OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2020-12-31-accounts

Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin

Adroddiad Blynyddol Ionawr - Rhagfyr 2020

Rhif Elusen 1002715

Rhagymadrodd

Crynodeb yw’r adroddiad hwn o’r modd y bu i’r eglwys geisio cyflawni ei nod a’i hamcanion am y flwyddyn 2020, gan olrhain rhai o’r pethau a gyflawnwyd. Diolchwn i Dduw am ei ffyddlondeb i ni fel eglwys, yn ein gwarchod a’n cynnal am flwyddyn arall a oedd yn gyfnod heriol iawn na welsom ei debyg yn hanes ein heglwys. Cyflwynir crynodeb hefyd o dderbynion a gwariant ariannol yr eglwys am 2020.

Nod ac amcanion

Wrth geisio cyflawni ei nod ac amcanion fel elusen mae’r eglwys wedi bod yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb i sicrhau budd cyhoeddus drwy ei gweithgaredd. I’r diben hwn cynhaliwyd cyfarfodydd y Sul a chyfarfod canol wythnos drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol y flwyddyn, er fod gyfyngiadau’r cyfnodau clo wedi peri i ni newid dull ein cyfarfodydd am gyfnodau yn ystod y flwyddyn. Hysbyswyd cyfarfodydd y Sul yn wythnosol ar ein gwefan, sy’n cael ei diweddaru’n gyson, lle y gellir gwrando ar bregethau’r eglwys. Hysbyswyd cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn hefyd drwy gyfryngau cymdeithasol Trydar a Facebook a darlledwyd negeseuon y Sul ac eraill ar You Tube.

Mae ein cyfarfodydd yn agored i bawb i’w mynychu ond oherwydd y cyfyngiadau ni chafodd nifer o’n cyfarfodydd arbennig arferol eu cynnal eleni.

Nid oedd modd defnyddio adeilad yr eglwys ychwaith i hybu gwaith elusennau lleol drwy gynnal grwpiau crefft misol na chynnal boreau coffi.

Yr hyn a gyflawnwyd a’r heriau yn 2020

Y Weinidogaeth

Parhawyd a’r gyfres o bregethau o lyfr y Salmau a chyfres ar lyfr y Gwas ym mhroffwydoliaeth Eseia, ynghyd â phregethau o amrywiol fannau o’r Hen Destament a’r Testament Newydd wrth gyhoeddi’r efengyl.

Mae’r ddau henuriad a’r efengylydd a fu’n pregethu fwyaf aml, yn ddiolchgar am bob cynhaliaeth a diolchwn hefyd am wasanaeth bob un o’r siaradwyr allanol, ryw ddeg ohonynt, a fu mor barod i gynorthwyo’r eglwys yn ystod y flwyddyn. Serch hynny, nid yw sicrhau siaradwyr allanol ar gyfer y Sul yn waith hawdd, wrth i’r to hŷn o bregethwyr heneiddio a lleihau o ran eu nifer.

Efengylu

Effaith y cyfnod clo a’r pandemig yn gyffredinol oedd tarfu’n sylweddol ar batrwm arferol y Parch. Roger Thomas o gysylltu gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau yng Nghaerfyrddin a’r cylch. Doedd dim modd ymweld â’r ‘Mart’ anifeiliaid wythnosol i gysylltu a ffermwyr lleol a masnachwyr eraill nac ymweld â gorsaf Heddlu Dyfed Powys fel caplan. Yn yr un modd roedd y mwyafrif o fusnesau’r dre, gan gynnwys busnesau’r farchnad nwyddau leol, wedi eu cau am gyfnod helaeth neu’n cyfyngu eu cyswllt â cwsmeriaid ac ymwelwyr.

