YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN (CYFYNGEDIG TRWY WARANT)
ADRODDIADAU ARIANNOL
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022
(Rhif y Cwmni 3865538) (Rhif Elusen 1078543)
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
Cyflwyna'r ymddiriedolwyr eu hadroddiad ynghyd â'r cyfrifon wedi eu harchwilio am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022.
Prif Weithgaredd ac Adolygiad
Pwrpas Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yw hyrwyddo a meithrin, yng Nghymru, addysg a hyfforddiant o’r iaith, diwylliant a llenyddiaeth Cymraeg. Gweithreda’r Cwmni yn bennaf yng Nghanolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol Nant Gwrtheyrn ger Llithfaen ond hefyd cynhelir gweithgareddau mewn canolfannau eraill, pan yn briodol.
Manylion eraill
Rhif y Cwmni: 3865538 Rhif yr Elusen: 1078543 Swyddfa Gofrestredig: Canolfan Genedlaethol Iaith a Diwylliant Nant Gwrtheyrn Llithfaen Pwllheli Archwilwyr: Owain Bebb a'i Gwmni 32 Y Maes Caernarfon Bancwyr: HSBC Lloyds TSB Pwllheli Bangor Cyfreithwyr: Ellis Davies & Co. 27 Stryd Bangor Caernarfon
Ymddiriedolwyr
Dan y Ddeddf Cwmnïau mae gan yr Ymddiriedolwyr yr un cyfrifoldebau â Chyfarwyddwyr. Mae Cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth yn cael eu hethol o’r aelodaeth yn flynyddol yn ystod y Cyfarfod Blynyddol a’r aelodau a wasanaethodd yn ystod y flwyddyn ac ar hyn o bryd yw:-
Y Meddyg Carl Clowes Phyllis Ellis (Ysgrifenydd) Clive Wolfendale (Trysorydd) (ymddiswyddodd 23.7.22) Huw Jones (Cadeirydd) Gwenda Griffith Menna Jones (Is-gadeirydd) Myrddin ap Dafydd (ymddiswyddodd 23.7.22) Ifor Gruffydd Ann Hughes Jo Iwan Martin Croydon (penodwyd 23.7.22) Rhiannon Ceiri (penodwyd 23.7.22) Garffild Lloyd Lewis (penodwyd 23.7.22)
Prif Aelodau Staff
Mair Saunders - Prif Weithredwr
Strwythur, Llywodraethu a Rheoli
Elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant yw Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a gaiff ei lywodraethu gan Femorandwm ac Erthyglau'r Cwmni. Mae'r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â gofynion sy'n berthnasol i gwmni elusennol.
- 1 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR - parhad
Strwythur, Llywodraethu a Rheoli - parhad
Mae aelodaeth Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn agored i unrhyw unigolyn neu gorff gyda diddordeb mewn hyrwyddo ei amcanion, sydd yn gwneud cais i’r cwmni elusennol ar y ffurflen briodol ac sydd yn derbyn cymeradwyaeth Ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth.
Mae gan y cwmni broses i anwytho ymddiriedolwyr newydd. Etholir aelodau a swyddogion i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn y Cyfarfod Blynyddol. Mae Ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth (Y Bwrdd), nad ydynt yn fwy nag 11 mewn nifer, yn rheoli’r Cwmni Elusennol, ei eiddo a’i gronfeydd. Mae hawl gan y Bwrdd i gyfethol aelodau gyda gwybodaeth neu ddiddordeb arbennig mewn maes perthnasol. Gweithredir unrhyw strategaethau a fabwysiedir gan staff yr Ymddiriedolaeth. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn.
Mae asesiad risg llawn ar gyfer Iechyd a Diogelwch wedi ei gwblhau.
Amcanion a Gweithgareddau
Amcanion y Cwmni yw meithrin addysg yng Nghymru ac i hyrwyddo addysg ac astudiaeth y cyhoedd yn yr iaith Gymraeg, llenyddiaeth a diwylliant Cymraeg ac i weithredu hyn mewn canolfan neu ganolfannau addas (rhai preswyl neu ddibreswyl) yng Nghymru. Bu holl weithgareddau’r Cwmni yn ystod 2022 yn unol â’r amcanion hyn.
Adroddiad ar Weithgareddau’r Flwyddyn
Dyma’r flwyddyn gyntaf o weithgareddau llawn yn dilyn adferiad rhannol 2021, wedi cyfyngiadau Covid.
Llwyddodd yr Adran Addysg i barhau i ddarparu dulliau ychwanegol o ddysgu Cymraeg arlein, yn ogystal ag ystod lawn o gyrsiau preswyl ar y safle. Mae’r gallu i gynnig dewis eang o gyfleodd dysgu yn allweddol os am gynyddu i’r eithaf nifer y rhai sy’n dysgu’r iaith. Fe barhaodd yr arlwy i ddenu adborth ffafriol a chanmoliaeth gan y dysgwyr.
Bu’n flwyddyn hynod o brysur o ran ein gweithgareddau masnachol, sydd mor hanfodol er mwyn cynnal y safle a’r gweithgarwch. Gohiriwyd llawer o briodasau yn 2020 a 2021 yn sgil Covid ac o’r herwydd croesawyd mwy na’r nifer arferol ohonynt yn 2022 wrth i ddyddiadau gael eu hail-drefnu.
Golygodd hyn fod pwysau sylweddol ar ysgwyddau ein staff a hynny ar adeg pan oedd y diwydiant lletygarwch yn gyffredinol yn wynebu problemau staffio mawr. Gwnaed ymdrech arwrol i gynnal pob elfen o’r gwasanaeth ar y lefel uchaf.
Mae gwybodaeth am y Nant fel mangre hudolus i ymweld ag ef yn dal i gynyddu gan greu prysurdeb mawr yng Nghaffi Meinir ar ddyddiau braf. Mae nifer cyson o ymwelwyr bob wythnos yn mwynhau’r cyflwyniadau treftadaeth yn y Capel, y Tŷ Cyfnod a’r Feddygfa.
Gwnaed buddsoddiad sylweddol unwaith eto yn yr adnoddau ar y safle, gan adnewyddu dau o’r unedau llety i safon sylweddol uwch. Mae’n fwriad llunio rhaglen estynedig i sicrhau cynnal a chadw ac uwch-raddio’r holl unedau dros gyfnod o rai blynyddoedd.
