OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator. This document is also available as Markdown.

2021-08-31-accounts

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

(Cwmni wedi ei gyfyngu trwy warant)

ADRODDIAD A DATGANIADAU CYLLIDOL am y FLWYDDYN i’r 31ain AWST 2021

RHIF Y CWMNI : 3102665

RHIF ELUSEN COFRESTREDIG : 1097614

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG ADRODDIAD BLYNYDDOL AM Y FLWYDDYN I'R 31ain AWST 2021

Cynnwys Tudalen
Gwybodaeth gyfreithiol a gweinyddol 1
Adroddiad yr ymddiriedolwyr 2 – 3
Adroddiad yr arholwr annibynnol 4
Datganiad o weithredoedd ariannol 5
Mantolen 6
Datganiad ynghylch Llif Arian 7
Nodiadau ar y datganiadau ariannol 8 – 15

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL

Cyfansoddiad

Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi ei gyfyngu trwy warant a gofrestrwyd yn elusen ar yr 20fed Mai 2003. Rheolir y cwmni gan ei erthyglau a memorandwm cymdeithasu. Rhif y cwmni: 3102665. Rhif yr elusen: 1097614.

Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr

Cyfarwyddwyr y cwmni elusennol (‘yr elusen’), hefyd yw ymddiriedolwyr yr elusen. Trwy gydol yr adroddiad hwn cyfeirir atynt fel yr ymddiriedolwyr. Gan eithrio’r Cyfarfod Blynyddol gyntaf mae un rhan o dair o aelodau’r Bwrdd i ymddiswyddo yn eu cylchdro yn flynyddol. Mae’r aelodau hyn gyda’r hawl i’w hail-ethol i’r Bwrdd.

Strwythur y cwmni

Rheolir y cwmni gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am wneud prif benderfyniadau'r cwmni. Gwasanaethir y cwmni gan y Cyfarwyddwr Creadigol, Mr Tudur Eames sydd yn gyfrifol am redeg y cwmni o ddydd i ddydd.

Prif Swyddfa Uned 21-23
Galeri
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
Bancwyr Banc HSBC
24 Y Sgwâr
Caernarfon
Gwynedd
LL55 2NB
Cyfreithiwr Darwin Gray LLP,
Helmont House,
Churchill Way,
Caerdydd.
CF10 2HE
Arholwr Annibynnol W J Matthews a’i Fab
11-15 Y Bont Bridd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1AB
1

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN HYD AT 31ain AWST 2021

Cyflwyna’r ymddiriedolwyr eu hadroddiad a’r cyfrifon archwiliedig am y flwyddyn hyd at 31ain Awst 2021. Mae gwybodaeth gyfreithiol a gweinyddol wedi eu cynnwys ar dudalen 1 ac yn ffurfio rhan o’r adroddiad hwn. Mae’r cyfrifon yn cydsynio gyda erthyglau’r cwmni, Deddf Elusennau 2011, Deddf Cwmnïau 2006 a hefyd Datganiad o Ymarferion Cymeradwyol “Cyfrifo ac Ymadrodd gan Elusennau” yn unol a FRS102 Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Prif weithgareddau

Prif weithgareddau Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyf yw i hyrwyddo ac annog darparu gweithgareddau y celfyddydau mynegiannol yng Nghymru.

Yr Ymddiriedolwyr â’u diddordebau yn y cwmni

Yr ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn oedd:

Dewi Owen Jones (Cadeirydd) Deilwen Hughes Wiliam Roger Jones Alun Llwyd Dr Catrin Elis Williams Sion Glyn Pritchard Elinor Bennett Wigley (Ymdd 24/08/21) Beti Rhys Roberts Hywel Parry

Gan fod y cwmni yn gyfyngedig trwy warant nid oes gan yr ymddiriedolwyr ddiddordeb mewn unrhyw gyfranddaliadau o’r cwmni.

