OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-03-31-accounts

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR A DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2024

RHIF Y CWMNI: 2815717

ELUSEN GOFRESTREDIG: RHIF 1021901

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD A DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2024

CYNNWYS TUDALEN
Rhestr o Wybodaeth 1
Adroddiad Yr Ymddiriedolwyr 2
Adroddiad Arolygwr Annibynnol 15
Datganiad o Weithgareddau Ariannol 16
Mantolen 17
Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol 18

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

RHESTR O WYBODAETH

SWYDDFA GOFRESTREDIG

Swyddfa Menter Cwm Gwendraeth Elli 11-15 Heol Coalbrook Pontyberem Llanelli Sir Gaerfyrddin SA15 5HU

BANCWYR

Banc HSBC ccc Banc Lloyds TSB ccc 4A Stryd Vaughan Stryd Stepney Llanelli Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA15 3TY SA15 3YD

CYFREITHWYR

Darwin Gray 9, Cathedral Rd Pontcanna Caerdydd CF11 9HA

CYFRIFWYR AC AROLYGWR ANNIBYNNOL

Llŷr James Cyf 25 Stryd Y Bont Caerfyrddin SA31 3JS

CYFARWYDDWYR Y CWMNI / WASANAETHWYD YN YSTOD Y FLWYDDYN

Dr Ian Wyn Rees Mrs Kathryn Devonald-Davies Mr Liam Morgan-Bowen -Ymddiswyddodd 24/11/2023 Miss Elen Davies Ms Anwen Mair Evans Mrs Alana Enoch Mrs Medwen Hewitt Ymddiswyddodd 31/12/2023 Mrs Helen Humphries Mr Euros Jones – Apwyntiwyd 24/01/2024 Mrs Jeni Olwen Price Ms Catrin Mair Rees Mr Kenneth Denver Rees Mr Hugh Richards Mr Gethin Thomas Miss Marged Lowri Walters Thomas -Ymddiswyddodd 26/09/2024 Mrs Linda Williams Mr John Evan Jones Ymddiswyddodd 10/05/2023 Mr Gareth Williams – Apwyntiwyd 24/01/2024

-1-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni i bwrpas rheolau cyfreithiol cwmnïau) yn cyflwyno'r adroddiad a'r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024.

ENW SWYDDOGOL

Enw swyddogol yr elusen yw Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyfyngedig.

CYFANSODDIAD

Mae'r elusen wedi ei sefydlu fel Cwmni Cyfyngedig, rhif 2815717, ac fel elusen gofrestredig, rhif 1021901. Mae cyfansoddiad y cwmni yn unol ag elusennau a chwmnïau cyfyngedig drwy warant heb gyfrannau.

PRIF WEITHGARWCH

Disgrifir prif weithgarwch y cwmni dan restr o amcanion y Fenter.

AMCANION MENTER CWM GWENDRAETH ELLI

  1. Cefnogi unrhyw weithgaredd Cymunedol Cymraeg sydd yn bodoli ar hyn o bryd.

  2. Hyrwyddo prosiectau er lles adfywio cymunedol, lle mae bylchau'n bodoli.

  3. Cydweithio â Mudiadau sydd eisoes yn weithgar yn gymunedol, er mwyn osgoi gwrthdaro, ac er mwyn dyblygu adnoddau.

  4. Hybu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ym myd busnes a masnach drwy: -

  5. a) Greu cysylltiadau rhwng cymdeithasau gwirfoddol a'r sector preifat a chyhoeddus er mwyn hybu gweithgareddau Cymraeg cymunedol.

  6. b) Hybu'r defnydd o’r iaith yng ngweinyddiaeth a chyhoeddusrwydd y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.

  7. Normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg mewn cyfarfodydd neu gynadleddau cyhoeddus drwy ddefnyddio offer cyfieithu.

  8. Sefydlu prosiectau ymchwil cymunedol fydd yn sbardun i drafodaethau ac yn sail i gynllunio cymunedol.

  9. Ystyried anghenion trigolion yr ardal ac adeiladu pontydd er lles adfywio cymunedol.

-2-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

  1. Sicrhau rhwydwaith o bwyllgorau lleol, a phaneli a gweithgorau fydd yn bwydo syniadau, yn creu bwrlwm ac yn llywio strategaeth.

  2. Cyfrannu i'r wasg yn gyson ar bwyntiau yn ymwneud â'r Gymraeg ac adfywio cymunedol, gwaith y Fenter, a natur y cymunedau diwydiannol hyn sydd yn dibynnu ar waith a bywoliaeth er mwyn cadw'r Cymry ifanc yn agos at eu gwreiddiau.

  3. Cadw'r weledigaeth yn glir bod rhaid creu delwedd newydd sbon i'r Gymraeg yn gymunedol a fydd yn adlewyrchu natur ein cymdeithas a thueddiadau byd eang yn y byd cyfoes - iaith ffasiynol, fodern a bywiog sy’n berthnasol i'n cyfnod ni heddiw.

FFYNONELLAU A DEFNYDD ARIAN

Mae'r Fenter yn cael ei chyllido yn bennaf, gan gyrff cyhoeddus megis Cyngor Sir Gaerfyrddin, Llywodraeth Cymru, Moondance, CAVS, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Community Matters Fund, er mwyn ariannu prosiectau penodol ym maes datblygu cymunedol.

Am y flwyddyn roedd diffyg o £3,409 cyn symudiad yn y gronfa pensiwn.

AROLWG O DDATBLYGIADAU A'R ARGOELION AR GYFER Y DYFODOL

Mae'r canlyniadau am y cyfnod yn dangos gostyngiad yn y cronfeydd cyn symudiad yn y gronfa pensiwn.

Bu 2023-2024 yn flwyddyn o brosiectau a gweithgarwch di-ri o safbwynt y Gymraeg ar draws ardal Cwm Gwendraeth, Llanelli a'r cyffiniau ac yn flwyddyn o wella a chryfhau gweithgareddau a chreu perthnasau a phartneriaethau newydd.

Mae'r ymddiriedolwyr yn deall pwysigrwydd llif arian i'r Fenter ar adeg pan mae’r disgwyliadau yn uchel ond mae'r adnoddau yn cael eu cwtogi.

Mae'r ymddiriedolwyr hefyd yn ystyried pwysigrwydd cyfraniad y cwmnïau llai i ddyfodol y Fenter ac wedi ystyried sefyllfa ariannol a rhagolygon incwm y cwmnïoedd yma hefyd.

