Digwydd y cyfan o'r trosiant o fewn y Deyrnas Unedig.

9

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU ar y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2022

5. Cyfanswm Adnoddau a ddefnyddiwyd

Sail Gweithgar. Ysgolion Llywod. 2022 2021
Dosbarthu £ £ £ £ £
Cost wedi eu dyrannu yn
uniongyrchol i weithgareddau
Cost tiwtoriaid U 50,240 537,013 - 587,253 401,770
Cost gweithg. amrywiol U 39,248 - - 39,248 13,026
______ ______ ______ __ _
89,488 537,013 - 626,501 414,796
Costau cynorthwyo a ddosbarthir
rhwng gweithgareddau
Cyflog gweinyddol D 17,322 51,966 - 69,288 66,515
Cost pensiwn cyflogwr D 957 2,871 - 3,828 2,261
Costau teithio D 440 1,319 - 1,759 1,041
Cost rhedeg fan D 10 28 - 38 -
Hyfforddi staff D 2,471 7,414 - 9,885 4,570
Yswiriant D 486 1,459 - 1,945 1,550
Post, papur a ffôn D 2,048 6,145 - 8,193 5,692
Cost cyfrifiadurol D 374 1,123 - 1,497 780
Costau’r we D 127 382 - 509 671
Cost tribiwnlys D 13,047 39,142 - 52,189 4,450
Marchnata a PR D 186 560 - 746 2,355
Bas Data Speed Admin D 1,292 3,876 - 5,168 10,670
Llawlyfr staff D 367 1,103 - 1,470 4,154
Cyfrifo D 702 2,105 1,525 4,332 4,102
Cefnogaeth gweinyddol D 856 2,570 - 3,426 3,081
Rheolwyr buddsoddi D 1,034 3,101 - 4,135 3,970
Cost banc D 17 53 - 70 81
Rhent D 3,581 10,744 - 14,325 13,371
Man gostau a glanhau D 717 2,150 - 2,867 3,271
Gofal a thrwsio offerynnau D 1,004 3,014 - 4,018 -
Cost offer D - - - - 1,191
Datblygu polisïau D - - - - 240
Cefnogaeth busnes D - - - - 2,547
Cefnogaeth personél D - - - - 1,218
Cost datblygu D 1,973 5,919 - 7,892 7,558
Taith ysgolion D 4,056 12,170 - 16,226 15,389
Cost COVID D 52 155 - 207 6,569
Adroddiadau disgyblion D 634 1,904 - 2,538 2,466
Cyngor Mon – TG D 4,924 14,772 - 19,696 -
Dibrisiant D 2,205 6,615 - 8,820 -
DBS D - - - - 800
Tŷ’r Cwmnïau U - - 13 13 13
______ ______ _ _ ______
Cyfanswm cost cynorthwyo 60,882 182,660 1,538 245,080 170,576
Cyfanswm £150,370 £719,673 £1,538 £871,581 £585,372
====== ====== ====== ======= =======

Dosbarthir y costau uchod fel a ganlyn: cost uniongyrchol (U), yn seiliedig ar ddefnydd (D).

10

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU ar y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2022

6. Costau staff 2022 2021
£ £
Cyflogau 67,544 69,217
Yswiriant Cenedlaethol 2,672 1,826
Pensiwn 3,828 2,261
_ _
£74,044 £73,304
======= =======

Ar gyfartaledd, roedd yna 2 (2021 – 3) o staff yn gyflogedig yn ystod y flwyddyn. Nid oedd yr un aelod o’r staff yn ennill dros £60,000 y flwyddyn (2021 – dim). Mae personél rheoli allweddol yr elusen yn cynnwys yr ymddiriedolwyr a'r Rheolwr. Yn ystod y flwyddyn ‘roedd cost y cyflogeion personél rheoli allweddol yr elusen yn £46,460 (2021 - £43,824).

7.

Gwariant net gweithredol 2022 2021
£ £
Cyrhaeddir y gwariant net gweithredol ar ôl codi:
Cydnabyddiaeth yr arholwr annibynnol:
Cyfrifo ac eraill 4,332 4,102
Pensiwn cyflogwr 3,828 2,261
====== ======

Yn ystod y flwyddyn ni wnaed unrhyw ad-daliad costau Ymddiriedolwyr yr elusen (2021 – £Dim).

