OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2020-07-31-accounts

RHIF COFRESTREDIG Y CWMNI: 03686475 RHIF COFRESTREDIG YR ELUSEN: 1074898

Popeth Cymraeg Cyfyngedig Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant Datganiadau Ariannol Anarchwiliedig 31 Gorffennaf 2020

JONES & GRAHAM

Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig 45 Stryd y Dyffryn, DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3AH

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Datganiadau Ariannol

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

Tudalen
Adroddiad blynyddol yr Ymddiriedolwyr (ymgorffori adroddiad y
cyfarwyddwyr) 1
Adroddiad adolygwyr annibynnol i’r ymddiriedolwyr 4
Datganiadau gweithgareddau ariannol (yn cynnwys cyfrif incwm
a chostau) 5
Datganiad sefyllfa ariannol 6
Datganiad llif arian 7
Nodiadau i’r datganiadau ariannol 8

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (Ymgorffori Adroddiad y Cyfarwyddwyr)

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

Mae’r ymddiriedolwyr sydd hefyd yn gyfarwyddwyr at bwrpas cyfraith y cwmni yn cyflwyno adroddiad a’r datganiadau ariannol anarchwiliedig yr elusen am y flwyddyn i 31 Gorffennaf 2020.

Cyfeirnod a manylion gweinyddol

Enw’r elusen cofrestredig Popeth Cymraeg Cyfyngedig Rhif cofrestredig yr elusen 1074898 Rhif cofrestredig y cwmni 03686475 Prif swyddfa a swyddfa Canolfan Iaith Clwyd cofrestredig Pwll y Grawys Dinbych Sir Ddinbych LL16 3LF

Yr ymddiriedolwyr

Y Fon M Steel Bon A. Hughes Bon J. Roberts Bon P. Smith Bon D. Berry Bon Alun Jones Y Fon R Roberts Y Fon D Hughes Ysgrifennydd y cwmni Verona Pritchard-Jones Adolygwr annibynol Mr E. Jones FCCA 45 Stryd y Dyffryn, DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3AH

Stwythyr, goruchwyliaeth a rheolaeth

Mae Popeth Cymraeg Cyf yn gwmni cyfyngedig trwy warant gyda statws elusennol. Rheolir gwaith beunyddiol y corff gan bwyllgor o Ymddiriedolwyr etholedig sydd hefyd yn Gyfarwyddwyr ar y cwmni. Cânt eu hethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bob blwyddyn gan aelodau Popeth Cymraeg Cyf i weithredu ar eu rhan yn unol â’r cyfansoddiad. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod yn ddeufisol. Mae’r pwyllgor hefyd yn dirprwyo rhai agweddau ar ei rôl reolaethol i is-bwyllgorau penodol yn ôl y galw (e.e. is-bwyllgor apwyntiadau).

- 1 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (Ymgorffori Adroddiad y Cyfarwyddwyr) (parhad)

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

Amcanion a gweithgareddau

Amcanion yr elusen yw trefnu a darparu dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion yng Ngogledd Cymru a hyrwyddo agweddau gorau’r diwylliant Cymraeg mewn ysbryd cynhwysol a rhyngwladol.

Prif Ddatblygiadau 2019/2020

1. Lansio Gwefan ‘Llwyfan’

Fis Chwefror lansiwyd gwefan adnoddau dysgu newydd Popeth Cymraeg sef Llwyfan. Dyluniwyd y wefan gan Dyfrig Berry er mwyn creu llwyfan digidol i diwtoriaid Popeth Cymraeg (a chyrff eraill) sy’n eu galluogi i fedru lawrlwytho gweithgareddau a gemau dysgu a grewyd ac a greir gennym. Lansiwyd y wefan yng Nghynhadledd Tiwtoriaid Gogledd Ddwyrain Cymru a chafwyd cryn dipyn o sylw i’r wefan yn y wasg yn lleol ac yn genedlaethol. Cedwir copïau caled o bob gweithgaredd mewn blychau silffoedd yn y ganolfan sydd ar gael i diwtoriaid sy’n dysgu yno.

