MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR A DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2025
RHIF Y CWMNI: 2815717
ELUSEN GOFRESTREDIG: RHIF 1021901
LLŶR JAMES Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig Chartered Certified Accountants Archwilwyr Cofrestredig Registered Auditors
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD A DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2025
| CYNNWYS | TUDALEN |
|---|---|
| Rhestr o Wybodaeth | 1 |
| Adroddiad Yr Ymddiriedolwyr | 2 |
| Adroddiad Arolygwr Annibynnol | 15 |
| Datganiad o Weithgareddau Ariannol | 16 |
| Mantolen | 17 |
| Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol | 18 |
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
RHESTR O WYBODAETH
SWYDDFA GOFRESTREDIG
Swyddfa Menter Cwm Gwendraeth Elli 11-15 Heol Coalbrook Pontyberem Llanelli Sir Gaerfyrddin SA15 5HU
BANCWYR
Banc HSBC ccc Banc Lloyds TSB ccc 4A Stryd Vaughan Stryd Stepney Llanelli Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA15 3TY SA15 3YD
CYFREITHWYR
Darwin Gray 9, Cathedral Rd Pontcanna Caerdydd CF11 9HA
CYFRIFWYR AC AROLYGWR ANNIBYNNOL
Llŷr James Cyf 25 Stryd Y Bont Caerfyrddin SA31 3JS
CYFARWYDDWYR Y CWMNI / WASANAETHWYD YN YSTOD Y FLWYDDYN
Dr Ian Wyn Rees Mrs Kathryn Devonald-Davies Miss Elen Davies Mrs Wendy Edwards – Apwyntiwyd 29/04/2025 Ms Anwen Mair Evans Mrs Alana Enoch Mrs Helen Humphries Mr Euros Jones Mrs Jeni Olwen Price Ms Catrin Mair Rees Mr Kenneth Denver Rees Mr Hugh Richards Mr Gethin Thomas Miss Marged Lowri Walters Thomas -Ymddiswyddodd 26/09/2024 Mrs Linda Williams Mr Gareth Williams
-1-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni i bwrpas rheolau cyfreithiol cwmnïau) yn cyflwyno'r adroddiad a'r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025.
ENW SWYDDOGOL
Enw swyddogol yr elusen yw Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyfyngedig.
CYFANSODDIAD
Mae'r elusen wedi ei sefydlu fel Cwmni Cyfyngedig, rhif 2815717, ac fel elusen gofrestredig, rhif 1021901. Mae cyfansoddiad y cwmni yn unol ag elusennau a chwmnïau cyfyngedig drwy warant heb gyfrannau.
PRIF WEITHGARWCH
Disgrifir prif weithgarwch y cwmni dan restr o amcanion y Fenter.
AMCANION MENTER CWM GWENDRAETH ELLI
-
Cefnogi unrhyw weithgaredd Cymunedol Cymraeg sydd yn bodoli ar hyn o bryd.
-
Hyrwyddo prosiectau er lles adfywio cymunedol, lle mae bylchau'n bodoli.
-
Cydweithio â Mudiadau sydd eisoes yn weithgar yn gymunedol, er mwyn osgoi gwrthdaro, ac er mwyn dyblygu adnoddau.
-
Hybu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ym myd busnes a masnach drwy: -
-
a) Greu cysylltiadau rhwng cymdeithasau gwirfoddol a'r sector preifat a chyhoeddus er mwyn hybu gweithgareddau Cymraeg cymunedol.
-
b) Hybu'r defnydd o’r iaith yng ngweinyddiaeth a chyhoeddusrwydd y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.
-
Normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg mewn cyfarfodydd neu gynadleddau cyhoeddus drwy ddefnyddio offer cyfieithu.
-
Sefydlu prosiectau ymchwil cymunedol fydd yn sbardun i drafodaethau ac yn sail i gynllunio cymunedol.
-
Ystyried anghenion trigolion yr ardal ac adeiladu pontydd er lles adfywio cymunedol.
-2-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
-
Sicrhau rhwydwaith o bwyllgorau lleol, a phaneli a gweithgorau fydd yn bwydo syniadau, yn creu bwrlwm ac yn llywio strategaeth.
-
Cyfrannu i'r wasg yn gyson ar bwyntiau yn ymwneud â'r Gymraeg ac adfywio cymunedol, gwaith y Fenter, a natur y cymunedau diwydiannol hyn sydd yn dibynnu ar waith a bywoliaeth er mwyn cadw'r Cymry ifanc yn agos at eu gwreiddiau.
-
Cadw'r weledigaeth yn glir bod rhaid creu delwedd newydd sbon i'r Gymraeg yn gymunedol a fydd yn adlewyrchu natur ein cymdeithas a thueddiadau byd eang yn y byd cyfoes - iaith ffasiynol, fodern a bywiog sy’n berthnasol i'n cyfnod ni heddiw.
FFYNONELLAU A DEFNYDD ARIAN
Mae'r Fenter yn cael ei chyllido yn bennaf, gan gyrff cyhoeddus megis Cyngor Sir Gaerfyrddin, Llywodraeth Cymru, Moondance, Energy Saving Trust, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Community Matters Fund, er mwyn ariannu prosiectau penodol ym maes datblygu cymunedol.
Am y flwyddyn roedd diffyg o £159,833 cyn symudiad yn y gronfa pensiwn.
AROLWG O DDATBLYGIADAU A'R ARGOELION AR GYFER Y DYFODOL
Mae'r canlyniadau am y cyfnod yn dangos gostyngiad yn y cronfeydd cyn symudiad yn y gronfa pensiwn.
Bu 2024-2025 yn flwyddyn o brosiectau a gweithgarwch di-ri o safbwynt y Gymraeg ar draws ardal Cwm Gwendraeth, Llanelli a'r cyffiniau ac yn flwyddyn o wella a chryfhau gweithgareddau a chreu perthnasau a phartneriaethau newydd.
Mae'r ymddiriedolwyr yn deall pwysigrwydd llif arian i'r Fenter ar adeg pan mae’r disgwyliadau yn uchel ond mae'r adnoddau yn cael eu cwtogi.
Mae'r ymddiriedolwyr hefyd yn ystyried pwysigrwydd cyfraniad y cwmnïau llai i ddyfodol y Fenter ac wedi ystyried sefyllfa ariannol a rhagolygon incwm y cwmnïoedd yma hefyd.
Mae'r pwyllgor wedi asesu ymrwymiadau ariannol y Fenter am y flwyddyn nesaf ac yn obeithiol o dderbyn arian digonol i'w galluogi i barhau a'r gweithgareddau.
-3-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
CYFLWYNIAD Y CADEIRYDD
Bu 2024–25 yn flwyddyn o dwf, ehangu a datblygiad parhaus i’r Fenter, wrth i ni barhau i hyrwyddo ac i gryfhau defnydd o’r Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth a Llanelli. Roedd yn bleser croesawu aelodau staff newydd i’r tîm, sydd eisoes yn datblygu ac yn cynnal gwaith rhagorol ar draws yr ardal, gan ddod â syniadau ffres ac egni newydd i waith y Fenter.
Uchafbwynt y flwyddyn, heb os nag oni bai, oedd agor trydydd canolfan y Fenter, sef Canolfan Plant a Phobl Ifanc Tabor. Roedd hwn yn gam pwysig ymlaen yn natblygiad y Fenter, ac rydym yn ddiolchgar iawn i brosiect Pum Mil am ein dewis a’u cefnogaeth, a wnaeth y fenter hon yn bosibl. Drwy’r flwyddyn, llwyddwyd i sicrhau cyllid ychwanegol i ategu a chryfhau gwaith iaith y Fenter yng Nghwm Gwendraeth a Llanelli. Hoffwn estyn diolch diffuant i’r cyllidwyr hynny a gefnogodd y prosiectau hyn, sef Energy Saving Trust, Cronfa 10 Tref Sir Gar a Sefydliad Moondance, am eu hyder yn ein gwaith a’u cefnogaeth parhaus.