Amcanion er Budd y Cyhoedd

Mae’r Cwmni yn elusen ac mae’n bodoli er budd y cyhoedd fel a ganlyn:

Mae’r ymddiriedolwyr o’r farn bod yr amcanion ar gyfer y flwyddyn wedi eu cyflawni drwy barhau i baratoi gwasanaeth cerdd yn yr Ardal ac ehangu ar y niferoedd sydd yn elwa o’r gwasanaeth. Bwriad yr ymddiriedolwyr am y dyfodol yw i barhau gyda chynnig gwasanaeth cerddorol yn yr Ardal.

Gwybodaeth Gyllidol

Gwelwyd cyfanswm incwm o’r ysgolion yn gostwng i £476,804 (2020 - £533,815) yn ystod y flwyddyn, gyda cynnydd mewn incwm craidd a grantiau cynnal addysg i £104,209 (2020 - £102,402, ond gostyngiad yn incwm o grantiau, llog banc, difidend ac eraill i £12,715 (2020 - £46,172).

Mae’r canlyniadau am y flwyddyn yn ddisgwyliedig yn dilyn cyhoeddi pandemic Covid 19 ym mis Mawrth 2020 a’r cyfnodau clo a ddilynodd. Mae’r Bwrdd yn ddiolchgar iawn i staff y cwmni ac hefyd i’r tiwtoriaid am eu hymdrechion a gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol yma i barhau gyda cyflenwi gwersi i’r plant. Yn dilyn cyhoeddi’r cyfnod clo a’r penderfyniad i ganslo gweithgareddau allanol y prif bwyslais oedd cyflenwi cyn gymaint a phosibl o wersi i’r plant ynghyd a rheoli’r costau. Calonogol iawn felly oedd gweld incwm net am y flwyddyn o £47,082 (2020 – £57,487), a olygai bod yr elusen yn parhau i fod mewn sefyllfa gryf i ymateb i unrhyw her ariannol a ddaw yn y dyfodol.

Anwythiad a hyfforddiant Ymddiriedolwyr

Mae’r ymddiriedolwyr wedi derbyn hyfforddiant ar eu rolau a’u cyfrifoldebau.

2

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN HYD AT 31ain AWST 2021

Strategaeth, polisi cronfa wrth gefn a buddsoddiadau

Yn sgil adrodd incwm net am y flwyddyn o £47,082 mae cronfa anghyfyngedig yr elusen ar 31ain Awst 2021 wedi cynyddu i £664,561 (2020 - £617,479). Mae £116,000 o’r gronfa anghyfyngedig wedi ei glustnodi mewn cronfa benodedig ar gyfer costau diswyddo ynghyd a chostau rhedeg y cwmni am gyfnod o chwe mis pe byddai’r gwasanaeth yn dod i ben. Drwy sefydlu cronfa wrth gefn gall Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyf ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf ac hefyd dilyn y strategaeth o geisio cynyddu’r cyfleon cerddorfaol yn yr Ardal.

Yn dilyn penderfyniad gan yr ymddiriedolwyr yn 2011, ail-fuddsoddwyd cronfa’r ‘Common Fund for Income’ mewn buddsoddiad ‘HSBC Global Asset Management’, sef Portffolio Buddsoddi a rheoli’r gan yr HSBC. Cydnabyddir bod y risg sydd yn ymwneud gyda’r buddsoddiad yma yn uwch nac o’r blaen, ond bydd disgwyl gweld cynnydd yn yr incwm a dderbynnir yn y dyfodol ynghyd a chynnydd yng ngwerth y buddsoddiad. Ar gyfer y flwyddyn i’r 31ain Awst 2021, gwelir gostyngiad yn yr incwm difidend i £7,010 (2020 - £7,679), gyda enillion o £38,726 ar ail-brisio a gwerthu buddsoddiadau (2020 – colledion £10,921). Mae’r strategaeth yma yn rhan o strategaeth yr Elusen i ymateb i’r toriadau gan Gyngor Sir Ynys Mon. Yn ogystal ag adolygu’r polisi buddsoddiadau mae’r Elusen hefyd wedi adolygu sut mae’r gwasanaeth yn cael ei gyflawni, gan gymeryd camau i dorri costau rhedeg.