2. Eisteddfod Y Dysgwyr

Ddechrau Mis Mawrth cynhaliwyd Eisteddfod y Dysgwyr yn Sir Ddinbych am y tro cyntaf o dan ofal ac arweiniad staff Popeth Cymraeg a chyda chymorth Dilys Hughes ar ran y cyfarwyddwyr. Bu’n hynod lwyddiannus.

3. Arolwg Estyn

Arsylwyd Dysgu Cymraeg y Gogledd Ddwyrain (sef Coleg Cambria a Popeth Cymraeg) gan Estyn rhwng y 9fed a’r 13eg o Fawrth. Cafwyd adroddiad canmoladwy iawn, y proffîl gorau yng Nghymru hyd yma yn ystod y rownd ddiweddaraf o arsylwadau. Dyfarnwyd tair gradd ‘Rhagorol’ a dwy radd ‘Da’ i’r ddarpariaeth.

4. Cofid 19 – Addasu i’r Sefyllfa

Ddiwedd Mawrth daeth hi’n amlwg y byddai’n rhaid i ni gau’n holl ddosbarthiadau a gwneud trefniadau i ddysgu ar-lein. Roedd hyn yn chywldro sylweddol yn ein ffordd o weithio. Gofynnwyd i un aelod o staff ymchwilio i’r dechnoleg newydd ac arwain y broses o symud drosodd i ddysgu’n ddigidol. Gwnaethpwyd hynny’n gyflym iawn a llwyddwyd i sicrhau fod ein holl ddosbarthiadau am weddill y flwyddyn yn cael eu dysgu trwy blatfform digidol. Rhoddwyd llawer o hyfforddiant i staff i’w galluogi i wneud hyn ond talodd hynny ar ei ganfed o safbwynt ansawdd y dysgu digidol. Er gwaethaf y trafferthion a ddaeth yn sgil y pandemig llwydasom i gyrraedd ein targed dysgwyr blynyddol.

Adolygiad cyllidol

Roedd diffyg o £34,421 gan Popeth Cymraeg Cyf am y flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020 i’w gymharu a gwarged o £16,529 am y flwyddyn i 31 Gorffennaf 2019.

- 2 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (Ymgorffori Adroddiad y Cyfarwyddwyr) (parhad)

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

Darpariaeth cwmni bychan

Mae’r adroddiad yma wedi ei baratoi yn unol a’r darpariaethau perthnasol i gwmniau â hawl i’r eithriad cwmniau bychan

Cymeradwywyd adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ar .............................. a llofnowyd ar ran y bwrdd yr ymddireidolwyr gan:-

Bon Alun Jones Ymddiriedolwr

Verona Pritchard-Jones Ysgrifenyddes yr Elusen

- 3 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Adroddiad yr Adolygwr Annibynnol i Ymddiriedolwyr Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

‘Rwyf yn rhoi adroddiad ar ôl adolygu datganiadau ariannol Popeth Cymraeg Cyfyngedig (“yr elusen”) am y flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020.

Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad

Fel ymddiriedolwyr y cwmni (ac hefyd y cyfarwyddwyr i bwrpas cyfreithiol cwmniau) ‘rydych yn gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol yn unol a gofynion y Ddeddf Cwmniau 2006 (‘Deddf 2006’).

‘Rwyf yn fodlon nad oes angen archwilio cyfrifon y cwmni o dan Rhan 16 o’r Ddeddf 2006 ac eu bod yn gymwys i adolygiad annibynol. ‘Rwyf yn cyflwyno adroddiad ynglŷn a fy adolygiad o gyfrifon yr elusen o dan adran 145 o Ddeddf yr Elusennau 2011(“Deddf 2011”). Wrth wneud yr adolygiad, yr wyf wedi dilyn trefn y cyfarwyddiadau cyffredinol gan y Comisiwn Elusennol o dan adran 145(5)(b) o’r Ddeddf 2011.

Adroddiad yr adolygwr annibynnol

Gan bod incwm gros yr elusen dros £250,000 mae’n rhaid i’r adolygwr fod yn aelod o un o’r cyrff a restrir yn adran 145 o’r Ddeddf 2011. Yr wyf yn cadarnhau fy mod yn gymwys i ymgymryd a’r adolygiad gan fy mod yn aelod o’r Gymdeithas Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig sydd yn cael ei gynnwys yn y rhestr.

