OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-12-31-accounts

Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolwyr Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin

Ionawr - Rhagfyr 2024

Rhif Elusen 1002715

Rhagymadrodd

Bwriad yr adroddiad hwn yw crynhoi prif weithgareddau’r eglwys a’i sefyllfa dros y flwyddyn 2024. Diolchwn i Dduw am ei ffyddlondeb i ni fel eglwys, yn ein gwarchod a’n cynnal yn unol am flwyddyn arall.

Gweithgareddau 2024

Cyfarfodydd a Gweinidogaeth y Sul

Cynhaliwyd cyfarfodydd ddwywaith ar y Sul drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol y flwyddyn. Hysbyswyd cyfarfodydd y Sul yn wythnosol ar ein gwefan, sy’n cael ei diweddaru’n gyson, a lle y gellir gwrando ar bregethau’r eglwys. Hysbyswyd holl gyfarfodydd yr eglwys drwy gyfryngau cymdeithasol X (Trydar) a Facebook a darlledwyd negeseuon y Sul ac eraill ar You Tube. Roedd ein cyfarfodydd yn agored i bawb i’w mynychu a darparwyd mynediad rhithiol i oedfaon byw dros Zoom.

Gorffennwyd y gyfres o bregethau o lyfr y Salmau yn ystod y flwyddyn a pharhawyd a chyfres pregethau ar efengyl Marc. Gorffennwyd y gyfres pregethau ar aberthau llyfr Lefiticus gan ddechrau cyfres achlysurol o Ganiad Solomon ar suliau cymyndeb. Parhawyd he fyd a’r gyfres pregethau o Hebreaid 11 drwy gydol y flwyddyn. Pregethwyd ar destunau efengylu o broffwydoliaeth Eseia ynghyd ag amrywiol destynau efengylu o’r Hen Destament a’r Testament Newydd. Ceir patrwm cyffredinol o bwysleisio addysgu yn y boreuau ac efengylu gyda’r hwyr.

Mae’r ddau henuriad a’r efengylydd, a fu’n pregethu fwyaf aml, yn ddiolchgar am bob cynhaliaeth. Nid yw sicrhau siaradwyr allanol ar gyfer y Sul yn waith hawdd, wrth i’r to hŷn o bregethwyr leihau’n eu nifer, a diolchwn am wasanaeth yr un ar bymtheg o siaradwr gwadd o eglwysi ledled Cymru a fu mor barod i gynorthwyo’r eglwys ar y Sul yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys rhai gwŷr iau. Gan gydnabod yn ddiolchgar gynhaliaeth rasol yr Arglwydd hyd yn hyn, barn yr henuriaid yw fod eu hoed a’u hamgylchiadau y cyfryw, fel y dylai’r eglwys yn awr edrych yn weddigar am olyniaeth i sicrhau parhad y weinidogaeth i’r dyfodol.

Amrywia’r niferoedd sy’n mynychu’r oedfaon o ryw ddeunaw i naw ar ugain a cheir rhyw gymaint o wahaniaeth rhwng cynulleidfa’r bore a’r hwyr, yn rannol oherwydd fod rhai’n ymuno a’r oedfa’n rhithiol gyda’r hwyr oherwydd cyflyrau iechyd. Yn ychwanegol at ei haelodau, sy’n mynychu’r oedfaon yn ffyddlon, ceir nifer o gredinwyr sy’n mynychu’n fyddlon ac yn cyfrannu i’r eglwys mewn ffyrdd eraill. Ychwanegwyd at nifer mynychwyr yr oedfaon wrth i deulu adleoli i’r dre, drwy penodiad i swydd lleol, a chafwyd tri ymholiad diweddar i ymaelodi â'r eglwys.

Efengylu

Yn ystod y flwyddyn bu’r Parch. Roger Thomas yn parhau i gysylltu gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau yng Nghaerfyrddin a’r cylch, gan ymweld yn rheolaidd â mart anifeilaid y dre i greu a meithrin perthynas â ffermwyr lleol a masnachwyr eraill yno. Cynhaliodd un cyfarfod ar y mart adeg y Nadolig. Parhaodd ei waith fel caplan Heddlu Dyfed Powys ac ymweld â busnesau’r dre gan gynnwys busnesau’r farchnad nwyddau leol. Gwerthwyd dau gapel yn y dre yn ddiweddar lle roedd tystiolaeth efengylaidd gan leihau tystiolaeth weladwy i’r efengyl yn y dre. Cynyddodd presenoldeb crefyddau eraill a phresenoldeb gwrth Gristnogol yn y dre. O’r herwydd credwn y dylem geisio sefydlu tystiolaeth weladwy i’r Efengyl yn y dre ac y mae cael stondin yn y farchnad nwyddau yn cael ei ystyried. Parhaodd y Parch. Roger

Thomas ei gyswllt â ’r grwp dysgu Cymraeg a drefnir gan Fenter Iaith Gorllewin Sir Gâr ac y mae un aelod arall o’r eglwys yn mynychu’r grwp hefyd. Cynhaliwyd stondin yng Ngŵyl y Dref eleni, a mynychwyd pedair sioe amaethyddol leol hefyd, ynghyd ȃ chefnogi’r gwaith efengylu yn y Sioe Fawr genedlaethol.

Parhaodd presenoldeb digidol yr eglwys ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn a pharhaodd y niferoedd a wrandawai ar bregethau wedi eu darlledu ar y Sul i fod yn niferus.

Cyfarfodydd arbennig

Cynhaliwyd cyfarfod dathlu a swper Gwyl Dewi dan arweiniad Roger Thomas a cynhaliwyd te ac oedfa diolchgarwch am y cynhaeaf yn y Celwrn. Cynhaliwyd oedfa garolau adeg y Nadolig gydag ymgais i wahodd rhai o’r tu allan i’r eglwys drwy ddosbarthu copiau niferus o’r cylchgrawn Holi. Gwelwyd rhai yn mynychu’r digwyddiadau hyn am y tro cyntaf.