Mae'r pwyllgor wedi asesu ymrwymiadau ariannol y Fenter am y flwyddyn nesaf ac yn obeithiol o dderbyn arian digonol i'w galluogi i barhau a'r gweithgareddau.

-3-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

CYFLWYNIAD Y CADEIRYDD

Bu’n flwyddyn brysur unwaith eto, wrth i’r Fenter gynnal gweithgareddau lu er mwyn hyrwyddo ac ehangu defnydd o’r Gymraeg o’r iaith Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth a Llanelli. Mae’r plant wrth eu boddau a sesiynau fel Amser Stori yn y Llyfrgell ac mae’r cynlluniau gofal plant yn tyfu wrth gynnig cyfleoedd i blant ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i oriau ysgol. Mae’r diddordeb mewn gweithgarwch cymunedol wedi tyfu boed hynny’n sesiwn ymarfer y Gymraeg neu gig gyda’r nos. Mae’n ymddangos bod chwilio am gyllid wedi tynhau, ond mae’r staff yn cadw’n effro i unrhyw gyfeloedd newydd sydd ar gael.

Mae’r adroddiad yn dangos holl ystod eang a bwrlwm gweithgareddau’r Fenter yn ystod blwyddyn arall. Hefyd y modd mae ein gweithgareddau yn cyfoethogi ac yn ychwanegu gwerth i waith eraill.

Croesawyd staff newydd â syniadau ffres, cyffrous, yn ogystal a chroesawu aelodau newydd i ymuno â’r Bwrdd Rheoli. Bu’r flwyddyn yma’n gyfle i adeiladu ar gyfer y dyfodol a gosod sylfaen gadarn i’r Fenter a’r is-gwmniau.

Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn – i bawb ddaeth i weithgareddau, ein arianwyr, noddwyr a’n partneriaid hael am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad, i aelodau’r bwrdd, ac yn bennaf oll, I’r swyddogion hynny o fewn y Fenter am eu gwaith diflino tu ôl y lleni.

Ond diolch yn bennaf i staff y Fenter am eu hymroddiad a’u brwdfrydedd ar bob achlysur.

Ymlaen i 2024-25!

Dr I W Rees

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODAU AC AMCANION MENTER CWM GWENDRAETH ELLI YW:

CYFLWYNIAD Y PRIF SWYDDOG

Dyma gyfle i gyflwyno Adroddiad Menter Cwm Gwendraeth Elli ar gyfer 2023-24. Bu’n flwyddyn llawn gweithgareddau ar draws ardal Cwm Gwendraeth a Llanelli yn cynnig ystod eang o weithgareddau addas at bob oed ac at bobl gyda gwahanol ddiddordebau. Bu’n gyfnod o newid mewn staff a hynny’n cynnig gweithgarwch newydd a chyffrous yn yr ardal.

Bu’n gyfnod cyffrous i ni gyda swyddogion yn gweithio mewn ardaloedd penodol, sy’n creu ymdeimlad o berchogaeth yn yr ardaloedd hynny. Croesawyd staff newydd sydd wedi setlo’n wych ac yn creu argraff yn eu cymunedau. Croesawyd aelodau newydd i’r Bwrdd Rheoli hefyd a diolch iddynt am eu cyfraniad.

Mae’r Fenter yn ffodus o gael cyfeillion a ffrindiau da ynghyd â chriw o wirfoddolwyr a phartneriaid gweithredol. Diolch i Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Gar a Mentrau Iaith Cymru ac i’n amrywiol bartneriaid ar draws y Sir am bob cefnogaeth.

Rhaid diolch i’r Bwrdd Rheoli o dan arweiniad y swyddogion am bob cefnogaeth. Mae fy niolch yn mynd i’r tîm o staff brwdfrydig sydd yn gweithio’n ddiwyd bob amser er llwyddiant y Fenter. Mae cyfraniad bob un ohonynt yn werthfawr ac yn gyfraniad sylweddol at weld datblygu’r Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth a Llanelli.

Gobeithio bod yr Adroddiad yn rhoi blas i chi ar waith y Fenter, yr heriau a’r llwyddiannau sy’n ein hwynebu o ddydd i ddydd.

Alaw Davies

-5-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

EIN CENHADAETH NI YW:

‘Bod yn Gwmni creadigol, blaengar ac ymatebol, sy’n benderfynol o ddarparu’r gwasanaeth gorau er mwyn mynd i’r afael ag anghenion ac yn gwella potensial yr unigolyn a’r gymuned gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael’

Menter Cwm Gwendraeth Elli, 11-17 Heol Coalbrook, Pontyberem, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 5HU. Rhif ffôn 01269 871600 Ffacs 01269 870599 E-bost: alaw@mcge.co.uk Gwefan: www.mentercg.org

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant Cofrestredig yng Nghymru: 2815717 Elusen Gofrestredig: 1021901

STAFF CRAIDD YN YSTOD Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2024

Alaw Davies Prif Swyddog Derek Rees Swyddog Datblygu Llanelli Julie Nicholas Swyddog Cyllid Paul Thomas Swyddog Datblygu Gwendraeth Uchaf Elen Davies Swyddog Datblygu Gwendraeth Isaf Steffan Crocker Swyddog Datblygu Gendraeth Isaf Catrin Evans Swyddog Plant Bach (0-3 oed)

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

LLYWYDD

Nigel Owens MBE

IS -LLYWYDD

Deris Williams MBE

PWYLLGOR RHEOLI

Mrs Kathryn Devonald-Davies Mrs Jeni Olwen Price Dr Ian Wyn Rees Ms Anwen Mair Evans Mrs Alana Enoch Miss Catrin Mair Rees Mr Hugh Richards Miss Elen Davies Mr Kenneth Denver Rees Mr Gethin Thomas Miss Marged Lowri Walters Thomas Mrs Linda Williams Mrs Helen Humphries Mr Euros Lewis Mr Gareth Williams

Y CWTSH

PAFILIWN PENYGROES

Louise Hardy Wendy Snook Annie Bullen Ellie Jones Val John Denise Evans

Leila Jones

Clybiau ar ôl ysgol – 54 o staff

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

PLANT A PHOBL IFANC

Clybiau Gofal

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn cydlynu a rheoli Clybiau Gofal cofrestredig sy’n cwrdd o 3:00 hyd 6:00 o’r gloch yr hwyr ar draws ardal Cwm Gwendraeth a Llanelli. Mae’r clybiau yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac wedi derbyn adroddiadau anrhydeddus iawn.