Adolygiad Risg

Sefydlwyd systemau i leihau amlygiad i beryglon mawr. Mae gweithdrefnau mewn lle i leihau risg mewnol trwy weithredu prosesau awdurdodi priodol i sicrhau cysondeb ansawdd darpariaeth ar gyfer holl agweddau gweithredol yr elusen. Adolygir y gweithdrefnau o bryd i’w gilydd.

Cyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi'r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol ac Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GAAP). Mae gan yr ymddiriedolwyr gyfrifoldeb penodedig am baratoi adroddiadau i'r aelodau ac am asedau'r cwmni. Mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr gyflwyno, ar gyfer pob cyfnod, ddatganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r darpariaethau yn Neddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bychain, ynglŷn ag amgylchiadau'r cwmni ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddol, a'r elw neu golled am y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, rhaid defnyddio a chymhwyso yn gyson bolisïau cyfrifyddol addas a luniwyd, gan gyfeirio at ddyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol a phwyllog. Defnyddiwyd safonau cyfrifyddol cymwys a pharatowyd y cyfrifon ar sail busnes byw. Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am sicrhau fod trefniadau wedi eu gwneud i gynnal cofnodion cyfrifyddol digonol, i ddiogelu asedau'r cwmni, ac i sicrhau y gwneir darpariaeth i atal a darganfod twyll ac afreoleidd-dra arall.

Rhestrir ar dudalen 2 aelodau’r cwmni a wasanaethodd yn ystod y flwyddyn a hyd at ddyddiad yr adroddiad, sef ymddiriedolwyr i bwrpas cyfraith cwmni ac ymddiriedolwyr i bwrpas cyfraith elusennol.

Paratowyd adroddiad y cyfarwyddwyr yn unol â'r darpariaethau arbennig sydd yn berthnasol i gwmnïau bychain yn unol a cyfundrefn cwmnïau bychain.

Cymeradwywyd ar ran yr Ymddiriedolwyr ar 28ain Ebrill 2022 ac arwyddwyd gan:

............................................................................ Dewi Owen Jones (Ymddiriedolwr)

3

ADRODDIAD ARHOLWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

Rhof adroddiad ar gyfrifon Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyfyngedig am y flwyddyn hyd at 31 Awst 2021, a ymddengys ar dudalennau 2 i 16.

Cyfrifoldebau sydd yn briodol i’r Ymddiriedolwyr a’r Arholwr

Chwi, fel Ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am gwblhau’r cyfrifon. Rydych yn ystyried nad yw’r gofynion archwiliad o Adran 144(2) o’r Ddeddf Elusennau 2011 (Deddf 2011) angen eu defnyddio a bod angen arholiad annibynnol.

Fy nghyfrifoldeb i yw

Sail adroddiad yr Arholwr Annibynnol

Gwnaed yr arholiad gennyf yn ôl y Canllawiau Cyffredinol a roddwyd gan Gomisiynwyr yr Elusennau. Mae arolwg yn cynnwys adolygu cofnodion y cyfrifon a gedwir gan yr Elusen a chymharu’r cyfrifon sydd yn cael eu cyflwyno gyda’r cofnodion hynny. Mae’n cynnwys hefyd ystyriaeth o unrhyw eitem anghyffredin neu ddadleniadau yn y cyfrifon, a cheisiwyd cael eglurhad gennych chi fel Ymddiriedolwyr yngly[^] n ag unrhyw faterion o’r fath. Ni fydd y camau a gymerir gennym yn rhoi’r oll o’r dystiolaeth a fuasai ei angen mewn archwiliad, ac felly nid ydym yn datgan barn fod y cyfrifon yn rhoi ‘golwg gwir a theg’ ac mae’r adroddiad wedi ei gyfyngu i’r materion a amlinellir yn y datganiad isod.