Cyfarfodydd Canol Wythnos

Parhawyd i gynnal y cyfarfod gweddi ar nos Fercher yn y Celwrn, gan neilltuo un nos Fercher y mis i dderbyn adroddiad gan y Parch. Roger Thomas am waith y mis er mwyn gweddïo’n benodol am ei waith ac am gysylltiadau cenhadol eraill. Cafwyd arweiniad i wedd i drwy ail ystyried rhannau o bregethau’r Sul blaenorol neu rannau penodol o’r ysgrythur.

Cyfarfodydd gwragedd

Cyhaliwyd cwrdd gwragedd ‘Lydia’ yn fisol yn y Celwrn, gan gynnwys rhai credinwyr nad ydynt yn aelodau o’r eglwys.

Cyswllt â’r gymuned

Trefnwyd sesynau crefftau a boreuau coffi er budd elusen Llyfrau Lafar Cymru gan godi dros fil o bunnau drwy werthiant y cynnyrch a chyfraniadau. Defnydiwyd y Celwrn hefyd yn achlusulol gan bwyllgor grwp cymunedol lleol.

Cefnogi gwaith Cristnogol ehangach

Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith MERF trwy gyfraniad blynyddol. Parhawyd i gefnogi gwaith Cymraeg Mudiad Efengylaidd Cymru. Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith Emmanuel Durand yn Ffrainc. Parhaodd ymrwymiad yr eglwys i weddïo’n benodol am ddwy wedd ar waith cymdeithas cyfieithu’r beibl - Wycliffe - gan dderbyn gwybodaeth chwarterol. Cawsom ymweliad hefyd yn ystod y flwyddyn gan gynrychiolydd Cymru o Sefydliad y Cristion.

Cyswllt ag eglwysi eraill

Parhaodd y cyswllt a nifer o eglwysi efengylaidd eraill yng Nhymru drwy ymweliadau pregethwyr o’r eglwysi hynny ag Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin. Cynhaliwyd cyfarfod rhithiol rhwng arweinwyr yr eglwysi efengylaidd Cymraeg, i rannu gwybodaeth ac i gydweddio. Daeth grwp o fyfyrwyr o eglwys Ebeneser Abertawe i ’r Celwrn lle traddodwyd darlith hanesyddol gan y Dr. John Aaron, cyn ymweld â mannau eraill yn y cyffuniau sy’n bwysig yn hanes yr Efengyl yng Ngymru.

Yr Adeilad

Diolchwn na fu rhaid defnyddio offer pwmpio dŵr ar un adeg yn ystod y flwyddyn ond roedd yn gysur gwybod fod yr offer yn ei le pe byddai bygythiad i’r Celwrn gan lifogydd.

Sefyllfa Ariannol

Caed £82,506.88 o weddillion dros wariant ar ddiwedd 2024. Mae incwm yr eglwys ar hyn o bryd yn ddigonol i gynnal gweithiwr ond gyda chostau eraill, disgwylir y bydd y galw ar ryw gymaint o’r gweddillion yn parhau i’r dyfodol . Nid oes ansicrwydd ariannol sy’n peryglu gallu’r elusen i barhau ar hyn o bryd. Gweler y fantolen ariannol amgaeedig am y flwyddyn 2024.

Strwythur Llywodraethiant a Rheolaeth

Strwythur arweinyddiaeth yr eglwys yw dau henuriad a thri diacon. Mae’r eglwys wedi ei chofrestri’n elusen a lywodraethir gan Weithred Ymddiriedolaeth fel Ymddiriedolaeth Elusennol a wnaed ar 27 Chwefror 1991. Ar hyn o bryd, ceir tri ymddiriedolwr i’r Elus en a adweinir fel Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin (Rhif Cofrestru 1002715), sef dau henuriad Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin : Robert Rhys a Parry Davies ac un aelod o’r eglwys, sef John Roberts.

A Parry Davies

(Ar ran ymddiriedolwyr Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin)

Dyddiad : 30 Hydref 2025

Eglwy5 Efengylaidd Caerfyrddln ion a Gwarlant laf lonawr 2024- 31aln Rh 2024 Derb lon Mantol Banc ar OVOI124 Archebion Banc Casglladau Rhydd Uog ar v gronfa 95.675.58 22,400.00 4,290.00 32.43 122398.01 Gwarlant Cyfiog y Gwelthiwr Treth Incwm Yswiriant Gwladol Costsu Nest (pensiwn) Pregethvryr Gwadd Gwaith Cenhadol (MEC,UFM,Merf) Costau'r Adeilad Nwy.Trydan,Dwr Yswlrlant Gwefan,Zoom,BT Ad-daliadau Archwilio'r Cyfrifon 19,939.67 1.892.00 2,639.82 763.41 1,780.80 1.280.00 4.500.00 1,207.44 2,493.57 1,71524 872.65 756.53 50.00 39 891.13 Gweddill Derbynion dros Gwdriant 82.506:88 Mantol Banc ar 31.12.2024 82 506.88

COM151WN ELU5tr4NAU AR GYFER CYMRU A LLOEGR .rirr £&L fv4YS EFEfv& YLA I pJ> 6AELKyK c)J Iv. •¥yGyfrknamy 31 P 202* (¢A 0￿) 100271 C(KnlBkn Éu8rn 0 dan gLtran 146(6Kb) o'r Ddockjl. 11. DIOw&) [ J osnadfvn gym £voW | H ALL fi/JD PJiJAoJc& (o• otsl: I

3a- H￿tr￿2016