Clybiau Joio a Hwyl

Mae cyfres o 14 o Glybiau Joio a Hwyl yn y Gymraeg yn cael eu darparu ar ôl ysgol ar draws ardaloedd Cwm Gwendraeth a Chylch Llanelli. Mae’r Clybiau hyn yn cynnig awr a hanner o weithgareddau penodol ar ôl ysgol gan ehangu’r cyfleoedd i blant 4 - 11 oed gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl ysgol.

Theatr Iau ac Ieuenctid

Mae’r theatr yn cynnig gwasanaeth i blant 4 - 11 oed a 11 - 18 oed, gan gwrdd yn wythnosol yn ystod y tymor ysgol. Mae’r tîm o gyfarwyddwyr profiadol yn cynnig profiadau niferus ym maes theatr a pherfformio. Yn ystod y flwyddyn llwyddwyd i gyflwyno ffrwyth llafur y gweithdai wythnosol mewn perfformiadau theatrig. Bu’r criw yn brysur yn paratoi ar gyfer sioe gerdd Anni.

Ymwybyddiaeth Iaith

Gan fod natur ein gwaith wedi gorfod newid dros y flwyddyn hon, mae sesiynau ymwybyddiaeth iaith rhithiol yn cael eu cynnig i holl ysgolion cynradd ac uwchradd Cwm Gwendraeth a Llanelli, a hefyd i Gampws Y Graig Coleg Sir Gâr. Nod y sesiynau hyn yw i godi ymwybyddiaeth am hanes yr iaith, digwyddiadau pwysig sydd wedi effeithio ar y Gymraeg a sut mae’r iaith wedi ysbrydoli unigolion yn eu gyrfa e.e., Nigel Owens ac Alex Jones. Y neges holl bwysig yw bod angen i bobl ddefnyddio’r iaith, pa bynnag fath o Gymraeg maent yn ei siarad.

Ownzone

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn rheoli cynllun Ownzone yn Ysgol Dyffryn Aman. Nod Ownzone yw cynnig cyfle i ddisgyblion dreulio amser tu allan i’r ysgol mewn man diogel, lle mae modd iddyn nhw gael cefnogaeth bersonol a nifer o weithgareddau cyffrous. Un o brif amcanion y prosiect yw codi hunan hyder y disgyblion a chynyddu eu cyfranogiad. Rôl bwysig sydd gan Ownzone yw creu partneriaethau effeithiol sydd yn medru helpu plant a phobl ifanc rhwng deg a phedair ar ddeg mlwydd oed. Ynghyd â chydweithio’n agos iawn gyda’r Ysgol, rydym wedi bod yn creu partneriaethau allanol i’r prosiect.

Mae Ownzone yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfrannu at gynllunio gweithgareddau, a’u trefnu, a chael perchnogaeth dros yr hyn sy’n digwydd. Bydd y bobl ifanc yn cael y canlynol:

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

Cwis Dim Clem

Mae Cwis Dim Clem yn brosiect i blant blwyddyn 6 ysgolion cynradd Cwm Gwendraeth a Llanelli. Mae'r cwis yn cynnwys sawl gwahanol rownd sy'n codi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg. Mae sawl rownd gwahanol sy'n arwain at rownd derfynol. Yn dilyn llwyddiant y Cwis, mae bellach yn brosiect rhanbarthol ac yna wedi tyfu i fod yn genedlaethol.

Côr Ieuenctid Cwm Gwendraeth

Sefydlwyd Cor Ieuenctid i blant blwyddyn 5-10; plant sy’n gwynebu cyfnod pontio o ysgol gynradd i uwchradd. Arweinydd y Côr yw Christopher Davies, a bu’r criw yn cwrdd yn wythnosol yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach. Wedi wythnosau o ymarfer, bu’r côr yn barod i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni, a bu’n Steddfod bwysig a hithau wedi ei lleoli o fewn y Sir. Braf cyhoeddi bod y Côr wedi cyrraedd y llwyfan yn yr Eisteddfod a wedi derbyn yr ail wobr. Tipyn o lwyddiant am y flwyddyn gyntaf.

Yn ogystal, bu’r Fenter yn cydlynu cystadleuaeth yn ymwneud a’r Steddfod. Cystadleuaeth harddu’r ardal, ac enillydd mewn 4 categori gwahanol – pentref, stryd, cartref ac ysgol. Roedd hi’n fendigedig gweld yr ardal wedi ei addurno mewn coch, gwyn a gwyrdd.

Swn Sir Gâr

Mewn partneriaeth â Thim Datblygu Athrawon Sir Gâr, y syniad oedd i gynnal cystadleuaeth i fandiau oedran uwchradd ar draws y sir, gyda tri o’r bandiau yn mynd ymlaen i gael gweithdy perfformio, cyn chwarae yn y rownd derfynol. Cafwyd ymateb arbennig iawn gyda pump act yn ymgeisio trwy ddanfon fideo o’i grwp yn canu cover o unrhyw gân Gymraeg. Fe gafon ni geisiadau gan Ysgolion Sant Ioan Llwyd, Y Strade, Bryngwyn, Maes y Gwendraeth a Bro Myrddin a phob un yn ymgais campus!

Y tri band a gafodd gweithdy gyda Mei Gwynedd (Big Leaves, Sibrydion, Hei Mistar Urdd) oedd Merched Beca, Y Tri Gwr Noeth ac Itwopia. Roedd y gweithdai yn arbenig, gyda Mei yn defnyddio ei gallu cerddorol a pherfformio i drawsnewid y bandiau o fod yn bandiau ysgol digon ‘rough around the edges’ i fod yn berfformwyr sydd yn gallu gweithio llwyfan.

Profwyd hynny ar y noson pan daeth 150 o bobl i Neuadd y Gwendraeth i wylio’r rownd derfynol. Y band Dros Dro oedd y beiriniaid gan hefyd perfformio set anhygoel o dda cyn cyhoeddi yr ennillwyr. Y Tri Gwr Noeth (Maes) oedd yn gyntaf, Iwtopia (Bro Myrddin a Maes) yn ail a Merched Beca (Bryngwyn) yn drydydd. Braf oedd gweld y tri band a’i ffrindiau yn dawnsio yn frwdfrydig i set Dros Dro, sydd hefyd yn gyn-ddisgyblion Maes a Bro Myrddin. Roedd y noson yn showcase Sir Gâr go iawn.

Llysgenhadon Brynwgyn

Mae Llysgenhadon y Gymraeg Ysgol Bryngwyn yn cwrdd bob Dydd Llun dros ginio er mwyn trafod, cynllunio a gweithredu prosiectau Cymraeg o fewn yr ysgol. Gwaith pennaf y llysgenhadon yw i godi lefel y Gymraeg sydd i’w gweld a’i chlywed ar hyd y coridorau ac o fewn digwyddiadau. Mae’r criw wedi gweithio’n galed ar Ddiwrnod Shwmae, Dydd Miwsig Cymru, Swn Sir Gâr, yr Eisteddfod a sawl digwyddiad arall.