Datganiad yr Arholwr Annibynnol

Yn gysylltiedig â’r arholiad a wnaed gennyf, ni ddaeth dim i fy sylw:

  1. sydd yn rhoi i mi achos rhesymol i gredu nad yw, mewn unrhyw fodd o bwys yr anghenion wedi eu cadw

  2. yngly[^] n â:

    • cadw cofnodion cyfrifyddol yn unol ag Adran 130 o’r Ddeddf 2011; a

    • pharatoi cyfrifon sydd yn cyd-fynd â’r cofnodion cyfrifyddol a sydd yn ufuddhau i ofynion cyfrifyddol y Ddeddf 2011 heb gael eu cydymffurfio; neu

  3. sydd, yn fy marn, angen cyfeirio ato er mwyn galluogi dealltwriaeth gywir o'r cyfrifon.

David Chidley, W J Matthews a’i Fab, Cyfrifwyr Siartredig, 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon, LL55 1AB.

Dyddiad: 28eg Ebrill 2022

4

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG DATGANIAD O WEITHREDOEDD ARIANNOL (YN CYNNWYS CYFRIF INCWM A GWARIANT)

AM Y FLWYDDYN HYD AT 31ain AWST 2021

2021 2020
Nodyn £ £
Incwm
Gweithgareddau elusennol
Incwm ysgolion 476,804 533,815
Cyngherddau ac incwm arall 5,697 18,215
Incwm gwirfoddol
Incwm craidd 59,117 58,089
Grantiau cynnal addysg 45,092 44,313
Incwm grantiau - 20,000
Buddsoddiadau
Llog banc 8 278
Incwm portfolio 7,010 7,679
__ __
Cyfanswm 593,728 682,389
Gwariant ar:
Gweithgareddau elusennol 5 585,372 613,981
__ __
Incwm / (Gwariant) net am y flwyddyn 8,356 68,408
Enillion a cholledion eraill
Enillion / (Colledion) ar fuddsoddiadau 8 38,726 (10,921)
__ _
Symudiad net mewn cronfeydd 47,082 57,487
Balans ar 1af Medi 2020 617,479 559,992
__ __
Balans ar 31ain Awst 2021 14 £664,561 £617,479
======= =======

Mae’r canlyniadau uchod yn deillio i gyd o weithgareddau sydd yn parhau.

5

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

MANTOLEN

31ain AWST 2021

2021 2021 2020 2020
Nodyn £ £ £ £
Asedau sefydlog
Buddsoddiadau 8 372,529 330,763
_ _
372,529 330,763
Asedau cyfredol
Dyledwyr 10 47,017 47,541
Arian yn y banc ac mewn llaw 250,569 253,558
_ _
297,586 301,099
Credydwyr:
Swm yn daladwy o fewn blwyddyn
11
(5,554) (14,383)
_ _
Asedau cyfredol llai rhwymedigaethau cyfredol 292,032 286,716
_ _
Asedau net £664,561 £617,479
======= =======
Cronfeydd
Cronfa anghyfyngedig 15 £664,561 £617,479
======= =======

Paratowyd y cyfrifon yn unol a’r darpariaethau sydd yn berthynol i gwmnïau bychain ac yn unol â FRS 102 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon'.

Cymeradwywyd y datganiadau ariannol ar dudalennau 6 i 18 ar 28ain Ebrill 2022 ac fe'u llofnodwyd ar ran yr Ymddiriedolwyr:

.................................................