Yr wyf wedi cwblhau fy adolygiad. Cadarnhaf nad oes dim materion wedi dod i fy sylw mewn cysylltiad a’r adolygiad yn rhoi achos i mi gredu:-

  1. nad oedd cofnodion cyfrifo oedd yn berthnasol i’r elusen wedi’u cadw fel sy’n ofynnol gan adran 386 o’r Ddeddf 2006; neu

  2. nid yw'r datganiadau ariannol yn cyd-fynd â'r cofnodion hynny; neu

  3. nid yw'r datganiadau ariannol yn cydymffurfio â gofynion cyfrifyddu adran 386 o’r Ddeddf 2006 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi golwg 'gwir a thêg' nad yw yn fater sy'n cael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad annibynnol; neu

  4. ni baratowyd y datganiadau ariannol yn unol â dulliau ac egwyddorion y “Statement of Recommended Practice” ar gyfer cyfrifo ac adrodd gan elusennau sy'n berthnasol i elusennau yn paratoi eu cyfrifon yn unol â'r “Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland” (FRS 102).

Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r adolygiad y dylid tynnu sylw ato yn yr adroddiad hwn er mwyn galluogi cyrraedd dealltwriaeth priodol o'r cyfrifon.

Mr E Jones FCCA Adolygwr Annibynol

45 Stryd y Dyffryn, DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3AH

- 4 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Datganiad Gweithgarerddau Ariannol (yn cynnwys cyfri incwm a gwariant)

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

2020 2020 2019
Cronfeydd
anghyfyng- Cyfanswm Cyfanswm
edig cronfeydd cronfeydd
Note £ £ £
Incwm a gwaddolion
Rhoddion a cymunroddion 5 25,364 25,364
Gweithgareddau elusennol 6 31,056 31,056 33,089
Gweithgareddau masnachu eraill 7 303,077 303,077 359,994
Incwm buddsoddiadau 8 599 599 426
Incwm arall 9 148 148 280
───────── ───────── ─────────
Cyfanswm incwm 360,244 360,244 393,789
═════════ ═════════ ═════════
Gwariant
Gwariant ar weithgareddau elusennol 10,11 394,665 394,665 377,260
───────── ───────── ─────────
Cyfanswm gwariant 394,665 394,665 377,260
═════════ ═════════ ═════════
───────── ───────── ─────────
Net (gwariant)/incwm a symudiadau net yn y
cronfeydd (34,421) (34,421) 16,529
═════════ ═════════ ═════════
Cysoniad o’r gronfa
Cyfanswm y gronfa ddygwyd ymlaen 516,539 516,539 500,010
───────── ───────── ─────────
Cyfanswm y gronfa gariwyd ymlaen 482,118 482,118 516,539
═════════ ═════════ ═════════

Mae’r datganiad o’r gweithgareddau ariannol yn cynnwys yr holl enillion a colledion yn y flwyddyn. Mae’r holl incwm a gwariant yn deillo o weithgareddau sy’n parhau.

Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 16 yn rhan o’r datganiadau ariannol.

- 5 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol

31 Gorffennaf 2020

31 Gorffennaf 2020
2020 2019
Nodyn £ £ £
Asedau sefydlog
Asedau sefydlog diriaethol 16 158,528 159,189
Asedau cyfredol
Stoc 17 800 4,553
Dyledwyr 18 30,607 4,509
Arian yn y banc ac mewn llaw 309,661 357,022
───────── ─────────
341,068 366,084
Credydwyr: symiau’n ddyledus o fewn blwyddyn
19
17,478 8,734
───────── ─────────
Asedau cyfredol net 323,590 357,350
───────── ─────────
Cyfanswm asedau llai’r rhwymedigaethau cyfredol 482,118 516,539
═════════ ═════════
Cronfeydd yr elusen
Cronfeydd anghyfyngedig 482,118 516,539
───────── ─────────
Total charity funds 21 482,118 516,539
═════════ ═════════

Am y flwyddyn i 31 Gorffennaf 2020 ‘roedd gan yr elusen yr hawl i eithrio rhag archwilio y cyfrifon yn rhinwedd adran 477 o’r Ddeddf Cwmniau 2006 yn berthnasol i gwmniau bychain.

