Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin
Adroddiad Blynyddol Ionawr - Rhagfyr 2021
Rhif Elusen 1002715
Rhagymadrodd
Gellid disgrifio 2021 fel blwyddyn o ddatgloi graddol o gyfyngiadau Covid 19, a thra bu i lawer ohonynt barhau am fisoedd lawer, gwelwyd lliniaru ar fesurau a oedd yn effeithio gwaith yr eglwys erbyn diwedd y flwyddyn. Er i’r heriau hyn, na welsom eu tebyg yn hanes ein heglwys, barhau o 2020, diolchwn i Dduw am ei ffyddlondeb i ni fel eglwys drwy’r cwbl, yn ein gwarchod a’n cynnal yn unol am flwyddyn arall. Ceir yn yr adroddiad y modd y bu i’r eglwys geisio cyflawni ei nod a’i hamcanion am y flwyddyn 2021, ynghyd â chrynodeb o dderbynion a gwariant ariannol yr eglwys am 2021.
Nod ac amcanion
Ceisiwyd cyflawni’r cyfrifoldeb i sicrhau budd cyhoeddus drwy holl brif weithgareddau'r yr eglwys. Cynhaliwyd cyfarfodydd y Sul a chyfarfod canol wythnos drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol y flwyddyn, er fod gyfyngiadau canllawiau’r Llywodraeth wedi peri i ni newid dull ein cyfarfodydd am gyfnodau yn ystod y flwyddyn. Hysbyswyd cyfarfodydd y Sul yn wythnosol ar ein gwefan, sy’n cael ei diweddaru’n gyson, lle y gellir gwrando ar bregethau’r eglwys. Hysbyswyd cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn hefyd drwy gyfryngau cymdeithasol Trydar a Facebook a darlledwyd negeseuon y Sul ac eraill ar You Tube.
Roedd ein cyfarfodydd yn agored i bawb i’w mynychu ond oherwydd y cyfyngiadau, ni chynhaliwyd cymaint o gyfarfodydd arbennig eleni. Nid oedd modd defnyddio’r Celwrn ychwaith i hybu gwaith elusennau lleol er i sesynau crefft gael eu cynnal tuag at ddiwedd y flwyddyn.
Yr hyn a gyflawnwyd a’r heriau yn 2021
Y Weinidogaeth
Parhawyd a’r gyfres o bregethau o lyfr y Salmau (Salm 109 hyd at Salm 119) dros y flwyddyn a pharhaodd y gyfres ar Lyfr y Gwas ym mhroffwydoliaeth Eseia,( penodau 54 a 55) a ddilynnwyd gan ddechrau cyfres ar lyfr Haggai. Pregethwyd hefyd ar destunau amrywiol o’r Hen Destament a’r Testament Newydd, yn arbennig wrth gyflwyno’r efengyl.
Mae’r ddau henuriad a’r efengylyd, a fu’n pregethu fwyaf aml, yn ddiolchgar am bob cynhaliaeth a diolchwn hefyd am wasanaeth y deg siaradwyr gwadd, a fu mor barod i gynorthwyo’r eglwys yn ystod y flwyddyn. Serch hynny, nid yw sicrhau siaradwyr allanol ar gyfer y Sul yn waith hawdd, wrth i’r to hŷn o bregethwyr heneiddio a lleihau’n eu nifer.
Efengylu
Parhaodd effaith y pandemig o darfu’n sylweddol ar batrwm arferol y Parch. Roger Thomas o gysylltu gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau yng Nghaerfyrddin a’r cylch. Doedd dim modd ymweld â’r ‘Mart’ anifeiliaid wythnosol i gysylltu a ffermwyr lleol a masnachwyr eraill, gan fod y Mart wedi ei chau drwy’r cyfnod. Gwaharddwyd ymweld â gorsaf Heddlu Dyfed Powys fel caplan hefyd, gyda’r cyswllt yn parhau drwy alwadau ffȏn yn unig. Yn yr un modd roedd y mwyafrif o fusnesau’r dre, gan gynnwys busnesau’r farchnad nwyddau leol, wedi eu cau am gyfnod helaeth neu’n cyfyngu eu cyswllt â cwsmeriaid ac ymwelwyr wrth ail agor yn raddol.