Roedd 2024–25 hefyd yn flwyddyn o ehangu nifer o brosiectau llwyddiannus. Datblygwyd prosiectau megis y gwasanaeth Pryd a’r Glud, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, a bu sioe’r theatr ieuenctid yn mynd ar daith, gan arddangos creadigrwydd a hyder pobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.
Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y flwyddyn - i’r staff am eu hymroddiad a’u brwdfrydedd di-baid, i aelodau’r Bwrdd Rheoli am eu harweiniad a’u cefnogaeth, ac i’n partneriaid, ein cyllidwyr a’r cymunedau lleol am eu cydweithrediad a’u hymrwymiad parhaus.
Gyda sylfaen gadarn bellach wedi’i gosod, edrychwn ymlaen yn hyderus at y flwyddyn sydd i ddod ac at barhau i ddatblygu gwaith y Fenter er budd ein cymunedau.
Dr I W Rees
NODAU AC AMCANION MENTER CWM GWENDRAETH ELLI YW:
-
Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg
-
Adfer hyder a lles yr unigolyn a chymunedau Cwm Gwendraeth Elli ac ardaloedd eraill yng Nghymru er mwyn i drigolion gyrraedd eu potensial llawn.
-
Normaleiddio'r defnydd o’r iaith Gymraeg a hyrwyddo'n treftadaeth ddiwylliannol ymhlith trigolion Cwm Gwendraeth Elli ac ardaloedd eraill yng Nghymru er mwyn i drigolion gyrraedd eu potensial llawn.
-
4 -
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
CYFLWYNIAD Y PRIF SWYDDOG
Dyma gyfle i gyflwyno Adroddiad Menter Cwm Gwendraeth Elli ar gyfer 2024–25. Bu hon yn flwyddyn lawn o weithgarwch ar draws ardal Cwm Gwendraeth a Llanelli, gan gynnig ystod eang o brosiectau a gweithgareddau addas i bob oedran ac i bobl â diddordebau amrywiol. Roedd y flwyddyn hon yn nodweddiadol o dwf, arloesi a datblygiad, wrth i’r Fenter barhau i ymateb i anghenion ein cymunedau.
Bu 2024–25 yn gyfnod o ehangu a chryfhau’r tîm, gyda staff newydd yn ymuno â’r Fenter ac yn datblygu ac yn cynnal gwaith rhagorol ar lawr gwlad. Mae’r model o weithio mewn ardaloedd penodol wedi parhau i fod yn llwyddiannus, gan feithrin ymdeimlad cryf o berchnogaeth yn y cymunedau lleol a galluogi’r swyddogion i adeiladu perthnasoedd cadarn a chynaliadwy.
Uchafbwynt y flwyddyn, heb os, oedd agor trydydd canolfan y Fenter, sef Canolfan Plant a Phobl Ifanc Tabor. Mae’r ganolfan hon eisoes wedi sefydlu ei hun fel canolbwynt bywiog i weithgarwch Cymraeg i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ac yn gam strategol pwysig yn natblygiad y Fenter. Hoffwn ategu at ddiolch y Cadeirydd i brosiect Pum Mil am ein dewis a’u cefnogaeth wrth wireddu’r datblygiad arwyddocaol hwn.
Roedd hi’n galonogol iawn gweld nifer o brosiectau newydd yn cael eu peilota yn ystod y flwyddyn, gyda sawl un ohonynt yn profi’n hynod lwyddiannus. Un enghraifft yw lansio Mwncis Menter, prosiect a ddatblygwyd i annog arferion iaith cadarnhaol ymysg rhieni a phlant dan dair oed. Mae’r fenter hon wedi mynd o nerth i nerth, gyda thua 30 o deuluoedd bellach yn galw’n rheolaidd yn ein canolfan newydd i ymgynnull, cymdeithasu a defnyddio’r Gymraeg mewn awyrgylch cefnogol a naturiol.
Yn ogystal, lansiwyd Gŵyl y Gwendraeth sy’n benwythnos o weithgareddau amrywiol a chynhwysol i unigolion o bob oedran a phob gallu ieithyddol. Roedd yr ŵyl yn ddathliad o’r Gymraeg a’r gymuned leol, gan ddod â phobl ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, cymdeithasol a chreadigol mewn awyrgylch croesawgar.
Llwyddwyd hefyd i sicrhau cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i ategu ac ehangu gwaith iaith y Fenter yng Nghwm Gwendraeth a Llanelli. Mae’r gefnogaeth gan Energy Saving Trust, Cronfa 10 Tref Sir Gar a Sefydliad Moondance wedi galluogi’r Fenter i ddatblygu prosiectau newydd, peilota syniadau arloesol a chryfhau mentrau presennol.
Mae’r Fenter yn ffodus iawn o gael rhwydwaith cryf o gefnogwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid gweithredol. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Gar, Mentrau Iaith Cymru, ac i’n partneriaid ar draws y Sir am eu cefnogaeth barhaus.
Diolch hefyd i’r Bwrdd Rheoli am eu harweiniad, eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus. Yn olaf, hoffwn fynegi fy niolch diffuant i’r tîm o staff brwdfrydig ac ymroddedig sy’n gweithio’n ddiwyd o ddydd i ddydd er llwyddiant y Fenter. Mae cyfraniad pob unigolyn yn werthfawr ac yn allweddol i ddatblygiad parhaus y Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth a Llanelli. Alaw Davies
-5-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
EIN CENHADAETH NI YW:
‘Bod yn Gwmni creadigol, blaengar ac ymatebol, sy’n benderfynol o ddarparu’r gwasanaeth gorau er mwyn mynd i’r afael ag anghenion ac yn gwella potensial yr unigolyn a’r gymuned gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael’
Menter Cwm Gwendraeth Elli, 11-17 Heol Coalbrook, Pontyberem, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 5HU. Rhif ffôn 01269 871600 E-bost: alaw@mcge.co.uk
Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant Cofrestredig yng Nghymru: 2815717 Elusen Gofrestredig: 1021901
STAFF CRAIDD YN YSTOD Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2025
Alaw Davies Prif Swyddog Derek Rees Swyddog Datblygu Llanelli Julie Nicholas Swyddog Cyllid Paul Thomas Arweinydd Prosiect Adfer Emma Roberts Swyddog Datblygu Gwendraeth Uchaf Steffan Crocker Swyddog Datblygu Gendraeth Isaf Catrin Evans Swyddog Plant Bach (0-3 oed) Duncan Morgan Swyddog Prosiect Adfer
- 6 -
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
LLYWYDD
Nigel Owens MBE
IS -LLYWYDD
Deris Williams MBE
PWYLLGOR RHEOLI
Dr Ian Wyn Rees Mrs Kathryn Devonald-Davies Miss Elen Davies Mrs Wendy Edwards – Apwyntiwyd 29/04/2025 Ms Anwen Mair Evans Mrs Alana Enoch Mrs Helen Humphries Mr Euros Jones Mrs Jeni Olwen Price Ms Catrin Mair Rees Mr Kenneth Denver Rees Mr Hugh Richards Mr Gethin Thomas Miss Marged Lowri Walters Thomas -Ymddiswyddodd 26/09/2024 Mrs Linda Williams Mr Gareth Williams
Y CWTSH
PAFILIWN PENYGROES
Louise Hardy Leila Jones Wendy Snook Sioned Rees Annie Bullen Ellie Jones Val John Leanna Price CANOLFAN TABOR Nicola Jones Annie Bullen
Clybiau ar ôl ysgol – 55 o staff
- 7 -
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
PLANT A PHOBL IFANC
Clybiau Gofal
Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn cydlynu a rheoli Clybiau Gofal cofrestredig sy’n cwrdd o 3:00 hyd 6:00 o’r gloch yr hwyr ar draws ardal Cwm Gwendraeth a Llanelli. Mae’r clybiau yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac wedi derbyn adroddiadau anrhydeddus iawn.