Dewi Owen Jones (Ymddiriedolwr)

6

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

DATGANIAD YNGHYLCH LLIF ARIAN

AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2021

Nodyn 2021 2020
£ £
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 14 (6,967) 47,910
_ _
Llif arian o weithgareddau buddsoddi
Llog a dderbyniwyd 8 278
Incwm difidend 7,010 7,679
Gwerthiant buddsoddiadau 555,931 177,568
Cost buddsoddiadau (558,013) (224,225)
_ _
Arian a ddefnyddiwyd i fuddsoddi 4,936 (38,700)
_ _
Cynnydd/(Lleihad) mewn arian a chyfatebolion arian (2,031) 9,210
Arian a chyfatebolion arian ar 1 Medi 2020 261,735 252,525
__ __
Arian a chyfatebolion arian ar 31 Awst 2021 £259,704 £261,735
======= =======
7

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU ar y DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2021

1. Gwybodaeth gyffredinnol

Cofrestrwyd y cwmni yng Nghymru fel cwmni preifat wedi ei gyfyngu dan warant. Cyfeiriad cofrestredig y cwmni yw Uned 21- 23 Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SQ.

2. Datganiad cydymffurfio

Mae'r datganiadau ariannol wedi eu paratoi i gydymffurfio â darpariaethau Datganiad o Ymarferion Cymeradwyol “Cyfrifo ac Ymadrodd gan Elusennau” yn unol a FRS 102 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2006.

Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyf yn cwrdd a diffiniad FRS102 o endid budd y cyhoedd. Mae asedau a rhwymedigaeth wedi eu cofnodi yn y cyfrifon yn ôl cost hanesyddol oni bai eu bod wedi eu ail ddatgan yn unol a polisi cyfrifo perthnasol.

3. Polisïau cyfrifyddol

a) Paratoi’r cyfrifon ar sail busnes byw

Mae’r ymddiriedolwyr o’r farn nad oes unrhyw reswm i beidio a paratoi’r cyfrifon ar sail busnes byw.

b) Statws y cwmni

Mae'r cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant. Nid oes gan y cwmni gyfranddaliadau.

Wedi i’r cwmni ddirwyn i ben neu ei ddiddymu, os bydd unrhyw eiddo o gwbl yn weddill ar ôl talu ei holl ddyledion ac ymrwymiadau, ni chaniateir dosbarthu hwnnw ymhlith aelodau’r cwmni, ond fe’i rhoddir neu fe’i trosglwyddir i ryw sefydliad arall a bennir gan Bwyllgor Rheoli’r Cwmni adeg ei ddirwyn i ben, ac sydd ag amcanion tebyg i rai’r cwmni ac a fydd yn gwahardd dosbarthu ei eiddo ymhlith ei aelodau i o leiaf y graddau hynny y mae’r memorandwm yn gwahardd y cwmni, ac os a chyn belled ag y methir gweithredu’r ddarpariaeth hon, yna i ryw amcan elusennol ym maes addysg gerddorol.

c) Cyfrifo Cronfeydd

Cronfeydd cyffredinol yw cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i’w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb eu penodi at unrhyw bwrpas arall. Cronfeydd penodedig yw cronfeydd anghyfyngedig sydd wedi eu clustnodi tuag at gostau penodol.

ch) Adnoddau Cyllid

Dangosir adnoddau cyllid yn y Datganiad o Weithredoedd Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl gyfreithiol i’r incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl.

d) Adnoddau a ddefnyddiwyd

Cyfrifir yr holl wariant ar sail croniant ac maent wedi eu dosbarthu dan benawdau sydd yn cyfuno’r holl gostau sydd yn berthynol i’r pennawd. Lle nad yw’n bosibl priodoli costau yn uniongyrchol i benawdau maent wedi eu dyrannu ar sail sydd yn gyson a’r defnydd o’r adnoddau.

Cost gweithgareddau elusennol yw’r costau sy’n ymwneud â gwariant ar amcanion yr elusen boed yn gost uniongyrchol neu cost cynorthwyol.

Costau llywodraethu yw’r costau a godwyd mewn cysylltiad a gweinyddu yr elusen ac i gydymffurfio a gofynion cyfansoddiadol a chyfreithiol.