Dyletswyddau’r cyfarwyddwyr:

Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â'r darpariaethau sy'n berthnasol i gwmnïau sy'n amodol i drefn cwmnïau bychain.

Cymeradwywyd y datganiadau ariannol yma gan fwrdd yr ymddiriedolwyr ar ……………….. a’u hawdurdodi i’w cyhoeddi,a’i llofnodi ar ran y bwrdd gan:-

Bon Alun Jones Ymddiriedolwr

Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 15 yn rhan o’r datganiadau ariannol.

- 6 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Datganiad Llif Arian

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020
2020 2019
£ £
Llif arian o weithgareddau gweithredu
(Gwariant)/incwm net (34,421) 16,529
Addasiadau am:
Dibrisiant asedau sefydlog diriaethol 6,937 6,665
Llogau eraill a dderbyniwyd ac incwm tebyg (599) (426)
Llogau taladwy a chostau tebyg 337 635
Gwariant cronedig 15,000
Newidiadau:
Stoc 3,753 4,465
Masnach a dyledwyr eraill (26,098) 6,196
Masnach a credydwyr eraill 8,744 (5,317)
──────── ────────
Arian a gynhyrchwyd o weithredoedd (41,347) 43,747
Llogau a dalwyd (337) (635)
Llogau a dderbyniwyd 599 426
──────── ────────
Arian net (wedi’i ddefnyddio yn)/mewn gweithgareddau gweithredu (41,085) 43,538
════════ ════════
Llif arian o weithgareddau buddsoddi
Prynu asedau diriaethol (6,276) (10,349)
Derbyniadau o werthiant asedau diriaethol 187,120
──────── ─────────
Arian net (wedi’i ddefnyddio yn)/mewn gweithgareddau buddsoddi (6,276) 176,771
════════ ═════════
Llif arian o weithgareddau cyllidol
Derbyniadau o fenthyciadau (8,930)
──────── ─────────
Arian parod net a ddefnyddiwyd mewn gweithgareddau cyllidol (8,930)
════════ ═════════
Net (gostyngiad)/cynnydd mewn arian a cywerth arian (47,361) 211,379
Arian a cywerth arian ar ddechrau’r flwyddyn 357,022 145,643
───────── ─────────
Arian a cywerth arian ar ddiwedd y flwyddyn 309,661 357,022
═════════ ═════════

Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 15 yn rhan o’r datganiadau ariannol.

- 7 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

1. Gwybodaeth cyffredinol

Mae’r elusen yn gwmni preifat cyfyngedig drwy warant, wedi’i gofrestru yng Nghymru ac yn elusen cofrestredig yn Lloegr a Chymru. Cyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw Canolfan Iaith Clwyd, Pwll y Grawys, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 3LF.

2. Datganiad cydymffurfiad

Mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi mewn cydymffurfiad â FRS 102, 'The Financial Reporting Standard applicable in the UK and the Republic of Ireland', mae’r “Statement of Recommended Practice” yn berthnasol i elusennau yn paratoi eu cyfrifon yn unol a’r “Financial Reporting Standard” yn y DU a’r Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (Charities SORP (FRS 102)) a’r Ddeddf Elusennau 2011.

3. Polisiau cyfrifo

Sail paratoi

Paratowyd y datganiadau ariannol ar sail y gost hanesyddol, wedi’i haddasu’n unol ag ailbrisiad rhai asedau ariannol a rhwymedigaethau ac eiddo buddsoddi sy’n cael eu mesur yn ôl eu gwerth teg drwy elw neu golled

Mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi mewn sterling, sef arian cyfred gweithredol yr endid.

Busnes cyfyw

Does dim ansicrwydd ynglŷn a gallu’r elusen i barhau.