Clybiau Joio a Hwyl
Mae cyfres o 17 o Glybiau Joio a Hwyl yn y Gymraeg yn cael eu darparu ar ôl ysgol ar draws ardaloedd Cwm Gwendraeth a Chylch Llanelli. Mae’r Clybiau hyn yn cynnig awr a hanner o weithgareddau penodol ar ôl ysgol gan ehangu’r cyfleoedd i blant 4 - 11 oed gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl ysgol.
Theatr Iau ac Ieuenctid
Mae’r theatr yn cynnig gwasanaeth i blant 7 - 18 oed, gan gwrdd yn wythnosol yn ystod y tymor ysgol. Mae’r tîm o gyfarwyddwyr profiadol yn cynnig profiadau niferus ym maes theatr a pherfformio. Yn ystod y flwyddyn llwyddwyd i gyflwyno ffrwyth llafur y gweithdai wythnosol mewn perfformiadau theatrig. Bu’r criw yn brysur yn paratoi ar gyfer sioe gerdd Anni.
Ymwybyddiaeth Iaith
Gan fod natur ein gwaith wedi gorfod newid dros y flwyddyn hon, mae sesiynau ymwybyddiaeth iaith rhithiol yn cael eu cynnig i holl ysgolion cynradd ac uwchradd Cwm Gwendraeth a Llanelli, a hefyd i Gampws Y Graig Coleg Sir Gâr. Nod y sesiynau hyn yw i godi ymwybyddiaeth am hanes yr iaith, digwyddiadau pwysig sydd wedi effeithio ar y Gymraeg a sut mae’r iaith wedi ysbrydoli unigolion yn eu gyrfa e.e., Nigel Owens ac Alex Jones. Y neges holl bwysig yw bod angen i bobl ddefnyddio’r iaith, pa bynnag fath o Gymraeg maent yn ei siarad.
Cwis Dim Clem
Mae Cwis Dim Clem yn brosiect i blant blwyddyn 6 ysgolion cynradd Cwm Gwendraeth a Llanelli. Mae'r cwis yn cynnwys sawl gwahanol rownd sy'n codi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg. Mae sawl rownd gwahanol sy'n arwain at rownd derfynol. Yn dilyn llwyddiant y Cwis, mae bellach yn brosiect rhanbarthol ac yna wedi tyfu i fod yn genedlaethol.
- 8 -
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
Swn Sir Gâr
Mewn partneriaeth â Thim Datblygu Athrawon Sir Gâr, y syniad oedd i gynnal cystadleuaeth i fandiau oedran uwchradd ar draws y sir, gyda tri o’r bandiau yn mynd ymlaen i gael gweithdy perfformio, cyn chwarae yn y rownd derfynol. Cafwyd ymateb arbennig iawn gyda pump act yn ymgeisio trwy ddanfon fideo o’i grwp yn canu cover o unrhyw gân Gymraeg. Fe gafon ni geisiadau gan Ysgolion Sant Ioan Llwyd, Y Strade, Bryngwyn, Maes y Gwendraeth a Bro Myrddin a phob un yn ymgais campus!
Y tri band a gafodd gweithdy gyda Mei Gwynedd (Big Leaves, Sibrydion, Hei Mistar Urdd) oedd Merched Beca, Y Tri Gwr Noeth ac Itwopia. Roedd y gweithdai yn arbenig, gyda Mei yn defnyddio ei gallu cerddorol a pherfformio i drawsnewid y bandiau o fod yn bandiau ysgol digon ‘rough around the edges’ i fod yn berfformwyr sydd yn gallu gweithio llwyfan.
Profwyd hynny ar y noson pan daeth 150 o bobl i Neuadd y Gwendraeth i wylio’r rownd derfynol. Y band Dros Dro oedd y beiriniaid gan hefyd perfformio set anhygoel o dda cyn cyhoeddi yr ennillwyr. Y Tri Gwr Noeth (Maes) oedd yn gyntaf, Iwtopia (Bro Myrddin a Maes) yn ail a Merched Beca (Bryngwyn) yn drydydd. Braf oedd gweld y tri band a’i ffrindiau yn dawnsio yn frwdfrydig i set Dros Dro, sydd hefyd yn gyn-ddisgyblion Maes a Bro Myrddin. Roedd y noson yn showcase Sir Gâr go iawn.
Mwncis Menter
Lansiwyd Mwncis Menter yn ystod y flwyddyn fel prosiect peilot gyda’r nod o annog arferion iaith cadarnhaol ymysg rhieni a phlant dan dair oed. Mae’r prosiect yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol lle gall teuluoedd ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol drwy chwarae, canu a chymdeithasu. Ers ei lansio, mae Mwncis Menter wedi profi’n hynod lwyddiannus ac yn parhau i dyfu, gyda thua 30 o deuluoedd bellach yn mynychu’n rheolaidd ac yn galw yn ein canolfan newydd i ymgynnull. Mae’r prosiect yn gwneud cyfraniad pwysig at normalu’r Gymraeg o oedran cynnar a chefnogi rhieni wrth fagu hyder yn eu defnydd o’r iaith gyda’u plant.
Gwyl y Gwendraeth
Lansiwyd Gŵyl y Gwendraeth yn ystod y flwyddyn fel penwythnos o weithgareddau amrywiol a chynhwysol, gyda’r nod o ddathlu’r Gymraeg a bywyd cymunedol ar draws Cwm Gwendraeth. Cynigiwyd rhaglen eang o weithgareddau i unigolion o bob oedran a phob gallu ieithyddol, gan greu awyrgylch croesawgar a hygyrch i bawb. Roedd yr ŵyl yn llwyddiant sylweddol, gan ddod â phobl leol ynghyd i gymryd rhan mewn profiadau diwylliannol, creadigol a chymdeithasol, ac yn atgyfnerthu rôl y Fenter fel hwylusydd cyfleoedd Cymraeg o safon o fewn y gymuned.
- 9 -
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
ADDYSG GYDOL OES
Dysgwyr. Dysgu’r Gymraeg yn y Gymuned
Mae Strategaeth Llywodraeth Cymru “Miliwn o Siaradwyr” yn ddibynnol ar greu siaradwyr newydd a’u hannog i ddefnyddio’r iaith ar lawr gwlad er lles pawb. Mae gweithio gyda dysgwyr yn allweddol ar gyfer parhad yr iaith ac fel Menter Iaith, rydym wedi blaenoriaethu ymdrechion i helpu y dysgwyr hyn i ‘bontio’, hynny yw i fynd o fod yn ddysgwyr pur i fod yn siaradwyr naturiol. I wneud hyn, rydym wedi sefydlu sesiynau amrywiol i gynorthwyo dysgwyr i ddeall ac i ddod i siarad Cymraeg sy’n debyg iawn i’r iaith a ddefnyddir gan bobl leol.
Rhedir sesiynau Paned a Sgwrs (Pontyberem a Cydweli), Clwb Clonc (Penygroes) a Cwrw a Chlonc (Llanelli) ar gyfer pobl sydd yn newydd i’r ardal ac i’r Gymraeg, ac sydd eisiau dysgu siarad rhywfaint o’r Gymraeg er mwyn deall fwy o’r hyn sydd yn mynd ymlaen o’u cwmpas.