8

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU ar y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2021

dd) Buddsoddiadau

Mae buddsoddiadau’r cwmni wedi eu prisio yn ôl pris canolig y farchnad ar gau’r farchnad ar ddyddiad y fantolen, gyda’r colledion/enillion o ganlyniad i’r ailbrisiant yn cael eu dangos yn y Datganiad o Weithredoedd Ariannol.

e)

Costau Pensiwn

Mae’r cwmni yn gweithredu cynllun pensiwn gyda chyfraniadau diffiniedig. Codir y costau pensiwn pan ddigwyddant, ar draul y datganiad o weithredoedd ariannol.

4. Trosiant ac elw

9

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU ar y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2021

5. Cyfanswm Adnoddau a ddefnyddiwyd

Sail Gweithgar. Ysgolion Llywod. 2021 2020
Dosbarthu £ £ £ £ £
Cost wedi eu dyrannu yn
uniongyrchol i weithgareddau
Cost tiwtoriaid U 26,471 375,299 - 401,770 494,610
Cost gweithg. amrywiol U 13,026 - - 13,026 -
______ ______ ______ __ _
39,497 375,299 - 414,796 494,610
Costau cynorthwyo a ddosbarthir
rhwng gweithgareddau
Cyflog gweinyddol D 16,629 49,886 - 66,515 65,011
Cost pensiwn cyflogwr D 565 1,696 - 2,261 1,548
Costau teithio D 260 781 - 1,041 1,277
Cost monitro U - - - - 470
Hyfforddi staff D 1,143 3,427 - 4,570 563
Yswiriant D 387 1,163 - 1,550 1,970
Post, papur a ffôn D 1,423 4,269 - 5,692 8,872
Cost cyfrifiadurol D 195 585 - 780 1,032
Costau’r we D 168 503 - 671 1,231
Cost cyfreithiol D 1,112 3,338 - 4,450 -
Marchnata a PR D 589 1,766 - 2,355 12,603
Bas Data Speed Admin D 2,668 8,002 - 10,670 -
Llawlyfr staff D 1,038 3,116 - 4,154 -
Cyfrifo D 652 1,955 1,495 4,102 4,047
Cefnogaeth gweinyddol D 770 2,311 - 3,081 4,459
Rheolwyr buddsoddi D 992 2,978 - 3,970 3,435
Cost banc D 20 61 - 81 241
Rhent D 3,343 10,028 - 13,371 8,300
Man gostau a glanhau D 818 2,453 - 3,271 3,041
Gofal a thrwsio D - - - - 405
Cost offer D 298 893 - 1,191 -
Datblygu polisïau D 60 180 - 240 -
Cost cyfieithu D - - - - 135
Cefnogaeth busnes D 637 1,910 - 2,547 -
Cefnogaeth personél D 304 914 - 1,218 -
Cost datblygu D 1,889 5,669 - 7,558 452
Taith ysgolion D 3,847 11,542 - 15,389 -
Cost COVID D 1,642 4,927 - 6,569 -
Adroddiadau disgyblion D 616 1,850 - 2,466 -
DBS D - - 800 800 266
Tŷ’r Cwmnïau U - - 13 13 13
______ ______ _ _ ______
Cyfanswm cost cynorthwyo 42,065 126,203 2,308 170,576 119,371
Cyfanswm £81,562 £504,502 £2,308 £585,372 £613,981
====== ====== ====== ======= =======

Dosbarthir y costau uchod fel a ganlyn: cost uniongyrchol (U), yn seiliedig ar ddefnydd (D).

10

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU ar y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2021

6. Costau staff 2021 2020
£ £
Cyflogau 69,217 66,250
Yswiriant Cenedlaethol 1,826 3,220
Pensiwn 2,261 1,548
_ _
£73,304 £71,018
======= =======

Ar gyfartaledd, roedd yna 3 (2020 – 4) o staff yn gyflogedig yn ystod y flwyddyn. Nid oedd yr un aelod o’r staff yn ennill dros £60,000 y flwyddyn (2020 – dim). Mae personél rheoli allweddol yr elusen yn cynnwys yr ymddiriedolwyr a'r Rheolwr. Yn ystod y flwyddyn ‘roedd cost y cyflogeion personél rheoli allweddol yr elusen yn £43,824 (2020 - £30,411).