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

ADDYSG GYDOL OES

Dysgwyr. Dysgu’r Gymraeg yn y Gymuned

Mae Strategaeth Llywodraeth Cymru “Miliwn o Siaradwyr” yn ddibynnol ar greu siaradwyr newydd a’u hannog i ddefnyddio’r iaith ar lawr gwlad er lles pawb. Mae gweithio gyda dysgwyr yn allweddol ar gyfer parhad yr iaith ac fel Menter Iaith, rydym wedi blaenoriaethu ymdrechion i helpu y dysgwyr hyn i ‘bontio’, hynny yw i fynd o fod yn ddysgwyr pur i fod yn siaradwyr naturiol. I wneud hyn, rydym wedi sefydlu sesiynau amrywiol i gynorthwyo dysgwyr i ddeall ac i ddod i siarad Cymraeg sy’n debyg iawn i’r iaith a ddefnyddir gan bobl leol.

Rhedir sesiynau Paned a Sgwrs (Pontyberem a Cydweli), Clwb Clonc (Penygroes) a Cwrw a Chlonc (Llanelli) ar gyfer pobl sydd yn newydd i’r ardal ac i’r Gymraeg, ac sydd eisiau dysgu siarad rhywfaint o’r Gymraeg er mwyn deall fwy o’r hyn sydd yn mynd ymlaen o’u cwmpas.

Mae’r sesiynau hyn yn rhoi’r pwyslais ar fwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg a chyfle i gymdeithasu gan ddefnyddio’r Gymraeg a ddefnyddir yn lleol. O ganlyniad i’r sesiynau hyn, mae dysgwyr yn mynd ymlaen i fynychu nifer fawr o ddigwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol a rhedir gan y Fenter, ond hefyd gan grwpiau cymunedol eraill.

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn cydweithio’n agos gyda dysgwyr ardal Cwm Gwendraeth a Llanelli. Mae hyn yn cynnwys cynnal sesiynau trafod a chydweithio gyda’r dysgwyr.

Pryd ar Glud

Mae gwasanaeth Pryd ar Glud yn cael ei gynnig i drigolion Cwm Gwendraeth unwaith yr wythnos. Mae'r trigolion hyn yn cael pryd twym, dau gwrs wedi ei ddarparu yn y cartref. Mae'r gwasanaeth hwn yn holl bwysig i'r bobl sydd yn gaeth i'w cartrefi. Diolch i'r gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth i ddosbarthu'r pecynnau bwyd. Hefyd, mae'r unigolion hyn yn gwerthfawrogi gweld gwyneb adnabyddus yn wythnosol.

Clwb Darllen

Mae’r Clwb Darllen yn cwrdd yn fisol a 10 unigolyn yn rhan o’r grŵp ac yn cael trafodaethau diddorol am lyfrau cyfredol. Mae’r unigolion yn cwrdd yn wythnosol yn darllen nofelau, straeon byrion, hunangofiant ac yn cael trafodaethau yn sgil y themâu sy’n codi. Mae hyn yn ffordd wych o gymdeithasu a chael tipyn o hwyl. Nod y grŵp yw cwrdd wyneb yn wyneb yn rheolaidd pan fydd canllawiau yn caniatáu.

Ymgyrch y Beasleys

Mae’r Fenter yn credu’n gryf mewn creu gofodau i unigolion allu fod yn Gymro neu’n Gymraes. Rydym ni ym Menter Cwm Gwendraeth Elli yn bwriadu prynu’r tŷ, ei adnewyddu a chreu canolfan treftadaeth ar y safle, a fydd o fudd i’r gymuned leol a hefyd i’r genedl gyfan. Mae’r staff wrthi yn chwilio am nawdd er mwyn gwireedu’r freuddwyd I brynu’r adnodd holl bwysig.

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

MENTRAU CYMDEITHASOL

Plant y Cwm-Yn gwella bywyd plant Cymru

Mae Plant y Cwm yn cael ei gydnabod yn genedlaethol fel cwmni ymroddedig, sy'n hyrwyddo a chefnogi gofal a chymorth i deuluoedd, plant ac oedolion ifanc ar draws Sir Gaerfyrddin. Genir dyfeisgarwch mewn chwarae creadigol. Mae gan blant ffordd arbennig o ddod a llawenydd i bob dydd. Wrth edrych i mewn i'w llygaid gwelwn y gallant wneud beth bynnag mae nhw'n ei ddychmygu. Gallwn ninnau ond eu helpu i ddychmygu au hysbrydoli i wireddu.

Pwy ydym ni?

Rydym yn gwmni preifat sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol ac yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaethau i blant ac oedolion ifanc yng nghymunedau Cwm Gwendraeth, ardal Llanelli a thu hwnt.

Beth i ni'n gwneud?

Mae Plant y Cwm yn ddarparwr blaengar a dibynadwy sy'n cyflawni gofal a chefnogaeth i fywydau plant ac oedolion ifanc.

Dysgu'n ddi-dor

Mae plant yn dysgu mewn nifer fawr a ffyrdd boed ai'n ffurfiol neu beidio. Mae 'r clybiau yn cynnig cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd mewn amgylchedd creadigol a diogel sy'n ychwanegu at ei haddysg trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau.

Canolfan Cymunedol Y Cwtsh a Pafiliwn Penygroes

Canolfan Adnoddau yw’r Cwtsh ar gyfer Cwm Gwendraeth ac mae’n cyfuno siop lyfrau a chaffi. Yn ogystal, mae'r Cwtsh yn ofod cymunedol gwerthfawr, sy'n cael ei ddefnyddio gan bob rhan o'r gymuned, yn enwedig trigolion lleol sy'n defnyddio'r cyfleuster fel lle diogel a chroesawgar i gwrdd â ffrindiau a hefyd i wneud ffrindiau newydd. Mae'r Cwtsh yn darparu prydau poeth, ac mae brecwast wedi eu coginio bob dydd ac yn awr mae ar agor chwe diwrnod yr wythnos. Yn dilyn llwyddiant model y Cwtsh, mae’r Pafiliwn yn darparu gwasanaeth tebyg gyda siop goffi a neuadd gymunedol. Mae’r gweithgareddau wythnosol yn cynnwys Clwb Crefft, Gwersi Iwcaleli yn ogystal a sesiynau dawnsio sedd.