8. Asedau sefydlog dirweddol

Asedau sefydlog dirweddol
Offerynnau Offer
Cerddorol Moduron Swyddfa Cyfanswm
£ £ £
£
Cost
Ar 1af Medi 2021 3,795 - 13,237
17,032
Ychwanegiadau - 28,772 32,889
61,661
______ ______ ______
______
Ar 31ain Awst 2022 £3,795 £28,772 £46,126
£78,693
===== ====== =====
======
Dibrisiant
Ar 1af Medi 2021 3,795 - 13,237
17,032
Cost am y flwyddyn - 599 8,221
8,820
______ _____ ______
______
Ar 31ain Awst 2022 £3,795 £599 £21,458
£25,852
===== ===== =====
======
Gwerth net llyfr
Ar 31ain Awst 2022 £- £28,173 £24,668
£52,841
===== ===== =====
======
Ar 1af Medi 2021 £- £- £-
£-
===== ===== =====
======

Mae’r asedau sefydlog yn cael eu defnyddio yn uniongyrchol i hyrwyddo amcanion yr elusen

11

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2022

9. Buddsoddiadau

Buddsoddiadau
2022 2021
£ £
Portffolio Buddsoddi HSBC £348,787 £372,529
======= =======

Dangosir y buddsoddiadau yn ol eu gwerth ar y farchnad. Mae’r gwerth hanesyddol cyfatebol ar 31 Awst 2022 fel a ganlyn:

Cost Gwerth y
Hanesyddol Farchnad Gwahaniaeth
£ £ £
Buddsoddiadau Portffolio HSBC 346,407 334,777 (11,630)
Arian yn y banc 14,010 14,010 -
_ _ _
£360,417 £348,787 (£11,630)
====== ====== ======
Cost
Hanesyddol
Portffolio Rheoledig HSBC £
Cost ar 1af Medi 2021 361,098
Incwm ar werthu buddsoddiadau 283,603
Cost buddsoddiadau wedi eu gwerthu (284,057)
Incwm difidend a llog 3,908
Cost Rheolwyr Buddsoddi (4,135)
_
Cost ar 31ain Awst 2022 £360,417
======

Ar 31ain Awst 2022 yr oedd y Portffolio Rheoledig HSBC yn cynnwys y canlynol:

Gwerth Gwerth
Marchnad Marchnad (£)
2022 2021
Buddsoddiadau Llog Sefydlog – Tramor 306,664 188,714
Ecwiti – Deyrnas Unedig 876 -
Ecwiti – Tramor 27,237 174,680
_ _
Gwerth Portffolio Rheoledig HSBC ar 31ain Awst 2022 £334,777 £363,394
====== =======
12

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2022

9. Buddsoddiadau ymlaen...

Enillion/(Colledion) ar ail-brisiant a gwerthu buddsoddiadau

2022 2021
£ £
Incwm ar werthu buddsoddiadau 283,603 555,931
Llai cost buddsoddiadau wedi gwerthu (284,057) (529,409)
Cydraddoli ac addasiadau eraill - 1,016
_ _
Elw / (Colled) ar werthu buddosddiadau (454) 27,538
Elw / (Colled) ar ail-brisio Portffolio HSBC (23,060) 11,188
_ _
Elw/(Colledion) net am y flwyddyn (£23,514) £38,726
====== ======

10. Treth ar elw ar weithgareddau arferol

Ar yr 20fed Mai 2003 cofrestrwyd y cwmni fel Elusen ac o’r cyfnod hwn ymlaen nid yw’r cwmni yn darostwng i dreth gorfforaeth.