7. Gwariant net gweithredol 2021 2020
£ £
Cyrhaeddir y gwariant net gweithredol ar ôl codi:
Cydnabyddiaeth yr arholwr annibynnol:
Cyfrifo ac eraill 4,102 4,047
Pensiwn cyflogwr 2,261 1,548
====== ======
Yn ystod y flwyddyn ni wnaed unrhyw ad-daliad costau Ymddiriedolwyr yr elusen (2020 –
£Dim).
11

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2021

8. Buddsoddiadau

Buddsoddiadau
2021 2020
£ £
Portffolio Buddsoddi HSBC £372,529 £330,763
======= =======

Dangosir y buddsoddiadau yn ol eu gwerth ar y farchnad. Mae’r gwerth hanesyddol cyfatebol ar 31 Awst 2021 fel a ganlyn:

Cost Gwerth y
Hanesyddol Farchnad Gwahaniaeth
£ £ £
Buddsoddiadau Portffolio HSBC 351,963 363,394 11,431
Arian yn y banc 9,135 9,135 -
_ _ _
£361,098 £372,529 £11,431
====== ====== ======
Cost
Hanesyddol
Portffolio Rheoledig HSBC £
Cost ar 1af Medi 2020 330,520
Incwm ar werthu buddsoddiadau 555,931
Cost buddsoddiadau wedi eu gwerthu (529,409)
Incwm difidend a llog 7,010
Cost Rheolwyr Buddsoddi (3,970)
Cydraddoli cyfalaf 1,016
_
Cost ar 31ain Awst 2021 £361,098
======
in Awst 2021 yr oedd y Portffolio Rheoledig HSBC yn cynnwys y canlynol:
Gwerth Gwerth
Marchnad Marchnad (£)
2021 2020
Buddsoddiadau Llog Sefydlog – DU a tramor - 75,415
Buddsoddiadau Llog Sefydlog – Tramor 188,714 192,582
Ecwiti – Deyrnas Unedig - 33,816
Ecwiti – Tramor 174,680 20,173
Buddsoddiadau Eraill - 600
_ _
Gwerth Portffolio Rheoledig HSBC ar 31ain Awst 2021 £363,394 £322,586
====== =======

Ar 31ain Awst 2021 yr oedd y Portffolio Rheoledig HSBC yn cynnwys y canlynol:

12

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2021

8. Buddsoddiadau ymlaen...

Enillion/(Colledion) ar ail-brisiant a gwerthu buddsoddiadau

2021 2020
£ £
Incwm ar werthu buddsoddiadau 555,931 177,568
Llai cost buddsoddiadau wedi gwerthu (529,409) (164,921)
Cydraddoli ac addasiadau eraill 1,016 (559)
_ _
Elw / (Colled) ar werthu buddosddiadau 27,538 12,088
Elw / (Colled) ar ail-brisio Portffolio HSBC 11,188 (23,009)
_ _
Elw/(Colledion) net am y flwyddyn £38,726 (£10,921)
====== ======

9. Treth ar elw ar weithgareddau arferol

Ar yr 20fed Mai 2003 cofrestrwyd y cwmni fel Elusen ac o’r cyfnod hwn ymlaen nid yw’r cwmni yn darostwng i dreth gorfforaeth.

10. Dyledwyr – yn ddyledus o fewn blwyddyn

Dyledwyr – yn ddyledus o fewn blwyddyn
2021 2020
£ £
Dyledwyr masnachol 26,898 33,691
Dyledwyr eraill 17,552 12,919
Blaendaliadau 2,567 931
_ _
£47,017 £47,541
====== ======
Credydwyr - swm yn daladwy o fewn blwyddyn
2021 2020
£ £
Trethi eraill a nawdd cymdeithasol 1,149 1,064
Croniadau 1,844 12,877
Credydwyr eraill 2,561 442
_ _
£5,554 £14,383
====== =======