Cwtshffest

Mae Cwtshffest wedi mynd o nerth i nerth ers y lansiad gyda band Pwdin Reis. Rydym wedi gweld sawl artist yn dod i’r Cwtsh a sawl band neu unigolyn lleol yn cefnogi a sawl un o rheini’n perfformio am y tro cyntaf. Mae pob noson yn cynnwys o leiaf dau artist a pryd o fwyd gyda’r bar yn gwerthu diodydd o bob math. Mae’r Cwtshffest wedi dod yn noson gymdeithasol gyda cymuned o bobl sydd yn dod yn ôl tro ar ôl tro.

-11-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

DATBLYGU CYMUNEDOL

Bywyd Cyflawn, Bywyd Hapus

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn cydnabod bod y perygl o unigedd ac ynysu cymdeithasol yn fwy o ofid nawr nag erioed. Mae pobl yn fwy symudol nawr nag erioed gyda nifer fawr o’n cymunedau wedi gweld dirywiad mewn cyfranogaeth ar lawr gwlad ac mae’r cyfleusterau, sydd ar gynnig yn lleihau diolch i doriadau ariannol a newidiadau mewn patrymau bywyd. Felly, mae’r Fenter yn trefnu calendr o weithgareddau rheolaidd a digwyddiadau achlysurol gyda’r nod o ddod â phobl at ei gilydd, i wneud cysylltiadau, i ddysgu rhywbeth newydd ac i fwynhau. A hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys sesiynau gemau traddodiadol, gweithdai coginio, cwisus a ciniawau, grŵp drama, ioga, a theithiau i weld rhai o’r mannau diddorol a braf sydd ar drothwy ein drysau.

Cryfhau Cymunedau

Ers cenhedlaeth bellach, bu Menter Cwm Gwendraeth Elli yn gweithredu gydag unigolion a grwpiau cymunedol o bob math er mwyn deall sut y mae ein cymunedau yn esblygu, ac anghenion eu trigolion yn newid. Nid yw pwyllgora at ddant pawb, ond yn sicr, mae yna nifer fawr o ffyrdd y gall pobl leol roi o'u hamser er mwyn gwneud gwahaniaeth go-iawn i fywydau pobl Cwm Gwendraeth a Llanelli a'r cylch.

Partneriaethau

Mae gan y Fenter gysylltiadau agos gydag ystod eang o bartneriaethau ac mae’n cydweithio gyda nifer o grwpiau, mudiadau a sefydliadau gan gynnwys:

Cyngor Sir Gaerfyrddin Llywodraeth Cymru Mudiad Meithrin; Cymraeg i Blant Mentrau Iaith Cymru Urdd Busnesau Lleol Papurau Bro Ysgolion Uwchradd Ysgolion Cynradd Merched y Wawr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Y Loteri Genedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc Clybiau Gwawr Cynghorau Tref a Chymuned Canolfan Cymraeg i Oedolion Mentrau Iaith National Grid CAVS Moondance Foundation CgGC Dechrau’n Deg Canolfan S4C Yr Egin Clybiau Chwaraeon Llyfrgelloedd Sir Gâr

-12-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU'R YMDDIRIEDOLWYR

Mae’r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni at ddibenion Deddf Cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr ymddiriedolwyr a’r datganiadau ariannol yn unol â’r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl cyfraith cwmnïau mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol bob blwyddyn ariannol sy'n rhoi darlun gwir a theg o gyflwr yr elusen a gwarged neu ddiffyg yr elusen yn ystod y flwyddyn honno. Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hynny, mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr wneud y canlynol: -

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion priodol o'r cyfrifon sy'n datgelu'n rhesymol o gywir ar unrhyw adeg sefyllfa ariannol yr elusen ac am sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio a Deddf Gwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedion yr elusen ac am gymryd camau rhesymol i atal a darganfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall.

ASESIAD RISG

Yn dilyn cyfarwyddyd gan y Comisiynwyr Elusennau y dylai pob elusen baratoi asesiad risg fel mater o arfer da, mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried ac adolygu’r peryglon y gallai’r cwmni eu hwynebu. Roedd yr adolygiad nid yn unig yn cynnwys risgiau sydd yn gysylltiedig â hwyluso prosiectau neu faterion iechyd a diogelwch ond hefyd risgiau ariannol mewn perthynas â dirwyn y cwmni i ben, diswyddiadau, salwch hirdymor neu geisiadau am iawndal gan staff.

Cytunwyd i neilltuo arian o gyllideb gyfredol y cwmni er mwyn ymateb i achosion risg. Yn sgil hynny, mae cyfanswm o £33,177 wedi ei drosglwyddo i gronfeydd penodol.

-13-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

Wrth baratoi adroddiad yr ymddiriedolwyr, manteisiwyd ar yr eithriadau arbennig yn unol â rhan 15 o Ddeddf Gwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau bychan.

TRWY ORCHYMYN Y BWRDD

11-15 Heol Coalbrook Pontyberem Llanelli Sir Gaerfyrddin SA15 5HU

…………………………… Dr Ian Wyn Rees YMDDIRIEDOLWR ……………………………. DYDDIAD

-14-

25 Stryd Y Bont 25 Bridge Street Caerfyrddin Carmarthen Sir Gaerfyrddin Carmarthenshire SA31 3JS SA31 3JS

LLŶR JAMES Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig Chartered Certified Accountants Archwilwyr Cofrestredig Registered Auditors

ffôn/tel 01267 247754 ffacs/fax 01267 248418 ebost/email post@llyrjames.co.uk gwefan/website www.llyrjames.co.uk trydar/twitter @LlyrJamesCyf

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU)

ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR AROLYGWR ANNIBYNNOL I’R YMDDIRIEDOLWYR

Dyma adroddiad yr arolygwr annibynnol i’r aelodau ar gyfrifon anarchwiliedig Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyf.

Adroddaf i ymddiriedolwyr yr elusen ar fy arolwg annibynnol o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024.

Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni at ddibenion y gyfraith yn ymwneud a chwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (“Deddf 2006”).

Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archwiliad ariannol o gyfrifon y Cwmni ar gyfer y flwyddyn hon a dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael arolwg annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m harolwg annibynnol o gyfrifon eich elusen fel y’i cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (“Deddf 2011”). Wrth ymgymryd â’m harolwg annibynnol, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.

Roedd incwm gros y cwmni yn fwy na £250,000 ac rwy’n gymwysedig i gynnal yr arolwg annibynnol trwy fod yn aelod cymwysedig o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.