Mae’r sesiynau hyn yn rhoi’r pwyslais ar fwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg a chyfle i gymdeithasu gan ddefnyddio’r Gymraeg a ddefnyddir yn lleol. O ganlyniad i’r sesiynau hyn, mae dysgwyr yn mynd ymlaen i fynychu nifer fawr o ddigwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol a rhedir gan y Fenter, ond hefyd gan grwpiau cymunedol eraill.
Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn cydweithio’n agos gyda dysgwyr ardal Cwm Gwendraeth a Llanelli. Mae hyn yn cynnwys cynnal sesiynau trafod a chydweithio gyda’r dysgwyr.
Pryd ar Glud
Mae gwasanaeth Pryd ar Glud yn cael ei gynnig i drigolion Cwm Gwendraeth unwaith yr wythnos. Mae'r trigolion hyn yn cael pryd twym, dau gwrs wedi ei ddarparu yn y cartref. Mae'r gwasanaeth hwn yn holl bwysig i'r bobl sydd yn gaeth i'w cartrefi. Diolch i'r gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth i ddosbarthu'r pecynnau bwyd. Hefyd, mae'r unigolion hyn yn gwerthfawrogi gweld gwyneb adnabyddus yn wythnosol.
Clwb Darllen
Mae’r Clwb Darllen yn cwrdd yn fisol a 10 unigolyn yn rhan o’r grŵp ac yn cael trafodaethau diddorol am lyfrau cyfredol. Mae’r unigolion yn cwrdd yn wythnosol yn darllen nofelau, straeon byrion, hunangofiant ac yn cael trafodaethau yn sgil y themâu sy’n codi. Mae hyn yn ffordd wych o gymdeithasu a chael tipyn o hwyl. Nod y grŵp yw cwrdd wyneb yn wyneb yn rheolaidd pan fydd canllawiau yn caniatáu.
- 10 -
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
MENTRAU CYMDEITHASOL
Plant y Cwm-Yn gwella bywyd plant Cymru
Mae Plant y Cwm yn cael ei gydnabod yn genedlaethol fel cwmni ymroddedig, sy'n hyrwyddo a chefnogi gofal a chymorth i deuluoedd, plant ac oedolion ifanc ar draws Sir Gaerfyrddin. Genir dyfeisgarwch mewn chwarae creadigol. Mae gan blant ffordd arbennig o ddod a llawenydd i bob dydd. Wrth edrych i mewn i'w llygaid gwelwn y gallant wneud beth bynnag mae nhw'n ei ddychmygu. Gallwn ninnau ond eu helpu i ddychmygu au hysbrydoli i wireddu.
Pwy ydym ni?
Rydym yn gwmni preifat sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol ac yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaethau i blant ac oedolion ifanc yng nghymunedau Cwm Gwendraeth, ardal Llanelli a thu hwnt.
Beth i ni'n gwneud?
Mae Plant y Cwm yn ddarparwr blaengar a dibynadwy sy'n cyflawni gofal a chefnogaeth i fywydau plant ac oedolion ifanc.
Dysgu'n ddi-dor
Mae plant yn dysgu mewn nifer fawr a ffyrdd boed ai'n ffurfiol neu beidio. Mae 'r clybiau yn cynnig cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd mewn amgylchedd creadigol a diogel sy'n ychwanegu at ei haddysg trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau.
Canolfan Cymunedol Y Cwtsh a Pafiliwn Penygroes
Canolfan Adnoddau yw’r Cwtsh ar gyfer Cwm Gwendraeth ac mae’n cyfuno siop lyfrau a chaffi. Yn ogystal, mae'r Cwtsh yn ofod cymunedol gwerthfawr, sy'n cael ei ddefnyddio gan bob rhan o'r gymuned, yn enwedig trigolion lleol sy'n defnyddio'r cyfleuster fel lle diogel a chroesawgar i gwrdd â ffrindiau a hefyd i wneud ffrindiau newydd. Mae'r Cwtsh yn darparu prydau poeth, ac mae brecwast wedi eu coginio bob dydd ac yn awr mae ar agor chwe diwrnod yr wythnos. Yn dilyn llwyddiant model y Cwtsh, mae’r Pafiliwn yn darparu gwasanaeth tebyg gyda siop goffi a neuadd gymunedol. Mae’r gweithgareddau wythnosol yn cynnwys Clwb Crefft, Gwersi Iwcaleli yn ogystal a sesiynau dawnsio sedd.
Cwtshffest
Mae Cwtshffest wedi mynd o nerth i nerth ers y lansiad gyda band Pwdin Reis. Rydym wedi gweld sawl artist yn dod i’r Cwtsh a sawl band neu unigolyn lleol yn cefnogi a sawl un o rheini’n perfformio am y tro cyntaf. Mae pob noson yn cynnwys o leiaf dau artist a pryd o fwyd gyda’r bar yn gwerthu diodydd o bob math. Mae’r Cwtshffest wedi dod yn noson gymdeithasol gyda cymuned o bobl sydd yn dod yn ôl tro ar ôl tro.
-11-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
DATBLYGU CYMUNEDOL
Bywyd Cyflawn, Bywyd Hapus
Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn cydnabod bod y perygl o unigedd ac ynysu cymdeithasol yn fwy o ofid nawr nag erioed. Mae pobl yn fwy symudol nawr nag erioed gyda nifer fawr o’n cymunedau wedi gweld dirywiad mewn cyfranogaeth ar lawr gwlad ac mae’r cyfleusterau, sydd ar gynnig yn lleihau diolch i doriadau ariannol a newidiadau mewn patrymau bywyd. Felly, mae’r Fenter yn trefnu calendr o weithgareddau rheolaidd a digwyddiadau achlysurol gyda’r nod o ddod â phobl at ei gilydd, i wneud cysylltiadau, i ddysgu rhywbeth newydd ac i fwynhau. A hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys sesiynau gemau traddodiadol, gweithdai coginio, cwisus a ciniawau, grŵp drama, ioga, a theithiau i weld rhai o’r mannau diddorol a braf sydd ar drothwy ein drysau.
Cryfhau Cymunedau
Ers cenhedlaeth bellach, bu Menter Cwm Gwendraeth Elli yn gweithredu gydag unigolion a grwpiau cymunedol o bob math er mwyn deall sut y mae ein cymunedau yn esblygu, ac anghenion eu trigolion yn newid. Nid yw pwyllgora at ddant pawb, ond yn sicr, mae yna nifer fawr o ffyrdd y gall pobl leol roi o'u hamser er mwyn gwneud gwahaniaeth go-iawn i fywydau pobl Cwm Gwendraeth a Llanelli a'r cylch.
Partneriaethau
Mae gan y Fenter gysylltiadau agos gydag ystod eang o bartneriaethau ac mae’n cydweithio gyda nifer o grwpiau, mudiadau a sefydliadau gan gynnwys:
Cyngor Sir Gaerfyrddin Llywodraeth Cymru Mudiad Meithrin; Cymraeg i Blant Mentrau Iaith Cymru Urdd Busnesau Lleol Papurau Bro Ysgolion Uwchradd Ysgolion Cynradd Merched y Wawr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Y Loteri Genedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc Clybiau Gwawr Cynghorau Tref a Chymuned Canolfan Cymraeg i Oedolion Mentrau Iaith National Grid CAVS Moondance Foundation CgGC Dechrau’n Deg Canolfan S4C Yr Egin Clybiau Chwaraeon Llyfrgelloedd Sir Gâr
-12-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU'R YMDDIRIEDOLWYR
Mae’r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni at ddibenion Deddf Cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr ymddiriedolwyr a’r datganiadau ariannol yn unol â’r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig.