Mae lleoliad, hanes a chyfleusterau Nant Gwrtheyrn yn adnodd amhrisiadwy i’r genedl. Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth am sicrhau fod posibiliadau’r Nant ar gyfer Dysgu, Ysbrydoli a Mwynhau yn cael eu gwireddu’n llawn ac mae’r gwaith o gynllunio’n strategol ar gyfer sicrhau cyflawni’r amcan yma eisoes wedi dechrau.
- 2 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR - parhad
Adolygiad Ariannol
Mae’r elusen wedi gwneud gwarged yn y flwyddyn hon o £91,088 (2021: gwarged - £381,159).
Polisi’r elusen ynglŷn â’r cronfeydd wrth gefn
Y mae’r Elusen wedi mabwysiadu polisi cronfa wrth gefn. Bydd y cwmni yn anelu i gadw mewn cronfa wrth gefn dau fis o gostau rhedeg cyfredol, gan geisio cynyddu'r gronfa i swm sydd yn gyfartal i bedwar mis o gostau rhedeg.
Datganiad Budd y Cyhoedd
Mae’r Bwrdd wedi ystyried adroddiad y Comisiwn Elusennau ynglŷn â Budd i’r Cyhoedd ac maent yn fodlon bod gweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn, fel y disgrifiwyd uchod, yn unol â'r prawf hwnnw.
Cyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr
Mae’r Ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr o’r cwmni at bwrpas cyfraith cwmni) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a’r adroddiadau ariannol yn unol â'r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifo'r Deyrnas Unedig (UKGAAP).
Mae cyfraith cwmni yn ei wneud yn ofynnol i Ymddiriedolwyr baratoi Adroddiadau Ariannol sydd yn rhoi golwg cywir a theg o sefyllfa ariannol y cwmni elusennol ac o’r adnoddau i mewn ac allan gan gynnwys incwm a gwariant o’r cwmni elusennol am y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi’r adroddiadau ariannol, mae yn rhaid i’r Ymddiriedolwyr:-
-
ddewis polisïau cyfrifo addas ac yna eu gweithredu yn gyson.
-
dilyn egwyddorion a gweithdrefnau sydd yn y SORP elusennau.
-
gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon sydd yn rhesymol ac yn ddarbodus.
-
datgan os yw Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig perthnasol wedi eu dilyn, yn amodol i unrhyw newid materol sydd wedi eu datguddio a’u hegluro yn yr Adroddiadau Ariannol, a
-
paratoi adroddiadau ariannol ar sail bod y busnes yn parhau oni bai nad yw yn addas i gymeryd y bydd y cwmni elusennol yn parhau mewn busnes.
-
3 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR - parhad
Cyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr - parhad
Mae’r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifo digonol sydd yn datgelu gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, sefyllfa ariannol y cwmni elusennol, ac i’w galluogi i sicrhau bod yr Adroddiadau Ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am sicrhau asedion y cwmni elusennol a thrwy hynny cymeryd camau rhesymol er mwyn atal a datgelu unrhyw dwyll neu anghysondeb arall.
Cyn belled a bod yr Ymddiriedolwyr yn ymwybodol:-
-
nid oes unrhyw wybodaeth archwilio nad yw archwilwyr y cwmni elusennol yn ymwybodol ohono, ac
-
y mae’r Ymddiriedolwyr wedi cymryd y camau sy’n ddyletswydd arnynt i sicrhau eu bod yn hysbys o unrhyw wybodaeth fyddai’n berthnasol i'r archwiliad, ac i sicrhau fod yr archwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth hynny.
Mae’r adroddiad hwn wedi ei arwyddo ar ran y Bwrdd ar gan:
................................................... Phyllis Ellis (Ysgrifennydd)
- 4 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL I AELODAU YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
Barn
Rydym wedi archwilio datganiadau ariannol Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2022 sy’n cynnwys Datganiad o Symudiadau Ariannol, Mantolen, a datganiad llif Arian a nodiadau ar y datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu pwysig. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd i'w paratoi yw'r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifyddu'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Safon Adrodd Ariannol 102: Y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig).
Yn ein barn ni, mae’r datganiadau ariannol:-
-
yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Elusen ar y 31 Rhagfyr 2022 ac o'r adnoddau a ddaeth i law a’r defnydd o adnoddau am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
-
wedi cael eu paratoi'n briodol yn unol â'r Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig;
-
wedi cael eu paratoi yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006.
Sail y farn
Rydym wedi cynnal ein harchwiliad yn unol â Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (y DU) (ISAs (y DU)) a’r gyfraith berthnasol. Caiff ein cyfrifoldebau dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach o dan adran cyfrifoldebau’r Archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol yn ein hadroddiad. Rydym yn annibynnol ar yr Elusen yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’n harchwiliad ar ddatganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol [a’r darpariaethau sydd ar gael i gyrff bach, o dan yr amgylchiadau sydd yn nodyn 2 ar y datganiadau ariannol], ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Rydym yn credu bod y dystiolaeth archwilio rydym wedi’i chael yn ddigonol ac yn briodol er mwyn rhoi sail ar gyfer ein barn.
Casgliadau’n ymwneud â busnes byw
Nid oes gennym ddim i adrodd yn ei gylch yng nghyswllt y materion canlynol lle mae ISAs (y DU) yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi gwybod i chi:-
-
os nad yw defnydd yr ymddiriedolwyr o sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol; neu
-
os nad yw’r ymddiriedolwyr wedi datgelu yn y datganiadau ariannol unrhyw ansicrwydd o bwys a ganfuwyd a allai fwrw amheuaeth sylweddol dros allu’r Elusen i barhau i fabwysiadu’r sail cyfrifyddu busnes byw am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r dyddiad pryd yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.
Gwybodaeth arall
Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad blynyddol, ac eithrio’r datganiadau ariannol a’n hadroddiad ni fel archwilydd arnynt. Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall ac nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny, ac eithrio i’r graddau y gwnaed hynny’n benodol fel arall yn ein hadroddiad.
Yng nghyswllt ein harchwiliad o’r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen yr wybodaeth arall a, drwy wneud hynny, ystyried a oes anghysondeb o bwys rhwng yr wybodaeth arall a’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth rydym ni wedi’i chael yn yr archwiliad, neu a yw’n ymddangos bod camddatganiad o bwys yn yr wybodaeth arall. Os byddwn yn canfod anghysonderau o bwys neu gamddatganiadau o bwys tybiedig, mae’n ofynnol i ni bennu a oes camddatganiad o bwys yn y datganiadau ariannol neu gamddatganiad o bwys o’r wybodaeth arall. Ar sail y gwaith rydym wedi’i wneud, os byddwn yn dod i’r casgliad bod camddatganiad o bwys o’r wybodaeth arall hon, mae’n rhaid i ni adrodd ar y ffaith honno.