Dyfarniadau a ffynonellau allweddol o ansicrwydd amcangyfri f

Mae paratoi datganiadau ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr i lunio barnau, amcangyfrifon a rhagdybiaethau sy'n effeithio ar y symiau a adroddir. Mae’r amcangyfrifon a rhagdybiaethau yma yn cael eu adolygu'n barhaus ac yn seiliedig ar brofiad a ffactorau eraill, gan gynnwys disgwyliadau am ddigwyddiadau yn y dyfodol y credir eu bod yn rhesymol dan yr amgylchiadau.

Cyfrifo'r gronfa

Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i'w defnyddio yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo unrhyw un o ddibenion yr elusen.

Mae cronfeydd dynodedig yn arian anghyfyngedig a glustnodwyd gan yr ymddiriedolwyr ar gyfer prosiect neu ymrwymiad penodol yn y dyfodol.

Mae cronfeydd cyfyngedig yn destun cyfyngiadau ar eu gwariant a ddatganwyd gan y rhoddwr neu drwy delerau apêl ac yn disgyn i un o ddwy is-ddosbarthiad: cronfeydd incwm cyfyngedig neu gronfeydd gwaddol.

- 8 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

3. Polisiau cyfrifo (parhad)

Adnoddau i mewn

Mae'r holl adnoddau sy'n dod i mewn wedi'u cynnwys yn y datganiad o weithgareddau ariannol pan fydd yr hawl wedi’i drosglwyddo i'r elusen, mae'n debyg y bydd y buddion economaidd sy'n gysylltiedig â'r trafodiad yn llifo i'r elusen a gellir mesur y swm yn ddibynadwy. Mae'r polisïau penodol canlynol wedi'u cymhwyso i gategorïau penodol o incwm:

.

Adnoddau a wariwyd

Cydnabyddir gwariant ar sail croniadau gan fod atebolrwydd yn digwydd. Mae'r gwariant yn cynnwys unrhyw TAW na ellir ei adennill yn llwyr, ac mae'n cael ei ddosbarthu o dan bennawd y datganiad o weithgareddau ariannol y mae'n ymwneud ag ef.

Dyrennir yr holl gostau i gategorïau gwariant sy'n adlewyrchu'r adnodd i ni. Dyrennir costau y gellir eu priodoli i un gweithgaredd yn uniongyrchol i'r gweithgaredd hwnnw. Caiff costau a rennir eu dosrannu rhwng y gweithgareddau y maent yn cyfrannu ato ar sail resymol, cyfiawnhad a chyson.

Asedau diriaethol

Mae asedau diriaethol yn cael eu cofnodi yn ôl y gost i ddechrau, ac wedyn yn cael eu datgan yn ôl y gost, wedi tynnu unrhyw ddibrisiant cronedig a cholledion amhariad. Mae unrhyw asedau diriaethol sy’n cael eu cario ar sail symiau wedi’u hailbrisio yn cael eu cofnodi yn ôl eu gwerth teg ar ddyddiad yr ailbrisiad, wedi tynnu unrhyw ddibrisiant cronedig dilynol a cholledion amhariad cronedig dilynol.

- 9 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

3. Polisiau cyfrifo (parhad)

Asedau diriaethol (parhad)

Caiff cynnydd yn swm cario ased o ganlyniad i ailbrisio, ei gydnabod mewn enillion a cholledion cydnabyddedig eraill, oni bai ei bod yn gwrthdroi tâl am nam sydd eisoes wedi'i gydnabod fel gwariant o fewn y datganiad o weithgareddau ariannol. Mae gostyngiad yn swm cario ased o ganlyniad i ailbrisio, yn cael ei gydnabod mewn enillion a cholledion cydnabyddedig eraill, ac eithrio y mae'n gwahardd adennill ailbrisio blaenorol, ac os felly, mae'r golled wedi'i ddangos mewn enillion a cholledion cydnabyddedig eraill ar y datganiad o weithgareddau ariannol.

