Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolwyr Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin
Ionawr - Rhagfyr 2022
Rhif Elusen 1002715
Rhagymadrodd
Ceir yn yr adroddiad hwn y modd y bu i’r eglwys geisio cyflawni ei nod a’i hamcanion am y flwyddyn 2022, ynghyd â chrynodeb o dderbynion a gwariant ariannol yr eglwys am 2022.
Erbyn dechrau’r flwyddyn, gwelwyd lliniaru ar fesurau Covid 19 a effeithiodd waith yr eglwys y flwyddyn flaenorol, er i rai cyfyngiadau, megis gwisgo mygydau, barhau yn ystod misoedd cynnar 2022. Er hynny, diolchwn i Dduw am ei ffyddlondeb i ni fel eglwys drwy’r cwbl, yn ein gwarchod a’n cynnal yn unol am flwyddyn arall.
Nod ac amcanion
Nod ac amcanion Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin fel elusen gofrestredig yw :
-
Hyrwyddo’r Ffydd Gristnogol Efengylaidd a hyrwyddo gwybodaeth, astudio, deall a gwerthfawrogiad o’r Beibl yn Gymraeg a
-
Lleddfu tlodi yn ardal Caerfyrddin
Anelwyd i gyflawni’r amcanion hyn drwy waith yr Eglwys a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, gan geisio sicrhau budd cyhoeddus drwy holl brif weithgareddau'r eglwys.
Cyflawniadau a heriau 2022
Cyfarfodydd a Gweinidogaeth y Sul
Cynhaliwyd cyfarfodydd ddwywaith ar y Sul drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol y flwyddyn. Hysbyswyd cyfarfodydd y Sul yn wythnosol ar ein gwefan, sy’n cael ei diweddaru’n gyson, a lle y gellir gwrando ar bregethau’r eglwys. Hysbyswyd yr holl cyfarfodydd drwy gyfryngau cymdeithasol Trydar a Facebook a darlledwyd negeseuon y Sul ac eraill ar You Tube. Roedd ein cyfarfodydd yn agored i bawb i’w mynychu.
Parhawyd â’r gyfres o bregethau o lyfr y Salmau dros y flwyddyn. Gorffennwyd y gyfres ar lyfr Haggai, a ddilynwyd gan gyfresi ar gariad o 1 Ioan ac 1 Corinthiaid 13.
Dechreuwyd hefyd ar gyfresi ar aberthau llyfr Lefiticus a Hebreaid 11, sy’n parhau. Pregethwyd ar destunau amrywiol o’r Hen Destament, yn enwedig o broffwydoliaethau Jeremenia, Eseciel a Daniel ynghyd ȃ thestunau efengylu o amrywiol lyfrau a llythyrau’r Testament Newydd.
Mae’r ddau henuriad a’r efengylydd, a fu’n pregethu fwyaf aml, yn ddiolchgar am bob cynhaliaeth. Nid yw sicrhau siaradwyr allanol ar gyfer y Sul yn waith hawdd, wrth i’r to hŷn o bregethwyr leihau’n eu nifer, a diolchwn am wasanaeth y deuddeg siaradwr gwadd o eglwysi ledled Cymru a fu mor barod i gynorthwyo’r eglwys ar y Sul yn ystod y flwyddyn.
Efengylu
Yn ystod y flwyddyn, ailsefydlwyd patrwm arferol y Parch. Roger Thomas o gysylltu gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau yng Nghaerfyrddin a’r cylch. Ailagorodd y
‘Mart’ anifeiliaid wythnosol o dan reolaeth cwmni newydd, gan greu cyfle eto i gysylltu â ffermwyr lleol a masnachwyr eraill yno. Codwyd y gwaharddiad ar ymweld â gorsaf Heddlu Dyfed Powys fel caplan. Agorodd y mwyafrif o fusnesau’r dre hefyd gan gynnwys busnesau’r farchnad nwyddau leol.
Cynhaliwyd Gŵyl y Dref yn ystod y flwyddyn ond gwrthodwyd ein cais i gael stondin yno. Mynychwyd pedair sioe amaethyddol leol serch hynny, ynghyd ȃ chefnogi’r gwaith efengylu yn y Sioe Fawr genedlaethol. Bu’r Parch. Roger Thomas yn helpu gwaith efengylu Mudiad Efengylaidd Cymru hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
Parhaodd y Parch. Roger Thomas ei gyswllt â’r grwp dysgu Cymraeg a drefnir gan Fenter Iaith Gorllewin Sir Gar, a fu’n cyfarfod yng nghanolfan iaith yr Atom yn y dref.
Parhaodd presenoldeb digidol yr eglwys ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn ac yn naturiol gwelwyd lleihad yn y niferoedd a wyliai ac a wrandawai ar oedfaon dros y we wrth i unigolion ddychwelyd i’w heglwysi eu hunain. Serch hynny, parhaodd y niferoedd a wrandawai ar bregethau wedi eu darlledu ar y Sul i fod cymaint a hanner cant.
Cyfarfodydd arbennig
Cynhaliwyd Cyfarfod Diolchgarwch am y cynhaeaf yn y Celwrn dan arweiniad y Parch. Ifan Mason Davies. Llwyddwyd i gynnal cwrdd diolchgarwch hefyd ar safle rhandiroedd y dre. Arweiniodd Y Parch. Roger Thomas oedfa garolau adeg y Nadolig.