Nid oes gennym ddim i’w adrodd i’r perwyl hwn.
- 5 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL I AELODAU YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
Barn ar faterion eraill a bennir gan Ddeddf Cwmnïau 2006
Yn ein barn ni, ar sail y gwaith a wnaed wrth gynnal yr archwiliad:-
-
mae’r wybodaeth yn adroddiad yr ymddiriedolwyr (sy’n cynnwys yr adroddiad strategol ac adroddiad y cyfarwyddwyr) ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r datganiadau ariannol wedi cael eu paratoi ar ei chyfer, yn gydnaws â’r datganiadau ariannol; ac
-
mae adroddiad yr ymddiriedolwyr (sy’n cynnwys yr adroddiad strategol ac adroddiad y cyfarwyddwyr) wedi cael eu paratoi yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Materion y mae’n ofynnol i ni adrodd arnynt drwy eithriad
Yng ngoleuni gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Elusen a'i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, dydyn ni ddim wedi dod o hyd i unrhyw gamddatganiadau sylweddol yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr [gan gynnwys yr Adroddiad Strategol].
Nid oes gennym ddim i’w adrodd yng nghyswllt y materion canlynol lle mae’n ofynnol inni o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 roi adroddiad ichi os, yn ein barn ni:-
-
nad oes cofnodion cyfrifyddu priodol wedi cael eu cadw, neu nad oes ffurflenni perthnasol i’n harchwiliad wedi cael eu cyflwyno gan ganghennau nad ydym wedi ymweld â nhw;
-
nad yw’r datganiadau ariannol yn cytuno â’r ffurflenni a’r cofnodion cyfrifyddu;
-
nad yw rhai o daliadau’r ymddiriedolwyr, a nodir yn y gyfraith, wedi cael eu datgelu; neu
-
nad ydym wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau sy’n angenrheidiol ar gyfer ein harchwiliad.
Cyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr
Fel yr esboniwyd yn fwy manwl yn y datganiad o gyfrifoldebau ymddiriedolwyr [a nodwyd ar dudalen 3], mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg, ac am y rheolaeth fewnol sy’n angenrheidiol yn eu barn hwy er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sydd ddim yn cynnwys camddatganiadau o bwys, boed o ganlyniad i dwyll neu gamgymeriad.
Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r Elusen i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel bo’n berthnasol, faterion sy’n gysylltiedig â busnes byw a defnyddio sail cyfrifyddu busnes byw oni fo’r ymddiriedolwyr un ai’n bwriadu diddymu’r Elusen neu roi'r gorau i weithredu, neu nad oes ganddynt unrhyw opsiwn realistig arall heblaw am hynny.
Ein cyfrifoldebau dros archwilio’r datganiadau ariannol
Ein hamcanion ni yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed y rheini wedi’u gwneud drwy dwyll neu gamgymeriad, a rhoi ein barn ni ar ffurf adroddiad yr archwilydd. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (y DU) bob amser yn dod o hyd i gamddatganiad o bwys pan fydd yn bodoli. Mae camddatganiadau’n gallu codi drwy dwyll neu gamgymeriad ac maent yn cael eu hystyried yn rhai o bwys os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y byddai’n rhesymol disgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Mae disgrifiad pellach o’n cyfrifoldebau dros archwilio’r datganiadau ariannol i’w ganfod ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn: [www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities]. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o’n hadroddiad fel archwilydd.
- 6 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL I AELODAU YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
Defnyddio ein hadroddiad
Caiff yr adroddiad hwn ei wneud ar gyfer aelodau’r Elusen yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3, Rhan 16 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Cyflawnwyd ein gwaith archwilio er mwyn i ni allu datgan wrth aelodau’r Elusen y materion hynny y mae’n ofynnol i ni eu datgan wrthynt mewn adroddiad archwilydd, ac i ddim pwrpas arall. I'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn ysgwyddo cyfrifoldeb i neb, ac eithrio i aelodau’r Elusen fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y farn a luniwyd gennym.
Rhys Harris Prif Archwiliwr Statudol Dros ac ar ran Owain Bebb a’i Gwmni Cyfrifwyr Siartredig ac Archwilwyr Statudol 32 Y Maes, Caernarfon.
- 7 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
DATGANIAD O SYMUDIADAU ARIANNOL (INCWM A GWARIANT) A DATGANIAD O HOLL ENILLION/COLLEDION
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
| Nodyn | Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|---|
| Anghyfyngedig Cyfyngedig | 2022 | 2021 | |||
| £ | £ | £ | £ | ||
| Incwm a Gwaddolion | |||||
| Rhoddion a Chymunroddion | 5 | 3,644 | - | 3,644 | 28,500 |
| Gweithgareddau Elusennol | 6 | 620,809 | - | 620,809 | 887,580 |
| Incwm Buddsoddiadol | 7 | - | - | - | - |
| Gweithgareddau Masnachol | 905,044 | - | 905,044 | 733,199 | |
| ------------ | ------------ | ------------ | ------------ | ||
| Cyfanswm Incwm | 1,529,497 | - | 1,529,497 | 1,649,279 | |
| ------------ | ------------ | ------------ | ------------ | ||
| Gwariant | |||||
| Gwariant ar weithgareddau elusennol | 8,9 | 1,438,409 | - | 143,809 | 1,268,120 |
| ------------ | ------------ | ------------ | ------------ | ||
| Cyfanswm y gwariant | 1,438,409 | - | 1,438,409 | 1,268,120 | |
| ------------ | ------------- | ------------ | ------------ | ||
| Incwm Net | 9,1088 | - | 9,1088 | 38,1159 | |
| ------------ | ------------- | ------------ | ------------ | ||
| Trosglwyddiad rhwng cronfeydd | - | - | - | - | |
| ------------ | ------------ | ------------ | ------------- | ||
| Symudiadau Net yn y Cronfeydd | 91,088 | - | 91,088 | 38,1159 | |
| Cymodlannedd y Cronfeydd | |||||
| Cyfanswm y Cronfeydd d/y | 3,722,578 | 228,087 | 3,950,665 | 3,569,506 | |
| ------------ | ------------ | ------------ | ------------- | ||
| Cyfanswm y Cronfeydd c/y | 3,813,666 | 228,087 | 4,041,753 | 3,950,665 | |
| ======= | ======= | ======= | ======= |
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys holl enillion a cholledion cydnabyddedig y flwyddyn.