Am yr un rhesymau, ni lwyddwyd ychwaith i ddatblygu gwaith newydd megis cyfarfod dysgwyr i Gristnogion a fyddai am ddysgu ond a fyddai’n agored i eraill, boreau coffi rheolaidd i gefnogi elusen ddyngarol neu gyfarfodydd efengylu amser cinio. Ni chynhaliwyd Gŵyl y Dref na sioeau amaethyddol lleol na chenedlaethol yr oeddem wedi bwriadu eu mynychu a gohiriwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, lle yr oedd y Parch. Roger Thomas yn bwriadu cynorthwyo tim efengylu Mudiad Efengylaidd Cymru.

Er gwaetha’r siomedigaethau hyn, cafwyd nifer o gyfleoedd i wasanaethu mewn angladdau ac i gefnogi unigolion hŷn a bregus a oedd wedi eu cyfyngu i’w cartrefi. Datblygwyd presenoldeb digidol yr Eglwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn sylweddol yn ystod y flwyddyn dan arweiniad y Parch Roger Thomas, a gwelwyd y niferoedd a oedd yn ymuno a’r cyfarfodydd yn rhithiol yn cynyddu, a’r niferoedd a wrandawai ar bregethau a oedd wedi eu darlledu ar y Sul yn cynyddu. Lluniwyd a darlledwyd ar You Tube, gyfweliad â Christion sy’n amlwg ym myd amaeth yng Nghymru a rannodd ei dystioaeth o waith Duw yn ei fywyd.

Oedfaon y Sul

Cynhaliwyd holl gyfarfodydd y Sul yn rhithiol dros y cyfnod clo gan newid yr oedfa nos i gwrdd gweddi. Ailagorwyd yr adeilad ar gyfer oedfaon y bore yn yr haf gan barhau i gwrdd yn rhithiol gyda’r hwyr. Bu’r henuriaid ac efengylydd yr eglwys yn pregethu’n aml yn ystod 2020 gan fod nifer llai o siaradwyr gwadd wedi medru gweinidogaethu i’r Eglwys yn ystod y flwyddyn.

Parhaodd yr un niferoedd i fynychu’r oedfaon gan gynnwys rhai a oedd yn anghyfarwydd â thechnoleg ac a gawsant eu cyfarwyddo’n ofalus er mwyn eu galluogi i barhau i elwa o weinidogaeth a chymdeithas yr Eglwys.

Ni chynhaliwyd oedfaon cymundeb drwy gydol y cyfnod clo nac ar ôl ailagor yr adeilad.

Cyfarfodydd arbennig

Ni chafwyd cyfleoedd i gynnal oedfaon gwahodd penodol ar achlysuron arbennig. Cynhaliwyd oedfa garolau adeg y Nadolig, er nad oedd modd i’r gynulleidfa ganu fel arfer.

Cyfarfodydd Canol Wythnos

Gan fod y cyfarfod gweddi wedi ei symud i nos Sul o ddiwedd mis Mawrth ymlaen, cynhaliwyd astudiaeth feiblaidd fwy sylweddol ar nosweithiau Mercher gan fanylu ar yr epistol at yr Effesiaid. Rhannwyd y cyfrifoldeb o baratoi ac arwain rhwng yr henuriaid ac efengylydd yr Eglwys a gwerthfawrogwyd y gyfres yn fawr iawn. Parhawyd i neilltuo un nos Fercher y mis i dderbyn adroddiad gan y Parch. Roger Thomas am waith y mis fel modd i weddïo’n benodol am ei waith ac am gysylltiadau cenhadol eraill.

Cyfarfodydd gwragedd

Ni fu cyfarfodydd gwragedd bob pythefnos drwy gydol y cyfnod clo na gweddill y flwyddyn.

Cyswllt â’r gymuned

Siom oedd methu cynnig defnydd adeilad yr eglwys i Gymdeithas Rhandiroedd Caerfyrddin yn ystod y flwyddyn na medru cynnal sesiynau crefftau a bore coffi er budd elusen leol.

