OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator. This document is also available as Markdown.

2025-05-31-accounts

ADRODDIAD Y CADE I RY D D– Megan Jones Roberts Braint ac anrhydedd yw i mi gael cyflwyno'r rhagair hwn ar gyfer yr adroddiad blynyddol. Blwyddyn arall wedi mynd heibio yn hanes y Gymdeithas, ac yn ystod y flwyddyn collwyd sawl eisteddfodwr o fri, ac mae ein cydymdeimlad yn ddwys iawn gyda'u teuluoedd. Bydd y golled ar eu hôl yn enfawr. Yr ydym fel Cymdeithas yn dra ddiolchgar i Is-adran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru am ddyfarnu grant blynyddol i ni, sydd yn ein galluogi i gyflogi dau swyddog rhan amser. Rydym mor falch, fel swyddogion gwirfoddol, bod Lois ac Angharad wedi cydweithio mor dda gyda'i gilydd, ac yr ydym wedi bod gant y cant tu ôl i’r ddwy ym mhob dim y maent yn ei wneud er lles y Gymdeithas a phwyllgorau’r Eisteddfodau. Yn anffodus erbyn hyn, mae’r sefyllfa wedi newid. Ymddiswyddodd Angharad am resymau personol diwedd Gorffennaf ac rydym wedi hysbysebu’r swydd wag; byddwn yn mynd trwy’r drefn o gyfweliadau ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gwmni Teithiau Elfyn Thomas am noddi ein raffl flynyddol, gan fod hyn yn gwneud llawer o wahaniaeth i goffrau'r Gymdeithas. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r holl bwyllgorau sydd yn talu tâl aelodaeth o £20 y flwyddyn, a manteisiwn ar y cyfle hwn i atgoffa'r pwyllgorau hynny sydd heb ymaelodi, i wneud hynny mor fuan â phosib os gwelwch yn dda. Cafwyd sawl eitem ar newyddion radio a theledu, a gwefan BBC Cymru Fyw yn ystod y flwyddyn, heb sôn am yr holl sylw ar ein cyfryngau cymdeithasol - y cyfan yn codi proffil y Gymdeithas ac yn rhoi hwb i'r eisteddfodau lleol yn eu tro. Gwelwyd cynnydd eto yn y nifer o bobl sy’n defnyddio ein cyfrifon Facebook, X ac Instagram. Mae defnyddio'r cyfryngau yma i rannu negeseuon a chysylltu gydag eraill mor hwylus, ac nid yw’n costio dim wrth gwrs! Teimlwn ei bod hi’n bwysig i ni wneud defnydd ohonynt i ledaenu'r neges am waith y Gymdeithas, a hynny mor eang â phosib. Mae ein gwefan yn parhau i fod o ddefnydd mawr i’r eisteddfodwyr, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am yr eisteddfodau yn cael ei nodi a'i ddiweddaru er budd y defnyddwyr. Yn ogystal â hyn mae mwy o bobl wedi cofrestru i dderbyn Steddfota, sef newyddlen y Gymdeithas, yn ystod y flwyddyn, a hynny drwy’r post a thrwy e-bost - hyn eto yn brawf bod y diddordeb mewn digwyddiadau eisteddfodol ar i fyny. Y gobaith yn ystod y misoedd nesaf fydd i gael noddwr ar gyfer 'Steddfota - bydd hyn eto yn cryfhau ein proffil ac yn gwella ein sefyllfa ariannol. Mae’r Gymdeithas wedi cael stondin yn y ddwy Eisteddfod Genedlaethol eleni eto, â'r ddwy swyddog wedi gweithio’n galed iawn i baratoi cyn ac yn ystod y ddwy ŵyl. Bu’r ddwy’n sgwrsio gydag aelodau o bwyllgorau eisteddfodau yn ystod y flwyddyn i gynnig clust neu syniad gyda materion ymarferol, sy’n golygu llawer i ambell i Eisteddfod sy’n ei chael hi’n anodd o hyd i ail-gychwyn neu ailgynnal y diddordeb. Pleser yw cyhoeddi bod 30 o wirfoddolwyr o Eisteddfodau’r Gogledd yn cael eu hanrhydeddu gan y Gymdeithas eleni, gan dderbyn tystysgrif am eu gwaith diflino i’r Eisteddfodau lleol mewn seremoni ym mhabell Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Braf yw cyhoeddi bod trefniadau eisteddfodau newydd, sef Eisteddfod Blaenau Ffestiniog (Medi 2025) ac Eisteddfod Nedd a Phort Talbot (Ebrill 2026) ar waith, a bod ein swyddogion yn cynnig unrhyw gymorth sydd angen ar y pwyllgorau. Llawenydd, yn ogystal, yw deall fod eisteddfodau newydd wedi cael eu cynnal yn y Felinheli a Phontypridd yn ystod 2025. Braf yw gweld bod cymaint o eisteddfodau wedi cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn, gan fod cynnal eisteddfodau lleol yn bwysig er mwyn bwydo'r ddwy Eisteddfod Genedlaethol. Heb y rhai lleol ni fyddai modd cynnal y ddwy fawr. Felly cofiwch gefnogi yn lleol yn gyntaf, ac wedyn yn genedlaethol. Mae angen yr Eisteddfodau lleol hyn ar Gymru benbaladr i gadw'r traddodiad yn fyw. Wrth derfynu rwyf am dalu teyrnged i'm cyd-swyddogion, i aelodau pwyllgor y Gymdeithas ac i’r swyddogion am eu gwaith diflino er budd y Gymdeithas, ac wrth gwrs er lles ein heisteddfodau ym mhob cwr o Gymru. Carem ddiolch hefyd am lafur cariad cyson a brwdfrydig swyddogion pwyllgorau eisteddfodau lleol drwy'r wlad, sydd yn cadw'r etifeddiaeth eisteddfodol yn fyw.

ADRODDIAD ARIANNOL - Trysorydd Gareth Jones

www.steddfota.cymru