Mae’r cyfan o’r incwm a’r gwariant yn deillio o weithgareddau sy’n parhau.
- 8 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
MANTOLEN
AR 31 RHAGFYR, 2022
| Nodyn | Nodyn | 2022 | 2021 |
|---|---|---|---|
| £ | £ | ||
| ASEDAU SEFYDLOG | |||
| Asedau Gweladwy | 17 | 3,249,732 | 3,365,631 |
| Tir ac adeilad buddsoddiadol | 18 | 229,730 | 229,730 |
| ------------- | ------------ | ||
| 3,479,462 | 3,595,361 | ||
| ------------- | ------------ | ||
| ASEDAU CYFREDOL | |||
| Stoc | 19 | 16,457 | 14,452 |
| Dyledwyr | 20 | 42,498 | 10,990 |
| Arian yn y banc ac mewn llaw | 1,044,185 | 891,987 | |
| ------------ | ----------- | ||
| 1,103,140 | 917,429 | ||
| CREDYDWYR- symiau'n daladwy o | |||
| fewn blwyddyn | 21 | (337,928) | (292,884) |
| ------------ | ----------- | ||
| (CREDYDWYR)/ASEDAU CYFREDOL NET | 765,212 | 624,545 | |
| ------------ | ------------ | ||
| CYFANSWM ASEDAU LLAI CREDYDWYR CYFREDOL | 4,244,674 | 4,219,906 | |
| CREDYDWYR- symiau’n daladwy ar ôl blwyddyn | 22 | (202,921) | (269,241) |
| ------------ | ------------ | ||
| ASEDAU NET | 4,041,753 | 3,950,665 | |
| ======= | ======= | ||
| CRONFEYDD | |||
| Cronfeydd Anghyfyngedig | 3,813,666 | 3,722,578 | |
| Cronfeydd Cyfyngedig | 228,087 | 228,087 | |
| ------------ | ------------ | ||
| 25 | 4,041,753 | 3,950,665 | |
| ======= | ======= |
Mae’r cyfrifon wedi eu mabwysiadu gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac wedi eu harwyddo ar ran y Bwrdd ar gan:
......................................................... Huw Jones (Cadeirydd)
Mae'r nodiadau ar dudalennau 11 i 21 yn ffurfio rhan gyflawn o'r cyfrifon hyn.
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
DATGANIAD LLIF ARIAN
| AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU’R | 31 RHAGFYR, 2022 | |
|---|---|---|
| 2022 | 2021 | |
| £ | £ | |
| Llif arian o weithgareddau gweithredol | ||
| Incwm net | 91,088 | 38,1159 |
| Addasiad ar gyfer: | ||
| Dibrisio asedau dirweddol | 137,545 | 135,337 |
| Llôg a dalwyd a chostau tebyg | 13,488 | 7,445 |
| Newidiadau mewn: | ||
| Stoc | (2,005) | (828) |
| Dyledwyr masnachol a dyledwyr eraill | (31,508) | 79,206 |
| Credydwyr masnachol a chredydwyr eraill | 53,798 | (156,265) |
| ---------- | ---------- | |
| Arian a gynhyrchwyd o weithgareddau | 262,406 | 446,054 |
| Llôg a dalwyd | (13,488) | (7,445) |
| ---------- | ---------- | |
| Arian net o weithgareddau gweithredol | 248,918 | 438,609 |
| ====== | ====== | |
| Llif arian o weithgareddau buddsoddi | ||
| Pryniant asedau sefydlog | (21,646) | (117,645) |
| ---------- | ------------ | |
| Defnydd net arian ar weithgareddau buddsoddiadol | (21,646) | (117,645) |
| ====== | ======= | |
| Llif arian o weithgareddau cyllidol | ||
| Taliadau ar fenthyciadau | (75,074) | (277,828) |
| ---------- | ---------- | |
| Arian net/(defnyddiwyd) o weithgareddau cyllidol | (75,074) | (277,828) |
| ====== | ====== | |
| Cynnydd net mewn arian a’r hyn sy’n cyfateb i arian | 152,198 | 43,136 |
| Arian a’r hyn sy’n cyfateb i arian ar ddechrau’r flwyddyn | 891,987 | 848,851 |
| ---------- | ---------- | |
| Arian a’r hyn sy’n cyfateb i arian ar ddiwedd y flwyddyn | 1,044,185 | 891,987 |
| ====== | ====== |
Mae'r nodiadau ar dudalennau 11 i 21 yn ffurfio rhan gyflawn o'r cyfrifon hyn.
- 10 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
1. Gwybodaeth Cyffredinol
Mae’r elusen yn gwmni preifat yn gyfyngedig trwy warant ac yn elusen a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Cyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw Canolfan Nant Gwrtheyrn, Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6NL.
2. Datganiad o Gydymffurfiad
Mae’r Datganiadau Ariannol yma wedi eu paratoi yn unol ag FRS 102, ‘The Financial Reporting Standard applicable in the UK and the Republic of Ireland’, a’r ‘Statement of Recommended Practice’ sy’n berthnasol i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol ag FRS 102 yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (SORP Elusennau (FRS 102)) a Deddf Elusennau 2011.
3. Polisïau Cyfrifo
Sail Paratoi
Mae’r datganiadau ariannol wedi eu paratoi o dan y confensiwn cost hanesyddol wedi eu haddasu gan ail brisiad mewn rhai asedau, rhwymedigaethau ac eiddo buddsoddiadol, wedi eu mesur yn ôl gwerth teg trwy’r Cyfrif Incwm a Gwariant.
Busnes Hyfyw
Nid oes unrhyw ansicrwydd ynglŷn â gallu’r elusen i barhau mewn busnes.
Dyfarniadau a phrif ansicrwydd parthed amcangyfrifon
Wrth baratoi’r Adroddiadau Ariannol mae’n rhaid i’r rheolwyr wneud dyfarniadau, amcangyfrifon a phenderfyniadau sy’n effeithio ar y ffigyrau a adroddwyd. Mae’r amcangyfrifon a’r dyfarniadau yma yn cael eu hadolygu yn gyson ac maent wedi eu seilio ar brofiad a ffactorau eraill gan gynnwys disgwyliadau o ddigwyddiadau yn y dyfodol y credir eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
Cyfrifo ar gyfer y cronfeydd
Mae’r cronfeydd anghyfyngedig ar gael i’w defnyddio ar ddisgresiwn yr Ymddiriedolwyr er mwyn hybu nôd elusennol y cwmni.