Yn ôl cyfraith cwmnïau mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol bob blwyddyn ariannol sy'n rhoi darlun gwir a theg o gyflwr yr elusen a gwarged neu ddiffyg yr elusen yn ystod y flwyddyn honno. Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hynny, mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr wneud y canlynol: -
-
1) Dewis polisïau cyfrif addas a'u gweithredu'n gyson;
-
2) Dilyn dulliau ac egwyddorion y Datganiad o Arfer Cymeradwy: Cyfrifo a Chofnodi gan Elusennau;
-
3) Gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon cyfrifol a darbodus;
-
4) Datgan a ydy’r safonau cyfrifyddu perthnasol a’r datganiadau o arferion cymeradwy wedi cael eu dilyn heblaw am unrhyw eithriadau sydd wedi eu datgelu a’u hesbonio yn y datganiadau ariannol;
-
5) Paratoi datganiadau ariannol ar sail y dybiaeth bod yr elusen yn hyfyw oni fernir mai priodol fyddai credu bod yr elusen ar fin dod i ben.
Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion priodol o'r cyfrifon sy'n datgelu'n rhesymol o gywir ar unrhyw adeg sefyllfa ariannol yr elusen ac am sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio a Deddf Gwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedion yr elusen ac am gymryd camau rhesymol i atal a darganfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall.
ASESIAD RISG
Yn dilyn cyfarwyddyd gan y Comisiynwyr Elusennau y dylai pob elusen baratoi asesiad risg fel mater o arfer da, mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried ac adolygu’r peryglon y gallai’r cwmni eu hwynebu. Roedd yr adolygiad nid yn unig yn cynnwys risgiau sydd yn gysylltiedig â hwyluso prosiectau neu faterion iechyd a diogelwch ond hefyd risgiau ariannol mewn perthynas â dirwyn y cwmni i ben, diswyddiadau, salwch hirdymor neu geisiadau am iawndal gan staff.
Cytunwyd i neilltuo arian o gyllideb gyfredol y cwmni er mwyn ymateb i achosion risg. Yn sgil hynny, mae cyfanswm o £33,177 wedi ei drosglwyddo i gronfeydd penodol.
-13-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
Wrth baratoi adroddiad yr ymddiriedolwyr, manteisiwyd ar yr eithriadau arbennig yn unol â rhan 15 o Ddeddf Gwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau bychan.
TRWY ORCHYMYN Y BWRDD
11-15 Heol Coalbrook Pontyberem Llanelli Sir Gaerfyrddin SA15 5HU
…………………………… Dr Ian Wyn Rees YMDDIRIEDOLWR ……………………………. DYDDIAD
-14-
25 Stryd Y Bont 25 Bridge Street Caerfyrddin Carmarthen Sir Gaerfyrddin Carmarthenshire SA31 3JS SA31 3JS
LLŶR JAMES Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig Chartered Certified Accountants Archwilwyr Cofrestredig Registered Auditors
ffôn/tel 01267 247754 ffacs/fax 01267 248418 ebost/email post@llyrjames.co.uk gwefan/website www.llyrjames.co.uk trydar/twitter @LlyrJamesCyf
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU)
ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR AROLYGWR ANNIBYNNOL I’R YMDDIRIEDOLWYR
Dyma adroddiad yr arolygwr annibynnol i’r aelodau ar gyfrifon anarchwiliedig Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyf.
Adroddaf i ymddiriedolwyr yr elusen ar fy arolwg annibynnol o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025.
Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni at ddibenion y gyfraith yn ymwneud a chwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (“Deddf 2006”).
Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archwiliad ariannol o gyfrifon y Cwmni ar gyfer y flwyddyn hon a dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael arolwg annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m harolwg annibynnol o gyfrifon eich elusen fel y’i cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (“Deddf 2011”). Wrth ymgymryd â’m harolwg annibynnol, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.
Roedd incwm gros y cwmni yn fwy na £250,000 ac rwy’n gymwysedig i gynnal yr arolwg annibynnol trwy fod yn aelod cymwysedig o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.
Rwyf wedi cwblhau fy arolwg annibynnol. Cadarnhaf nad oes unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw sy’n rhoi achos i mi gredu:
-
na chafodd cofnodion cyfrifyddol eu cadw yn unol ag adran 386 o Ddeddf Cwmnïau 2006; neu
-
nad yw’r cyfrifon yn cyfateb â’r cofnodion hynny; neu
-
nad yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion cyfrifo perthnasol o dan adran 396 o Ddeddf Cwmnïau 2006 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun ‘gwir a theg’ nad yw’n fater i’w ystyried fel rhan o arolwg annibynnol; neu
-
nad yw’r cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â’r SORP Elusennau (FRS102).
Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r arolwg annibynnol y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.
…………………………. BETHAN VAUGHAN CYFRIFYDD ARDYSTIEDIG SIARTREDIG
DYDDIEDIG…………………..
-15-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
| Cronfeydd Cronfeydd | Cronfeydd Cronfeydd | Cronfeydd | |||
|---|---|---|---|---|---|
| heb | Penodol | a | Cyfanswm Cyfanswm | ||
| gyfyngiadau | chyfyngiadau | 2025 | 2024 | ||
| £ | £ | £ |
£ | £ | |
| INCWM A GWARIANT | |||||
| ADNODDAU I MEWN | |||||
| Rheoli Prosiectau | - | - |
232,023 | 232,023 | 129,485 |
| Cymhorthdal - Eraill | 140,082 | - | - | 140,082 | 142,185 |
| Gweithgareddau | 63,460 | - | - |
63,460 | 72,511 |
| Rhoddion | - | - | - | - | 13,330 |
| ------------ | ------------ | ----------- | ------------ | ----------- | |
| Adnoddau i mewn - cyfanswm | 203,542 | - | 232,023 | 435,565 | 357,511 |
| ------------ | ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | |
| ADNODDAU A DDEFNYDDIWYD | |||||
| Dibrisiant | 5,343 | - | - | 5,343 | 6,443 |
| ------------ | ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | |
| 5,343 | - | - | 5,343 | 6,443 | |
| ------------ | ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | |
| Costau Eraill | |||||
| Costau Proffesiynol | 16,387 | - |
- |
16,387 | 11,372 |
| Costau Gweithgareddau (4a) | 48,498 | - | - | 48,498 | 34,670 |
| Costau Cynnal (4b) | 155,017 | - | 370,153 | 525,170 | 308,435 |
| ------------ | ------------ | ----------- | ---------- | ---------- | |
| 219,902 | - |
370,153 | 590,055 | 354,477 | |
| ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | ---------- | |
| Adnoddau a ddefnyddiwyd – cyfanswm225,245 | - |
370,153 | 595,398 | 360,920 | |
| ------------ | ------------ | ----------- | ---------- | ----------- | |
| Adnoddau net a ddefnyddiwyd | (21,703) | - | (138,130) | (159,833) | (3,409) |
| Trosglwyddiadau rhwng cronfeydd | - | - | - | - | - |
| Elw gwirioneddol ar y | - | - | - |
- | 147,000 |
| cynllun buddiannau pendant | |||||
| ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | ---------- | |
| Symudiad net mewn cronfeydd | (21,703) | - | (138,130) | (159,833) | 143,591 |
| CRONFEYDD - DYGWYD YMLAEN135,471 | 33,177 150,630 | 319,278 | 175,687 | ||
| ----------- | ----------- | ---------- | ------------ | ----------- | |
| CRONFEYDD - CARIWYD YMLAEN113,768 | 33,177 12,500 |
159,445 | 319,278 | ||
| ====== | ======= | ====== | ======= | ====== |
Dangosir y symudiadau ar yr arian wrth gefn yn nodiadau 9, 10 ac 11 i'r datganiadau ariannol.