Am yr un rhesymau, ni lwyddwyd ychwaith i ddatblygu gwaith newydd a ystyriwyd, megis cyfarfod dysgwyr i Gristnogion a fyddai am ddysgu ond a fyddai’n agored i
eraill, boreau coffi rheolaidd i gefnogi elusen ddyngarol neu gyfarfodydd efengylu amser cinio. Am yr ail flwyddyn, ni chynhaliwyd Gŵyl y Dref na sioeau amaethyddol lleol na chenedlaethol ychwaeth, yr oeddem wedi bwriadu eu mynychu a gohiriwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, lle yr oedd y Parch. Roger Thomas yn bwriadu cynorthwyo tim efengylu Mudiad Efengylaidd Cymru.
Er gwaetha’r siomedigaethau hyn, cafwyd nifer o gyfleoedd i wasanaethu mewn angladdau ac i gefnogi unigolion hŷn a bregus a oedd wedi eu cyfyngu i’w cartrefi. Daeth cyfle hefyd i;r Parch. Roger Thomas ymuno a grwp Coffi a Chlonc , wedi ei drefnu gan Fenter Iaith Gorllewin Sir Gar, a gynhaliwyd yn rhithiol ddechrau’r flwyddyn ond a fu’n cyfarfod yng nghanolfan iaith yr Atom yn ddiwedarach yn y flwyddyn.
Parhaodd presenoldeb digidol yr eglwys ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn a pharhaodd y niferoedd a wrandawai ar bregethau a oedd wedi eu darlledu ar y Sul yn uchel. Lluniwyd a darlledwyd ar You Tube, gyfweliadau a thystiolaethau aelodau o’r eglwys yn ystod misoedd cynnar y flwyddyn, ynghyd â neges byr am y Pasg. Bu gostyngiad yn y niferoedd a ymunai â’r cyfarfodydd rhithiol wrth i’r gynulleidfa ddychwelyd i’r Celwrn ar gyfer oedfaon y Sul a chanol wythnos.
Oedfaon y Sul
Parhawyd i gynnal oedfa’r bore yn y Celwrn gan barhau i gwrdd yn rhithiol gyda’r hwyr tan fis Mehefin, pan ail gychwynnwyd cynnal oedfaon yr hwyr hefyd yn adeilad yr Eglwys. Ym mis Mehefin hefyd, llaciwyd ar y canllawiau i ganiatau canu mawl yn ein haddoliad o fewn yr adeilad, tra buom yn canu emynau hyd at hynny y tu allan i’r Celwrn pan fyddai’r tywydd yn ddigon braf. Parhaodd yr henuriaid ac efengylydd yr eglwys bregethu’n aml yn ystod 2021 ond braf oedd medru croesawu mwy o siaradwyr gwadd yn ol i weinidogaethu i’r eglwys yn ystod y flwyddyn.
Ail gychwynnwyd oedfaon cymundeb hefyd yn ystod y flwyddyn, ar brynhawniau Sul cynta’r mis i gychwyn, ac yna’n dilyn oedfaon y bore fel cynt, wrth i sefyllfa’r Covid wella’n gyffredinol yn ystod y flwyddyn. Defnyddiwyd elfennau a chyfarpar i leihau’r perygl o drosglwyddo heintiau.
Cyfarfodydd arbennig
Dathlwyd dydd Gwyl Dewi ar 1 Mawrth 2021 gyda chyflwyniad gan Robert Rhys ar Gruffydd Jones a chyfieithwyr Wycliffe. Cynhaliwyd oedfa garolau hefyd adeg y Nadolig dan arweiniad Y Parch. Roger Thomas ac oedfa fore dydd Nadolig.
Cyfarfodydd Canol Wythnos
Parhawyd i gynnal y cyfarfod gweddi ar nos Sul nes ail gychwyn oedfa nos Sul yn y Celwrn yn ail hanner y flwyddyn. Drwy hanner cynta’r flwyddyn, cynhaliwyd astudiaeth feiblaidd fwy sylweddol ar nosweithiau Mercher ar bwnc Diwygiad, gan seilio’r astudiaethau ar lyfr Dr. Martyn Lloyd Jones ar y pwnc. Rhannwyd y cyfrifoldeb o baratoi ac arwain rhwng yr henuriaid a gwerthfawrogwyd y gyfres yn fawr. Parhawyd i neilltuo un nos Fercher y mis i dderbyn adroddiad gan y Parch. Roger Thomas am waith y mis fel modd i weddïo’n benodol am ei waith ac am gysylltiadau cenhadol eraill.