11. Credydwyr - swm yn daladwy o fewn blwyddyn

13

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2021

12. Cynllun pensiwn

Mae’r cwmni yn gweithredu cynllun pensiwn gyda chyfraniadau diffiniedig. Cedwir asedau’r cynllun ar wahân i rai’r cwmni, mewn cronfa a weinyddir yn annibynnol. Mae’r codiant ar gyfer costau pensiwn yn cynrychioli’r cyfraniadau oedd yn daladwy gan y cwmni i’r gronfa, sef £2,261 (2020 - £1,548). Ar ddiwedd y flwyddyn yr oedd £2,561 (2020 - £442) yn ddyledus i’r cynllun. Ar 31 Awst 2021 yr oedd 1 aelod o staff wedi ymaelodi gyda’r cynllun pensiwn (2020 – 1).

13. Prydlesau gweithredol

Mae gan y cwmni'r oblygiadau canlynol yn deillio o brydlesau gweithredol yn dod i ben fel a ganlyn:-

2021 2020
£ £
O fewn blwyddyn 7,920 -
Rhwng dwy a phum mlynedd 6,058 27,230
_ _
Cyfanswm £13,978 £27,230
====== ======

14. Cymodi'r elw gweithredol â'r mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol

2021 2020
£ £
Symudiad net mewn cronfeydd 47,082 57,487
Llog a dderbyniwyd (8) (278)
Difidend (7,010) (7,679)
Colledion / (Enillion) ar fuddsoddiadau (38,726) 10,921
(Cynnydd)/Lleihad mewn dyledwyr 524 (22,299)
Cynydd/(Lleihad) mewn credydwyr (8,829) 9,758
__ _
Llif arian net o
weithgareddau gweithredol (£6,967) £47,910
======= =======
  1. Cronfeydd
Cronfeydd
Cronfa Cronfa Cronfa
Gyffredinol Penodedig Anghyfyngedig
£ £ £
Balans 1 Medi 2020 501,479 116,000 617,479
Incwm am y flwyddyn 593,728 - 593,728
Gwariant am y flwyddyn (585,372) - (585,372)
Elw / (Colled) o ganlyniad i ailbrisiad 38,726 - 38,726
Trosglwyddo - - -
_ _ _
Balans 31 Awst 2021 £548,561 £116,000 £664,561
======= ======= =======
14

GWASANAETH YSGOLION WILLIAM MATHIAS CYFYNGEDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (Ymlaen) AM Y FLWYDDYN i'r 31ain AWST 2021

15. Cronfeydd ymlaen

Cronfa Gyffredinol

Mae’r gronfa gyffredinol ar gael i sybsideiddio gweithgareddau cerddorol megis cystadleuthau, perfformiadau, cyngherddau ac hefyd cyrsiau preswyl. Bydd arian hefyd ar gael i hyrwyddo hyfforddiant mewn swydd yn unol a gofynion statudol.

Cronfa Penodedig

Mae’r gronfa penodedig wedi ei sefydlu gan yr Ymddiriedolwyr ac mae ar gael i ofalu am gostau diswyddo ynghyd a costau rhedeg y cwmni am gyfnod o chwe mis pe byddai’r gwasanaeth yn dod i ben.

16. Dadansoddiad o asedau net rhwng cronfeydd

Cronfa Cronfa
Gyffredinol Penodedig Cyfanswm
£ £ £
Buddsoddiadau 256,529 116,000 372,529
Asedau cyfredol 297,586 - 297,586
Credydwyr (5,554) - (5,554)
_ _ _
Balans 31 Awst 2021 £548,561 £116,000 £664,561
======= ======= =======

17. Trafodion gyda Phartïon Cysylltiedig

Yn ystod y flwyddyn yr oedd trafodion gyda Chyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn, fel a ganlyn:

Cyngor Gwynedd Cyngor Ynys Môn
£ £
Incwm 481,745 60,351
Yn ddyledus i’r cwmni ar 31 Awst 2021 36,998 -
======= =======
15