- 16-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG (RHIF Y CWMNI: 2815717) (CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2025
| NODYN | NODYN | 2025 | 2024 | ||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| £ | £ | £ | £ | ||||
| ASEDION SEFYDLOG | |||||||
| Asedion Sylweddol | 2 | a 5 | 49,088 | 47,002 | |||
| ASEDION CYFREDOL | |||||||
| Dyledwyr | 6 | 41,224 | 64,839 | ||||
| Arian yn y banc ac mewn llaw | 133,068 | 239,576 | |||||
| ----------- | ----------- | ||||||
| 174,292 | 304,415 | ||||||
| ----------- | ----------- | ||||||
| CREDYDWYR: symiau’n ddyledus | |||||||
| o fewn blwyddyn | 7 | 54,389 | 29,322 | ||||
| ----------- | ----------- | ||||||
| ASEDION CYFREDOL NET | 119,903 | 275,093 | |||||
| ------------ | ------------- | ||||||
| CYFANSWM ASEDION LLAI | |||||||
| (RHWYMEDIGAETHAU) CYFREDOL | 168,991 | 322,095 | |||||
| Darpariaeth am ymrwymiadau | 8 | (9,546) | (2,817) | ||||
| ------------- | ------------- | ||||||
| ASEDION NET | £ 159,445 | £ | 319,278 | ||||
| ======= | ======= | ||||||
| CYFALAF AC ARIAN WRTH GEFN | |||||||
| Cronfeydd – heb gyfyngiadau | 9 | 113,768 | 135,471 | ||||
| Cronfeydd – penodol | 10 | 33,177 | 33,177 | ||||
| Cronfeydd – a chyfyngiadau | 11 | 12,500 | 150,630 | ||||
| ------------- | ------------ | ||||||
| CYFANSWM CRONFEYDD | £ 159,445 | £ | 319,278 | ||||
| ======= | ======= |
Ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw roedd gan y cwmni’r hawl i gael ei eithrio o dan Adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n ymwneud a chwmnïau bach. Nid yw unrhyw aelodau wedi mynnu i’r cwmni gael archwiliad ariannol o’i gyfrifon am y flwyddyn dan sylw yn unol ag Adran 476 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb am gydymffurfio a gofynion y Ddeddf mewn perthynas â chofnodion cyfrifeg ac am baratoi cyfrifon.
Mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi yn unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n ddarostyngedig i’r drefn cwmnïau bychain.
Cymeradwywyd y datganiadau ariannol ar dudalennau 17 i 30 gan fwrdd yr ymddiriedolwyr ac fe'u harwyddwyd ar ei ran gan:
…………………………………………
YMDDIRIEDOLWR
Mrs Kathryn Devonald-Davies
…………………………………………
DYDDIAD
- 17-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL
AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
1. GWYBODAETH STATUDOL
Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyfyngedig yn elusen gofrestredig ac yn gwmni preifat cyfyngedig trwy warant wedi ei ymgorffori yng Nghymru o fewn y Deyrnas Unedig. Mae’r swyddfa gofrestredig yn 11-15 Coalbrook Road, Pontyberem, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 5HU.
Cyflwynir y datganiadau ariannol mewn punnoedd sterling (£).
2. POLISÏAU CYFRIFO
Sail y Cyfrif
Mae'r cwmni'n paratoi ei ddatganiadau ariannol ar sail cyfrifo cost hanesyddol.
Mae'r datganiadau ariannol wedi eu paratoi yn unol â’r darpariaethau o Adran 1A “Cwmnïau Bychain” o Safon Adrodd Ariannol 102 “Y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon” a Deddf Cwmnïau 2006.
Paratoi cyfrifon ar sail hyfywedd
Mae’r Ymddiriedolwyr o’r farn fod yr elusen, ar sail yma, yn fusnes gweithredol a hyfyw.
Costau Pensiwn
Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn gweithredu pensiwn â buddion wedi’u diffinio o fewn Cronfa Bensiwn Dyfed. Ar ôl mabwysiadu FRS 102 ym mis Ebrill 2015, dangosir unrhyw ddiffyg yn llawn ar y Fantolen.
Trosiant
Mae'r trosiant yn cynrychioli gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn.
Asedion Sefydlog A Dibrisiant
Nodir gwerth asedion sefydlog ar y fantolen yn ôl eu cost lai dibrisiant. Diddymir cost asedion sefydlog fesul rhandaliad blynyddol cyfartal dros eu hoes ddefnyddiol dybiedig fel a ganlyn: -
Celfi ac Offer - 15%
Ystyrir asedion a brynir trwy gytundeb les fel asedion cyfalaf ac fe’u dibrisir yn ôl y cyfraddau uchod.
Grantiau
Mae grantiau yn cael eu credydu i incwm yn unol â'r cyfnodau y maent yn perthyn iddynt.
-18-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
Asesiad Risg
Mae’r cwmni wedi ystyried ac adolygu pob risg a allai effeithio ar yr elusen. Roedd y broses hon yn cwmpasu nid yn unig y sefyllfa ariannol ond hefyd ystyriaethau strategol ac amgylchiadol. Mae’r cwmni elusennol yn cadarnhau bod systemau wedi’u sefydlu i wrthsefyll pob risg o’r math y tynnwyd sylw atynt fel rhan o’r broses hon.
Offerynnau Ariannol
Mae’r offerynnau ariannol nad ydynt ynghlwm wrth symudiadau’r farchnad yn cynnwys dyledwyr masnachol a dyledwyr eraill, arian a’r hyn sy’n cyfateb i arian, credydwyr masnachol a chredydwyr eraill.
Ac eithrio lle dywedir fel arall, mae gwerthoedd asedion ac ymrwymiadau ariannol y cwmni yn amcangyfrifon teg.
Defnyddio Elw
Defnyddir elw’r cwmni i greu cronfa gyffredinol wrth gefn er sicrhau parhad a datblygiad y cwmni ar sail y cyfrannau ac yn ôl y dulliau a argymhellir gan y Pwyllgor Rheoli a’u cymeradwyo gan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Gwarant
Mae atebolrwydd pob aelod yn gyfyngedig i uchafswm o £1. Diddymir yr atebolrwydd hwn flwyddyn ar ôl i’r aelodaeth ddarfod.
Polisi Arian Wrth Gefn
Lluniwyd y polisi arian wrth gefn i sicrhau bod gan y cwmni elusennol gyllid digonol i ddelio a’r elfen o risg sydd ynghlwm a rhedeg cwmni sydd yn ddibynnol ar dderbyn arian o’r pwrs cyhoeddus. (Gweler nodyn 11)
3. CYFARWYDDWYR A STAFF
Ar gyfartaledd rhif y staff yn fisol yn ystod y flwyddyn oedd: 25 (2024 – 25).