Cefnogi gwaith Cristnogol ehangach

Mae’r Eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith MERF trwy gyfraniad blynyddol. Parhawyd i gefnogi gwaith Cymraeg Mudiad Efengylaidd Cymru. Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith Emmanuel Durand yn Ffrainc. Ymrwymodd yr eglwys i

weddïo’n benodol am ddwy wedd ar waith cymdeithas cyfieithu’r beibl - Wycliffe, gan

dderbyn gwybodaeth chwarterol.

Cyswllt ag eglwysi eraill

Ni chynhaliwyd Cymanfa Eglwysi’r De yn 2020. Parhaodd y cyswllt agos ag Eglwys Efengylaidd Saesneg Caerfyrddin gan dderbyn cynnig caredig ganddynt i ddefnyddio ystafell yn eu hadeilad pan effeithiwyd ein hadeilad ryw ychydig gan lifogydd ddechrau’r flwyddyn.

Yr Adeilad

Cytunwyd ar enw newydd i adeilad yr Eglwys sef ‘Y Celwrn’ i adlewyrchu gofal a ffyddlondeb Duw tuag atom ar hyd y blynyddoedd er gwaetha’r sychder mawr ysbrydol yn ein gwlad. ( I Brenhinoedd 17 ad. 14/16)

Prynwyd a gosodwyd pwmp dŵr brwnt yn seler yr adeilad gyda chymorth grant gan y Cyngor Sir a gwelwyd ei werth ddiwedd y flwyddyn wrth gadw lefel y dŵr yn seler yr adeilad islaw’r llawr yn ystod adeg o lifogydd yn yr ardal. Bu’r grant hefyd yn fodd i’r Eglwys brynnu gatiau atal llifogydd.

Adroddiad Ariannol

Caed £20,359.29 o weddillion dros wariant ar ddiwedd 2020. Mae’r swm sylweddol o weddillion a oedd wedi crynhoi ers prynu’r adeilad bellach wedi lleihau yn unol â blaenoriaeth yr eglwys o gyflogi gweithiwr. Mae incwm yr eglwys ar hyn o bryd yn ddigonol i gynnal gweithiwr ond gyda chostau eraill, disgwylir y bydd y galw ar ryw gymaint o’r gweddillion yn parhau i’r dyfodol. Gweler y fantolen ariannol amgaeedig am y flwyddyn 2020.

A Parry Davies

(Ar ran ymddiriedolwyr Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin) Dyddiad : 31/10/21

Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin

Cyfrif Derbynion a Gwariant

- 1af Ionawr 2020 31ain Rhagfyr 2020.

Derbynion
Mantol Banc ar 01/01/20
Archebion Banc
Casgliadau Rhydd
Grant o'r Cyngor Sir
Llog ar y gronfa
Gwariant
£
Cyflog y Gweithiwr
17,304.88
Treth Incwm
1,861.20
Yswiriant Gwladol
3,452.40
Costau
436.97
Nest (pensiwn)
1,492.44
Pregethwyr Gwadd
550.00
Gwaith Cenhadol
5,203.00
Costau'r Adeilad
6,352.13
Nwy,Trydan,Dwr
2,698.26
Yswiriant
1,233.77
Ad-daliadau
312.65
Gwefan,Zoom,BT
540.03
Renti Stafell
40.00
Costau Banc
24.00
Archwilio Cyfrifon
50.00
Gweddill Derbynion dros Gwariant
Mantol y Banc ar 31.12.2020
£
17,304.88
1,861.20
3,452.40
436.97
1,492.44
550.00
5,203.00
6,352.13
2,698.26
1,233.77
312.65
540.03
40.00
24.00
50.00
£
33,820.47
19,223.58
6,003.00
2,846.43
17.54
61,911.02
41,551.73
20,359.29
20,359.29

AAt 6YFtkt CYAIftI A IIC Adran A Adroddiad yr A¥ChW,,14'￿r A+in,'oynnol £*L&tys Y&4 i Db etEKfiyRJb I 31.12.2010 100&71 2&1 gm ALLeJ(Liffs fiJ L 4JJD fUtJA/J ( [ Ai 133L