Rwyf wedi cwblhau fy arolwg annibynnol. Cadarnhaf nad oes unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw sy’n rhoi achos i mi gredu:

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r arolwg annibynnol y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.

…………………………. BETHAN VAUGHAN CYFRIFYDD ARDYSTIEDIG SIARTREDIG

DYDDIEDIG…………………..

-15-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd
heb Penodol a Cyfanswm Cyfanswm
gyfyngiadau chyfyngiadau 2024 2023
£ £
£
£ £
INCWM A GWARIANT
ADNODDAU I MEWN
Rheoli Prosiectau -
-
129,485 129,485 288,113
Cymhorthdal - Eraill 142,185 - - 142,185 139,927
Gweithgareddau 72,511 -
-
72,511 65,704
Rhoddion 13,330 - - 13,330 -
------------ ------------ ----------- ------------ -----------
Adnoddau i mewn - cyfanswm 228,026 - 129,485 357,511 493,744
------------ ------------ ------------ ----------- -----------
ADNODDAU A DDEFNYDDIWYD
Dibrisiant 6,443 - - 6,443 1,564
------------ ------------ ------------ ----------- -----------
6,443 - - 6,443 1,564
------------ ------------ ------------ ----------- -----------
Costau Eraill
Costau Proffesiynol 11,372
-

-
11,372 13,757
Costau Gweithgareddau (4a) 34,670 - - 34,670 44,390
Costau Cynnal (4b) 193,922 - 114,513 308,435 316,931
------------ ------------ ----------- ---------- ----------
239,964
-
114,513 354,477 375,078
------------ ------------ ----------- ----------- ----------
Adnoddau a ddefnyddiwyd – cyfanswm246,407 - 114,513 360,920 376,642
------------ ------------ ----------- ---------- -----------
Adnoddau net a ddefnyddiwyd (18,381) - 14,972 (3,409) 117,102
Trosglwyddiadau rhwng cronfeydd - - - - -
Elw gwirioneddol ar y 147,000 - -
147,000 1,293,000
cynllun buddiannau pendant
------------ ------------ ----------- ----------- ----------
Symudiad net mewn cronfeydd 128,619 - 14,972 143,591 1,410,102
CRONFEYDD - DYGWYD YMLAEN6,852 33,177 135,658 175,687 (1,234,415)
----------- ----------- ---------- ------------ -----------
CRONFEYDD - CARIWYD YMLAEN135,471
33,177
150,630 319,278 175,687
====== ======= ====== ======= ======

Dangosir y symudiadau ar yr arian wrth gefn yn nodiadau 9, 10 ac 11 i'r datganiadau ariannol.

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG (RHIF Y CWMNI: 2815717) (CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2024

NODYN NODYN 2024 2023
£ £ £
£
ASEDION SEFYDLOG
Asedion Sylweddol 2 a 5 47,002 54,721
ASEDION CYFREDOL
Dyledwyr 6 64,839 51,502
Arian yn y banc ac mewn llaw 239,576 251,963
----------- -----------
304,415 303,465
----------- -----------
CREDYDWYR: symiau’n ddyledus
o fewn blwyddyn 7 29,322 32,006
----------- -----------
ASEDION CYFREDOL NET 275,093 271,459
------------ -------------
CYFANSWM ASEDION LLAI
(RHWYMEDIGAETHAU)CYFREDOL 322,095 326,180
Darpariaeth am ymrwymiadau 8 (2,817) (3,493)
Cynllun Pensiwn - (147,000)
------------- -------------
ASEDION NET £ 319,278 £ 175,687
======= =======
CYFALAF AC ARIAN WRTH GEFN
Cronfeydd – heb gyfyngiadau 9 135,471 6,852
Cronfeydd – penodol 10 33,177
33,177
Cronfeydd – a chyfyngiadau 11 150,630 135,658
------------- ------------
CYFANSWM CRONFEYDD £ 319,278 £ 175,687
======= =======

Ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw roedd gan y cwmni’r hawl i gael ei eithrio o dan Adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n ymwneud a chwmnïau bach. Nid yw unrhyw aelodau wedi mynnu i’r cwmni gael archwiliad ariannol o’i gyfrifon am y flwyddyn dan sylw yn unol ag Adran 476 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb am gydymffurfio a gofynion y Ddeddf mewn perthynas â chofnodion cyfrifeg ac am baratoi cyfrifon.

Mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi yn unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n ddarostyngedig i’r drefn cwmnïau bychain.

Cymeradwywyd y datganiadau ariannol ar dudalennau 17 i 30 gan fwrdd yr ymddiriedolwyr ac fe'u harwyddwyd ar ei ran gan:

………………………………………… Mrs Kathryn Devonald-Davies

YMDDIRIEDOLWR

…………………………………………

DYDDIAD

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

1. GWYBODAETH STATUDOL

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyfyngedig yn elusen gofrestredig ac yn gwmni preifat cyfyngedig trwy warant wedi ei ymgorffori yng Nghymru o fewn y Deyrnas Unedig. Mae’r swyddfa gofrestredig yn 11-15 Coalbrook Road, Pontyberem, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 5HU.

Cyflwynir y datganiadau ariannol mewn punnoedd sterling (£).

2. POLISÏAU CYFRIFO

Sail y Cyfrif

Mae'r cwmni'n paratoi ei ddatganiadau ariannol ar sail cyfrifo cost hanesyddol.

Mae'r datganiadau ariannol wedi eu paratoi yn unol â’r darpariaethau o Adran 1A “Cwmnïau Bychain” o Safon Adrodd Ariannol 102 “Y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon” a Deddf Cwmnïau 2006.

Paratoi cyfrifon ar sail hyfywedd

Mae’r Ymddiriedolwyr o’r farn fod yr elusen, ar sail yma, yn fusnes gweithredol a hyfyw.

Costau Pensiwn

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn gweithredu pensiwn â buddion wedi’u diffinio o fewn Cronfa Bensiwn Dyfed. Ar ôl mabwysiadu FRS 102 ym mis Ebrill 2015, dangosir y diffyg hwn yn llawn ar y Fantolen.

Trosiant

Mae'r trosiant yn cynrychioli gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn.

Asedion Sefydlog A Dibrisiant

Nodir gwerth asedion sefydlog ar y fantolen yn ôl eu cost lai dibrisiant. Diddymir cost asedion sefydlog fesul rhandaliad blynyddol cyfartal dros eu hoes ddefnyddiol dybiedig fel a ganlyn: -

Celfi ac Offer - 15%

Ystyrir asedion a brynir trwy gytundeb les fel asedion cyfalaf ac fe’u dibrisir yn ôl y cyfraddau uchod.