Roedd costau cronnus cyflogau'r personau hyn fel a ganlyn:-
| 2025 | 2024 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Cyflogau a chostau teithio | 189,491 | 144,208 |
| Costau Nawdd Cymdeithasol a Phensiynau | 43,295 | 44,065 |
| ----------- | ---------- | |
| 232,786 | 188,273 | |
| ====== | ====== | |
| Ni dalwyd cyflog i unrhyw un o’r ymddiriedolwyr. |
-19-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
4. DADANSODDIAD O GOSTAU
| Cronfeydd | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| heb | Cronfeydd | Cronfeydd a Cyfanswm | Cyfanswm | |||
| gyfyngiadau | penodol | chyfyngiadau 2025 | 2024 | |||
| £ | £ | £ | £ | £ | ||
| 4a | COSTAU GWEITHGAREDDAU | |||||
| (i) | Eraill | 16,815 | - | - | 16,815 | 16,143 |
| (ii) | Costau uniongyrchol | 31,683 | - | - | 31,683 | 18,527 |
| ------------ | ------------ | ------------ | ------------ | ---------- | ||
| 48,498 | - | - | 48,498 | 34,670 | ||
| ======= | ======= | ======= | ======= | ====== | ||
| 4b | COSTAU CYNNAL | |||||
| (ii) | Costau Swyddfa | 20,886 | - | - | 20,886 | 13,639 |
| (iii) | Costau Cyflogau a | |||||
| chostau teithio | 79,521 | - | 153,265 | 232,786 | 188,273 | |
| (iv) | Prosiectau | 54,610 | - | 216,888 | 271,498 | 106,523 |
| ------------ | ------------ | ------------ | ------------ | ----------- | ||
| 155,017 | - | 370,153 | 525,170 |
308,435 | ||
| ======= | ======= | ======= | ======= | ====== |
-20-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
5. ASEDION SEFYDLOG SYLWEDDOL
| Adeilad | Celfi ac | |||
|---|---|---|---|---|
| Adeilad | ar Les | Offer | Cyfanswm | |
| £ | £ | £ | ||
| COST | ||||
| Ar 1.4.24 | 46,815 | 17,000 | 177,912 | 241,727 |
| Ychwanegiadau | - | - | 8,621 | 8,621 |
| ---------- | ---------- | ---------- | ----------- | |
| Ar 31.3.25 |
46,815 | 17,000 | 186,533 | 250,348 |
| ---------- | ---------- | ---------- | ----------- | |
| DIBRISIANT | ||||
| Ar 1.4.24 | 19,091 | 1,700 | 173,934 | 194,725 |
| Tal am y cyfnod | 3,080 | 1,700 | 1,755 | 6,535 |
| ----------- | ---------- | ---------- | ---------- | |
| Ar 31.3.25 | 22,171 | 3,400 | 175,689 | 201,260 |
| ----------- | ---------- | ---------- | ---------- | |
| GWERTH | ||||
| LLYFR NET | ||||
| Ar 31.3.25 | £24,644 | £13,600 | £10,844 | £49,088 |
| ====== | ====== | ====== | ======= | |
| Ar 31.3.24 | £27,724 | £15,300 | £ 3,978 | £47,002 |
| ====== | ====== | ====== | ======= |
-21-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
| 6. | DYLEDWYR | 2025 | 2025 | 2024 |
|---|---|---|---|---|
| £ | £ | |||
| Dyledwyr Masnachol | 12,243 | 31,025 | ||
| Menter Min Nos Cyf (6i) | 158 | 158 | ||
| Cwtsh Glöyn Cyf (6i) | 4,268 | - | ||
| Menter Plant Y Cwm Cyf (6i) | - | 11,982 | ||
| Caffi Cynnes Cyf (6i) | 24,555 | 21,674 | ||
| ------------ | ------------- | |||
| £ | 41,224 | £ 64,839 | ||
| ======= | ======== |
Nodyn (i)
Ar 31 Mawrth 2025 roedd asedion / (ymrwymiadau) y cwmnïoedd fel a ganlyn:-
| 2025 | |
|---|---|
| £ | |
| Cwtsh Glöyn Cyf | £ 5,099 |
| Menter Plant y Cwm Cyf |
£ 134,908 |
| Menter Gwasanaethau Iaith y Cwm Cyf |
£ 17,999 |
| Menter Min Nos Cyf |
£ 331 |
| Caffi Cynnes Cyf |
£ (2,299) |
Er nad yw’r rhain yn is-gwmnïau, fe’u sefydlwyd gan Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyf mwyn iddynt weinyddu gweithgareddau penodol. Maent i gyd yn gweithredu o dan oruchwyliaeth Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyf sydd hefyd yn gwarantu eu holl ymrwymiadau ariannol.
7. CREDYDWYR
| CREDYDWYR | ||
|---|---|---|
| 2025 | 2024 | |
| £ | £ | |
| Symiau'n ddyledus o fewn blwyddyn: - | ||
| Credydwyr Masnachol | 36,480 | 10,240 |
| Menter Gwasanaethau Iaith y Cwm Cyf (6i) | 8,963 | 10,832 |
| WCVA | 4,956 | 8,250 |
| Menter Plant y Cwm Cyf (6i) | 3,990 | - |
| ------------ | ------------- | |
| £ 54,389 | £ 29,322 | |
| ======= | ======== |
-22-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
8. DARPARIAETH AM YMRWYMIADAU
| 2025 | 2024 | ||
|---|---|---|---|
| £ | £ | ||
| a) | REDRESS | ||
| Balans ar 1 Ebrill 2024 | 2,817 | 3,493 | |
| Arian a dderbyniwyd | - | - | |
| Grant a hawliwyd | (676) | (676) | |
| ---------- | ---------- | ||
| Balans ar 31 Mawrth 2025 | 2,141 | 2,817 | |
| ====== | ====== | ||
| b) | CYMORTH BWYD | ||
| Balans ar 1 Ebrill 2024 | - | - | |
| Arian a dderbyniwyd | 4,736 | - | |
| Grant a hawliwyd | (118) | - | |
| ---------- | ---------- | ||
| Balans ar 31 Mawrth 2025 | 4,618 | - | |
| ====== | ====== | ||
| c) | CYMORTH BWYD | ||
| Balans ar 1 Ebrill 2024 | - | - | |
| Arian a dderbyniwyd | 3,185 | - |
|
| Grant a hawliwyd | (398) | - | |
| ---------- | ---------- | ||
| Balans ar 31 Mawrth 2025 | 2,787 | - | |
| ====== | ====== | ||
| CYFANSWM | £9,546 | £ 2,817 | |
| ====== | ====== |
- 23 -
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
9. CRONFEYDD - HEB GYFYNGIADAU
| 2025 | 2024 | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| £ | £ |
||||
| Balans a ddygwyd ymlaen | 135,471 | 6,852 | |||
| (Diffyg) Gwarged am y cyfnod | (21,703) | 128,619 | |||
| ------------ | ------------ | ||||
| £ 113,768 | £ 135,471 | ||||
| ======= | ======= | ||||
| 10. | CRONFEYDD PENODOL | Balans | Trosglwy- | Trosglwy- | Balans |
| 1.4.24 | ddiadau | ddiadau | 31.3.25 | ||
| i Gronfeydd i mewn | |||||
| Eraill | |||||
| £ | £ | £ | £ | ||
| Costau Swyddfa (i) | 33,177 | - | - | 33,177 | |
| ---------- | ---------- | ---------- | ---------- | ||
| 33,177 | - | - | 33,177 | ||
| ---------- | ---------- | ---------- | ---------- |
Yn dilyn asesiad o risg, mae’r Fenter wedi sefydlu cronfa benodol: -
- i) Darpariaeth am gostau ychwanegol a fyddai’n deillio o adleoli swyddfeydd
| £ | ||
|---|---|---|
| - | Costau Cynnal y Swyddfa | 23,177 |
| - | Costau Cyfreithiol | 5,000 |
| - | Adleoli Swyddfeydd | 5,000 |
| --------- | ||
| £33,177 | ||
| ====== |
- 24 -
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
11. CRONFEYDD - A CHYFYNGIADAU
Symudiad mewn Cronfeydd
| Balans | Adnoddau | Gwariant | Balans | |
|---|---|---|---|---|
| 1.4.24 | i mewn | 31.3.25 | ||
| £ | £ | £ | £ | |
| Cyngor (i) | - | 5,000 | 5,000 | - |
| Prosiect Llwynhendy (ii) | 142,922 | 111,818 | 254,740 | - |
| Redress (iii) | - | 51,805 | 51,805 | - |
| Annog (iv) | - | 8,400 | 8,400 | - |
| Grant 10 (v) | - | 20,000 | 20,000 | - |
| Cyngor Sir(vi) | - | 20,000 | 20,000 | - |
| Moondance (vii) | 7,708 | 15,000 | 10,208 | 12,500 |
| ---------- | ---------- | ----------- | ---------- | |
| 150,630 | 232,023 | 370,153 | 12,500 | |
| ---------- | ---------- | ----------- | ---------- |
Cronfeydd a Chyfyngiadau
-
(i) Cyngor – Cyllid penodol i hyrwyddo’r Gymraeg yn Ysgol Maes y Gwendraeth a Strade.