Dibrisiant

Cyfrifir dibrisiant er mwyn dileu cost neu brisiad ased, wedi tynnu ei werth gweddilliol, dros gyfnod oes economaidd ddefnyddiol yr ased hwnnw, fel a ganlyn:

Eiddo rhydd-ddaliad - 2% llinol
Y Tanerdy – Gosodiadau a - 10% llinol
Ffitiadau
Gosodiadau a Ffitiadau - 10% llinol
Offer a Dodrefn - 25% lleihau balans

Amhariad asedau sefydlog

Ar bob ddyddiad adrodd cynhelir adolygiad i chwilio am ddangosyddion amhariad, a phan geir dangosyddion o’r fath, amcangyfrifir y swm adferadwy. Os yw’r gwerth cario’n fwy na’r swm adferadwy, bydd gwerth yr ased yn cael ei amharu’n unol â hynny. Ar bob dyddiad adrodd, cynhelir adolygiad o achosion blaenorol o amhariad hefyd er mwyn gweld a yw’n bosib eu gwrthdroi.

At ddibenion profi am amhariad, os nad oes modd amcangyfrif swm adferadwy ased unigol, amcangyfrifir swm adferadwy’r uned cynhyrchu arian y mae’r ased yn rhan ohoni. Yr uned cynhyrchu arian yw’r grŵp adnabyddadwy lleiaf o asedau sy’n cynnwys yr ased ac sy’n cynhyrchu mewnlifau arian parod sydd i raddau helaeth yn annibynnol ar y mewnlifau arian parod o asedau neu grwpiau o asedau eraill.

Er mwyn profi amhariad ewyllys da, mae’r ewyllys da a enillwyd mewn cyfuniad busnes yn cael ei ddyrannu, o’r dyddiad caffael, i bob un o’r unedau cynhyrchu arian y disgwylir y byddant yn elwa ar synergeddau’r cyfuniad, p’un a neilltuir asedau neu rwymedigaethau eraill y cwmni i’r unedau hynny ai peidio

.

Stoc

Mae’r stoc yn cael eu mesur yn ôl p’un bynnag sydd isaf, y pris cost a’r pris gwerthu amcangyfrifedig, wedi tynnu’r costau cwblhau a gwerthu. Mae’r gost yn cynnwys yr holl gostau prynu, costau trawsnewid a chostau eraill sy’n codi wrth ddod â’r stoc i’w leoliad a’i gyflwr presennol.

Cynlluniau cyfraniadau diffiniedig

Mae cyfraniadau i gynlluniau cyfraniadau diffiniedig yn cael eu cydnabod fel traul yn y cyfnod y darperir y gwasanaeth cysylltiedig ynddo. Mae cyfraniadau wedi’u talu ymlaen llaw yn cael eu cydnabod fel ased i’r graddau y bydd y taliad ymlaen llaw yn arwain at ostyngiad mewn taliadau yn y dyfodol neu ad-daliad arian parod.

- 10 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

3. Polisiau cyfrifo (parhad)

Cynlluniau cyfraniadau diffiniedig ( parhad )

Pan nad oes disgwyl i’r cyfraniadau gael eu setlo’n gyfan gwbl ymhen 12 mis i ddiwedd y dyddiad adrodd y mae’r cyflogeion yn darparu’r gwasanaeth cysylltiedig ynddo, mae’r rhwymedigaeth yn cael ei mesur ar sail gwerth presennol gostyngol. Mae dad-ddirwyn y disgownt yn cael ei gydnabod fel cost gyllidol yn yr elw neu’r golled yn y cyfnod y mae’n codi ynddo.