Mae cronfeydd penodedig yn gronfeydd anghyfyngedig sydd wedi eu clustnodi gan yr Ymddiriedolwyr ar gyfer pwrpas penodol yn y dyfodol.
Mae cronfeydd cyfyngedig wedi eu cyfyngu yn ôl eu defnydd gan ddymuniad y sawl a wnaeth y rhodd ac maent yn disgyn i fewn i un o ddau ddosbarth, sef cronfeydd cyfyngedig neu cronfeydd cymunroddion.
- 11 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
- Polisïau Cyfrifo - parhad
Cronfeydd i fewn
Mae cronfeydd i fewn yn cael eu cynnwys yn y Datganiad o Symudiad Ariannol pan mae’r hawl i’r incwm wedi ei basio i’r elusen. Mae’r polisïau penodol canlynol yn cael eu dilyn:-
-
mae incwm o rhoddion a grantiau yn cael ei gydnabod pan mae yna dystiolaeth o’r rhodd ac mae posib ei fesur mewn modd dibynadwy.
-
mae incwm o gymunroddion yn cael ei gydnabod pan mae’n debygol bod yr hawl i’w dderbyn wedi ei gytuno.
-
mae incwm o nwyddau a roddwyd yn cael ei fesur yn ôl gwerth teg y nwyddau hynny heblaw ei fod yn anymarferol i’w fesur yn y modd yma, ac yn y sefyllfa yma mae’r gwerth a roddir arnynt yn deillio o’r cost i’r rhoddwr neu amcangyfrif o’i gwerth o’u gwerthu. Mae cyfleusterau a rhoddwyd a gwasanaethau yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon os oes posib eu mesur mewn modd dibynnol. Nid oes unrhyw werth yn cael ei rhoi ar lafur gwirfoddolwyr.
-
mae incwm o gytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau yn cael ei gydnabod wrth i’r cytundeb cael ei wireddu. Mae hwn yn cael ei drin fel cronfeydd anghyfyngedig heblaw bod yna amod bod yn rhaid i’r incwm cael ei ddefnyddio at bwrpas penodol, ac yn y sefyllfa yma mae’n cael ei drin fel cronfa cyfyngedig.
Adnoddau a wariwyd
Mae gwariant yn cael ei gydnabod fel mae’r cost yn cronni. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw Treth ar Werth nad oes posib ei hawlio yn ôl yn gyfan gwbl ac mae’n cael ei ddosbarthu o dan y pennawd y mae’r gweithgaredd yn perthyn iddo:-
-
mae gwariant ar godi arian yn cynnwys y gweithgareddau codi arian, digwyddiadau, gweithgareddau masnachu an-elusennol a gwerthiant o nwyddau a dderbyniwyd.
-
mae gwariant ar weithgareddau elusennol yn cynnwys y cyfan o gostau’r elusen o gwrdd â nôd yr elusen, ac mae rhain yn cynnwys costau cefnogol a llywodraethol yr elusen sydd wedi eu dosrannau i’r gweithgareddau elusennol.
-
mae gwariant arall yn cynnwys gwariant nad yw’n berthnasol i godi arian nac i weithgareddau elusennol.
Mae costau yn cael eu dosrannu i gategorïau sy’n adlewyrchu defnydd yr adnodd. Mae costau uniongyrchol ar gyfer gweithgaredd unigol yn cael ei dosrannu’n uniongyrchol i’r gweithgaredd hwnnw. Mae costau sydd yn gyffredin i fwy nac un gweithgaredd yn cael ei dosrannu ar sail rhesymol a chyson.
Lesau gweithredol
Mae taliadau lês yn cael eu cydnabod fel cost dros gyfnod y lês ar sail llinell syth.
- 12 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
3. Polisïau Cyfrifo - parhad
Asedau Sefydlog
Mae asedau sefydlog yn cael eu cofnodi yn wreiddiol yn ôl eu cost, ac yna maent yn cael eu nodi yn ôl eu cost llai dibrisio a cholledion amhariad. Mae unrhyw asedau sefydlog sydd wedi eu hail brisio yn cael eu cofnodi yn ôl eu gwerth teg ar ddyddiad yr ail brisiad, llai dibrisio ac unrhyw colledion amhariad.
Dibrisio
Mae dibrisio yn cael ei ddarparu er mwyn ysgrifennu i ffwrdd cost neu gwerth ased llai ei werth gwaddodol dros ei oes economaidd fel a ganlyn:-
Safle’r Nant - 1% - 10% llinell syth Offer - 5% - 20% llinell syth
Buddsoddiadau
Mae buddsoddiadau ecwiti sydd heb eu rhestru yn cael eu cofnodi yn ôl eu cost gwreiddiol ac yna maent yn cael eu cofnodi yn ôl eu gwerth teg. Os nad oes posib mesur gwerth teg yna maent yn cael eu cofnodi yn ôl eu cost llai amhariad.
Mae buddsoddiadau sydd wedi eu rhestru yn cael eu mesur yn ôl eu gwerth teg gyda’r newidiad yn y gwerth teg yn cael ei gofnodi fel incwm neu gwariant.
Eiddo Buddsoddiadol
Mae eiddo buddsoddiadol yn cael ei gofnodi yn wreiddiol yn ôl ei gost sydd yn cynnwys cost prynnu ac unrhyw gostau uniongyrchol.
Mae eiddo buddsoddiadol yn cael ei ail brisio i’w gwerth teg ar pob diwedd flwyddyn ac mae unrhyw symudiad yn y gwerth teg yn cael ei gydnabod fel incwm neu gwariant.
Stoc
Mae stoc yn cael ei fesur yn ôl cost neu ei werth o’i werthu pa’r un bynnag yw’r isaf.
4. Cyfyngedig trwy Warant
Mae Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn elusen cofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant sy’n cael ei reoli gan y Memorandwm a’r Erthyglau o Gymdeithasiad.