Grantiau

Mae grantiau yn cael eu credydu i incwm yn unol â'r cyfnodau y maent yn perthyn iddynt.

-18-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

Asesiad Risg

Mae’r cwmni wedi ystyried ac adolygu pob risg a allai effeithio ar yr elusen. Roedd y broses hon yn cwmpasu nid yn unig y sefyllfa ariannol ond hefyd ystyriaethau strategol ac amgylchiadol. Mae’r cwmni elusennol yn cadarnhau bod systemau wedi’u sefydlu i wrthsefyll pob risg o’r math y tynnwyd sylw atynt fel rhan o’r broses hon.

Offerynnau Ariannol

Mae’r offerynnau ariannol nad ydynt ynghlwm wrth symudiadau’r farchnad yn cynnwys dyledwyr masnachol a dyledwyr eraill, arian a’r hyn sy’n cyfateb i arian, credydwyr masnachol a chredydwyr eraill.

Ac eithrio lle dywedir fel arall, mae gwerthoedd asedion ac ymrwymiadau ariannol y cwmni yn amcangyfrifon teg.

Defnyddio Elw

Defnyddir elw’r cwmni i greu cronfa gyffredinol wrth gefn er sicrhau parhad a datblygiad y cwmni ar sail y cyfrannau ac yn ôl y dulliau a argymhellir gan y Pwyllgor Rheoli a’u cymeradwyo gan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Gwarant

Mae atebolrwydd pob aelod yn gyfyngedig i uchafswm o £1. Diddymir yr atebolrwydd hwn flwyddyn ar ôl i’r aelodaeth ddarfod.

Polisi Arian Wrth Gefn

Lluniwyd y polisi arian wrth gefn i sicrhau bod gan y cwmni elusennol gyllid digonol i ddelio a’r elfen o risg sydd ynghlwm a rhedeg cwmni sydd yn ddibynnol ar dderbyn arian o’r pwrs cyhoeddus. (Gweler nodyn 11)

3. CYFARWYDDWYR A STAFF

Ar gyfartaledd rhif y staff yn fisol yn ystod y flwyddyn oedd: 25 (2023 – 25).

Roedd costau cronnus cyflogau'r personau hyn fel a ganlyn:-

2024 2023
£ £
Cyflogau a chostau teithio 144,208 149,576
Costau Nawdd Cymdeithasol a Phensiynau 44,065 44,053
----------- ----------
188,273 193,629
====== ======
Ni dalwyd cyflog i unrhyw un o’r ymddiriedolwyr.

-19-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

4. DADANSODDIAD O GOSTAU

Cronfeydd
heb Cronfeydd Cronfeydd a Cyfanswm Cyfanswm
gyfyngiadau penodol chyfyngiadau 2024 2024
£ £ £ £ £
4a COSTAU GWEITHGAREDDAU
(i) Eraill 16,143 - - 16,143 14,424
(ii) Costau uniongyrchol 18,527 - - 18,527 29,966
------------ ------------ ------------ ------------ ----------
34,670 - - 34,670 44,390
======= ======= ======= ======= ======
4b COSTAU CYNNAL
(ii) Costau Swyddfa 13,639 - - 13,639 12,777
(iii) Costau Cyflogau a
chostau teithio 124,014 - 64,259 188,273 193,629
(iv) Prosiectau 56,269 - 50,254 106,523 110,525
------------ ------------ ------------ ------------ -----------
193,922 - 114,513 308,435
316,931
======= ======= ======= ======= ======

-20-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

5. ASEDION SEFYDLOG SYLWEDDOL

Adeilad Celfi ac
Cerbydau Adeilad ar Les Offer Cyfanswm
£ £ £
COST
Ar 1.4.23 1,000 46,815 17,000 177,912 242,727
Ychwanegiadau (1,000) - - - (1,000)
----------- ---------- ---------- ---------- -----------
Ar 31.3.24 - 46,815 17,000 177,912 241,727
----------- ---------- ---------- ---------- -----------
DIBRISIANT
Ar 1.4.23 - 16,011 - 171,995 188,006
Tal am y cyfnod - 3,080 1,700 1,939 6,719
------------ ----------- ---------- ---------- ----------
Ar 31.3.24 - 19,091 1,700
173,934
194,725
----------- ----------- ---------- ---------- ----------
GWERTH
LLYFR NET
Ar 31.3.24 - £27,724 £15,300 £ 3,978 £47,002
====== ====== ====== ====== =======
Ar 31.3.23 £1,000 £30,804 £17,000 £ 5,917 £54,721
======= ====== ====== ====== =======

-21-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

6. DYLEDWYR 2024 2023
£ £
Dyledwyr Masnachol 31,025 38,901
Menter Min Nos Cyf (6i) 158 158
Menter Plant Y Cwm Cyf (6i) 11,982 11,982
Caffi Cynnes Cyf (6i) 21,674 461
------------ -------------
£ 64,839 £ 51,502
======= ========
Nodyn (i)
Ar 31 Mawrth 2024 roedd asedion y cwmnïoedd fel a ganlyn:-
2024
£
Cwtsh Glöyn Cyf £ 1,152
Menter Plant y Cwm Cyf
£ 95,817
Menter Gwasanaethau Iaith y Cwm Cyf
£ 10,822
Menter Min Nos Cyf
£ 331
Caffi Cynnes Cyf
£ 3,429

Er nad yw’r rhain yn is-gwmnïau, fe’u sefydlwyd gan Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyf mwyn iddynt weinyddu gweithgareddau penodol. Maent i gyd yn gweithredu o dan oruchwyliaeth Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyf sydd hefyd yn gwarantu eu holl ymrwymiadau ariannol.