Cyfarfodydd gwragedd
Ni fu cyfarfodydd gwragedd bob pythefnos drwy gydol y rhan fwyaf o’r flwyddyn ond cyfunwyd tair sesiwn grefftau ac astudiaethau misol am dri mis cyn y Nadolig, dan arweiniad Mrs. Ann Morgan.
Cyswllt â’r gymuned
Nid oedd modd cynnig defnydd y Celwrn i Gymdeithas Rhandiroedd Caerfyrddin yn ystod y flwyddyn na chynnal boreuau coffi er budd elusen leol.
Cefnogi gwaith Cristnogol ehangach
Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith MERF trwy gyfraniad blynyddol. Parhawyd i gefnogi gwaith Cymraeg Mudiad Efengylaidd Cymru. Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith Emmanuel Durand yn Ffrainc. Parhaodd ymrwymiad yr eglwys i weddïo’n benodol am ddwy wedd ar waith cymdeithas cyfieithu’r beibl - Wycliffe, gan dderbyn gwybodaeth chwarterol.
Cyswllt ag eglwysi eraill
Ni chynhaliwyd Cymanfa Eglwysi’r De yn 2021. Parhaodd y cyswllt agos ag Eglwys Efengylaidd Saesneg Caerfyrddin eto yn 2021 er nad oedd modd cynnal cyrddau ar y cyd fel cynt. Cynhaliwyd cyfarfod gweddi ar y cyd yn ystod y flwyddyn.
Yr Adeilad
Effeithiwyd yr adeilad ryw ychydig gan lifogydd ar dechrau’r flwyddyn er i’r pwmp dŵr a brynnwyd y flwyddyn flaenorol leihau’r effeithiau posib yn sylweddol, gan ein galluogi i ddychwelyd i’r adeilad yn gyflym. Penderfynnwyd prynnu pwmp ychwanegol gyda chymorth grant 50% gan yr Awdurdod Lleol, i ddyblu maint y dwr y gellid ei bwmpio allan o’r selar adeg llifogydd.
Adroddiad Ariannol
Caed £11,898.86 o weddillion dros wariant ar ddiwedd 2021. Mae’r swm sylweddol o weddillion a oedd wedi crynhoi ers prynu’r adeilad bellach wedi lleihau yn unol â blaenoriaeth yr eglwys o gyflogi gweithiwr. Mae incwm yr eglwys ar hyn o bryd yn ddigonol i gynnal gweithiwr ond gyda chostau eraill, disgwylir y bydd y galw ar ryw gymaint o’r gweddillion yn parhau i’r dyfodol. Gweler y fantolen ariannol amgaeedig am y flwyddyn 2021.
A Parry Davies
(Ar ran ymddiriedolwyr Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin)
Dyddiad : 29/10/22
Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin
Cyfrif Derbynion a Gwariant
- 1af Ionawr 2021 31ain Rhagfyr 2021
| Derbynion Mantol Banc ar 01/01/21 Archebion Banc Casgliadau Rhydd Grant o'r Cyngor Sir Llog ar y gronfa Gwariant £ Cyflog y Gweithiwr 17,347.16 Treth Incwm 1,565.40 Yswiriant Gwladol 2,875.20 Costau 547.39 Nest (pensiwn) 1,492.44 Pregethwyr Gwadd 440.00 Gwaith Cenhadol 4,500.00 Costau'r Adeilad 4,368.91 Nwy,Trydan,Dwr 2,201.17 Yswiriant 1,343.53 Ad-daliadau 49.94 Gwefan,Zoom,BT 1,163.10 Archwilio'r Cyfrifon 50.00 Gweddill Derbynion dros Gwariant Mantol y Banc ar 31.12.2021 |
£ 17,347.16 1,565.40 2,875.20 547.39 1,492.44 440.00 4,500.00 4,368.91 2,201.17 1,343.53 49.94 1,163.10 50.00 |
£ 20,359.29 21,907.92 6,075.10 1,500.00 0.79 |
|
|---|---|---|---|
| 49,843.10 37,944.24 11,898.86 11,898.86 |
COMISIWN ELUSENNAU AR GYFER (YIARU A LiOEGR ÉGLWVS krryLAl>1 CAERFIRt>> I loD211 Aryorfrlkn y 21 {0• •••) 14x g gh MIO {•••. ydrnl 2011
32?