- 13 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
5. Rhoddion a chymunrhoddion
| 2022 | Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | ||
|---|---|---|---|---|---|
| **Anghyfyngedig ** | Cyfyngedig | 2022 | |||
| £ | £ | £ | |||
| Rhoddion | |||||
| Aelodaeth Ffrindiau’r Nant | 2,000 | - | 2,000 | ||
| Rhoddion a chymunrhoddion | 1,644 | - | 1,644 | ||
| ---------- | ---------- | ---------- | |||
| 3,644 | - | 3,644 | |||
| ====== | ====== | ====== | |||
| 2021 | Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | ||
| **Anghyfyngedig ** | Cyfyngedig | 2021 | |||
| £ | £ | £ | |||
| Rhoddion | |||||
| Aelodaeth Ffrindiau’r Nant | 1,300 | - | 1,300 | ||
| Rhoddion a chymunrhoddion | 27,200 | - | 27,200 | ||
| ---------- | ---------- | ---------- | |||
| 28,500 | - | 28,500 | |||
| ====== | ====== | ====== | |||
| 6. | Gweithgareddau Elusennol | ||||
| 2022 | 2021 | ||||
| £ | £ | ||||
| Grant Cadernid Economaidd | - | 212,758 | |||
| Grant Canolfan Dysgu Cymraeg | Cenedlaethol | 540,000 | 614,664 | ||
| Gweithgareddau elusennol | 80,809 | 60,158 | |||
| ----------- | ------------ | ||||
| 620,809 | 887,580 | ||||
| ====== | ======= | ||||
| 7. | Incwm Buddsoddiadol | ||||
| Cronfeydd | Cyfanswm | Cronfeydd | Cyfanswm | ||
| Anghyfyngedig | 2022 Anghyfyngedig |
2021 | |||
| £ | £ | £ | £ | ||
| Llôg banc a dderbyniwyd | - | - | - | - | |
| == | == | == | == |
- 14 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
8. Gwariant ar weithgareddau elusennol
| Elusennol | Masnachol | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd Cronfeydd | ||||
| Anghyfyngedig | ||||
| Anghyfyngedig | ||||
| 2022 | 2021 | |||
| £ | £ | £ | £ | |
| Gwariant uniongyrchol | 657,152 | 742,368 | 1,399,520 | 1,239,741 |
| Costau cefnogol | 19,600 | 19,289 | 38,889 | 28,379 |
| ------------ | ----------- | ------------ | ------------ | |
| 676,752 | 761,657 | 1,438,409 | 1,268,120 | |
| ======= | ====== | ======= | ======= |
9. Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math y gweithgaredd
| Gweithgareddau | Costau | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Uniongyrchol | Cefnogol | 2022 | 2021 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Gweithgareddau elusennol | 1,399,520 19,003 |
1,418,523 1,260,979 |
||
| Costau llywodraethol | - | 19,886 | 19,886 | 7,141 |
| ------------ | ---------- | ------------ | ------------ | |
| 1,399,520 38,889 |
1,438,409 1,268,120 |
|||
| ======= | ====== | ======= | ======= |
10. Dadansoddiad o Gostau Cefnogol
Costau Llywodraethol:
| 2022 | 2021 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Cyfrifo a gwasanaethau cyfrifyddol ac archwilio | 5,000 | 4,075 |
| Costau proffesiynol eraill | 14,886 | 3,066 |
| --------- | --------- | |
| 19,886 | 7,141 | |
| ===== | ===== | |
| Incwm Net | ||
| Mae incwm net wedi ei ddatgan ar ôl y canlynol:- | ||
| 2022 | 2021 | |
| £ | £ | |
| Dibrisio eiddo sefydlog | 137,545 | 135,337 |
| Costau lesi gweithredol | 19,003 | 21,238 |
11. Incwm Net
====== =====
- 15 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
12. Tâl yr Archwilwyr
| 2022 | 2021 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Ffi am archwilio’r adroddiadau ariannol | 5,000 | 4,075 |
| ===== | ===== |
13. Costau Staff
Mae costau staff fel a ganlyn:-
| 2022 | 2021 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Cyflogau | 637,049 | 602,067 |
| Costau Yswiriant Gwladol | 44,773 | 40,056 |
| Cyfraniadau’r cyflogwr i gynllun pensiwn | 17,981 | 18,651 |
| ---------- | ---------- | |
| 699,803 | 660,774 | |
| ====== | ====== |
Ar gyfartaledd fe gyflogwyd 27 person yn ystod y flwyddyn (2021: 34).
Ni dderbyniodd unrhyw staff mwy na £60,000 fel cyflog yn ystod y flwyddyn (2021: dim).
14. Costau a thâl yr Ymddiriedolwyr
Ni thalwyd unrhyw gyflog na buddion i unrhyw un o’r Ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu’r 31.12.22 na 31.12.21.
Ni hawliodd dim o’r Ymddiriedolwyr unrhyw gostau teithio yn ystod y flwyddyn yn diweddu’r 31.12.22 na 31.12.21.
15. Asedau Rhodd
Yn ystod 2007 trosglwyddwyd tir Porth y Nant, Pistyll i’r cwmni fel rhodd gan Hanson Quarry Products Europe Ltd. Yn ôl y Bwrdd, a’r ddogfen a gofrestrwyd, nid oes gwerth i’r tir hwn.
Yn ystod 2007 derbyniodd y cwmni rhodd gan Ms Heulwen Richards o’r canlynol:-
Yr Ogof, Ravenspoint, Bae Trearddur, Ynys Môn, sef cartref Ms Richards. Mae ganddi les ar yr eiddo am weddill ei hoes. Gwerth yr eiddo yw £228,087. Mae’r eiddo hwn yn ffurfio rhan o’r cronfeydd cyfyngedig.
Siâr 75% mewn darn o dir a elwir yn Cae Capel, Caergybi. Gwerth y tir oedd £269,171. Fe werthwyd y darn tir yma yn ystod 2020 am swm o £184,700 ar ôl costau cyfreithiol, a talu siâr heulwen Richards iddi.
Siâr 49% mewn 6 cae yn ardal Caergybi a adnabyddir fel Tir Môn. Oherwydd mai ond 49% sydd yn berchen i’r cwmni, mae’r gwerth a roddir iddo yn y cyfrifon yn isel, sef £1,972. Fe werthwyd y caeau yma, ac fe dderbyniodd y cwmni swm o £160,707 am ei siâr 49%.
Fe briswyd y cyfan o’r darnau tir ac adeiladau gan Dafydd Hardy MRICS ym mis Mai 2009.