7. CREDYDWYR

CREDYDWYR
2024 2023
£ £
Symiau'n ddyledus o fewn blwyddyn: -
Credydwyr Masnachol 10,240 9,630
Menter Gwasanaethau Iaith y Cwm Cyf (6i) 10,832 10,832
WCVA 8,250 11,544
------------ -------------
£ 29,322 £ 32,006
======= ========

-22-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

8. DARPARIAETH AM YMRWYMIADAU
2024 2023
£ £
a) LOTERI ABC, 124
Balans ar 1 Ebrill 2024 - 306
Arian a dderbyniwyd - -
Grant a hawliwyd - (306)
---------- ----------
Balans ar 31 Mawrth 2024 - -
====== ======
b) REDRESS
Balans ar 1 Ebrill 2024 3,493 4,169
Arian a dderbyniwyd - -
Grant a hawliwyd (676) (676)
---------- ----------
Balans ar 31 Mawrth 2024 2,817 3,493
====== ======
CYFANSWM £2,817 £ 3,493
====== ======

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

9. CRONFEYDD - HEB GYFYNGIADAU

2024 2023
£
£
Balans a ddygwyd ymlaen 6,852 (1,310,244)
Gwarged am y cyfnod 128,619 1,317,096
------------ ------------
£ 135,471 £ 6,852
======= =======
10. CRONFEYDD PENODOL Balans Trosglwy- Trosglwy- Balans
1.4.23 ddiadau ddiadau 31.3.24
i Gronfeydd i mewn
Eraill
£ £ £ £
Costau Swyddfa (i) 33,177 - - 33,177
---------- ---------- ---------- ----------
33,177 - - 33,177
---------- ---------- ---------- ----------

Yn dilyn asesiad o risg, mae’r Fenter wedi sefydlu cronfa benodol: -

i) Darpariaeth am gostau ychwanegol a fyddai’n deillio o adleoli swyddfeydd

£
- Costau Cynnal y Swyddfa 23,177
- Costau Cyfreithiol 5,000
- Adleoli Swyddfeydd 5,000
---------
£33,177
======

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

11. CRONFEYDD - A CHYFYNGIADAU

Symudiad mewn Cronfeydd

Balans Adnoddau Gwariant Balans
1.4.23 i mewn 31.3.24
£ £ £ £
CAVS (i) - 1,470 1,470 -
Prosiect Llwynhendy (ii) 135,658 69,428
62,164
142,922
Moondance (iii) - 18,500 10,792 7,708
TFF (iv) - 7,723 7,723
-
Loteri (v) - 10,000 10,000 -
Cymdeithas peldroed (vi) - 2,000 2,000 -
Community Matters (vii) - 7,365 7,365 -
Grant Gwaith Ymchwil (viii) - 3,000 3,000 -
Gwaith Ieuenctid (ix) - 4,999 4,999 -
Pobl grant (x) - 5,000 5,000 -
---------- ---------- ----------- ----------
135,658 129,485 114,513 150,630
---------- ---------- ----------- ----------

Cronfeydd a Chyfyngiadau

Mae Menter yn gyfrifol am sicrhau bod yr arian yn cael ei wario yn union yn unol â’r termau ac amodau ar nwyddau a gwasanaethau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithredu’r prosiect a gymeradwywyd gan Bwyllgor Llywio’r Llwynhendy Invest Local (y Pwyllgor Llywio) fel y crybwyllwyd yn y Llythyr Cynnig cyllid.

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

-26-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

12. DADANSODDIAD O ASEDION NET RHWNG CRONFEYDD

Asedion /
Sylweddol Asedion Cyfanswm
Net
£ £ £
Grantiau 2,817 (2,817) -
Cronfeydd Penodol - 33,177 33,177
Cronfeydd heb gyfyngiadau 44,185 91,286 135,471
Cronfeydd a chyfyngiadau - 150,630 150,630
---------- ----------- -----------
47,002 272,276 319,278
====== ====== ======

13. TRAFODION A CHWMNÏAU PERTHNASOL

Nid oes run o’r pum cwmni perthnasol wedi cyfrannu tuag at gostau Menter Cwm Gwendraeth Elli eleni,

Menter Min Nos Cyf
£0 (2023 - £0)
Cwtsh Glöyn Cyf
£0 (2023 - £11,000)
Caffi Cynnes Cyf
£0 (2023 - £0)
Menter Plant y Cwm Cyf £0 (2023 - £0)
Menter Gwasanaethau Iaith y Cwm Cyf £0 (2023 - £0)

-27-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

14. CYNLLUN PENSIWN

Natur y Cynllun: Budd-dal Diffiniedig Dyddiad y Prisiad Actiwarïaid llawn ddiwethaf 31.03.2024

TYBIAETHAU ACTIWARÏAID

Tybiaethau Ariannol Dechrau’r Diwedd y
Flwyddyn Flwyddyn
Graddfa chwyddiant 2.7% 2.6%
Graddfa cynnydd cyflogau 4.2% 4.1%
Graddfa cynnydd pensiynau 2.8% 2.7%
Cyfradd disgownt 4.8% 4.9%
Rhaniad yr asedau rhwng y categorïau buddsoddi
Soddgyfrannau 74.4% 72.8%
Bondiau’r Llywodraeth 0.5% 0.0%
Bondiau eraill 7.1% 9.4%
Eiddo 13.5% 12.3%
Arian parod 0.7% 0.5%
Arall 3.8% 5.0%

Mae’r ffigurau diwedd y flwyddyn ar gyfer dangos gwerth yr asedau ar y farchnad a’r rhaniad asedau rhwng categorïau buddsoddiadau wedi eu cyfrifo ar 31 Mawrth 2024.

Mae’r ffigurau cyfatebol ar gyfer ddechrau’r flwyddyn wedi eu cyfrifo ar 31 Mawrth 2024.

Mantolen yr Eitemau ar 31 Mawrth 2024

£,000
Gwerth yr Asedau ar y farchnad 2,516
Dyledion (2,407)
Gwarged 109
Symudiadau’r Gweddill yn ystod 2024/24
Gweddill (Diffyg) ar ddechrau’r flwyddyn (147)
Cost Gyfredol y Gwasanaeth (23)
Cyfraniadau’r Cyflogwr 31
Cost y Gwasanaeth Gynt -
Llog Net / Budd ar Asedau (6)
Gwarged Actiwarïaid 254
Gwarged ar ddiwedd y flwyddyn 109

-28-

MENTER CWM GWENDRAETH ELLI CYFYNGEDIG

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

Datgeliadau Ychwanegol

Datgeliadau Ychwanegol
Asedau ar Asedau ar
31.03.24 31.03.23
£ 000 % £ 000 %
Soddgyfrannau 1,831 72.8 1,691 74.4
Bondiau’r Llywodraeth - 0.0 11 0.5
Bondiau eraill 237 9.4 161 7.1
Eiddo 309 12.3 307 13.5
Arian 13 0.5 16 0.7
Arall 126 5.0 86 3.8
-------- --------
Cyfanswm 2,516 2,272
-------- --------
Dyledion ar 31.03.2024 2,407

Caiff y Cynllun Pensiwn ei drin fel cynllun a'r cyfraniadau wedi'u diffinio gan fod cytundeb rhwng Menter Cwm Gwendraeth a'r Cynllun Pensiwn Aml-gyflogwr ynglŷn â'r modd yr ariennir unrhyw ddiffyg.

-29-