11. Dyledwyr – yn ddyledus o fewn blwyddyn

Dyledwyr – yn ddyledus o fewn blwyddyn
2022 2021
£ £
Dyledwyr masnachol 9,519 26,898
Dyledwyr eraill 10,319 17,552
Blaendaliadau 6,379 2,567
_ _
£26,217 £47,017
====== ======
Credydwyr - swm yn daladwy o fewn blwyddyn
2022 2021
£ £
Trethi eraill a nawdd cymdeithasol 1,144 1,149
Croniadau 4,840 1,844
Credydwyr eraill 46,730 2,561
_ _
£52,714 £5,554
====== =======

12. Credydwyr - swm yn daladwy o fewn blwyddyn

13

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2022

13. Cynllun pensiwn

Mae’r cwmni yn gweithredu cynllun pensiwn gyda chyfraniadau diffiniedig. Cedwir asedau’r cynllun ar wahân i rai’r cwmni, mewn cronfa a weinyddir yn annibynnol. Mae’r codiant ar gyfer costau pensiwn yn cynrychioli’r cyfraniadau oedd yn daladwy gan y cwmni i’r gronfa, sef £3,828 (2021 - £2,261). Ar ddiwedd y flwyddyn yr oedd £4,840 (2021 - £2,561) yn ddyledus i’r cynllun. Ar 31 Awst 2022 yr oedd 1 aelod o staff wedi ymaelodi gyda’r cynllun pensiwn (2021 – 1).

14.

Prydlesau gweithredol

Mae gan y cwmni'r oblygiadau canlynol yn deillio o brydlesau gweithredol yn dod i ben fel a ganlyn:-

2022 2021
£ £
O fewn blwyddyn - 7,920
Rhwng dwy a phum mlynedd 6,222 6,058
_ _
Cyfanswm £6,222 £13,978
====== ======

15. Cymodi'r elw gweithredol â'r mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol

2022 2021
£ £
Symudiad net mewn cronfeydd (57,546) 47,082
Llog a dderbyniwyd (17) (8)
Difidend (3,908) (7,010)
Dibrisiant 8,820 -
Colledion / (Enillion) ar fuddsoddiadau 23,514 (38,726)
(Cynnydd)/Lleihad mewn dyledwyr 20,800 524
Cynydd/(Lleihad) mewn credydwyr 47,160 (8,829)
__ _
Llif arian net o
weithgareddau gweithredol £38,823 (£6,967)
======= =======
16. Cronfeydd
Cronfa
Cronfa
Cronfa
Gyffredinol
Penodedig
Anghyfyngedig
£
£
£
Balans 1 Medi 2021 548,561
116,000
664,561
Incwm am y flwyddyn 837,549
-
837,549
Gwariant am y flwyddyn (871,581)
-
(871,581)
Elw / (Colled) o ganlyniad i ailbrisiad (23,514)
-
(23,514)
Trosglwyddo -
-
-
_
_
_
Balans 31 Awst 2022 £491,015
£116,000
£607,015
=======
=======
=======
14

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2022

16. Cronfeydd ymlaen

Cronfa Gyffredinol

Mae’r gronfa gyffredinol ar gael i sybsideiddio gweithgareddau cerddorol megis cystadleuthau, perfformiadau, cyngherddau ac hefyd cyrsiau preswyl. Bydd arian hefyd ar gael i hyrwyddo hyfforddiant mewn swydd yn unol a gofynion statudol.

Cronfa Penodedig

Mae’r gronfa penodedig wedi ei sefydlu gan yr Ymddiriedolwyr ac mae ar gael i ofalu am gostau diswyddo ynghyd a costau rhedeg y cwmni am gyfnod o chwe mis pe byddai’r gwasanaeth yn dod i ben.

17. Dadansoddiad o asedau net rhwng cronfeydd

Cronfa Cronfa
Gyffredinol Penodedig Cyfanswm
£ £ £
Asedau dirweddol 52,841 - 52,841
Buddsoddiadau 232,787 116,000 348,787
Asedau cyfredol 258,101 - 258,101
Credydwyr (52,714) - (52,714)
_ _ _
Balans 31 Awst 2022 £491,015 £116,000 £607,015
======= ======= =======

18. Trafodion gyda Phartïon Cysylltiedig

Yn ystod y flwyddyn yr oedd trafodion gyda Chyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn, fel a ganlyn:

Cyngor Gwynedd Cyngor Ynys Môn
£ £
Incwm
Yn ddyledus i’r cwmni ar 31 Awst 2022 £580,459 £89,397
======= =======
15