Cyfarfodydd Canol Wythnos
Parhawyd i gynnal y cyfarfod gweddi ar nos Fercher yn y Celwrn, gan neilltuo un nos Fercher y mis i dderbyn adroddiad gan y Parch. Roger Thomas am waith y mis er mwyn gweddïo’n benodol am ei waith ac am gysylltiadau cenhadol eraill.
Cyfarfodydd gwragedd
Cyhaliwyd cwrdd gwragedd ‘Lydia’ yn rhithiol tan fis Ebrill, cyn ailgychwyn yn fisol yn y Celwrn.
Cyswllt â’r gymuned
Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Rhandiroedd Caerfyrddin yn y Celwrn yn ystod y flwyddyn a threfnwyd sesiynau crefftau a bore coffi er budd elusen leol DPJ Foundation, sy’n cefnogi iechyd meddwl ymhlith y gymuned amaethyddol.
Cefnogi gwaith Cristnogol ehangach
Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith MERF trwy gyfraniad blynyddol. Parhawyd i gefnogi gwaith Cymraeg Mudiad Efengylaidd Cymru. Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith Emmanuel Durand yn Ffrainc. Parhaodd ymrwymiad yr eglwys i weddïo’n benodol am ddwy wedd ar waith cymdeithas cyfieithu’r beibl - Wycliffe - gan dderbyn gwybodaeth chwarterol.
Cyswllt ag eglwysi eraill
Parhaodd y cyswllt agos ag Eglwys Efengylaidd Saesneg Caerfyrddin yn 2022 gan gynnal cyfarfod gweddi ar y cyd yn ystod y flwyddyn. Yr oedd yn dristwch, er hynny
fod eu gweinidog wedi gadael yr eglwys, eu hadeilad wedi ei werthu a thrafodaethau wedi gorfod digwydd yn ystod y flwyddyn am barhad yr eglwys i’r dyfodol.
Yr Adeilad
Diolchwn na fu rhaid defnyddio offer pwmpio dŵr ar un adeg yn ystod y flwyddyn ond roedd yn gysur gwybod fod yr offer yn ei le pe byddai bygythiad i’r Celwrn gan lifogydd.
Gwnaed gwelliannau i’r system sain yn ystod y flwyddyn drwy ychwanegu dau feicroffon ym mhrif neuadd y Celwrn i fedru gwrando ar gyfraniadau o’r gynulleidfa.
Sefyllfa Ariannol
Caed £22,200.36 o weddillion dros wariant ar ddiwedd 2022. Mae’r swm sylweddol o weddillion a oedd wedi crynhoi ers prynu’r adeilad, bellach wedi lleihau yn unol â blaenoriaeth yr eglwys o gyflogi gweithiwr. Mae incwm yr eglwys ar hyn o bryd yn ddigonol i gynnal gweithiwr ond gyda chostau eraill, disgwylir y bydd y galw ar ryw gymaint o’r gweddillion yn parhau i’r dyfodol . Nid oes ansicrwydd ariannol sy’n peryglu gallu’r elusen i barhau ar hyn o bryd. Gweler y fantolen ariannol amgaeedig am y flwyddyn 2022.
Strwythur Llywodraethiant a Rheolaeth
Strwythur arweinyddiaeth yr eglwys yw dau henuriad a thri diacon.
Llywodraethir yr elusen gan Weithred Ymddiriedolaeth fel Ymddiriedolaeth Elusennol a wnaed a 27 Chwefror 1991.
Ar hyn o bryd, ceir tri ymddiriedolwr i’r Elusen a adweinir fel Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin (Rhif Cofrestru 1002715), sef dau henuriad Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin : Robert Rhys a Parry Davies ac un aelod o’r eglwys, sef John Roberts. Dewisir ymddiriedolwyr o blith aelodau a swyddogion yr Eglwys mewn cyfarfod eglwys. Penodwyd yr ymddiriedolwyr presennol yn 1991.
A Parry Davies
(Ar ran ymddiriedolwyr Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin) Dyddiad : 30/10/23
a IkV1arrt MBntd 88rI11 IL8gB,86 a841. 7.95U. 45*iatlau RId Rent A&dall&d syr<thih14bl) 58,52631 17J511 Trelh lllLW YswlrlaTrt Gwlthl Costa raesl Crtllswm) &%B2.29 LI 45W.CM) rqwy.TThylwthwr YswlrlaTht 1.445.32 4d-dil4?dou Archwth'rf £yfrilc 33 2m26
COMISIWN ELVSENNAU AR GYFER £Yhu A LLOEGR Athoddl•J yTarchwllwr wrlbynnol ar y EGL£ Efi IJ GIlLA£oo ChER64I W2J 31 gO>I IOC>)715 c>(rlkn am y {9• 00) EIuDrn D a¢**11445Xb) ¢1 Ddwldr. 11. I l o• nod >Wn • rdd >Wr #r G>lnAy8 5ffft4A18 4 10(16/3 hGLO wufJJJC- hD FIiJAlJC t (•• •••): ythf2018
K 3 , T-17.¢