4. Cyfyngedig drwy warant

Nifer o ymddiriedolwyr 8

Gwarant rhwymedigaeth wedi’i gyfyngu i £1 yr un

5. Rhoddion a cymunroddion

Cronfeydd Cyfanswm Cronfeydd Cyfanswm
Anghyfynge- Cronfeydd Anghyfynge- cronfeydd
dig 2020 dig 2019
£ £ £ £
Grantiau
Grant - Cyngor Sir Ddinbych 25,364 25,364
════════ ════════ ════ ════
Gweithgareddau elusennol
Cronfeydd Cyfanswm Cronfeydd Cyfanswm
Anghyfynge- Cronfeydd Anghyfynge- cronfeydd
dig 2020 dig 2019
£ £ £ £
Ffioedd cyrsiau a defnyddiau 31,056 31,056 33,089 33,089
════════ ════════ ════════ ════════
Gweithgareddau masnachu eraill
Cronfeydd Cyfanswm Cronfeydd Cyfanswm
Anghyfynge- Cronfeydd Anghyfynge- cronfeydd
dig 2020 dig 2019
£ £ £ £
Cyllid/Incwm breinlen 302,124 302,124 335,628 335,628
Hurio a thrwyddedu 219 219 259 259
Costau swyddfa ad-dalwyd 302 302 2,080 2,080
Hysbysebu 166 166
Y Tanerdy 21,560 21,560
Lluniaeth 266 266 467 467
───────── ───────── ───────── ─────────
303,077 303,077 359,994 359,994
═════════ ═════════ ═════════ ═════════
Incwm buddsoddi
Cronfeydd Cyfanswm Cronfeydd Cyfanswm
Anghyfynge- Cronfeydd Anghyfynge- cronfeydd
dig 2020 dig 2019
£ £ £ £
Llogau banc a dderbyniwyd 599 599 426 426
════ ════ ════ ════

6. Gweithgareddau elusennol

7. Gweithgareddau masnachu eraill

8. Incwm buddsoddi

- 11 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

9. Incwm arall

Cronfeydd Cyfanswm Cronfeydd Cyfanswm
Anghyfynge- Cronfeydd Anghyfynge- cronfeydd
dig 2020 dig 2019
£ £ £ £
Pensiynau 148 148 280 280
════
════
════ ════
10. Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math o gronfa
Cronfeydd Cyfanswm Cronfeydd Cyfanswm
Anghyfynge- Cronfeydd Anghyfynge- cronfeydd
dig 2020 dig 2019
£ £ £ £
Cyrsiau iaith 135,912 135,912 137,197 137,197
Y Tanerdy 8,433 8,433
Costau cynnal 258,753 258,753 231,630 231,630
─────────
─────────
───────── ─────────
394,665 394,665 377,260 377,260
═════════
═════════
═════════ ═════════
11. Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math o weithgaredd
Activities
undertaken Total funds Total fund
directly Support costs 2020 2019
£ £ £ £
Cyrsiau iaith 135,912 135,912 137,197
Y Tanerdy 8,433
Costau llywodraethu 258,753 258,753 231,630
─────────
─────────
───────── ─────────
135,912 258,753 394,665 377,260
═════════
═════════
═════════ ═════════
12. (Costau)/incwm net
Nodir (costau)/incwm net ar ôl codi/(credydu):
2020 2019
£ £
Dibrisiant asedau sefydlog cyffwrddadwy 6,937 6,665
═══════ ═══════
13. Ffi arolygiad annibynnol
2020 2019
£ £
Ffi yn daladwy i’r adolygwr annibynnol am:
Adolygiad annibynnol o’r datganiadau ariannol 4,620 4,740
═══════ ═══════

- 12 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

14. Costau staff

Mae’r holl gostau staff a budd-daliadau gweithwyr am y cyfnod adroddiadol yn cael eu dadansoddi fel a ganlyn:

2020 2019
£ £
Cyflogau 165,967 117,426
Cyfraniadau’r cyflogwr i gynlluniau pensiwn 21,459 14,923
───────── ─────────
187,426
═════════
132,349
═════════

Ar gyfartaledd y nifer o weithwyr yn ystod y cyfnod oedd 9 (2019: 4). Mae'r nifer ar gyfartaledd o weithwyr cyfwerth amser llawn yn ystod y cyfnod yn cael ei ddadansoddi fel a ganlyn:

2020 2019
No. No.
Nifer o staff - gweinyddol 4 4
Nifer o staff - tiwtoriaid 5
──── ────
9 4
════ ════

Ni dderbyniodd yr un gweithiwr budd-daliadau yn fwy na £60,000 yn ystod y flwyddyn (2019: Dim).

15. Tâl a chostau ymddiriedolwyr

Ni dderbyniodd yr ymddiriedolwyr unrhyw dâl na buddion eraill o gyflogaeth gyda'r elusen neu endid cysylltiedig.