- 16 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
16. Ymrwymiadau Amodol - Grantiau
Hyd at y 31 Rhagfyr, 2022 mae’r Nant wedi derbyn grantiau cyfalaf gan nifer o arianwyr i ddatblygu’r Capel a Chanolfan Ddehongli, Ffordd i’r Nant a Safle’r Nant. Mae cyfanswm y grantiau yma wedi eu nodi isod, ac efallai y bydd yn rhaid i’r Nant ad-dalu’r grant yn ôl mewn cyfnod penodol os yw’r cwmni yn newid yr amodau yn y cytundeb.
| 2022 | 2021 | 2021 | ||
|---|---|---|---|---|
| £ | £ | |||
| WEFO - cam 2 | 600,000 | 60,0000 | ||
| Loteri | 523,846 | 523,846 | ||
| ====== | ====== | |||
| 17.Asedau Sefydlog | ||||
| Safle’r | Offer | Cyfanswm | ||
| Nant | ||||
| £ | £ | £ | ||
| Cost | ||||
| Ar 1 Ionawr 2022 | 7,591,536 | 273,002 | 7,864,538 | |
| Ychwanegiadau | - | 21,646 | 21,646 | |
| ------------ | ---------- | ------------ | ||
| Ar 31 Rhagfyr 2022 | 7,591,536 | 294,648 | 7,886,184 | |
| ======= | ====== | ======= | ||
| Dibrisio | ||||
| Ar 1 Ionawr 2022 | 4,390,414 | 108,493 | 4,498,907 | |
| Am y flwyddyn | 110,630 | 26,915 | 137,545 | |
| ------------ | ---------- | ------------ | ||
| Ar 31 Rhagfyr 2022 | 4,501,044 | 135,408 | 4,636,452 | |
| ======= | ====== | ======= | ||
| Gwerth yn y Llyfrau | ||||
| Ar 31 Rhagfyr 2022 | 3,090,492 | 159,240 | 3,249,732 | |
| ======= | ====== | ======= | ||
| Ar 31 Rhagfyr 2021 | 3,200,125 | 165,506 | 3,365,631 | |
| ======= | ====== | ======= |
Mae Safle’r Nant wedi ei brisio ar y farchnad agored gan Christies yn Hydref 2019 fel £3.3m. Mae’r Bwrdd o’r farn bod gwerth y safle ar 31 Rhagfyr, 2022 yn adlewyrchiad teg, ac felly mae’r Bwrdd yn cytuno nid oes angen cost amhariad yn ystod y flwyddyn.
- 17 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
| 18.Buddsoddiadau | ||
|---|---|---|
| Eiddo Buddsoddiadol | 2022 | 2021 |
| £ | £ | |
| Cost | ||
| Ar 1 Ionawr 2022 | 229,730 | 499,230 |
| ---------- | ---------- | |
| Ar y 31 Rhagfyr 2022 | 229,730 | 229,730 |
| ====== | ====== | |
| Gwerth yn y llyfrau | ||
| Ar 1 Ionawr 2022 | 229,730 | 229,730 |
| ====== | ====== | |
| Ar 1 Ionawr 2021 | 229,730 | 229,730 |
| ====== | ====== | |
| Mae’r cyfan o’r buddsoddiadau a ddangosir uchod yn cael eu dangos yn ôl eu gwerth. | ||
| 19.Stoc | ||
| 2022 | 2021 | |
| £ | £ | |
| Stoc | 16,457 | 14,452 |
| ===== | ===== | |
| 20.Dyledwyr | ||
| 2022 | 2021 | |
| £ | £ | |
| Dyledwyr masnachol | 32,213 | 5,178 |
| Taliadau ymlaen llaw ac incwm wedi cronni | 10,285 | 5,812 |
| ---------- | ---------- | |
| 42,498 | 10,990 | |
| ====== | ====== |
- 18 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
21. Credydwyr: symiau’n daladwy o fewn blwyddyn
| 2022 | 2021 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Benthyciadau banc a gorddrafft | 78,084 | 86,838 |
| Incwm ymlaen llaw | 95,062 | 74,333 |
| Credydwyr masnachol | 65,444 | 77,872 |
| Costau wedi cronni ac incwm a ohiriwyd | 88,098 | 44,967 |
| Treth ac Yswiriant Gwladol | 11,240 | 8,874 |
| ---------- | ---------- | |
| 337,928 | 292,884 | |
| ====== | ====== | |
| Credydwyr: symiau’n ddyledus ymhen mwy na blwyddyn | ||
| 2022 | 2021 | |
| £ | £ | |
| Cyfeillion y Nant | 13,858 | 13,858 |
| Benthyciadau banc | 189,063 | 255,383 |
| ---------- ----- |
||
| 202,921 | 269,241 | |
| ====== | ====== | |
| 2022 | 2021 | |
| £ | £ | |
| Benthyciad banc yn daladwy ymhen mwy na 5 mlynedd | 68,413 | 85,909 |
| ====== | ====== |
22. Credydwyr: symiau’n ddyledus ymhen mwy na blwyddyn
Mae’r benthyciadau wedi eu sicrhau ar dir ac adeiladau’r elusen.
23. Incwm a Ohiriwyd
Mae incwm gohiriedig yn cynnwys blaendaliadau wedi eu derbyn yn ystod y flwyddyn am gyrsiau a digwyddiadau sydd yn digwydd mewn blynyddoedd i ddod. Cyfanswm yr incwm gohiriedig ar y 31.12.22 oedd £95,062 ac ar y 31.12.21 yn £74,333.
24. Pensiynau
Cynllun lle mae cyfraniadau wedi eu diffinio
Y swm a gynhwyswyd yn y Cyfrif Incwm a Gwariant ar gyfer cynllun pensiwn lle mae’r cyfraniadau wedi eu diffinio oedd £17,981 (2021: £18,651)
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
25. Cronfeydd
Cronfeydd Anghyfyngedig
| Ar | Incwm | Incwm | Gwariant Trosglwyddiadau | Gwariant Trosglwyddiadau | Gwariant Trosglwyddiadau | Gwariant Trosglwyddiadau | Gwariant Trosglwyddiadau | Ar | |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 1 Ionawr | 31 Rhagfyr | ||||||||
| 2022 | 2022 | ||||||||
| £ | £ | £ | £ | £ | |||||
| Cronfa Gyffredin | 127,217 | 1,529,497 | (1,300,864) | (21,646) | 334,204 | ||||
| Cronfa Asedau Sefydlog | 3,365,631 | - | (137,545) | 21,646 | 3,249,732 | ||||
| Cronfa Asedau Buddsoddiad | 229,730 | - | - | - | 229,730 | ||||
| ------------ | ------------ | ------------ | ---------- | ------------ | |||||
| 3,722,578 | 1,529,497 | (1,438,409) | - | 3,813,666 | |||||
| ======= | ======= | ======= | ====== | ======= | |||||
| Mae’r Gronfa Asedau Buddsoddiadol yn | cynnwys rhodd o eiddo a dderbyniwyd | gan | berson sy’n | ||||||
| dymuno aros yn anhysbys. | |||||||||
| Cronfeydd Cyfyngedig | |||||||||
| Ar | Incwm | Gwariant Trosglwyddiadau | Ar | ||||||
| 1 Ionawr | 31 Rhagfyr | ||||||||
| 2022 | 2022 | ||||||||
| £ | £ | £ | £ | £ | |||||
| Cronfa rhodd anhysbus | 228,087 | - | - | - | 228,087 | ||||
| ---------- | ---------- | ---------- | ---------- | ---------- | |||||
| 228,087 | - | - | - | 228,087 | |||||
| ====== | ====== | ====== | ====== | ====== |
Mae’r Gronfa Asedau Buddsoddiadol yn cynnwys rhodd o eiddo a dderbyniwyd gan berson sy’n dymuno aros yn anhysbys.