-
(ii) Prosiect Llwynhendy -. Nod Cyllid Invest Local yw i ddarparu buddsoddiad ar gyfer y prosiect ac adnabyddwyd yng Nghynllun Gyrru Newid Llwynhendy, sy’n gyfredol ar yr adeg pan gyflwynir y cynnig cyllido.
Mae Menter yn gyfrifol am sicrhau bod yr arian yn cael ei wario yn union yn unol â’r termau ac amodau ar nwyddau a gwasanaethau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithredu’r prosiect a gymeradwywyd gan Bwyllgor Llywio’r Llwynhendy Invest Local (y Pwyllgor Llywio) fel y crybwyllwyd yn y Llythyr Cynnig cyllid.
-
(iii) Redress - Mae Adfer Energy Redress yn cynnig cymorth i bobl Sir Gaerfyrddin i leihau costau gwresogi eu cartrefi a lleihau Tlodi Tanwydd. Mae Tlodi Tanwydd yn effeithio ar filoedd o aelwydydd ar draws Cymru ac yn cael effaith negyddol ar iechyd, gan gyfrannu ar afiechyd a marwolaethau dros y Gaeaf. Bydd Adfer Energy Redress yn helpu pobl sydd yn agored i niwed. Bydd hefyd yn grymuso pobl i gymryd camau cadarnhaol yng nghymunedau eu hunain, mewn ymateb i’r cynnydd yn y gost o wresog cartrefi- tuedd sy’n peri cryn bryder i lawr gyda’r cynnydd cost ynni presennol.
-
25 -
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
-
(iv) Annog Cyf / Arfor - Cefnogaeth i sefydlu a datblygu metrau cymdeithasol i warchod adnoddau allweddol o fewn gymunedau yng nghadarnleoedd y Gymraeg.
-
(v) Grant 10 Tref - Diben ein menter Deg Tref yw cefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y Sir.
-
(vi) Cyngor Sir Garefyrddin – .Cynnal adloniant Gymraeg mewn amryw o leoliadau ar draws Cwm Gwendraeth a Llanelli, a’r ail cynnal prosiect Gymusi mewn ardal benodol.
-
(vii) Moondance - Grant i gefnogi costau staff er mwyn cynnal gweithgarwch yng Nhanolfan Tabor.
-26-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
12. DADANSODDIAD O ASEDION NET RHWNG CRONFEYDD
| Asedion / | |||
|---|---|---|---|
| Sylweddol | Asedion | Cyfanswm | |
| Net | |||
| £ | £ | £ | |
| Grantiau | 9,546 | (9,546) | - |
| Cronfeydd Penodol | - | 33,177 | 33,177 |
| Cronfeydd heb gyfyngiadau | 39,542 | 74,226 | 113,768 |
| Cronfeydd a chyfyngiadau | - | 12,500 | 12,500 |
| ---------- | ----------- | ----------- | |
| 49,088 | 110,357 | 159,445 | |
| ====== | ====== | ====== |
13. TRAFODION A CHWMNÏAU PERTHNASOL
Nid oes run o’r pum cwmni perthnasol wedi cyfrannu tuag at gostau Menter Cwm Gwendraeth Elli eleni,
| Menter Min Nos Cyf £0 (2024 - £0) |
|---|
| Cwtsh Glöyn Cyf £0 (2024 - £0) |
| Caffi Cynnes Cyf £0 (2024 - £0) |
| Menter Plant y Cwm Cyf £0 (2024 - £0) |
| Menter Gwasanaethau Iaith y Cwm Cyf £0 (2024 - £0) |
-27-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
14. CYNLLUN PENSIWN
Natur y Cynllun: Budd-dal Diffiniedig Dyddiad y Prisiad Actiwarïaid llawn ddiwethaf 31.03.2022
TYBIAETHAU ACTIWARÏAID
| Tybiaethau Ariannol | Dechrau’r | Diwedd y |
|---|---|---|
| Flwyddyn | Flwyddyn | |
| Graddfa chwyddiant | 2.6% | 2.6% |
| Graddfa cynnydd cyflogau | 4.1% | 4.1% |
| Graddfa cynnydd pensiynau | 2.7% | 2.7% |
| Cyfradd disgownt | 4.9% | 5.9% |
| Rhaniad yr asedau rhwng y categorïau buddsoddi | ||
| Soddgyfrannau | 72.8% | 72.5% |
| Bondiau’r Llywodraeth | 0.0% | 0.0% |
| Bondiau eraill | 9.4% | 9.2% |
| Eiddo | 12.3% | 10.4% |
| Arian parod | 0.5% | 0.9% |
| Arall | 5.0% | 7.0% |
Mae’r ffigurau diwedd y flwyddyn ar gyfer dangos gwerth yr asedau ar y farchnad a’r rhaniad asedau rhwng categorïau buddsoddiadau wedi eu cyfrifo ar 31 Mawrth 2025.
Mae’r ffigurau cyfatebol ar gyfer ddechrau’r flwyddyn wedi eu cyfrifo ar 31 Mawrth 2024.
Mantolen yr Eitemau ar 31 Mawrth 2025
| £,000 | |
|---|---|
| Gwerth yr Asedau ar y farchnad | 2,565 |
| Dyledion | (2,067) |
| Gwarged | 498 |
| Symudiadau’r Gweddill yn ystod 2024/25 | |
| Gweddill (Diffyg) ar ddechrau’r flwyddyn | 109 |
| Cost Gyfredol y Gwasanaeth | (18) |
| Cyfraniadau’r Cyflogwr | 27 |
| Cost y Gwasanaeth Gynt | - |
| Llog Net / Budd ar Asedau | 7 |
| Gwarged Actiwarïaid | 373 |
| Gwarged ar ddiwedd y flwyddyn | 498 |
-28-
MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025
Datgeliadau Ychwanegol
| Datgeliadau Ychwanegol | |||
|---|---|---|---|
| Asedau ar | Asedau ar | ||
| 31.03.25 | 31.03.24 | ||
| £ 000 % | £ 000 | % | |
| Soddgyfrannau | 1,859 72.5 | 1,831 | 72.8 |
| Bondiau’r Llywodraeth | - 0.0 | - | 0.0 |
| Bondiau eraill | 236 9.2 | 237 | 9.4 |
| Eiddo | 267 10.4 | 309 | 12.3 |
| Arian | 23 0.9 | 13 | 0.5 |
| Arall | 180 7.0 | 126 | 5.0 |
| -------- | -------- | ||
| Cyfanswm | 2,565 | 2,516 | |
| -------- | -------- | ||
| Dyledion ar 31.03.2025 | 2,067 |
Caiff y Cynllun Pensiwn ei drin fel cynllun a'r cyfraniadau wedi'u diffinio gan fod cytundeb rhwng Menter Cwm Gwendraeth a'r Cynllun Pensiwn Aml-gyflogwr ynglŷn â'r modd yr ariennir unrhyw ddiffyg.
-29-