16. Asedau sefydlog diriaethol

Y Tanerdy
Tir ac
Gosodiadau a
Dodrefn ac Dodrefn ac
adeiladau
ffitiadau
offer offer Cyfanswm
£ £ £ £ £
Cost
Ar 1 Awst 2019 157,462
21,439
4,467 65,570 248,938
Ychwanegiadau
6,276 6,276
─────────
────────
─────── ──────── ─────────
Ar 31 Gorffennaf 2020 157,462
21,439
4,467 71,846 255,214
═════════
════════
═══════ ════════ ═════════
Dibrisiant
Ar 1 Awst 2019 9,447
17,299
4,467 58,536 89,749
Tal am y flwyddyn 3,149
460
3,328 6,937
─────────
────────
─────── ──────── ─────────
Ar 31 Gorffennaf 2020 12,596
17,759
4,467 61,864 96,686
═════════
════════
═══════ ════════ ═════════
Swm cario
Ar 31 Gorffennaf 2020 144,866
3,680
9,982 158,528
═════════
════════
═══════ ════════ ═════════
Ar 31 Gorffennaf 2019 148,015
4,140
7,034 159,189
═════════
════════
═══════ ════════ ═════════

17. Stoc

2020 2019
£ £
Deunyddiau crai a nwyddau traul 800 4,553
════ ═══════

- 13 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

18. Dyledwyr

2020 2019
£ £
Dyledwyr masnach 27,917 177
Rhagdaliadau ac incwm cronedig 1,957 4,332
Dyledwyr eraill 733
──────── ───────
30,607 4,509
════════ ═══════
Credydwyr: symiau’n ddyledus o fewn blwyddyn
2020 2019
£ £
Credydwyr masnach 17,478 6,786
Nawdd cymdeithasol a trethi eraill 1,948
──────── ───────
17,478
════════
8,734
═══════

19. Credydwyr: symiau’n ddyledus o fewn blwyddyn

20. Pensiynau a budd-daliadau ôl-ymddeol eraill

Cynlluniau cyfraniad diffinedig

Y swm a gydnabuwyd mewn incwm neu wariant fel traul mewn perthynas â chynlluniau cyfraniad diffiniedig oedd £21,459 (2019: £14,923).

21. Dadansoddiad o gronfeydd elusennol

Cronfeydd anghyfyngedig

Cronfeydd anghyfyngedig
Ar
31 Gorffenn-
Ar 1 Awst 2019 Incwm Gwariant
af 2020
£ £ £ £
Cronfeydd cyffredinol 679,405 360,244 (394,665)
644,984
Cronfa gwerth têg (162,866)
(162,866)
───────── ───────── ─────────
─────────
516,539 360,244 (394,665)
482,118
═════════ ═════════ ═════════
═════════
Ar
31 Gorffenn-
Ar 1 Awst 2018 Incwm Gwariant
af 2019
£ £ £ £
Cronfeydd cyffredinol 662,876 393,789 (377,260)
679,405
Cronfa gwerth têg (162,866)
(162,866)
───────── ───────── ─────────
─────────
500,010 393,789 (377,260)
516,539
═════════ ═════════ ═════════
═════════

- 14 -

Popeth Cymraeg Cyfyngedig

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Blwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020

22. Dadansoddiad o asedion net rhwng cronfeydd

Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyng- Cronfeydd
edig 2020
£ £
Asedau sefydlog diriaethol 158,528 158,528
Asedau cyfredol 344,488 344,488
Credydwyr llai na blwyddyn (17,598)
(17,598)
─────────
─────────
Asedau net 485,418 485,418
═════════
═════════
Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyng- Cronfeydd
edig 2019
£ £
Asedau sefydlog diriaethol 159,189 159,189
Asedau cyfredol 366,084 366,084
Credydwyr llai na blwyddyn (8,734)
(8,734)
Credydwyr mwy na blwyddyn
─────────
─────────
Asedau net 516,539 516,539
═════════
═════════
23. Dadansoddiad o newidiadau mewn dyledion net
Ar Ar
1 Awst 2019 Llif arian 31 Gorff 2020
£ £ £
Arian yn y banc ac mewn llaw 357,022 (47,361)
309,661
═════════ ════════
═════════

- 15 -