Cronfeydd Cyfyngedig
26. Dadansoddiad o’r Cronfeydd rhwng yr Asedau Net
| Cronfeydd Cronfeydd |
Cyfanswm | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Anghyfyngedig Cyfyngedig | 2022 | 2021 | ||
| £ £ |
£ | £ | ||
| Asedau Sefydlog | 3,251,375 228,087 |
3,479,462 | 3,595,361 | |
| Asedau Cyfredol | 1,103,230 - |
1,103,140 | 917,429 | |
| Credydwyr llai na blwyddyn | (337,928) - |
(337,928) | (292,884) | |
| Credydwyr mwy na blwyddyn | (202,921) - |
(202,921) | (269,241) | |
| ------------ ---------- |
------------ | ------------ | ||
| 3,813,756 228,087 |
4,041,753 | 3,950,665 | ||
| ======= ====== |
======= | ======= |
- 20 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
27. Gwariant Cyfalaf
Gwariant cyfalaf wedi ei gytundebu ond heb ei gynnwys yn y cyfrifon.
| 2022 | 2021 | |||
|---|---|---|---|---|
| £ | £ | |||
| Datblygiad rhan | 2 | o’r safle | - | - |
| ====== | ====== |
28. Ymrwymiadau Lesiau Gweithredol
Cyfanswm y taliadau sy’n berthnasol i lesau nad oes posib eu canslo oedd:-
| 2022 | 2021 | |||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| £ | £ | |||||
| Yn dod i ben rhwng | 1 | a | 5 | mlynedd | 18,021 | 17,542 |
| --------- | --------- | |||||
| 18,021 | 17,542 | |||||
| ===== | ===== |
29. Trafodion gyda Phartïon Perthynol
Mae’r Elusen yn cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolwyr sydd wedi eu henwi ar gychwyn yr adroddiad yma. Ni thalwyd unrhyw gostau teithio i’r Ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn hon na’r flwyddyn cynt.
Ar ddiwedd y flwyddyn roedd y swm canlynol yn daladwy i Ymddiriedolwyr (nid yw llôg yn daladwy ar y benthyciad):-
| daladwy ar y benthyciad):- | ||
|---|---|---|
| 2022 | 2021 | |
| £ | £ | |
| P. Ellis | 2,000 | 2,000 |
| ===== | ===== |
- 21 -
YMDDIRIEDOLAETH NANT GWRTHEYRN
DATGANIAD MANWL O WEITHGAREDDAU ARIANNOL
AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR, 2022
| 2022 | 2021 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Incwm a gwaddolion | ||
| Rhoddion a chymunroddion | ||
| Ffrindiau’r Nant | 2,000 | 1,300 |
| Rhoddion a chymunroddion | 1,644 | 27,200 |
| ---------- | ---------- | |
| 3,644 | 28,500 | |
| ---------- | ---------- | |
| Grantiau Llywodraeth Cymru | 52,974 | 43,190 |
| Grantiau Covid | 4,000 | 102,239 |
| Gweithgareddau masnachol | 848,070 | 587,770 |
| ---------- | ---------- | |
| 905,044 | 733,199 | |
| ---------- | ---------- | |
| Gweithgareddau Elusennol | ||
| Cyrsiau, bwyd a llety | 80,809 | 60,158 |
| Grantiau eraill | - | 212,758 |
| Grant Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol | 540,000 | 614,664 |
| ------------ | ----------- | |
| 620,809 | 887,580 | |
| ------------ | ----------- | |
| Incwm Buddsoddiadol | ||
| Llôg banc a dderbyniwyd | - | - |
| ------------ | ------------ | |
| Cyfanswm incwm | 1,529,497 | 1,649,279 |
| ======= | ======= | |
| Gwariant | ||
| Gwariant ar weithgareddau elusennol | ||
| Gweithgareddau uniongyrchol | ||
| Cyrsiau, priodasau, bwyd a llety | (252,695) | (151,249) |
| Cyflogau, hyfforddiant a teithio | (640,588) | (602,067) |
| Yswiriant Cenedlaethol | (44,773) | (40,056) |
| Costau pensiwn | (17,981) | (18,651) |
| Costau lesi gweithredol | (19,003) | (21,238) |
| Gwres a golau | (69,913) | (55,814) |
| Cynnal a chadw | (112,899) | (104,384) |
| Yswiriant | (6,274) | (7,648) |
| Ffôn | (4,709) | (4,260) |
| Costau swyddfa eraill | (35,072) | (40,105) |
| Dibrisio | (137,545) | (135,337) |
| Llôg ar fenthyciadau banc a gorddrafft | (13,488) | (7,445) |
| TAW anadferadwy | (28,759) | (18,088) |
| Hysbysebu | (20,811) | (43,737) |
| Deunyddiau | (5,009) | (3,527) |
| Costau banc | (9,004) | (7,373) |
| ------------ | ------------ | |
| (1,418,523) | (1,260,979) | |
| ======= | ======= | |
| Costau Llywodraethu | ||
| Ffioedd archwilio | (5,000) | (4,075) |
| Costau cyfreithiol a chostau proffesiynol | 14,886 | (3,066) |
| ------------ | ------------ | |
| 19,886 | (7,141) | |
| ------------ | ------------ | |
| Gwariant ar weithgareddau elusennol | (1,438,409) | (1,268,120) |
| ======= | ======= |